S4C

S4C yn barod am antur rygbi fawr yn Ewrop

Cwpan Heineken | Dydd Llun, Hydref 8, 2012

Nos Wener 12 Hydref 10.35pm
Mwy o rygbi, nos Sadwrn 13 Hydref 8.00pm a nos Sul 14 Hydref, 6.00

Mae’r siwrnai fawr i gyrraedd rownd derfynol Cwpan Heineken yn dechrau nos Wener, 12 Hydref pan fydd y Gweilch yn croesawu Treviso i Stadiwm Liberty.

Cwpan Heineken ar S4C fydd yn darparu’r unig uchafbwyntiau sydd ar gael i bobl Cymru am ddim – a hynny hyd at chwiban olaf y rownd derfynol yn Stadiwm Aviva, Dulyn ar 18 Mai y flwyddyn nesa’.

Bydd uchafbwyntiau’r Gweilch v Treviso i’w gweld ar y rhaglen nos Wener, gydag uchafbwyntiau Clermont Auvergne v Scarlets nos Sadwrn, 13 Hydref a Sale v Gleision, nos Sul 14 Hydref ar benwythnos agoriadol y gystadleuaeth.

Mae tri o ranbarthau Cymru – Y Gweilch, Gleision a’r Scarlets, yn y gystadleuaeth 24 tîm y tymor hwn wrth i S4C baratoi i ddarlledu uchafbwyntiau drwy gydol y tymor.

Bydd S4C hefyd yn darlledu gemau byw ac uchafbwyntiau o gystadleuaeth Cwpan Her Amlin, gan ddilyn ymgyrch y Dreigiau o’r dechrau i’r diwedd.

Gareth Roberts fydd yn cyflwyno’r gyntaf o gemau byw Cwpan Amlin nos Sadwrn, 13 Hydref wrth i’r Dreigiau deithio i herio’r London Wasps.

Fe fydd y tîm cyflwyno ar gyfer y ddwy gystadleuaeth hefyd yn cynnwys y ddau gyn chwaraewyr rhyngwladol Arthur Emyr a Gwyn Jones ymysg eraill.

Meddai Gwyn Jones, “Mae’n addo bod yn gystadleuaeth ddifyr dros ben eleni, gyda Leinster yn anelu at ennill am y trydydd gwaith o’r bron – camp nad yw’r un tîm wedi’i gyflawni erioed.

“Dwi’n gweld Leinster unwaith eto ymhlith y ceffylau blaen gyda’r mawrion traddodiadol fel Leicester a Toulouse yn y ras hefyd. Ond y tîm i’w wylio efallai fydd Toulon. Maen nhw wedi buddsoddi llawer iawn yn eu carfan ac efallai mai hon fydd eu blwyddyn fawr nhw.”

Bydd Cwpan Heineken a Chwpan Amlin yn gyfle i wylwyr weld rhai o chwaraewyr disgleiria’ Cymru sy’n chwarae i dimau Ffrainc a Lloegr, gan gynnwys Lee Byrne (Clermont Auvergne) Gethin Jenkins (Toulon), Huw Bennett (Lyon), James Hook a Luke Charteris (Perpignan), Mike Phillips (Bayonne) ac Aled Brew (Biarritz).

“Fe fydd y rowndiau cyntaf yma yn gyfle i weld pa chwaraewyr o Gymru sy’n chwarae’n dda wrth iddyn nhw gystadlu am leoedd yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yr Hydref,” meddai Gwyn.

Ond beth am ranbarthau Cymru? Oes gan un ohonynt obaith o greu hanes a bod y tîm cyntaf o Gymru i godi prif gwpan Ewrop ers i’r gystadleuaeth ddechrau 17 mlynedd yn ôl?
“Dwi ddim yn gweld yr un tîm o Gymru yn ennill. Mae gormod o’n sêr wedi gadael y rhanbarthau ac rydych angen y chwaraewyr hynny i ennill gemau tynn ar ddiwedd tymor hir.”

Mae’r tri rhanbarth mewn grwpiau anodd, gyda’r Gweilch yn yr un grŵp â Leicester Tigers a Toulouse yng Ngrŵp 2; y Scarlets gyda Clermont Auvergne, Leinster ac Exeter Chiefs yng Ngrŵp 1 a’r Gleision gyda Montpellier, Sale Sharks a Toulon yng Ngrŵp 6.

“Efallai mai’r Gweilch sydd â’r gobaith mwyaf o gyrraedd y chwarteri, gan fod ganddyn nhw bac cryf fydd yn gallu cystadlu yn erbyn timau Lloegr a Ffrainc. Ond, os bydd ein timau ni’n gallu ennill eu gemau cartref, mae unrhywbeth yn bosibl.”