Tymor 2009/10
Newyddion rygbi
-
Rhyngwladol
Diweddaraf
- Chwe Gwlad Cymru 33 - 10 Yr Eidal...
- Chwe Gwlad Gwyn Jones...
- Chwe Gwlad Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20...
-
Rhanbarthau Cymru
Diweddaraf
- Cynghrair Magners Munster v Scarlets...
- Cynghrair Magners Eidalwyr yn ymuno â'r Cynghrair Magners...
- Cynghrair Magners Penwythnos Cynghrair Magnersr...
-
Uwch Gynghrair Cymru
Diweddaraf
- Uwch Gynghrair Cymru Caerdydd v Casnewydd...
- Cwpan Swalec Darbi fawr Cwpan Swalec...
- Cwpan Swalec Rownd derfynol Cwpan Swalec yn fyw...
Noddwyr rygbi ar S4C
Rhyngwladol
-
Cymru 33 - 10 Yr Eidal
Adroddiad - Gareth EvansSorry, Flash and Javascript are required to view this video. -
Gwyn Jones
Chwe Gwlad
Tybed sut mae wythnos o boen Gatland yn dod yn ei flaen. Roedd ei ddicter yn amlwg ac fe roddodd ei addewid y byddai camgymeriadau yn cael eu cosbi'r un mor llym ar y cae ymarfer ac maen nhw wedi bod ar y cae chware.Y gobaith yw y bydd saith niwrnod o gariad caled gan Edwards, Howley a'r criw yn atgyfnerthu'r syniad fod rhaid iddyn nhw wynebu canlyniadau eu gweithredoedd.
Roedd y datganiad o sut bu'r hyfforddwr yn ceisio rhoi mwy o gyfrifoldebau i'r chwaraewyr, ar y cae ac oddi arno, yn datgelu llawer. Mae'r ffaith fod y chwaraewyr wedi methu gwneud hyn yn datgelu mwy hyd yn oed.
Fe soniodd Gatland hefyd am yr agwedd barchus sydd gan Gymru i'w gwrthwynebwyr ac yn y ddau ddatganiad yma mae Gatland wedi dweud mwy am ei garfan na fyddech chi'n ei ddisgwyl gan hyfforddwr yn yr oes broffesiynol.
Mae'n gyfnod diddorol felly i Tom Prydie ennill ei gap cyntaf. Mae'n drueni ein bod wedi gweld cyn lleied ohono yng nghrys Y Gweilch i ffurfio barn ein hunain ond mae ei gyd-chwaraewyr yn y garfan wedi bod yn canu ei glodydd.
Nid yw'n syndod fod Warburton wedi cymryd lle Williams. Os nad ydych yn chwarae'r dirprwy yn erbyn Yr Eidal, yna pryd ydych chi'n ei chwarae? Mae Warburton yn flaenasgellwr modern ond bydd Cymru'n llai creadigol heb Williams.
Yn anffodus, mae llai o le i Williams yn y gêm fodern ac o leiaf bydd Warburton rhoi mwy o dân i'r rheng ôl.
Dylai ansawdd y chwarae godi gyda'r chwaraewyr mawr nôl yn y garfan ond gyda'r gêm mor galed ag y mae'r dyddiau hyn mae'n annhebygol y bydd unrhyw dîm yn gallu dewis eu pymtheg cyntaf ar unrhyw un adeg.
Ni fydd buddugoliaeth dda yn erbyn Yr Eidal yn gwneud yn iawn am y siom ry'n ni wedi cael ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.
Rwy'n disgwyl Cymru i ennill cyn belled a bod y pethe sylfaenol yn cael eu gwneud yn iawn. Ond gyda'r llinell yn fregus ofnadwy, a'r bêl yn cael ei cholli'n ddiangen, does fawr o arwydd o hyn hyd yma.
Roeddwn yn eithaf optimistaidd cyn i'r un bêl gael ei chicio ym mis Chwefror, ond wrth i'r Bencampwriaeth fynd yn ei blaen, mae'n amlwg nad yw Cymru gystal tîm ac oeddwn i'n gobeithio.
Dylai Ffrainc guro Lloegr i sicrhau Camp Lawn mewn Pencampwriaeth sydd wedi bod yn anghofiadwy fel arall. Mae Iwerddon yn haeddu'r Goron Driphlyg ac mae Cymru wedi dysgu cyfres o wersi anodd.
-
Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20
Chwe Gwlad
Bydd sêr dyfodol rygbi Cymru yn diweddu Pencampwriaeth Chwe Gwlad yn fyw dim ond ar S4C, nos Wener 19 Mawrth am 19:55, wrth iddyn nhw groesawu Yr Eidal i Barc yr Arfau, Caerdydd.Bydd asgellwr ifanc Castell Nedd a'r Gweilch Kristian Phillips yn cymryd ei le gyda'r cefnwyr tra bod yr hyfforddwr Phil Davies wedi gwneud pedwar newid i'r pac ar ôl y grasfa yn Iwerddon wythnos diwethaf. Bydd Joe Rees a James Thomas o Tonmawr yn ymuno a Trystan Davies a Morgan Allen gyda'r blaenwyr.
Bydd Edward Siggery yn ennill ei gap cyntaf fel blaenasgellwr.
Tîm Cymru dan 20: Dan Fish (Gleision); James Loxton (Gleision); Ben John (Y Gweilch); Scott Williams (Scarlets); Kristian Phillips (Y Gweilch); Matthew Jarvis (Y Gweilch); Gareth Davies (Scarlets); Trystan Davies (Scarlets); Rhys Williams (Gleision); Joe Rees (Tonmawr); James Thomas (Dreigiau); Macauley Cook (Gleision); Edward Siggery (Llanymddyfri); Josh Navidi (Gleision); Morgan Allen (Pont-y-pŵl).
Eilyddion: Ieuan Davies (Crwydriaid Morgannwg); Dan Watchurst (Dreigiau); Rhys Jenkins (Dreigiau); Ben Thomas (Y Gweilch); Rhys Downes (Gleision); Steve Shingler (Scarlets); Dean Gunter (Gleision). -
Cap cyntaf i Prydie
Chwe Gwlad
Bydd Tom Prydie yn torri record rygbi Cymru wrth iddo ennill ei gap cyntaf dros Gymru mewn tîm sy'n cynnwys pum newid i'r un gollodd yn erbyn Iwerddon dros y penwythnos.Asgellwr Y Gweilch fydd y chwaraewr ifancaf i chwarae dros Gymru o 24 diwrnod gan dorri record Norman Biggs sydd wedi sefyll am 112 o flynyddoedd. Bydd Prydie yn cymryd lle Leigh Halfpenny sydd wedi ei ollwng o'r garfan.
Mewn newidiadau eraill bydd y capten Ryan Jones a'r prop Gethin Jenkins yn dychwelyd i'r tîm tra bod Gareth Delve a Paul James ar y fainc. Bydd Mike Phillips hefyd yn dychwelyd gyda Richie Rees yn colli ei le.
Bydd Martyn Williams, oedd yn gapten yn erbyn Iwerddon, hefyd yn colli ei le i Sam Warburton.
Tîm Cymru: Lee Byrne (Y Gweilch); Tom Prydie (Y Gweilch); James Hook (Y Gweilch), Jamie Roberts (Gleision); Shane Williams (Y Gweilch); Stephen Jones (Scarlets); Mike Phillips (Y Gweilch); Gethin Jenkins (Gleision); Matthew Rees (Scarlets); Adam Jones (Y Gweilch); Bradley Davies (Gleision); Luke Charteris (Dreigiau); Jonathan Thomas (Y Gweilch); Sam Warburton (Gleision); Ryan Jones (capten, Y Gweilch).
Eilyddion: Huw Bennett (Y Gweilch); Paul James (Y Gweilch); Ian Gough (Y Gweilch); Gareth Delve (Caerloyw); Dwayne Peel (Sale); Andrew Bishop (Y Gweilch); Tom Shanklin (Gleision).
-
Iwerddon 27 - 12 Cymru
Adroddiad - Gareth EvansSorry, Flash and Javascript are required to view this video. -
Gwyn Jones
Chwe Gwlad
Y gêm yn erbyn Iwerddon yw cyfle olaf Cymru orffen y tymor gyda rhywbeth i fod yn falch ohono.O leiaf byddai buddugoliaeth yn Nulyn yn dangos bod Cymru gyda'r gallu i ennill yn erbyn gwrthwynebwyr o ansawdd ac mai dim ond rhai agweddau o'r gêm sydd angen gweithio arnyn nhw.
Byddai colled, fodd bynnag, yn gallu gorfodi Gatland i edrych yn fanylach ar ei syniadau a'i chwaraewyr.
Y prif wendid amlwg ym mhob un o'r gemau hyd yn hyn yw ein bod yn rhoi mantais gynnar i'r gwrthwynebwyr. Nid ar hap a damwain yn unig mae Cymru'n cael eu rhyng-gipio mor aml.
Mae'r strategaeth o 'fynd yr un ffordd' yn hysbys i bawb ac mae'n caniatáu i gefnwyr y gwrthwynebwyr i ddisgwyl am eu cyfle.
Er mwyn osgoi ildio pwyntiau yng nghyfnodau cynnar y gêm, rwy'n amau y bydd Cymru yn chwarae'n geidwadol iawn.
Bydd rhaid i Iwerddon orfodi'r tempo i ddechrau a bydd rhaid i ni weld os oes ganddyn nhw'r hyder i agor y gêm o'r dechrau neu a fyddan nhw hefyd yn hapus i aros am ail hanner tanllyd.
Os fydd Cymru'n chwarae'n saff yna bydd hynny'n rhoi mwy o bwyslais ar yr amddiffyn i gadw'r Gwyddelod draw tan fod Cymru'n credu ei bod hi'n ddiogel i ryddhau eu gallu ymosodol.
Mae Shaun Edwards wedi dadlau yn erbyn yr ystadegau sy'n profi breuder amddiffyn Cymru. Dywedodd nad ydyn nhw'n cymryd cyd-destun y gwallau i ystyriaeth ac y gellir troi ystadegau i gyd-fynd a beth bynnag yw eich dymuniad.
Ond dyma gwpl o ystadegau fy hun y gellir eu hychwanegu at y drafodaeth.
Fe ildiodd Cymru 17 pwynt pan oedden nhw lawr i 14 dyn yn erbyn 'grym' ymosodol Lloegr ond pan oedd Ffrainc i lawr i 14 dyn yn erbyn Cymru fe sgorion nhw dri chais ac ildio dim.
Rwy'n credu bod ormod o'r bai wedi ei roi ar eiliad o wallgofrwydd Alun-Wyn Jones. Gall timau da addasu fel gwnaeth Cymru ddwy flynedd yn ôl yn Nulyn.
Ond yr un peth sy'n fy siomi yw anallu Cymru i wirio'r camgymeriadau yn y llinell.
Dwy flynedd yn ôl roedd Cymru'n agos i gipio buddugoliaeth yn erbyn y Springboks ond fe gollwyd tair llinell yn y deng munud olaf.
Yr hydref diwethaf roedd Cymru yn treulio o saith pwynt yn erbyn y Crysau Duon pan gollwyd llinell hanfodol yn nwy ar hugain Seland Newydd.
Gallwn fod yn sicr fod cloeon Iwerddon wedi astudio'r rhain gyda chryn fwynhad, er bod Cymru wedi dewis y cawr Luke Charteris.
Mae'r ail reng o Went wedi gwella'n sylweddol ond i ddyn o'r fath faint mae'n syndod nad oes ganddo ragor o bresenoldeb ar y cae.
Brwydr allweddol yn Nulyn fydd rhwng rheng ôl y ddau dîm. Mae Cymru wedi bod yn wan yn y rhan yma o'r chwarae a bydd rhaid iddyn nhw gystadlu a thriawd Gwyddelig da.
Rwyf wrth fy modd fod Delve yn cael ei gyfle, er bod hynny'n dod ar draul y capten. Mae ei gyflymder ac ystwythder yn cario'r bel yn wahanol i Ryan Jones syn defnyddio ei bwysau a phŵer sy'n gallu bod yn un dimensiwn.
Rwyf hefyd yn falch iawn o weld Martyn Williams yn arwain Cymru. Trwy gydol ei yrfa mae wedi gwrthbrofi'r honiad nad yw'n ddigon corfforol ac mae'n dechrau' gêm hanesyddol yma'n wynebu'r un cwestiwn eto.
Dyw Martyn ddim yn chwaraewr pwerus ond mae ganddo rhai o'r sgiliau gorau i ymddangos ar gae rygbi erioed.
Talwch eich arian a chymrwch eich dewis, a thros y rhan fwyaf o'i yrfa, mae'r dewis o gynnwys Williams wedi bod yn un cywir.
-
Martyn Williams yn gapten Cymru
Chwe Gwlad
Martyn Williams fydd yn arwain Cymru yn eu gêm olaf ond un ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yn Croke Park, Dulun. Mae Ryan Jones, y capten arferol, wedi ei anafu. Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C ddydd Sadwrn 13 Mawrth am 14:00.Bydd capten Caerloyw, Gareth Delve, yn cymryd lle Ryan Jones fel rhif 8. Cafodd Delve ei alw i'r garfan ddechrau'r wythnos. Mae'r tîm hefyd yn cynnwys bachwr y Scarlets Matthew Rees ar draul Huw Bennet sydd ar y fainc.
