S4C

Edrych yn ôl. Gyda Gwyn Jones

Edrych yn ôl | Gwyn Jones | RaboDirect Pro12 | Dydd Llun, Hydref 29, 2012

Canlyniad mwyaf trawiadol y penwythnos oedd y Gleision yn colli’n drwm oddi cartref i Leinster gyda pherfformiad ofnadwy.

Roedd problemau dwfn mawr yn dod i’r amlwg yn ystod y gêm a dwi ddim yn gwybod beth oedd ar fai. Ai am nad ydi’r chwaraewyr yn ddigon da neu efallai nad ydi’r system hyfforddi newydd yn gweithio i’r chwaraewyr sydd ganddyn nhw?

Roedd awch y chwaraewyr yn yr hanner cyntaf yn gywilyddus. Fe wnaethon nhw wella rhywfaint yn yr ail hanner, ond dydi hynny ddim yn faddeuant am ba mor ofnadwy oedden nhw yn yr hanner cyntaf.

Mae’n rhaid dweud bod Phil Davies yn colli hygrededd yn gyflym fel hyfforddwr, a’r drafferth fwyaf yw bod pethau yn gwaethygu yn hytrach na gwella.

Mae’r pwysau yn mynd i gynyddu arno fe cyn bod y tîm yn dechrau gwella. Er bod hyn yn annheg i raddau, dyna’r byd mae e’n gorfod ei wynebu.

O edrych ar y gemau i ddod, mae’n o bosib na fyddwn ni’n eu gweld nhw’n ennill am sbel eto, achos Munster yw eu gwrthwynebwyr nesa’, a hynny nos Wener yma (2 Tachwedd).

Ond dyna ddigon am fethiannau’r Gleision. Y Scarlets wnaeth hawlio buddugoliaeth y penwythnos gyda buddugoliaeth a phwynt bonws ym Murrayfield.

Doeddwn i ddim yn disgwyl iddyn nhw ennill a dweud y gwir. Ond, mae’n dangos, er nad oes ganddyn nhw’r nerth i gystadlu yn Ewrop, yn y Pro12 maen nhw’n gallu chwarae rygbi deniadol ac yn gwella yn hynny o beth.

Roedd George North yn wych unwaith eto, ac roedd angen iddo fe fod achos yn fy marn i roedd e braidd yn hamddenol yn erbyn Leinster.

Yn ôl y disgwyl, fe enillodd y Gweilch gartre’ yn erbyn Connacht gyda phwynt bonws. Nhw yw tîm gorau rhanbarthau Cymru, does dim amheuaeth am hynny.

Ond a fyddan nhw’n dioddef gyda chymaint o chwaraewyr yn eu gadael nhw ar gyfer cyfnod y gemau rhyngwladol?

Wedyn y Dreigiau, a’u gêm nhw yn erbyn tîm gorau’r gynghrair ar hyn o bryd sef Ulster.

Er i’r Dreigiau gystadlu am gyfnod, dyw’r adnoddau ddim gyda nhw i guro tîm o safon Ulster ac unwaith eto maen nhw’n cwympo mewn i’r un drefn ag y maen nhw bob blwyddyn, o fod y rhanbarth gwanaf yng Nghymru.