S4C

Her gyntaf Cwpan Amlin y Dreigiau yn fyw ar S4C

Cwpan Amlin | Dydd Mawrth, Hydref 9, 2012

Nos Sadwrn 13 Hydref 8.00

Bydd S4C yn dangos nifer o gemau grŵp y Dreigiau yng Nghwpan Her Amlin yn fyw, gan ddechrau gyda’r gêm yn erbyn London Wasps ar 13 Hydref.

Bydd Gareth Roberts a Gwyn Jones yn y tîm cyflwyno ar gyfer y gêm ar Barc Adams, rhwng y tîm o Gymru a’r tîm o Uwch Gynghrair Aviva Lloegr, sy’n cael ei hyfforddi gan y Cymro Dai Young.

Bydd modd gweld y gêm yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon ar Sky 134 a Freesat 120 ac ar bob llwyfan yng Nghymru. Bydd isdeitlau Saesneg ar gael yn ystod y darllediad.

Bydd y gêm fyw yng Ngrŵp 3 yn cael ei darlledu ar benwythnos mawr o rygbi Ewropeaidd ar S4C. Bydd y Sianel hefyd yn dangos uchafbwyntiau gemau rownd gyntaf Cwpan Heineken. Bydd uchafbwyntiau gemau Sadwrn yn cael eu dangos fel rhan o raglen Cwpan Amlin a gemau dydd Sul yn y rhaglen Cwpan Heineken nos Sul.

Bydd modd gwylio ail gêm fyw Cwpan Her Amlin y penwythnos canlynol pan fydd y Dreigiau yn croesawu’r tîm o Ffrainc, Bayonne i Rodney Parade. Y tîm arall yn y grŵp yw Rugby Mogliano o’r Eidal a fydd yn chwarae’r Dreigiau mewn gemau gefn wrth gefn ym mis Rhagfyr.

Mae’r Dreigiau’n gobeithio mai dyma fydd dechrau siwrne i’r rownd derfynol fydd yn cael ei chwarae yn Arena’r RDS yn Nulyn ar 17 Mai 2013.

Ond mae ganddynt dasg anodd o’u blaenau a bydd yn rhaid iddynt fod ar frig eu grŵp i gyrraedd y chwarteri. Wedyn fe allen nhw gwrdd ag un o dri thîm fydd yn disgyn o Cwpan Heineken.

Mae yna ddiddordeb Cymreig ychwanegol yn y gystadleuaeth eleni gan fod Cymry Llundain yn cystadlu am y tro cyntaf. Eu gêm gyntaf nhw fydd yn erbyn y cewri o Baris, Stade Français.

Yn y gystadleuaeth y tymor diwethaf, fe ddaeth y Dreigiau yn drydydd yn eu grŵp, gan ennill tair o’u chwe gêm. Maen nhw’n gobeithio gwneud yn well y tro hwn.

Meddai Gwyn Jones, “Mae’n bwysig eu bod nhw’n creu argraff yn y Cwpan achos dyma efallai’r llwybr gorau iddyn nhw gael lle yn y Cwpan Heineken y tymor nesaf.

“Fe ddylen nhw ennill eu dwy gêm yn erbyn y tîm o’r Eidal ac anelu wedyn at ennill eu dwy gêm gartre’ a cheisio ennill pwyntiau bonws o leia’ oddi cartre’ yn erbyn Bayonne a Wasps.

“Dyw e ddim yn amhosibl y gallen nhw ennill yn erbyn Wasps neu Bayonne. Mae’n anodd mas yn Ffrainc bob amser wrth gwrs ond dyw Bayonne ddim ar eu gorau y tymor hwn. Mae’n siŵr y bydd Dai Young yn canolbwyntio ar gynghrair Aviva y tymor hwn, ar ôl mynd mor agos at ddisgyn y tymor diwetha’. Mae yna obaith gan y Dreigiau, felly cawn weld.”