Mae clo'r Dreigiau Luke Charteris yn cymryd lle Deiniol Jones ac mae Dwayne Peel ar y fainc yn dilyn anaf Mike Phillips i'w ben-glin tra'n chware i'r Gweilch penwythnos diwethaf.
Mae hyfforddwr Iwerddon, Declan Kidney, wedi enwi'r un tîm gurodd Lloegr yn Twickenham bythefnos yn ôl.
Tîm Cymru: Lee Byrne, Leigh Halfpenny, James Hook, Jamie Roberts; Shane Williams, Stephen Jones, Richie Rees, Paul James, Matthew Rees, Adam Jones, Bradley Davies, Luke Charteris, Jonathan Thomas, Martyn Williams (capt), Gareth Delve.
Eilyddion: Huw Bennett, Rhys Gill, Ian Gough, Sam Warburton, Dwayne Peel, Andrew Bishop, Tom Shanklin.Tîm Iwerddon: G Murphy; Bowe, B O'Driscoll, D'Arcy, Earls; Sexton, O'Leary; Healy, R Best, Hayes, O'Callaghan, O'Connell, Ferris, D Wallace, Heaslip.
Eilyddion: Kearney, O'Gara, Buckley, Cullen, Jennings, Cronin, Reddan. -
Gareth Delve yn cael ei alw i garfan Cymru
Chwe Gwlad
Mae tîm hyfforddi Cymru wedi galw ar rif wyth Caerloyw Gareth Delve i ymuno a'r garfan cyn y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon yn Croke park ddydd Sadwrn. Bydd y gêm i'w gweld yn fyd ar S4C 13 Mawrth am 14:00.Mae Gareth, sydd wedi ennill naw cap i Gymru, wedi cael ei alw i'r garfan gan fod capten Cymru, Ryan Jones, wedi anafu ei goes. Y tro diwethaf i Gareth Delve chwarae i Gymru oedd ar daith yr haf i Dde Affrica yn 2008
-
Williams a Jones allan o'r Chwe Gwlad
Chwe Gwlad
Ni fydd chwaraewyr y Gleision, Gareth Williams a Deiniol Jones, yn chwarae unrhyw ran bellach ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni oherwydd anafiadau.Fe fethodd y bachwr Williams y gêm yn erbyn Ffrainc oherwydd anaf i'w ben-glin. Er i Jones ddechrau'r gêm bu'n rhaid iddo adael y cae yn gynnar wedi iddo anafu ei asennau. Daeth Luke Charteris ar y cae yn ei le.
Ni fydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn galw ar chwaraewyr eraill i ymuno â'r garfan. Mae Gatland hefyd wedi rhyddhau 14 chwaraewyr o'r garfan 32 dyn i chwarae dros eu rhanbarthau yn y Cynghrair Magners dros y penwythnos.
-
Cymru 20 - 26 Ffrainc
Adroddiad - Gareth EvansDyma'i adroddiad o gem Cymru v Ffrainc o Stadiwm y Mileniwm.
Sorry, Flash and Javascript are required to view this video. -
Gwyn Jones
Chwe Gwlad
Dau brif nodwedd perfformiadau Cymru yn ymgyrch y Chwe Gwlad eleni yw eu gallu i greu cyfleoedd a'r nifer o gamgymeriadau maen nhw'n ei gwneud.Fodd bynnag, dydyn ni heb weld llawer o'r symudiadau ymosodol gan fod Cymru wedi un ai gwneud llanast o'r llinell, wedi gollwng y bêl, neu wedi colli'r bêl mewn tacl.
Beth sydd ar ôl yw tîm sy'n gallu gwneud y gwaith anodd o agor amddiffyn ond sy'n methu gweithredu rhai o'r elfennau sylfaenol o adeiladu gêm mewn camau trefnus.
Bydd ceisio gwneud yn iawn am hyn yn cael ei wneud yn anos fyth gan Ffrainc. Mae tîm Ffrainc wedi bod yn edrych yn estron ar adegau - disgybledig, trefnus a chyson.
Bydd Ffrainc yn ceisio rhoi pwysau ar Gymru ar bob cyfle. Maen nhw'n siŵr o gystadlu yn y llinell gan geisio rhoi pwysau ar Bennett i daflu'n berffaith.
Bydd sgrym Cymru hefyd yn dod o dan bwysau parhaus. Mae rheng flaen Ffrainc yn uned arswydus a byddan nhw'n ceisio rhoi cyfle i Morgan Parra fynd i'r afael a Richie Rees.
Bydd aneffeithlonrwydd Cymru yn ardal y dacl yn darged i un o'r blaenasgellwyr amddiffynnol gorau yn y byd. Mae Thierry Dusautoir yn clampio'r bêl ac yna troi i garreg wrth i chwaraewyr fownsio oddi arno mewn ymgais i symud capten Ffrainc. Dyma ble bydd Cymru'n gweld eisiau gwaith caib a rhaw Gethin Jenkins ac Alun-Wyn Jones fwya'.
Roedd Martyn Williams yn ei gweld hi'n anodd yn erbyn Yr Alban ac mae rhywun yn synhwyro ein bod yn dystion i fachlud gyrfa odidog pan gafodd ei ddisodli gan Warburton. Wedi dweud hynny, mae Martyn wedi cael beirniadaeth fel hyn o'r blaen ac mae e wedi profi ei hun pob tro.
Bydd Williams angen cefnogaeth ei reng ôl yn erbyn Ffrainc. Mae'n debygol o gael llawer mwy gan Thomas na gafodd ef erioed gan Powell ond mae'n rhaid i Ryan Jones gyfrannu mwy hefyd.
Tu ôl i'r sgrym, rwy'n eithaf hyderus y gall Cymru ymdopi â Ffrainc. Bydd presenoldeb Bastareaud yn cael ei rwystro gan amddiffyn ymosodol iawn ac mae'n bosib y bydd Hook a Roberts yn cael eu symud o gwmpas er mwyn cael y gorau o'r ddau chwaraewr.
Bydd Ffrainc yn teimlo bod Cymru'n agored i niwed. Maen nhw'n amhrofiadol mewn safleoedd hanfodol - dyw rhannau o'r pac heb gael eu profi o'r blaen ac yn debygol o gracio dan bwysau parhaus.
Mae Ffrainc yn dechrau fel ffefrynnau clir ac mae'n rhaid i Gymru wneud naid enfawr i gyrraedd eu safonau os nad ydynt am gael eu hysgubo o'r neilltu. Ond mae Cymru'n gallu body n beryglus ar adegau, ac oherwydd hyn, mae gennym ni siawns.
Cymru yw'r unig rwystr rhwng Ffrainc a'r Gamp Lawn. Os fydd Ffrainc yn ennill yna bydd rhaid iddyn nhw oresgyn Yr Eidal a Lloegr i gwblhau'r dasg. Mae un o'r timau hynny'n ochr gyfyngedig iawn sydd prin yn gallu pasio'r bêl heb ei gollwng. Y tîm arall yw'r Eidal.
-
Cyhoeddi tîm Ffrainc
Chwe Gwlad
Ni fydd asgellwr Ffrainc, Benjamin Fall, yn chware dros ei wlad yn erbyn Cymru y76m Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad nos Wener wedi iddo anafu ei ffêr wrth ymarfer.Roedd Fall awedi cael ei enwi yn y tîm gan yr hyfforddwr Marc Livermont wedi i Vincent Clerc gael ei anafu. Bydd Julian Malizies yn cymryd ei le gan ennill ei drydydd cap ar ddeg i'r Gleision.
Tîm Ffrainc: Clement Poitrenaud (Toulouse); Julien Malzieu (Clermont), Mathieu Bastareaud (Stade Francais), Yannick Jauzion (Toulouse), Alexis Palisson (Brive); Francois Trinh-Duc (Montpellier), Morgan Parra (Clermont Auvergne); Thomas Domingo (Clermont Auvergne), William Servat (Toulouse), Nicolas Mas (Perpignan), Lionel Nallet (Racing-Metro), Pascal Pape (Stade Francais), Thierry Dusautoir (Toulouse, capt), Julien Bonnaire (Clermont Auvergne), Imanol Harinordoquy (Biarritz).
Eilyddion: Dimitri Szarzewski (Stade Francais), Jean-Baptiste Poux (Toulouse), Julien Pierre (Clermont Auvergne), Alexandre Lapandry (Clermont Auvergne), Frederic Michalak (Toulouse), David Marty (Perpignan), Marc Andreu (Castres).
-
Carfan Cymru dan 20
Rhyngwladol
Josh Navidi, aelod o academi y Gleision sy'n chwarae i Morgannwg, fydd yn arwain tîm dan 20 Cymru yn erbyn Ffrainc ym Mharc yr Arfau ddydd Gwener. Bydd y gem yn cael ei dangos yn hwyrach ar S4C am 5.30pm.Mewnwr Pontypridd Rhys Downes sydd wedi'i ddewis gan yr hyfforddwr Phil Davies fel is-gapten.
Cymru dan 20: Dan Fish (Gleision); James Loxton (Gleision), Owen Williams (Gleision), Scott Williams (Scarlets), Kristian Phillips (Gweilch); Matthew Jarvis (Gweilch), Rhys Downes (Gleision); Dan Watchurst (Dragons), Rhys Williams (Gleision), Simon Gardiner (Scarlets), Macauley Cook (Gleision), Lloyd Peers (Gweilch), Morgan Allen (Pontypool), Josh Navidi (capt, Gleision), Toby Faletau (Dreigiau)
Eilyddion: Ieuan Davies (Glamorgan Wanderers), Rhodri Jones (Scarlets), James Thomas (Dreigiau), Rhys Jenkins (Dreigiau), Edward Siggery (Llanymddyfri), Gareth Davies (Scarlets), Dean Gunter (Gleision)
-
Cymru v Ffrainc: Rhagolwg Bynmor Williams
Chwe Gwlad
Mae gennym ni'r gallu i guro Ffrainc ond mae'n golygu ymdrech dros yr 80 munud. Bydd yn dibynnu llawer ar y paratoadau ar gyfer y gêm. Er gwaethaf y rhyddhad o ennill yn erbyn yr Alban, bydd llawer yn rhwystredig oherwydd y perfformiad.Bydd y dewis yn hanfodol. Mae diffyg niferoedd yn cystadlu am le yn nhîm Cymru ar hyn o bryd a byddai un neu ddau o anafiadau, neu waharddiad, yn lleihau opsiynau Gatland.
Sgrym
Mae Warren Gatland yn dweud yn aml fod gemau yn cael eu hennill a cholli yn y sgrym ac os nad oes llwyfan i'r blaenwyr yna does dim siawns o fuddugoliaeth.
Os fydd Ffrainc yn llwyddo i gadw'r sgrym ar ei draed, gallan nhw achosi problem enfawr. O safbwynt dadansoddol, byddaf yn edrych ar Gymru i amseru'r taro'n berffaith a chael y bêl i mewn yr un pryd er mwyn sicrhau meddiant ac i atal Ffrainc rhag defnyddio eu pwysau a grym.
Bydd angen trefn bendant i'r pac a bydd rhaid iddyn nhw ganolbwyntio fel uned o'r dechrau i'r diwedd.
Y llinell
Mae'r llinell yn ddarn hanfodol lle mae'n rhaid i berfformiad pob un sy'n rhan ohoni fod yn llawer gwell.
Fe wnaeth Lloegr roi stop ar Gymru drwy roi chwaraewyr mawr yng nghanol a chefn y llinell. Bydd Ffrainc, yn ôl pob tebyg, yn gwneud yr un peth.
Cario'r bêl
Byddaf yn awyddus i weld pa mor effeithiol yr ydym ni'n cario'r bêl a chroesi'r llinell fantais.
Mae croesi'r llinell fantais yn flaenoriaeth ac mae Cymru wedi bod yn siomedig iawn. Mae hyn yn ei dro'n cael effaith mawr ar ansawdd y meddiant maen nhw'n ei gael.
Gêm gicio
Mae Warren Gatland yn ein hatgoffa'n aml mai'r timau sy'n cicio fwyaf sydd fwyaf tebygol o ennill. Rwy'n credu fod hyn ychydig yn rhy gyffredinol gan ei fod yn dibynnu ar bwy sy'n cicio.
Gellir dadlau fod gan Gymru y tri ôl gorau yn y byd rygbi ond dydyn nhw ddim yn cael eu defnyddio digon a bydd rhaid i dîm Ryan Jones ddangos dewrder ac argyhoeddiad gan eu cynnwys nhw'n fwy amlwg wrth gicio'n hir.
Hefyd, bydd rhaid i Stephen Jones a James Hook gymysgu pethau'n amlach fel maen nhw'n gwneud yn rheolaidd dros eu rhanbarthau.
Cefnwyr
Mae'r cefnwyr yn edrych yn dda iawn ar bapur ond maen nhw'n tangyflawni. Rwy'n cydymdeimlo gyda nhw gan eu bod nhw wedi gorfod gweithio gyda phêl yn araf a blêr yn erbyn Awstralia, Lloegr a'r Alban.
Mae'r chwaraewyr Ffrengig, Barra a Trinh-Duc, yn amlwg yn dalentau eithriadol ond dydyn nhw heb chwarae yn Stadiwm y Mileniwm o'r blaen a bydd rhaid eu rhoi nhw o dan bwysau gymaint â phosibl. Os byddwn yn tarfu arnyn nhw bydd gan Gymru fwy o siawns o guro.
