S4C

Edrych yn ôl. Gyda Gwyn Jones

Edrych yn ôl | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Llun, Hydref 8, 2012

Doedd y tywydd ddim yn dda nos Wener ond fe lwyddodd y Scarlets i reoli’r gêm yn ddigonol i ennill yn haeddiannol.

Roedd yn bwysig iawn iddyn nhw ennill ar ôl colli dwy gêm o’r bron, ac roedd disgwyl iddyn nhw guro’r Dreigiau gartre.

Y pwnc trafod mawr oedd y gic gosb gan faswr y Scarlets, Aled Thomas na chafodd ei chanatau gan y dyfarnwr teledu Gareth Simmonds, ond a arweiniodd at gais digon rhyfedd iddyn nhw.

Mae’n ymddangos bod Simmonds wedi gwneud camgymeriad a bod y gic wedi croesi’r pyst ond dwi ddim yn meddwl y byddai wedi gwneud gwahaniaeth i’r canlyniad.

Roedd perfformiad y prop pen tynn Samson Lee yn addawol iawn. Da gweld prop mor ifanc yn creu argraff a dangos bod ganddo’r potensial i ddilyn ôl troed Adam Jones rhyw ddydd.

Wedi dweud hynny, mae sialensiau anoddach o’i flaen, gan ddechrau yn Clermont Auvergne y penwythnos nesa’.

Mae’r Gleision dybryd angen chwaraewr rheng flaen fel Lee – neu ryw ‘ Samson’ tebyg iddo. Roedd gwendid y rheng flaen yn crynhoi pa mor ofnadwy oedd y perfformiad yn erbyn Glasgow.

Mae’n anodd gweld sut y gallan nhw wella’r tymor hwn, gan fod eu gwrthwynebwyr yn siŵr o dargedu’r sgrym, timau cryfach o lawer na Glasgow yn y pum blaen. Does dim disgwyl i chwaraewyr fel Sam Warburton a Jamie Roberts allu creu cyfleoedd gyda gwasanaeth mor wael.

Wrth i’r tywydd waethygu dros y gaeaf, fe fydd hi’n anoddach fyth arnyn nhw.

Mae’r Gweilch yn parhau i ennill momentwm ac mae’r amseru’n berffaith ar gyfer Cwpan Heineken. Maen nhw mewn grŵp ofnadwy o anodd y tymor yma, ond o leiaf mae’r hyder ganddyn nhw nawr i wynebu’r her.

Roedd y gêm rhwng Leinster a Munster yn dynnach na’r disgwyl efallai, ond mae hon yn ornest sydd bob amser yn llawn tensiwn fel gêm ryngwladol.

Fe chwaraeodd Leinster y gêm ar dempo cyflym ac maen nhw’n cynnig yr esiampl orau bosibl i ranbarthau Cymru ynghylch sut i drafod y bêl. A dyma rybudd i bawb – mae O’Driscoll yn ei ôl.