Amddiffyn
Mae'n amlwg bod rhai o'r chwaraewyr wedi siomi Shaun Edwards gan fethu taclau a newid y strwythur amddiffynnol. Bydd pob un o'r chwaraewyr euog yn ymwybodol o hyn ac yn awyddus i wneud iawn yn erbyn Ffrainc.
Mae'r amddiffyn yn ymwneud â chyfathrebu a chadw at strwythur sydd wedi ei gynllunio ar gyfer pob posibilrwydd. Bydd rhaid stopio'r ddau ganolwr Ffrengig, Jauzion a Bastareaud, yn fuan yn y gêm oherwydd bod ganddyn nhw'r gallu i dorri unrhyw amddiffyn wrth gymryd y bêl ar gyflymder.
Trosolwg
Mae'r hyder yn isle yng ngwersyll Cymru a byddai buddugoliaeth ddydd Gwener yn erbyn ochr cryfaf hemisffer y gogledd yn rhoi hwb i bawb yng Nghymru.
Ar bapur, rydym yn edrych i fod tua phymtheg pwynt ar ei hôl hi, ond ar y noson, os bydd y chwaraewyr yn cyfiawnhau eu safle uchel y tîm am y tro cyntaf yn y deuddeg mis diwethaf, gallai Cymru fod tua 3-5 pwynt ar y blaen am 22:00 nos Wener nesaf.
-
Cyhoeddi Carfan Cymru
Chwe Gwlad
Cymru: Lee Byrne (Gweilch); Leigh Halfpenny (Gleision), James Hook (Gweilch), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); Stephen Jones (Scarlets), Richard Rees (Gleision); Paul James, Huw Bennett, Adam Jones (Gweilch), Bradley Davies, Deiniol Jones (Gleision), Jonathan Thomas (Gweilch), Martyn Williams (Gleision), Ryan Jones (Gweilch, capt) Eilyddion: Ken Owens (Scarlets), Rhys Gill (Saracens), Luke Charteris (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Mike Phillips (Gweilch), Andrew Bishop (Gweilch) , Tom Shanklin (Gleision).
-
Mwy o anafiadau yn taro carfan Cymru
Chwe Gwlad
Mae paratoadau Cymru cyn iddyn nhw wynebu Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn mynd o ddrwg i waeth wrth i Gareth Williams, Matthew Rees a Gethin Jenkins orfod tynnu allan o'r garfan oherwydd anafiadau.Cafodd Williams anaf i'w ben-glin yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban tra bod Rees yn parhau i ddioddef o'r anaf a gafodd yn yr hydref. Chwaraeodd Jenkins 12 munud i Gymru yn y gêm yn erbyn Yr Alban cyn gorfod gadael y cae oherwydd anaf i'w goes.
O ganlyniad i'r holl anafiadau mae tîm hyfforddi Cymru wedi galw bachwr y Scarlets, Ken Owens, i'r garfan. Bydd Owens hefyd yn chwarae i'r Scarlets yn erbyn Leinster yng Nghynghrair Magners nos Sadwrn.
-
Anaf i Jones yn ergyd i Gymru
Chwe Gwlad
Mae Alun Wyn Jones allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad gydag anaf. Bydd hyn yn ergyd arall i Gymru yn dilyn gwaharddiad Andy Powell o'r garfan.Daeth yr anaf i Jones yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Alban wrth iddo wrthdaro gyda Scott Lamont. Mae disgwyl bydd Jones allan am 12 wythnos. Yn y cyfamser, mae gan Warren Gatland dewis o bedwar clo arall - Ian Gough, Deiniol Jones, Bradley Davies a Luke Charteris.
Bydd y newyddion diweddaraf hefyd yn effeithio paratoadau Y Gweilch ar gyfer eu gêm yn rownd yr wyth olaf yng Nghwpan Heineken yn erbyn Biarritz.
-
Powell allan o garfan Cymru
Chwe Gwlad
Mae Andy Powell allan o garfan Cymru yn dilyn ei arestiad yn oriau man y bore ar ôl gem Cymru yn erbyn Yr Alban.Ni fydd Powell yn cymryd rhan yng ngweddill y Bencampwriaeth oherwydd ei fod wedi cael ei arestio am yrru cerbyd golff tra dan ddylanwad alcohol yn gynnar fore Sul.
Dywedodd Undeb Rygbi Cymru, mewn datganiad gan reolwr y tîm Alan Phillips, eu bod yn ei wahardd oherwydd ei ymddygiad.
-
Cymru 31 - 24 Yr Alban
Adroddiad - Gareth EvansSorry, Flash and Javascript are required to view this video. -
Holi Gareth Roberts
Chwe Gwlad
1. Mae'r wasg wedi bod yn feirniadol o Alun-Wyn Jones yn dilyn y drosedd gyflawnodd e yn erbyn Lloegr wythnos diwethaf. Ydych chi'n credu ei bod hi'n deg beio un chwaraewr am y golled?
Mae hyn yn sicr wedi bod yn destun siarad, ac mae'n amlwg bod y drosedd wedi digwydd ar bwynt tyngedfennol yn y gêm. Fe gyfrannodd y drosedd at y golled, do, ond mae'r tîm yn ei gyfanrwydd ar fai. Doedd y llinell ddim yn gweithio yn gynnar yn y gêm a doedd ansawdd y bêl gan y mewnwr ddim yn wych chwaith. Bydd y tîm hyfforddi wedi gorfod gweithio ar yr agweddau hyn cyn y gêm yn erbyn Yr Alban.
2. Mae Alun-Wyn Jones wedi ei gynnwys yn y garfan i wynebu'r Alban. Ydych chi'n credu y bydd yn dod yn ei ôl yn gryfach?
Chwarae teg iddo am godi ei law a chyfaddef ei gamgymeriad. Mae'n gymeriad cryf ac yn chwaraewr o'r safon uchaf sy'n cynnig llawer i garfan Cymru. Mae wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol a bydd yn dychwelyd yn gryfach nag erioed.
3. Pwy wnaeth argraff arnoch chi wythnos ddiwethaf?
Mae James Hook yn chwaraewr talentog iawn. Fe brofodd ei fod yn gallu dirprwyo i Lee Byrne yn safle'r cefnwr ym mhrofion yr hydref ac fe ragorodd ei hun yng nghanol cae wythnos ddiwethaf wrth chwarae rhif 13 am y tro cyntaf ar lwyfan rhyngwladol. Roedd yn edrych yn gyfforddus yn y rôl ac rwy'n edrych ymlaen at weld beth arall fydd partneriaeth Hook-Roberts yn ei gynnig. Roedd hi hefyd yn wych gweld Adam Jones yn ôl mewn yn y crys coch ar ôl ei anafiadau - ac fe goronodd ei berfformiad cadarn gyda chais.
4. Beth fydd rhaid i Gymru ei wneud yn eu gêm gartref gyntaf yn y Bencampwriaeth i sicrhau buddugoliaeth hanfodol?
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae'n bosib dadlau bod Cymru yn dîm oedd yn perfformio yn yr ail hanner, ond mae'n rhaid i ni roi ein stamp yn gynnar yn y gêm yn erbyn Yr Alban. Roedd sgrym Cymru'n gweithio'n dda yn erbyn Lloegr, a gyda Gethin Jenkins 'nôl yn y garfan fel eilydd, mae'n gwneud yr agwedd yna o'r chwarae'n gryfach fyth. Mae'n chwaraewr gwych ac mae'n gweithio'n galed oddi ar y bêl hefyd.
5. Pwy ydych chi'n credu fydd yn achosi problemau i Gymru yn erbyn Yr Alban?
Dan arweiniad yr hyfforddwr, Andy Robinson, mae'r Alban yn dîm corfforol, felly fydd hi ddim yn gêm hawdd o bell ffordd. Roedd Johnny Beattie a Sean Lamont yn edrych yn fygythiol yn erbyn Ffrainc ac fe gafodd Yr Alban lawer o diriogaeth yn ystod y gêm. Ond Yr Alban yw'r unig dîm wnaeth ddim sgorio cais ym mhenwythnos agoriadol y bencampwriaeth a bydd hyn yn hwb i Gymru.
-
Gwyn Jones
Chwe Gwlad
Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod mis mêl Warren Gatland fel hyfforddwr Cymru wedi dod i ben. Mae wedi mwynhau cyfnod hirach na'r arfer i hyfforddwyr rygbi yng Nghymru ond daeth hwn i ben gyda chyhoeddi'r garfan i wynebu'r Alban.Mae yna anghrediniaeth gyffredinol fod y ddau Gareth wedi eu henwi ar gyfer y prawf nesaf ac mae nifer o'r cefnogwyr wedi lleisio anfodlonrwydd gyda phenderfyniadau Gatland.
Wrth gwrs, dyna'r ymateb fyddech chi'n ei ddisgwyl gan bobl Cymru ar ôl perfformiad gwael, yn union fel gorymateb Gatland yn y cyfweliadau ar ôl y gêm i'r ffaith i Alun-Wyn Jones gael ei hel i'r gell cosb. Efallai fod yna ychydig o Gymru yn y Kiwi erbyn hyn. Yn bersonol, rwy'n credu fod y ddau ymateb wedi bod dros ben llestri.
Rwy'n credu fod Gatland yn anghywir i roi'r bai ar Jones yn dilyn y gêm yn Twickenham - tu ôl i'r llenni neu ar gamera. Roedd Jones yn teilyngu beirniadaeth gan iddo fod yn ffôl dros ben ond nid arno fe yn unig oedd y bai.
Dyw colli un chwaraewr ddim bob amser yn arwain at y fath o drybini a brofodd dîm Cymru penwythnos diwethaf. Mae carfannau proffesiynol yn gorfod chwarae gyda 14 dyn yn aml a ddylai hynny ddim â golygu ildio pwyntiau yn rhwydd.
Doedd Gatland byth yn mynd i beidio â dewis Jones. Pe bai'r hyfforddwr wedi gwneud hynny, byddai'r tîm wedi colli un o'i chwaraewyr gorau a rhoi buddugoliaeth yn erbyn Yr Alban yn y fantol.
Cynllun chwarae Cymru, pan nad ydyn nhw'n cicio, yw creu sefyllfaoedd manteisiol ar ôl ailgylchu'r bêl. Ond mae hyn yn dibynnu ar allu Cymru i ennill y bêl a'i chadw. Fe wnaeth y ddwy elfen yma brofi'n anodd am gyfnodau hir yn erbyn Lloegr.
Os ydych yn seilio eich asesiad o Gymru ar y gêm ddiwethaf, rydym ni'n dîm cymedrol iawn. Fe wnaethon ni greu cyfleoedd ond roedd y chwarae'n llawn camgymeriadau fel arall.
Pryd oedd y tro diwethaf i Gymru chwarae'n dda? Dwi'n credu fod tua blwyddyn ers hynny. Ond dyw carfannau ddim yn mynd yn wael dros nos. Dydw i ddim yn dweud fod Cymru'n dîm gwael, ond mae yna ddirywiad amlwg wedi bod yn y perfformiadau a dyw hynny heb ddigwydd dros nos.
Rwy'n falch fod Gatland wedi cadw ffydd yn Williams yn safle'r bachwr. Roedd y llinellau yn wael ond sgil grŵp yw'r llinell ond nid fe oedd yr unig un ar fai. Ar ben hynny, mae wedi bod yn chwarae'n arbennig dros y Gleision yn ddiweddar ac mae'n haeddu ail gyfle. Byddai chwarae Bennett yn cyflawni dim, gan ei fod ymhlith aelodau mwyaf diegni'r garfan.
Ond ni ddylen nhw fod wedi aros gyda Cooper. Dyma fewnwr sy'n ddihyder ar hyn o bryd ac yn ei chael hi'n anodd gwneud y penderfyniadau cywir ar y cae. Ar ei orau, mae Cooper yn chwaraewr llawn awch yn ei chwarae, ond ar y foment mae'n oedi gormod ac mae hynny'n effeithio ar lif y chwarae. Nid fe yw dewis cyntaf ei ranbarth ac ar yr achlysur yma, mae chwaraewr arall sy'n edrych yn barod i gymryd ei le. Bydden i wedi dechrau gyda Richie Rees.
Dyw aelodau carfan Yr Alban ddim yn cynnwys unrhyw un na fydden i wedi disgwyl. Mae'r pac yn gryf, yn enwedig yn y rheng flaen, ac mae digon o daldra yng ngweddill y blaenwyr i roi prawf ar linell Cymru. Mae'r rheng ôl wedi gwella ond yn bell o fod yn fygythiad mawr.
Mae dewis Dan Parks yn safle'r maswr yn cynnig cicio tactegol i'r Alban, ond mae hefyd yn cynnig targed i ganolwr Cymru Jamie Roberts. Mae yna redwyr pwerus ymysg yr olwyr ond neb fydd yn achosi i Gymru golli cwsg.
Mae'r Alban yn chwarae rygbi amyneddgar iawn. Maen nhw'n cadw'r bêl dros gymalau oherwydd dydyn nhw ddim eisiau colli meddiant. Maen nhw'n ceisio diogelu eu hun wrth ymosod a dydyn nhw ddim yn trio torri trwy'r llinell rhag ofn iddyn nhw ynysu eu hunain. Mae'r tempo yn uchel ond y gwobrau yn isel oherwydd dydyn nhw ddim yn tynnu'r amddiffynwyr allan o'u safleoedd.
Yn yr amddiffyn maen nhw'r un mor oddefol. Does dim blitz, maen nhw'n aros nôl ac yn cadw at y llinell yn fwy aml a'i gilydd. Ond gyda rygbi'r undeb yn mynd trwy gyfnod di-fflach, mae cynllun chwarae'r Alban yn anodd ei guro.
Mae'n rhaid i Gymru ddelio gyda'r problemau a gododd yn erbyn Lloegr ac mae'r gêm yma yn union beth sydd angen arnyn nhw. Roedden i wedi meddwl byddai'r gêm yn erbyn Yr Alban yn fuddugoliaeth weddol gyfforddus, ond ar ôl colli i Loegr, rwy'n bryderus.
Bydd 12 o'r Llewod ar y cae dros Gymru ddydd Sadwrn ac mae'n hen bryd iddyn nhw ddangos eu safon. Mae angen ennill yn sylweddol er mwyn adfer y sefyllfa, neu fydd yn rhaid i Gatland ail-feddwl am y chwaraewyr a'r tactegau mae'n eu defnyddio.
-
Hines yn golled i'r Alban
Chwe Gwlad
Mae clo Leinster a'r Alban, Nathan Hines, wedi gorfod tynnu allan o'r garfan fydd yn wynebu Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ar ddydd Sadwrn oherwydd anaf i'w goes.Clo Caeredin, Jim Hamilton, fydd yn cymryd lle Hines yn y garfan. Mae Hamilton newydd ddechrau chwarae eto ar ôl anaf hirdymor ar ei lun.
Hefyd, bydd yn rhaid i gefnogwyr Cymru aros ychydig hirach nes bydd y mewnwr Mike Phillips yn dychwelyd i'r cae rygbi. Y bwriad oedd gweld Phillips yn chwarae dros Abertawe yn erbyn Cwins Caerfyrddin dros y penwythnos, ond bellach mae'n edrych yn fwy tebygol y bydd yn chwarae rhan yng ngêm Magners League y Gweilch yn erbyn Connacht ar 21 Chwefror.
-
Cyhoeddi timau Cymru a'r Alban
Chwe Gwlad
Bydd dau newid yng ngharfan Cymru i ddechrau'r gêm yn erbyn Yr Alban yn Stadiwm y Mileniwm wrth i Leigh Halfpenny a Jonathan Thomas ddychwelyd, gyda Tom James a Luke Charteris yn colli eu lle yn y garfan. Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C ddydd Sadwrn 13 Chwefror am 13:55.Newyddion da i gefnogwyr Cymru yw bod Gethin Jenkins yn dychwelyd fel eilydd ond bydd y tîm hyfforddi yn cadw llygad arno yn ystod yr wythnos rhag iddo ddioddef unrhyw anafiadau pellach. Mae Tom Shanklin hefyd yn un o'r eilyddion ar ôl perfformio'n dda ym muddugoliaeth y Gleision yn erbyn y Scarlets yn y Cwpan LV wythnos diwethaf.
Mae hyfforddwr yr Alban wedi enwi Euan Murray, Dan Parks a Rory Lamont yn y garfan fydd yn herio Cymru ar ôl i'r tri fethu'r gêm yn erbyn Ffrainc penwythnos diwethaf.
Bydd Murray yn cymryd lle Moray Low yn safle'r bachwr, a Max Evans yn symud i'r fainc a gyda Lamont yn ymuno â'r cefnwyr. Bydd maswr newydd y Gleision Dan Parks, yn dechrau'r gêm, gyda Phil Goodman yn symud i'r fainc. Bydd y cefnwr Chris Paterson hefyd yn ennill ei 100fed cap dros Yr Alban yng Nghaerdydd.
Tîm Cymru: Lee Byrne (Y Gweilch); Leigh Halfpenny (Gleision), James Hook (Y Gweilch), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Y Gweilch); Stephen Jones (Scarlets), Gareth Cooper (Gleision); Paul James (Y Gweilch), Gareth Williams (Gleision) Adam Jones (Y Gweilch), Jonathan Thomas (Y Gweilch), Alun Wyn Jones (Y Gweilch), Andy Powell (Gleision), Martyn Williams (Gleision), Ryan Jones (Y Gweilch, capten).
Eilyddion: Huw Bennett (Y Gweilch), Gethin Jenkins (Gleision), Bradley Davies (Gleision), Sam Warburton (Gleision), Richie Rees (Gleision), Andrew Bishop (Y Gweilch), Tom Shanklin (Gleision).
Tîm Yr Alban: C Paterson (Caeredin); T Evans (Glasgow), S Lamont (Scarlets), G Morrison (Glasgow), R Lamont (Toulon); D Parks (Glasgow), C Cusiter (Glasgow, capt); A Dickinson (Caerloyw), R Ford (Caeredin), E Murray (Northampton), N Hines (Leinster), A Kellock (Glasgow), K Brown (Glasgow), J Barclay (Glasgow), J Beattie (Glasgow).
Eilyddion: S Lawson (Caerloyw), A Jacobsen (Caeredin), R Gray (Glasgow), A MacDonald (Caeredin), M Blair (Caeredin), P Godman (Caeredin), M Evans (Glasgow).
-
Carfan 7 bob ochr Cymru yn cipio'r Fowlen
Rygbi 7
Bydd cyfle i gefnogwyr rygbi 7 bob ochr weld Cymru yn cipio'r Fowlen yng Nghyfres Saith Bob Ochr y Byd yn Wellington, Seland Newydd, mewn rhaglen arbennig nos Fercher 10 Chwefor 22.40.Sicrhaodd garfan Cymru'r fuddugoliaeth mewn brwydr danllyd yn erbyn Ffrainc yn y rownd derfynol wrth ennill 7 - 5. Llwyddodd Cymru i drechu Papua New Guinea a'r Ariannin yn rownd yr wyth olaf a'r rownd gynderfynol. Bydd holl uchafbwyntiau gemau Cymru i'w weld yn y rhifyn diweddaraf Rygbi 7: Seland Newydd, a gyflwynir gan Arthur Emyr.
-
Camgymeriad yn rhoi buddugoliaeth i Loegr
Chwe Gwlad
Trosedd wirion gan glo Cymru, Alun Wyn Jones, roddodd fuddugoliaeth i Loegr o 30 - 17 yn gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.Sgoriodd Lloegr gyfanswm o 17 pwynt yn ystod deg munud Jones yn y gell gosb gyda James Haskell a Danny Care yn croesi'r llinell gais a Jonny Wilkinson yn gwneud yn siŵr fod gan y tîm cartref fantais gyfforddus.
Fe wnaeth Cymru ymateb yn dda yn yr ail hanner gyda dau gais gan y Gweilch Adam Jones a James Hook oedd yn golygu ei bod hi'n agos iawn tua diwedd y gêm.
Ond wedi i Delon Armitage rhyng-gipio pas gan Stephen Jones fe sgoriodd seren y gêm Haskell ei ail gais.
Yng ngemau eraill y Chwe Gwlad dros y penwythnos, enillodd pencampwyr presennol y Bencampwriaeth Iwerddon yn erbyn Yr Eidal 29 - 11 yn Croke Park ac fe gafodd Ffrainc fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Yr Alban yn Murrayfield gyda'r canolwr ifanc Mathieu Bastareaud yn croesi am ddau gais.
-
Anaf i Jenkins
Chwe Gwlad
Bydd prop Cymru, Gethin Jenkins, yn methu gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni oherwydd anaf i'w goes. Paul James fydd yn cymryd ei le fel prop pen rhydd tra bydd Rhys Gill yn eilydd ar gyfer y gêm yn erbyn Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn. -
Gwyn Jones
Chwe Gwlad
Fe drodd pethau o blaid Cymru yn hwyr nos Fawrth wrth i bwyllgor apêl annibynnol Rygbi Ewropeaidd ddileu gwaharddiad Lee Byrne oedd yn ei atal rhag chwarae yn gêm agoriadol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.Cafodd y dyfarniad anghyfiawn ei ddileu ar ôl i'r apêl gael ei glywed yng Nglasgow i ryddhau'r 'Gwalch' a'i draed yn rhydd. Mae Cymru'n edrych yn dîm llawer mwy cytbwys gyda Byrne fel cefnwr a Hook yng nghanol cae ac rwyf bellach yn credu ein bod yn ffefrynnau i ddechrau'r ymgyrch gyda buddugoliaeth.
Dyw hyn ddim yn golygu y bydd hi'n hawdd ac maen siŵr y cawn ni fraw cyn y chwiban olaf. Ond os fyddech chi'n dewis y pymtheg gorau allan o'r ddau dîm a ddewiswyd, faint o dîm Lloegr fyddai'n cael eu cynnwys yn nhîm Cymru?
Am unwaith, fe allwn deithio i HQ gan ddisgwyl dim llai na bod yn gyfartal yn y pac. Dylai'r rheng flaen gael y llaw uchaf yn y sgrym gan roi cyfle i Powell a Jones groesi'r llinell fantais o'r rheng ôl.
Mae llinell Cymru yn parhau i fod yn anifail bregus. Llynedd, fe wnaeth Gatland yn siŵr fod clo talentog Lloegr Nick Kennedy, a oedd wedi ei ddewis oherwydd ei allu yn y llinell, yn cael ei gadw allan o'r gêm.
Mae hyfforddwr Lloegr wrth gwrs yn arbenigwr ar y lein, ac mae'n credu y gall ddibynnu ar Kennedy a'r capten Steve Barthwick i gyflenwi digon o feddiant. Bydd Cymru, ar y llaw arall, yn ceisio gwneud yn siŵr fod y ddau neidiwr yn cael eu rhwystro.
Hoffwn i weld Cymru yn gwneud rhywbeth am Lewis Moody hefyd. Ni all Cymru ganiatáu iddo fynd o dan eu croen yn ardal y dacl. Y ffordd i'w atal yn effeithiol yw gwneud yn siŵr ei fod e'n gwneud y taclo.
Mae'n rhaid sicrhau ei fod e'n taclo rhedwyr mawr Cymru fel bod yr ymdrech mae'n ei roi yn y dacl yn ei rwystro rhag codi ar ei draed yn sydyn a chymryd rhan yng ngham nesa'r chwarae.
Rwyf hefyd yn credu bod gan Gymru fantais fawr yng nghanol cae er bod Lloegr un cam o'n blaenau ni llynedd wrth roi Worsley i farcio Roberts. Gyda Wilkinson yn safle'r maswr, dylai Cymru ddysgu'r wers nad oes fawr o werth i redeg at daclwr da. Bydd angen i Roberts fod yn llydan ac anelu at y gofod rhwng Flutey a Tait.
Gyda Hook yng nghanol cae mae gan Gymru chwaraewr sy'n gallu newid gêm yn gyfan gwbl. Mae'n gallu rhyddhau Byrne gyda'i ddwylo, cicio i'r gofod neu redeg yn effeithiol ei hun. Roedd Cymru'n edrych yn ddiddychymyg ac un dimensiwn yn yr hydref ond roedd hynny gyda Hook fel cefnwr. Dylai'r ffaith ei fod cael ei ddewis yn y canol newid hynny i raddau.
Nid yw'n anodd dehongli, o'r hyn rwy wedi dweud hyd yn hyn, fy mod yn credu y bydd Cymru'n ennill dydd Sadwrn os ydyn nhw'n chwarae'n dda. Dyw hynny ddim yn golygu mod i'n meddwl fod Cymru'n dîm gwych, dydyn nhw ddim. Maen ganddyn nhw lawer iawn i'w brofi. Rwy'n seilio fy narogan ar y ffaith fy mod yn credu fod Lloegr mewn helbul ac yn chwilio am ffordd newydd o chwarae ar y cae.
Os fyddai Cymru'n wynebu naill ai Ffrainc neu Iwerddon yn y gêm gyntaf, yna fe fyddwn i wedi rhagweld colled. Mae gennym ni lawer o waith i'w wneud. Mae'r amddiffyn oedd unwaith yn gadarn yn edrych yn sigledig, mae'r gwrthwynebwyr yn rhagweld y patrwm o 'fynd yr un ffordd' ac mae'r strategaeth cicio, er yn bwysig, yn golygu fod angerdd a chyflymder y gêm yn diflannu.
Nid wy'n gweld unrhyw un o'r chwe gwlad yn cwblhau'r Gamp Lawn y tymor hwn. Cyn i unrhyw bêl gael ei gicio mae'n ymddangos y bydd bencampwriaeth mynd i unai Ffrainc neu Iwerddon, gyda Cymru'n profi eu hunain yn wrthwynebwyr 'styfnig i'r ddau. Erbyn diwedd y Bencampwriaeth byddwn wedi'n goleuo o le mae Cymru'n sefyll flwyddyn cyn Cwpan y Byd.
Ond yn ogystal â bod yn amser tyngedfennol i Gymru, mae hefyd yn ddau fis pwysig i Rygbi'r Undeb yn gyffredinol. Roedd profion hydref yn rhwystredig a diflas. Mae angen i'r gêm ailgysylltu gyda'r cyhoedd a darparu gwerth am bris y tocynnau sy'n codi drwy'r amser.
Ond am unwaith, fyddai ddim ots gen i hepgor chwarae pert am fuddugoliaeth flêr ar yr hen 'cabbage patch'.
-
Cyhoeddi tîm Cymru
Chwe Gwlad
Ni fydd Mathew Rees ar gael ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn oherwydd anaf. Bydd Gareth Williams yn cymryd ei le fel bachwr ac yn dechrau ei gêm Chwe Gwlad gyntaf yn y broses.Bydd Lee Byrne yn gefnwr wedi i'w waharddiad o bythefnos gael ei ollwng ddoe. Mae partneriaeth newydd yng nghanol cae gyda Jamie Roberts a James Hook yn safle'r canolwyr.
Gyda Mike Phillips a Dwayne Peel wedi eu hanafu, mae Warren Gatland wedi dewis Gareth Cooper fel mewnwr o flaen Richie Rees a Martin Roberts.
Bydd yr asgellwr Tom James hefyd yn dechrau ei gêm Chwe Gwlad gyntaf ar draul Lee Halfpenny. Martyn Roberts ac Andy Powell yw'r ddau flaen asgellwr, ac fe fyddan nhw'n chwarae bob ochr i'r capten Ryan Jones yn y rheng ôl.
Tîm Cymru: Lee Byrne (Gweilch); Tom James (Gleision); James Hook (Gweilch); Jamie Roberts (Gleision); Shane Williams (Gweilch); Stephen Jones (Scarlets); Gareth Cooper (Gleision); Gethin Jenkins (Gleision); Gareth Williams (Gleision); Adam Jones (Gweilch); Alun Wyn Jones (Gweilch); Luke Charteris (Dreigiau); Andy Powell (Gleision); Martyn Williams (Gleision); Ryan Jones (Gweilch, capt).
Eilyddion: Huw Bennett (Gweilch); Paul James (Gweilch); Bradley Davies (Gleision); Jonathan Thomas (Gweilch); Richie Rees (Gleision); Andrew Bishop (Gweilch); Leigh Halfpenny (Gleision).
-
Cyhoeddi tîm Lloegr
Chwe Gwlad
Bydd y canolwr Mathew Tate yn dechrau ei ail gêm i Loegr ers rownd derfynol Cwpan y Byd 2007 ddydd Sadwrn. Bydd y gêm yn erbyn Cymru yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ddydd Sadwrn 06 Chwefror am 16:30.Mae'r cefnwr Delon Armitage, y canolwr Riki Flutey, rhif wyth Nick Easter a'r mewnwr Danny Care i gyd yn dechrau yn nhîm Martin Johnson.
Bydd hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, yn cyhoeddi tîm Cymru ar ôl gwrandawiad apel Lee Byrne yn erbyn gwaharddiad o bythefnos ddydd Mawrth. Cafodd cefnwr Y Gweilch ei wahardd am bythefnos ar ôl iddo ddychwelyd i'r cae heb ganiatâd y dyfarnwr mewn gêm yng Nghwpan Heineken yn erbyn Caerlŷr ar 23 Ionawr.
Tîm Lloegr: D Armitage (London Irish); M Cueto (Sale Sharks); M Tait (Sale Sharks); R Flutey (Brive); U Monye (Harlequins); J Wilkinson (Toulon); D Care (Harlequins); T Payne (Wasps); D Hartley (Northampton); D Wilson (Bath); S Shaw (Wasps); S Borthwick (Saracens, capt); J Haskell (Stade Francais); L Moody (Leicester); N Easter (Harlequins).
Eilyddion: S Thompson (Brive); D Cole (Leicester); L Deacon (Leicester); S Armitage (London Irish); P Hodgson (London Irish); T Flood (Leicester); B Foden (Northampton).
-
Gatland yn troi at yr ifanc
Chwe Gwlad
Mae Warren Gatland wedi troi at asgellwyr ifanc y Gweilch, Kristian Phillips a Tom Prydie, i lenwi'r bwlch sydd yn y safle yna ymysg garfan Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Bydd Rhys Gill, prop Saracens, yn edrych i ennill ei gap gyntaf yn ystod y gystadleuaeth.Does dim lle i'r mewnwyr Mike Phillips a Dwayne Peel - y ddau yn dioddef ag anafiadau - felly mae'r tîm hyfforddi wedi troi at Gareth Cooper, Martin Roberts a Richie Rees, yn dilyn perfformiadau cryf i'r Gleision.
Mae Lee Byrne ac Adam Jones yn dychwelyd i'r garfan ryngwladol ar ôl i anafiadau achosi i'r ddau golli'r gemau hydref.
Olwyr: Gareth Cooper, Leigh Halfpenny, Tom James, Richard Rees, Jamie Roberts, Tom Shanklin (Gleision) Dan Biggar, Andrew Bishop, Lee Byrne, James Hook, Kristian Phillips, Tom Prydie, Shane Williams (Gweilch), Jonathan Davies, Stephen Jones, Martin Roberts (Scarlets)
Blaenwyr: Bradley Davies, Gethin Jenkins, Deiniol Jones, Andy Powell, Sam Warburton, Gareth Williams, Martyn Williams (Gleision), Huw Bennett, Ian Gough, Paul James, Adam Jones, Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Jonathan Thomas (Gweilch), Matthew Rees (Scarlets), Luke Charteris, Dan Lydiate (Dreigiau), Eifion Lewis-Roberts (Sale), Rhys Gill (Saracens)
-
Cymru 12 - 33 Awstralia
Profion yr Hydref
Roedd hi'n ddiwedd siomedig iawn i gyfres yr hydref wrth i Gymru golli i Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm, 12 - 33.Fe groesodd Digby Ioane, James Horwill a David Pocock i sgorio cais yr un o fewn 25 munud yn yr hanner cyntaf.
Fe wnaeth Cymru ddioddef anafiadau i Shane Williams, Leigh Halfpenny a Matthew Rees, ond gyda chicio Halfpenny a Stephen Jones, roedd hi'n 12 - 23 ar yr hanner.
Wedi i Tatafu Polota-Nau sgorio cais yn gynnar yn yr ail hanner roedd gobeithion Cymru drosodd. Dyma'r trechiad gwaethaf ond un iddyn nhw gael mewn 22 prawf ers i Warren Gatland gael ei benodi fel hyfforddwr.
-
Gwyn Jones
Profion yr Hydref
Wedi tair gêm yng nghyfres ryngwladol yr hydref, rwy'n parhau i gael trafferth mesur pa mor dda yw Cymru ar hyn o bryd.Ar adegau maen nhw'n glinigol ac effeithiol, ond mae yna adegau pan ry'ch chi'n poeni fod Cymru'n gyffredin iawn.
Mae posib dadlau y bydd y gêm olaf yn erbyn Awstralia yn diffinio'r gyfres fel llwyddiant neu ddim ac yn mynd rhywfaint o'r ffordd i egluro safle Cymru yn y byd rygbi ar hyn o bryd.
Ar y llaw arall, beth yw arwyddocâd curo Awstralia? Dydyn nhw ddim yr un lefel a Seland Newydd na De Affrica, a dim ond dwy o'u naw gêm ddiwethaf maen nhw wedi ennill.
Gemau agos
Fe fydd Cymru'n dechrau'r gêm fel ffefrynnau, ond peidiwch a disgwyl dim mwy na gêm dyn ac agos. Mae'r rhan fwyaf o'r gemau rhwng y prif genhedloedd wedi bod yn agos dros yr hydref.
Dim ond ugain pwynt llwyddodd y Crysau Duon i sgorio yn erbyn Yr Eidal ac mae Lloegr, er eu bod nhw'n drychinebus yn gyffredinol, wedi cael gemau isel eu sgôr. Mae'r bwlch rhwng y gorau a'r gweddill yn lleihau drwy'r adeg.
Mae hyn yn rhannol i'w wneud gydag oes proffesiynoldeb sy'n golygu fod pawb yn eithaf hafal o ran ffitrwydd a chryfder, Yn gorfforol, mae'r timau yn eithaf tebyg gan eu bod nhw gyd yn ymarfer tua'r un faint.
Yn ail, mae'r cynnydd sylweddol mewn dadansoddiad fideo wedi galluogi'r timau i edrych yn fanylach ar gryfderau ei gilydd. Canlyniad arall i'r dadansoddi yw bod steil chwarae pob tîm yn mynd yn debycach. Mae'r timau yn efelychu cryfderau ei gilydd.
Mae'n hawdd deall pa mor anodd yw hi i dorri'n rhydd o'r cadwyni yn y sefyllfa yma ond dyna'r sialens sy'n wynebu Cymru ddydd Sadwrn.
Fe fydd sgrym Cymru dan bwysau, ond mae' wedi dal hyd yma, a dwi ddim yn disgwyl iddo chwalu yn erbyn Awstralia. Mae'r llinell wedi gwella tu hwnt i'r disgwyl ond fe fydd Awstralia yn ei brofi ymhellach.
Ni ddylai meddiant fod yn broblem ac fe fydd y gêm yn dibynnu ar ba mor dda fydd Cymru'n defnyddio'r bêl.
Gem bwysig
Dyw Awstralia ddim yn dîm sy'n defnyddio amddiffyn blitz fel rheol, felly fe ddylai hynny greu cyfle da i Jamie Roberts gael effaith ar y gêm. Ei dargedau fydd Gitau a Cooper ac fe ddylai groesi'r llinell fantais.
Mae hon yn gêm fawr i Roberts. Wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica yn cael ei ganmol i'r cymylau, mae wedi bod yn ddistaw yn y tair gêm hyd yma. Rwy'n siŵr fod y rhwystredigaeth yn tyfu tu mewn iddo ac fe fydd e eisiau profi ei werth.
Ond mae'n rhaid iddo fod yn amyneddgar ac edrych i'w chwith ar Shane Williams sydd wedi aros am ei amser am adegau distaw iawn cyn heddiw. Mae gan Roberts sgiliau da a phŵer fydd yn ei wneud yn rym yng nghanol cae ddydd Sadwrn.
Bydd Dwayne Peel hefyd yn credu fod ganddo bwynt i'w brofi. Fe fydd hi'n ofynnol arno i godi'r cyflymdra a darparu'r sbarc. Dyma gyfle gwych iddo ddangos i Gatland fod mwy i'w gêm na bod yn dechnegol wych.
Fe fydd y gêm yn profi amddiffyn Cymru'n fwy na'r gornestau eraill dros yr hydref. Bydd y Wallabies yn ceisio darganfod ffordd drwy'r amddiffyn drwy chwarae patrwm aml-gam ac ailgylchu sydyn.
Bydd hyn yn galw am berfformiad amddiffynnol disgybledig a diwyd gan Andy Powell - priodweddau mae'n rhaid iddo'i dangos os am gadw'r crys rhif 6.
Yn y pendraw rwy'n credu bydd Cymru'n ennill yn beth sy'n argoeli i fod yn gêm y gyfres. Os fydd y ddau hyfforddwr yn gadael i'w timau chwarae gyda' rhyddid, fell all fod yn wledd i'r llygad.
-
Cymru v Awstralia
Profion yr HydrefGatland yn cadw ffydd yn ei garfan
Dwayne Peel, mewnwr Sale, yw'r unig newid i garfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Awstralia yn Stadiwm y Mileniwm nos Sadwrn.Mae Gareth Cooper, sydd yn colli ei le yn y garfan, a'r blaenasgellwr Sam Warburton, eisoes wedi dychwelyd at ranbarth Y Gleision i chwarae yn erbyn y Wallabies mewn gêm gyfeillgar.
Mae Warren Gatland hefyd yn cadw ffydd yn Jonathan Davies, canolwr y Scarlets, er fod Tom Shanklin gwella o'i anaf. Does dim lle i Shanklin yn y garfan gan fod Gatland wedi dewis Andrew Bishop fel eilydd canol cae.
Cymru: James Hook; Leigh Halfpenny; Jamie Roberts; Jonathan Davies; Shane Williams; Stephen Jones; Dwayne Peel; Gethin Jenkins; Matthew Rees; Paul James; Alun-Wyn Jones; Luke Charteris; Andy Powell; Martyn Williams; Ryan Jones (capt)
Eilyddion: Huw Bennett; Duncan Jones; Jonathan Thomas; Dan Lydiate; Martin Roberts; Andrew Bishop; Tom James.
-
Cymru 33 - 16 Yr Ariannin
Profion yr Hydref
Fe gafodd Cymru fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm y Mileniwm dros y penwythnos wrth iddyn nhw gosbi camgymeriadau'r Pumas i ennill 33 -16.Daeth y cais cyntaf i Stephen Jones yn yr hanner cyntaf wedi iddo weld ei gyfle a rhedeg i'r gornel yn dilyn tap a rhediad.
Yn gynnar yn yr ail hanner fe drosodd Shane Williams am ei gais cyntaf pan gafodd ei afael ar y bêl ac ochrgamu heibio i dri amddiffynnwr i sgorio'i 47 cais i Gymru.
Fel yn erbyn Samoa, roedd Cymru'n edych yn gyfforddus nes iddyn nhw roi cais ar blat i'r gwrthwynebwyr. Martin Rodriguez sgoriodd i'r Ariannin yn dilyn camgymeriad gan y canolwr newydd, Jonathan Davies.
Wrth i'r gêm dynnu at ei therfyn aeth cic gan Fernandez Lobbe yn syth i ddwylo Shane Williams a gymrodd fantais ar anrhefn amddiffyn Yr Ariannin i drosi am ei ail gais o dan y pyst.
-
Gwyn Jones
Profion yr Hydref
O'r dystiolaeth dwi wedi gweld yng ngemau rhyngwladol yr Hydref hyd yn hyn, mae rygbi'r undeb mewn mymryn o lanast. Mae'r rhan fwyaf o'r gemau wedi cael eu dominyddu gan gicio diddiwedd a thactegau gwyliadwrus. Dim ond yn achlysurol mae'r chwarae'n ddigon llyfn i ryddhau ei hun o'r diflaster.Mae bai'n cael ei roi ar yr hyfforddwyr am fod yn rhy unbennog ac am fynnu fod eu timau'n chwarae'n negyddol. Mae'r bys hefyd wedi cael ei bwyntio ar y chwaraewyr am eu hanallu i chwarae gyda'u pen i fyny a gwneud penderfyniadau beiddgar ond cywir.
Mae elfen o wirionedd yn y dadleuon hyn, ond ar y cyfan, maen nhw'n methu'r pwynt.
Gêm gicio
Mae'r ddau dîm gorau yn y byd, De Affrica a Seland Newydd, yn cicio'r bêl fwy na neb arall. Er y ffaith fod y timau hyn yn cynnwys y chwaraewyr gorau yn y gêm, maen nhw'n chwarae rygbi saff sy'n ddiflas i'w wylio ond yn debygol o ennill gemau.
Mae'n debyg fod rheolau'r gêm, a'r ffordd maen nhw'n cael ei dehongli, wedi arwain at y steil o rygbi rydyn ni'n gorfod goddef ar hyn o bryd.
'Aha, ond beth am Awstralia?' meddech chi. 'Tydyn nhw ddim yn cicio gymaint â'r lleill'. Gwir, ond dydyn nhw ddim yn ennill gymaint â'r gweddill chwaith.
Mae Robbie Deans yn gwybod na all Awstralia gystadlu drwy gicio a defnyddio nerth felly mae'n chwilio am ffordd arall i'w curo. Mae un fuddugoliaeth mewn chwe ymgais yn dangos fod gan ei syniadau dipyn o ffordd i fynd.
Does dim llawer ers oedd timau fel Munster, a Chymru hefyd, yn gallu cadw'r bêl am gyfnodau maith drwy symud ymlaen llath neu ddwy a gosod ryc.
Deddfau
Roedd hyn yn annerbyniol, ac ymateb yr IRB oedd newid y pwyslais yn ardal y dacl a rhoi genedigaeth i derm newydd.
Y term hollbwysig wedi hyn oedd 'sealing off' sy'n rhoi hawl i'r dyfarnwyr gosbi'r timau mewn meddiant yn y ryc. Roedd cadw'r bêl, felly, yn anos o lawer.
Yr haf hwn roedd 'na ymdrech i wneud ardal y dacl yn fwy cystadleuol fyth. Newidiwyd y rheolau unwaith yn rhagor gan adael i'r person cyntaf o'r tîm amddiffynnol oedd yn gyrraedd ardal y dacl i drin y bêl. Yn bwysicach, doedd dim rhaid iddo ollwng y bêl os oedd chwaraewr arall yn gweithio gydag o i greu ryc.
Y tîm amddiffynnol sydd â'r mantais a does dim cymhelliant i dimau redeg gyda'r bêl. Mae'n rhy beryglus i wneud unrhywbeth arwahan i gicio yn eich hanner eich hun.
Dyna pam fod timau fel Cymru a Seland Newydd, fyddai'n ffafrio chwarae gêm agored, yn cicio at ei gilydd.
Atebion?
Beth yw'r ateb? Does dim dewis ond i greu rhagor o ddeddfau.
Un ffordd fyddai gadael i'r un sy'n dal y bêl alw Marc o gic sydd wedi dod o unrhyw le ar y cae gydag opsiwn i ail ddechrau'r gêm gyda sgrym o le gafodd y gic ei chicio.
Byddai hyn yn cosbi cicio pell di-fwriad. Byddai hefyd yn gwneud sgrymio'n bwysicach ac yn golygu fod rhaid i'r cicwyr anelu at yr ystlys.
Enghraifft wych o gicio creadigol oedd yr un wnaeth greu cais Leigh Halfpenny nos Wener ac mae'n bwysig fod yr agweddau hyn yn aros yn y gêm. Ond mae'r rygbi'r undeb mewn dirywiad o ran cyffro ac adloniant ar hyn o bryd ac mae'n rhaid troi'r llanw cyn gynted a sy'n bosib.
-
Cymru v Yr Ariannin
Profion yr Hydref
Mae Warren Gatland wedi adfer rhan fywaf o'r tîm wnaeth golli 19 -12 yn erbyn Seland Newydd bythefnos yn ôl i wynebu Yr Ariannin yn Stadiwm Mileniwm ddydd Sadwrn. Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C .Mae'r unig newid yn y canol lle mae Jonathan Davies yn cymryd lle Tom Shanklin wnaeth dorri ei drwyn yn ystod y gêm yn erbyn Samoa.
Mae pedwarawd y Llewod, Shane Williams, Stephen Jones, Matthew Rees a Martyn Williams i gyd yn ôl yn y tim ar ôl iddyn nhw gael eu gorffwys penwythnos diwethaf.
Bydd Gareth Cooper yn dechrau fel mewnwr a bydd Dwayne Peel yn dechrau ar y fainc. Mae Andrew Bishop, a gafodd ei alw i'r garfan ddechrau'r wythnos yn lle Shanklin hefyd ar y fainc.
Bydd Yr Ariannin, a gollodd 16 - 9 yn erbyn Lloegr penwythnos diwethaf, yn enwi eu tîm nhw yn hwyrach yn yr wythnos.
Tîm Cymru: James Hook; Leigh Halfpenny; Jamie Roberts; Jonathan Davies; Shane Williams; Stephen Jones; Gareth Cooper; Gethin Jenkins; Matthew Rees; Paul James; Alun Wyn Jones; Luke Charteris; Andy Powell; Martyn Williams; Ryan Jones (capt).
Eilyddion: Huw Bennet; Duncan Jones; Bradley Davies; Dan Lydiate; Dwayne Peel; Andrew Bishop; Tom James.
-
Dihangfa lwcus i Gymru
Profion yr Hydref
Daeth Samoa'n agos iawn i guro Cymru yn Stadiwm Mileniwm dros y penwythnos wrth iddyn nhw ymladd yn ôl hyd y diwedd.Dechreuodd Cymru'n dda gyda Dan Biggar yn mesur cic berffaith draws cae i Lee Halfpenny drosi yn y gornel am gais cynnar. Er i Gymru groesi'r llinell fantais fwy nac unwaith yn ystod yr hanner, roedd y pasio'n flêr ar adegau.
Yn yr ail hanner, â'r sgôr yn 11 - 3 i Gymru, llwyddodd Halfpenny a Biggar gyda chic yr un rhwng y pyst i ehangu'r mantais.
Yn chwarter olaf y gêm a Chymru yn edrych i wthio Samoa, fe roddodd Biggar bas llydan a gafodd ei ddal gan ganolwr Samoa, Mapusua, oedd gyda' llwybr clir at y llinell. Y sgôr terfynol oedd 17 - 13.
-
Gwyn Jones
Profion yr Hydref
Ai Sam Warburton fydd y Martyn Williams newydd? Yr ateb, yn syml, yw na. Ai Sam Warburton fydd rhif 7 newydd Cymru? Yr ateb i'r cwestiwn yna yw - bydd mwy na thebyg.Mae ceisio cymharu unrhyw flaenasgellwr ochr agored gyda' Martyn Williams yn annheg oherwydd ei fod yn arbennig. Cafodd ei eni gyda'r gallu i synhwyro'r gêm sydd ar lefel gwahanol i'r rhan fwyaf o chwaraewyr eraill. Dyw hi ddim yn bosib hyfforddi'r nodweddion hyn, maen nhw'n reddfol, ac mae gallu arbennig Williams yn brin.
Yn wir, mae'r crys rhif 7 yn cael ei wisgo gan grŵp amrywiol iawn o chwaraewyr. Fe allwch chi weld yr amrywiaeth wrth edrych ar y chwaraewyr sy'n meddiannu'r safle ar hyn o bryd.
Mae chwaraewyr fel George Smith yn cadw'n isel i'r llawr; mae Lewis Moody yn gallu bod yn beryg wrth erlid y gic i Loegr; mae David Wallace yn cario'r bêl yn bwerus i Iwerddon; a'r meistr, heb os, yw Richie McCaw.
Steil unigryw
Beth mae'n rhaid i Sam Warburton wneud yw darganfod ei steil o fewn y gêm. Dyna sy'n gwahaniaethu blaenasgellwyr ochr agored gwych i gymharu â'r gweddill. Rhaid i Warburton ddarganfod ei steil unigryw ei hun fydd yn ei godi uwchben eraill.
Mae'n edrych yn gyfforddus yn ardal y dacl ac fe wnaiff e ddysgu'r triciau sydd eu hangen i fod yn rymus dros y bêl.
O beth ry'n ni wedi gweld hyd yn hyn, bydd Warburton yn chwaraewr sy'n cario'r bêl. Mae'n fwy na Martyn Williams ac yn ymddangos yn fwy dynamig. Pan mae wedi chwarae i'r Gleision, mae wedi bod yn effeithiol gyda'r bel yn ei ddwylo.
Roedd 'na un foment yn ystod taith Cymru i Ogledd America llynedd pan welais i rywbeth yn Warburton a wnaeth i mi feddwl y byddai'n etifeddu'r crys rhif 7.
Gweledigaeth
Doedd e ddim yn arbennig, ac roedd hi'n foment fer iawn. Yn gynnar yn y gêm yn erbyn UDA fe gymrodd y bêl i mewn i dacl ar un o'r rhediadau byr sy'n troi'n dwmpath o gyrff. Sut bynnag, er bod pethau'n edrych fe petai dim yn mynd i ddigwydd, fe roddodd Warbuton bas bach o gefn ei law oedd yn hollol annisgwyl.
Doedd hyn ddim yn weithred gan chwaraewr sy'n rhoi ei ben lawr ac yn cario 'mlaen i fynd nes iddo daro'r llawr. Roedd y penderfyniad sydyn yma yn llawn gweledigaeth, dychymyg a sgil.
Daeth dim o'r symudiad ond fe ddangosodd yr ennyd yna i mi fod Warburton gyda' rhywbeth gwahanol.
Mae Warburton yn soled yn yr amddiffyn, cystadleuol dros y bêl yn y dacl ac yn cynnig opsiwn dibynadwy yn y llinell. Mae'n wahanol i'r gweddill oherwydd ei fod yn gallu cario'r bêl a hefyd yn gallu rhyddhau eraill gyda chyffyrddiadau cynnil pan fo angen.
Tîm Cryf
Mae penderfyniad Gatland i gyhoeddi tîm cryf yn awgrymu i mi ei fod yn awyddus i gael swmp y tîm cyntaf yn gyfarwydd â naill ar llall, a gyda'r patrwm chwarae newydd. Roedd awgrym o'r patrwm yma yn erbyn Seland Newydd, ond fe aeth y gêm yn frwydr yn hytrach na chyfle i weithredu'r cynllun.
Bydd rhaid i Gymru edrych ymlaen fel eu bod nhw'n cyrraedd eu huchafbwynt yn y gêm olaf yn erbyn Awstralia sy'n edrych yn beryclach na'r un tîm Wallabies sydd wedi ymweld â'r glannau hyn yn y blynyddoedd diwethaf. Byddai tair buddugoliaeth allan bedair gêm yng nghyfres yr hydref yn dda i Gymru ac rwy'n credu ei fod o fewn eu gafael.
Ond y cam cyntaf fydd gêm gorfforol yn erbyn Samoa lle bydd Cymru a Warburton yn gobeithio datblygu a chreu argraff.
-
Huw Llywelyn Davies
Profion yr Hydref
Dyma'r gyfres yr hydref anoddaf i ni ei gael gan fod pob un o'r pedwar tîm yn gosod sialensiau gwahanol. Mae'n rhaid sicrhau fod yna gydbwysedd o fewn y garfan rhwng y profiadol a'r newydd. I fod yn gwbl onest, mae unrhyw beth llai na ddwy fuddugoliaeth yn ystod y gyfres yn fethiant llwyr os ydym am honni ein bod ni'n symud ymlaen.Seland Newydd
Os ydych chi'n edrych ar ymroddiad a chystadlu corfforol Cymru yn ystod y gêm agoriadol, yna rydym ni wedi symud ymlaen fel carfan. Ond roedd diffyg cyfleoedd i drosi yn amlwg yn y gêm, gyda dim ond dau neu dri hanner cyfle yn codi yn ystod y cyfnod chwarae. Rwy'n credu roedd yna mwy o fwlch rhwng y timau na'r sgôr terfynol. Er i Seland Newydd sgorio un cais, fe aeth tri phenderfyniad yn eu herbyn.
Samoa
Tra bod pob Cymro wedi gobeithio am fuddugoliaeth ddydd Sadwrn diwethaf, nos Wener bydd cefnogwyr Cymru yn disgwyl ennill.
Ond mae'n rhaid bod yn ofalus achos gan fod peryg y bydd Samoa yn rhy gryf yn ein herbyn. Maen nhw eisoes wedi bod yn gyfrifol am ein taflu ni allan o ddau Gwpan Byd yn y gorffennol.
Gyda'r chwaraewyr wedi gwasgaru ar draws Ewrop, dim ond ar ddechrau'r wythnos death carfan Samoa at ei gilydd fel uned, felly dydw i ddim yn disgwyl iddyn nhw fod mor drefnus a chlinigol â Seland Newydd.
Yr Ariannin
Y gofid yn erbyn Yr Ariannin yw'r sgrym. Mae'n deg ddweud fod ganddyn nhw'r sgrym gorau yn y byd, a heb y prop sy'n cadw sgrym Cymru at ei gilydd - Adam Jones - bydd yna bwysau mawr ar Paul James neu bwy bynnag sydd yn dechrau'r gêm.
Mae'r Ariannin ar golled hefyd gyda dau o'i chwaraewyr mwyaf disglair - Hernandez a Contipomi - allan o'r gyfres. Mae'r hyn yn gwneud y dasg rhywfaint yn haws i Gymru.
Awstralia
Mae gan Awstralia llawer o dalent. Fe ddaeth hyn i'r amlwg yn Twickenham yn erbyn Lloegr ac maen nhw'n gallu chwarae rygbi cyffroes iawn.
Mae Awstralia yn dueddol o adeiladu a datblygu tuag at Gwpan y Byd ac maen nhw yng nghanol y broses hynny ar hyn o bryd. Yn wahanol i Seland Newydd, sy'n chwarae'n well rhwng Cwpanau'r Byd, mae Awstralia yn tueddu i berfformio ar eu gorau yn y gystadleuaeth.
-
Carfan Cymru yn erbyn Samoa
Profion yr HydrefPum newid yn y garfan i wynebu Samoa
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland,wedi gwneud pum newid yn nhîm Cymru i wynebu Samoa ar ôl y golled agos i Seland Newydd penwythnos diwethaf.Bydd Dwayne Peel yn ennill ei gap rhif 70 i Gymru wrth iddo ennill safle'r mewnwr yn lle Gareth Cooper. Bydd Tom James yn cymryd lle Shane Williams ar yr asgell chwith ac mae maswr Y Gweilch, Dan Biggar, yn cael ei alw i'r tîm ar draul Stephen Jones.
Bydd Sam Warburton yn cymryd ei le yn y rheng ôl yn lle Martyn Williams a bydd Huw Bennet yn dechrau yn safle'r bachwr gyda' Matthew Rees ar y fainc.
Bydd Jonathan Thomas, sy'n dychwelyd i'r garfan yn dilyn gwaharddiad, yn dechrau'r gêm fel eilydd. Yn ymuno ag ef ar y fainc bydd Morgan Stoddart sy'n newydd ddyfodiad i'r garfan yn lle capten y Scarlets, Mark Jones, sydd wedi ei anafu.
Cymru: James Hook; Leigh Halfpenny, Tom Shanklin, Jamie Roberts, Tom James; Dan Biggar; Dwayne Peel; Gethin Jenkins; Huw Bennett; Paul James; Luke Charteris; Alun-Wyn Jones; Andy Powell; Sam Warburton; Ryan Jones (capt).
Eilyddion: Matthew Rees; Craig Mitchell; Bradley Davies; Jonathan Thomas; Martin Roberts; Jonathan Davies; Morgan Stoddart.
-
Cymru'n colli i'r Crysau Duon
Profion yr Hydref56 mlynedd o siom yn parhau yng Nghaerdydd
Mae record Seland Newydd yn erbyn Cymru o un ar hugain buddugoliaeth yn olynol yn parhau wedi iddyn nhw ennill 12 - 19 yn Stadiwm Mileniwm dros y penwythnos.Roedd hi'n gyfartal 6 -6 ar yr hanner wedi dwy gic gosb yr un gan Stephen Jones a Dan Carter. Ond wedi cais yn yr ail hanner gan Andrew Hore, a dwy gic gosb arall gan Carter, fe aeth y Crysau Duon ymlaen i ennill.
Er i Alun Wyn Jones dorri'n rhydd yn hwyr yn y gêm, roedd amddiffyn Seland Newydd yn rhy gryf, a daeth dim o'r symudiad.
Bydd maswr y Crysau Duon, Dan Carter, yn wynebu panel disgyblu ddydd Mawrth yn dilyn tacl uchel ar Martin Roberts, ac mae amheuaeth am ffitrwydd Dafydd Jones am weddill cyfres yr hydref oherwydd anaf i'w ysgwydd.
-
Gwyn Jones
Profion yr Hydref
Y tîm Seland Newydd sy'n cyrraedd Cymru yw'r un mwyaf bregus rwy'n cofio erioed.Efallai nad oes y ffasiwn beth a Chrysau Duon sâl, ond byddai neb yn dadlau mai'r garfan yma yw un o'r goreuon.
Ond yw Cymru'n ddigon da i elwa ar y gwendid a recordio buddugoliaeth gofiadwy?
Buaswn i'n fwy hyderus pe bai Cymru gyda'i thîm cryfa', ond mae anafiadau i chwaraewyr allweddol wedi erydu ychydig o'r gobaith hwnnw, ac mae dewisiadau Gatland, fel arfer, yn ychwanegu tro ychwanegol i'r ddadl.
Syndod
Doedd neb yn disgwyl Paul James yn y tîm ac mae ei gynnwys yn wobr am ei berfformiad yn yr wythnos ymarfer.
Mae pob prop yn dweud mai ymdrech yr wyth yw'r sgrym, ac nid ymdrech unigolyn. Gwir, ond dyw'r sgrym ddim yn rhaniad teg o'r llafur. Y prop pen tyn yw'r pwysicaf o bell ffordd.
Mae Gatland wastad wedi rhoi pwyslais ar sgrym gadarn fel sylfaen i lansio'r ymosodiad a bydd gallu James i ddarparu'r sylfaen yna'n cael ei brofi ar bob achlysur gan Seland Newydd.
Rwy'n credu y bydd James yn ymdopi'n iawn er gwaetha'r sylw amlwg y bydd yn ei gael gan y Crysau Duon. Ond os bydd pethau'n mynd ychydig yn "Vickery" yna bydd rhaid i Gymru ddysgu gwers y Llewod dros yr haf a gwneud newidiadau'n gyflym.
Mae'n amlwg fod gan Gatland feddwl mawr o Andy Powell. Mae ganddo gyflymder, traed sydyn a'r gallu i basio, sy'n ei wneud yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r rhengoedd ôl, ac yn golygu ei fod yn gallu torri amddiffyn.
Sut bynnag, dyw camgymeriadau ddim yn estron iddo ac anaml iawn mae e'n ffigwr amlwg yn ardal y dacl. Y rhif wyth sydd fel arfer yn cael y math yma o ryddid, ac fe fydd yn rhaid i Powell a Ryan Jones rannu cyfrifoldebau i sicrhau fod Martyn Williams ddim yn cael ei adael er ei ben ei hun.
Mae Luke Charteris yn llawn haeddu ei le ac fe all gael ei ddefnyddio fel oedd Simon Shaw gyda'r Llewod. Fe fydd yn sicrhau pêl saff ym mlaen y llinell ac fe all gael ei symud i rannau eraill o'r llinell pan fo angen.
Newid steil
Rwy'n teimlo'n gyfforddus iawn gyda Hook yn safle'r cefnwr. Mae e'n rhedwr da gyda chic bwerus.
Mae Cymru wedi dweud eu bod nhw angen datblygu eu patrwm o chwarae eleni. Dyw'r steil heb newid ers dwy flynedd ac mae angen ei adfywio rhyw ychydig.
Rwy'n credu y bydd eu harfer o 'fynd yr un ffordd' yn cael ei fritho gyda newid cyfeiriad. Hoffwn i hefyd weld ychydig o amrywiaeth yn yr amddiffyn yn hytrach na chadw i'r 'blitz' pob tro.
Rwy'n siŵr y bydd Jamie Roberts yn cael ei ddefnyddio yn greadigol a bydd Shane Williams yn cael y rhyddid i grwydro'r cae.
Sa' i'n credu y bydd y gêm gicio yn newid llawer oherwydd bydd Cymru eisiau cadw'r bêl yn fyw, rhoi tempo uchel i'r gêm gyda llawer o ailgylchu fel eu bod nhw'n gallu creu'r symudiad holl bwysig. Ond bydd ambell gic i'r ystlys ddim yn sioc chwaith.
Rwy'n credu fod gan Gymru siawns dda i guro'r Crysau Duon. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw fynd ar y blaen yn gynnar er mwyn rhoi hwb i'w hyder ac i amlygu unrhyw ansicrwydd sydd gan Seland Newydd.
Ond, beth bynnag fydd y canlyniad, fe fydd hi'n agos gyda llai na chais yn gwahanu'r ddau dîm, ac am y tro cyntaf mewn dros hanner can mlynedd, Cymru fydd yn mynd a hi.
-
Sarra Elgan
Profion yr Hydref
Cyfnod rhyngwladol yn mynd a bryd cefnogwyr rygbi
Cewri'r byd rygbi, Seland Newydd, fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng nghyfres Invesco Perpetual yr hydref. Un sy'n edrych ymlaen yn arw at y gêm gyntaf yw Sarra Elgan - gohebydd Y Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C.
Bygythiad Seland Newydd
"S'dim amser gwell i wynebu'r Crysau Duon na nawr - mae yna ddiffyg hyder ar ôl Pencampwriaeth Tair Gwlad aflwyddiannus felly mae'r pwysau arnyn nhw i ddod draw yma a pherfformio'n dda."
Ryan Jones
"Un sydd wedi dal fy llygaid ar ddechrau'r tymor presennol yw'r capten Ryan Jones. Mae wedi perfformio i'r safon uchaf dros y Gweilch.
"Mae Ryan Jones wedi distewi pawb wnaeth roi amser caled iddo'r tymor diwethaf gyda pherfformiadau pwerus i'w ranbarth. Rwyf mor falch iddo wneud yn dda a dal gafael ar ei gapteiniaeth i Gymru. Mae'r tîm i gyd yn teimlo'n fwy hyderus pan mae'r capten yn perfformio ar ei orau. Mae ganddo rôl bwysig fel talismon y tîm, felly mae'n cynnig hwb ychwanegol inni yn erbyn Seland Newydd."
Colli Mike Phillips, Adam Jones a Lee Byrne
"Er bydd y tri yma'n golled fawr yn sgil eu hanafiadau, rwy'n gallu gweld ochr bositif i hyn. Mae'n rhoi'r cyfle i'r to ifanc fel Craig Mitchell, Martin Roberts a Dan Lydiate i brofi rygbi ar y lefel uchaf ac yn y pen draw gallan nhw fynd a'r profiad yna nôl at y rhanbarthau. Gall hyn ond bod yn beth da i rygbi yng Nghymru. Ond rwy wir yn credu hefyd bydd carfan Cymru yn gweld eisiau grym corfforol Mike Phillips a sgiliau Dwayne Peel yn safle'r mewnwr."
Samoa, Yr Ariannin ac Awstralia fel gwrthwynebwyr?
"Bydd cael chwarae rhai o dimau mwyaf corfforol y byd yn brawf ar y garfan - yn enwedig y rhai llai profiadol - does dim lot o turnover yn y gemau yma ac mae yna awch arbennig gan bob un o'r gwledydd yma.
"Os nawn ni osgoi anafiadau a mynd a'r gêm i Seland Newydd yn y prawf cyntaf, yna bydd y perfformiad yn gallu ychwanegu at yr hyder ac adeiladu ar y momentwm."
Gemau'r hydref ar S4C
"Gallwch fwynhau holl gemau cyfres Invesco Perpetual yr hydref yn fyw ar S4C, lle bydd nifer o wynebau cyfarwydd yn ymuno â ni i drin a thrafod y chwarae, gan gynnwys maswr Caerloyw, Nicky Robinson, a chyn-chwaraewyr Cymru Gareth Edwards, Gareth Davies ac Ieuan Evans.
-
Cwestiwn ac ateb Gareth Edwards
Profion yr Hydref
Un o arwyr rygbi Cymru sy'n edrych ymlaen at her Cymru yn erbyn Seland Newydd y penwythnos hwn. Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C, ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd, 16:45. Mae'r cais wnaethoch chi sgorio yn erbyn y Crysau Duon gyda'r Barbariaid ym 1973 yn cael ei gofio fel un o'r goreuon erioed. Sut brofiad oedd hynny?
Rwy'n gwerthfawrogi'r cais yna yn fwy nawr na beth o'n i ar y pryd. Roedd llawer o bwysau ar y Barbariaid oherwydd roedd y Crysau Duon yn barod i roi crasfa i ni er mwyn dial am daith y Llewod yn 1971. Yn ogystal, roedden ni'n perfformio o flaen torf cartref felly roedd y pwysau'n aruthrol.
Roedd hi'n gynnar yn y gêm a'r peth pwysicaf oedd mynd ymlaen i ennill. Do'n i ddim yn meddwl am eiliad y byddai cais wedi dod o'r symudiad yna. Wrth gofio'n ôl, rwy'n sylweddoli bod y cais yn un arwyddocaol oherwydd ei fod wedi cyfrannu at y sgôr ac at y fuddugoliaeth. Mae'n braf meddwl fod pobl dros y byd yn dal i gael mwynhad o'r cais yna.
Beth sy'n gwneud Seland Newydd yn wrthwynebwyr mor anodd?
Un peth sy'n wir am Seland Newydd yw eu bod nhw eisiau ennill bob gêm. Maen nhw'n gryf yn y meddwl ac yn gorfforol. Rwy'n cofio sawl tro lle roedden ni i bron ag ennill yn eu herbyn ond mynd ymlaen i golli yn y munudau olaf oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod sut i roi'r gorau iddi. Rygbi yw gêm genedlaethol Seland Newydd, yn union fel yng Nghymru, felly mae'r disgwyliadau yn arbennig o fawr.
Sut bydd carfan Warren Gatland yn ymdopi â bygythiad Seland Newydd - tîm nad yw Cymru wedi blasu llwyddiant yn eu herbyn am 56 o flynyddoedd?
Mae'n anodd credu'r ystadegau fod Cymru heb guro Seland Newydd am 56 o flynyddoedd. Beth sy'n holl bwysig yw ein bod ni'n chwarae ar ein gorau, gan ddefnyddio profiad ein chwaraewyr gorau, oherwydd mae'r crysau duon yn dueddol o wneud i bethau ddigwydd allan o ddim byd gan newid siâp a chyfeiriad gemau.
Os gan Gymru siawns da i guro'r crysau duon yn eich barn chi?
Dyma un o'r cyfleodd gorau ry'n ni wedi cael ers sawl blwyddyn. Efallai bod ansicrwydd yn y tîm ar ôl iddyn nhw golli rhai gemau ym Mhencampwriaeth y Tair Gwlad eleni. Mae yna broblemau ymysg y chwaraewyr a'r hyfforddwyr ac mae yna nifer o anafiadau yn y garfan. Ond dyw buddugoliaeth ddim yn mynd i fod yn hawdd. Bydd Seland Newydd eisiau paratoi'n gyson o nawr hyd at Cwpan y Byd ar domen eu hunain yn 2011. Fe fyddan nhw eisiau profi eu bod nhw'n gallu ennill y gystadleuaeth eto felly bydd hyn yn hwb ychwanegol iddyn nhw yn erbyn Cymru.
Ydych chi'n meddwl fod Gatland wedi gwneud dewis doeth gyda'i garfan?
Oherwydd anafiadau i rai chwaraewyr, mae'r garfan llawn cystal â beth fyddwn i wedi disgwyl gan Warren Gatland. Mae Dwayne Peel yng nghanol sefyllfa greulon rhwng Sale a Chymru, a gyda Mike Phillips allan, bydde hwn wedi bod yn gyfle arbennig iddo yn erbyn y Crysau Duon.
Mae ychwanegu bois ifanc fel Martin Roberts, Dan Lydiate a Craig Mitchell yn rhoi cyfle arbennig iddyn nhw. Rwy'n siŵr bydd y bois yn cymryd y cyfle yma ar y lefel rhyngwladol a chawn weld os ydyn nhw lan i'r safon.
Beth am golled y chwaraewyr sydd allan oherwydd anafiadau?
Y peth anffodus yw bod chwaraewyr sydd wedi bod ar eu gorau dros y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf yn dioddef o anafiadau. Mae'r Mike Phillips; Lee Byrne, sydd wastad yn chwarae'n fendigedig, a'r prop pen tynn Adam Jones ymysg y gorau yn y byd yn eu safleoedd, felly bydd colled ar eu holau. Ond mae'r gêm mor gorfforol dyddiau yma, mae'n rhaid disgwyl anafiadau.
-
Cymru v Seland Newydd - James yn dychwelyd i garfan Cymru
Profion yr Hydref
Bydd Paul James yn dychwelyd i garfan Cymru ar ddydd Sadwrn yn rôl y prop pen tyn. Cafodd Warren Gatland ei blesio gan James yn ystod yr wythnos ymarfer wrth iddo guro Duncan Jones, sydd hefyd yn chwarae dros y Gweilch, i'r safle.James Hook sy'n cymryd yr awenau fel cefnwr yn absenoldeb Lee Byrne a Morgan Stoddart gada'r ddau wedi eu hanafu.
Mewnwr y Gleision, Gareth Cooper, fydd yn dechrau'r gêm gyda Martin Roberts, rhif naw y Scarlets, yn ennill ar y fainc. Nid yw Dwayne Peel, sy'n chwarae i Sale, ar gael oherwydd ffrae dros ryddhau chwaraewyr gyda thimau Lloegr ac mae Mike Phillips allan am gyfnod gydag anaf.
Cymru: James Hook (Gweilch); Leigh Halfpenny (Gleision), Tom Shanklin (Gleision), Jamie Roberts (Gleision), Shane Williams (Gweilch); Stephen Jones (Scarlets), Gareth Cooper (Gleision); Gethin Jenkins (Gleision), Matthew Rees (Scarlets), Paul James (Gweilch), Alun-Wyn Jones (Gweilch), Luke Charteris (Dreigiau), Andy Powell (Gleision), Martyn Williams (Gleision), Ryan Jones (Gweilch, capten).
Eilyddion: Huw Bennett, Duncan Jones, Bradley Davies, Dafydd Jones, Martin Roberts, Jonathan Davies, Tom James.
-
Carfan Cymru
Profion yr Hydref
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn herio Seland Newydd, Samoa, Yr Ariannin ac Awstralia yng nghyfres hydref Invesco Perpetual. Ond does dim lle yn y garfan i'r chwaraewyr profiadol Ian Gough ac Andrew Bishop.Gyda chynifer o chwaraewyr wedi eu hanafu- gan gynnwys y Llewod Adam Jones a Mike Phillips - mae'n debyg bydd James Hook a Leigh Halfpenny yn rhannu rôl y cefnwyr yn lle Lee Byrne.
Mae'n edrych yn debyg y bydd blaenwr y Dreigiau Dan Lydiate yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru tra bod Ryan Jones yn cadw gafael ar rôl y capten.
Carfan Cymru
Dan Biggar, James Hook, Shane Williams, Gareth Cooper, Jamie Roberts, Tom Shanklin, Tom James, Leigh Halfpenny, Martin Roberts, Stephen Jones, Jonathan Davies, Mark Jones, Dwayne Peel, Paul James, Duncan Jones, Craig Mitchell, Huw Bennett, Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Jonathan Thomas, Gethin Jenkins, Bradley Davies, Andy Powell, Sam Warburton, Martyn Williams, Matthew Rees, Dafydd Jones, Luke Charteris, Dan Lydiate.
-
Cytundeb Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau
NewyddionMae URC a Rhanbarthau Cymru wedi arwyddo cytundeb fydd yn golygu sicrwydd ariannol ychwanegol i bob Rhanbarth, ac a fydd yn sicrhau fod rygbi yng Nghymru yn canolbwyntio ar recriwtio, cadw a dethol talent Cymreig yn y dyfodol.
Cyllid
Mae'r cytundeb yn golygu fod £6 miliwn ar gael i'w rannu rhwng y Rhanbarthau - codiad o £2.4 miliwn - gyda rhagor ar gael mewn cystadlaethau.
Carfannau
Bydd Rhanbarthau Cymru yn gorfod enwi carfan gydag o leiaf 17 chwaraewr, allan o'r 22 neu 23, sy'n gymwys i chwarae i Gymru ar gyfer pob gêm.
Rhyngwladol
Yn y dyfodol bydd tîm Cymru'n gallu chwarae hyd at 13 o gemau rhyngwladol, gyda'r cyfnod rhyddau chwaraewyr ar gyfer hyfforddiant hefyd yn gynwysedig.
-
Haydn Tanner
Un o arwyr Cymru a'r Llewod yn marw
Bu farw un o fawrion rygbi Cymru, Haydn Tanner o Gas-Llwchwr, yn 92 oed yr wythnos hon.
Roedd Haydn yn 18 mlwydd oed pan enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn 1935. Cafodd yrfa arbennig gan ennill 25 cap dros gyfnod o 15 mlynedd, a bu hefyd yn gapten ar y tîm rhyngwladol 12 o weithiau.
Yn 1938, pan oedd yn 21 mlwydd oed, cafodd ei ddewis i fynd gyda'r Llewod i Dde Affrica lle chwaraeodd ran amlwg ar y daith.
-
Dadansoddiad o Daith Cymru - Brynmor Williams
Taith yr HafTaith lwyddiannus
Rwy'n gymharol hapus gyda'r daith ar y cyfan. Roedd y gwelliant yn amlwg brynhawn Sadwrn yn Stadiwm Toyota, Chicago gyda thîm Cymru'n ymroi yn llwyr am yr awr gyntaf. Roedd y ddisgyblaeth ar y cae yn well, safon y meddiant yn well nac yn erbyn Canada, ac roedd amrywiaeth y tactegau yn cadw'r gêm yn ffres. Robinson a Biggar
Bu gêm cicio Nicky Robinson yn arbennig o dda ac roedd lefel ei gicio'n creu amheuaeth yn amddiffyn yr UDA. Pan fydd Robin McBryde yn adrodd nôl at Gatland, bydd e'n siŵr o gyhoeddi fod gan Robinson llawer i'w gynnig i'r garfan ryngwladol yn y dyfodol. Hefyd, fe wnaeth Dan Biggar enw i'w hun yn erbyn Canada - bydd y profiad mae e wedi cael o fod yn rhan o'r garfan ryngwladol yn caniatáu iddo ddatblygu fel chwaraewr. Mae'n rhaid cofio mai 19 oed yw e.
Bois ifanc
Pan ddaeth Sam Warburton ymlaen am y tro cyntaf fel eilydd, cafodd effaith mawr ar y chwarae. Roedd Warburton dros y lle i gyd ac roedd e'n cyfrannu 100%. Cafodd Deiniol Jones gêm ffantastig hefyd. Hwn oedd gyfle euraidd y bois ifanc i ddatblygu ar y lefel rhyngwladol. Bois fel Jonathan Davies, Warburton a Daniel Evans.
Cwpan y Byd
Bwriad Warren Gatland yw adeiladu garfan gref a chystadleuol cyn y Cwpan Byd nesaf. Mae ganddo un llygad ar y gystadleuaeth drwy'r amser. Rwy'n rhagweld y bydd nifer fawr o'r chwaraewyr hyn yn chwarae rhan yn ei gynlluniau.
Rhanbarthau
Ond un peth sy'n rhaid sicrhau yw bod y chwaraewyr ifanc yma'n rhan amlwg o'r rhanbarthau dros y tymhorau nesaf. Mae'n rhaid darganfod cydbwysedd fel bod y bechgyn hyn yn cael y cyfle i ddatblygu drwy gydol y tymor - boed ar lefel rhanbarthol neu yn Uwch Gynghrair y Principality. Fe fydd hi'n her i'r Undeb, ac i'r rhanbarthau, sicrhau fod y dalent yn cael ei feithrin yn iawn.
-
Taith yr Haf - Gwyn Jones
Taith yr Haf
Ar ôl y gêm yn erbyn Canada, os oes unrhyw un o chwaraewyr Cymru yng ngogledd America sy'n gobeithio gallan nhw wneud i ddewiswyr y Llewod ddifaru peidio a'u cymryd i Dde Affrica, yna mi fyddan nhw wedi ei siomi. Mae'r ddwy daith begynau oddi wrth ei gilydd. Does dim llawer o sylw'n cael ei rhoi i rygbi yn y wasg yma, gan ei bod hi'n gêm ar y cyrion.Talentau ifanc
Mae'n anodd creu angerdd mewn amgylchedd fel hyn, ond mae'n rhaid i'r chwaraewyr a'r hyfforddwyr oresgyn hyn. Roedd y perfformiad yn erbyn Canada yn un araf, ac fe fyddan nhw eisiau gwella ar hynny. Mae Dan Bigger yn chwaraewr hyderus sy'n edrych fel bod ganddo'r awdurdod naturiol i fod yn faswr, ac fe gafodd Bradley Davies gêm bwerus cyn iddo gael ei anafu.
Hen bennau
O ran y chwaraewyr sydd ar alwad gyda'r Llewod, roedd Dwayne Peel yn edrych yn siarp ar adegau, ac roedd Ryan Jones yn brwydro'n ffyrnig - ond doedd yr un yn ymddangos ddigon da i haeddu eu lle ar gyfandir arall.
Fe fyddai'n syndod i mi pe bai Cymru ddim yn dychwelyd adref wedi ennill eu gemau i gyd. Alla'i ddim dweud yr un peth am y Llewod, ond rwy'n gobeithio fod posibilrwydd o hynny eto.
-
Carfan Cymru v UDA
Taith yr Haf
Mae pum newid i'r garfan wnaeth guro Canada dros y penwythnos...Dwayne Peel, Nicky Robinson, Mark Jones, Ian Gough a Gareth Williams sy'n dod mewn i'r garfan i wynebu'r Unol Daleithiau yn Stadiwm Toyota, Chicago. Mae'r gêm yn fyw dim ond ar S4C nos Sadwrn am 6.35pm.
Olwyr: Daniel Evans (Scarlets); Mark Jones (Scarlets), Jonathan Davies (Scarlets), Andrew Bishop (Gweilch), Tom James (Gleision); Nicky Robinson (Caerlyr), Dwayne Peel (Sale)
Blaenwyr: Duncan Jones (Gweilch), Gareth Williams (Gleision), John Yapp (Gleision), Ian Gough (Gweilch), Deiniol Jones (Gleision), Dafydd Jones (Scarlets), Robin Sowden-Taylor (Gleision), Ryan Jones (Gweilch, capten)
Eilyddion: Richard Hibbard (Gweilch), Craig Mitchell (Gweilch), Luke Charteris (Dreigiau), Sam Warburton (Gleision), Gareth Cooper (Gleision), Daniel Biggar (Gweilch), Jonathan Spratt (Gweilch).
-
UDA v Cymru - yn fyw, dim ond ar S4C
Taith yr Haf
S4C fydd yr unig ddarlledwr i ddangos gêm Cymru yn erbyn Unol Daleithiau America yn fyw ac yn egscliwsif ddydd Sadwrn, 6 Mehefin.Darllediad egsclwsif S4C
Mewn rhifyn arbennig o Y Clwb Rygbi Rhyngwladol, bydd Gareth Roberts a chyn-glo Cymru, Derwyn Jones, yn cyflwyno o Stadiwm Toyota, Chicago.
Huw Llywelyn Davies a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones fydd yn sylwebu gyda Cennydd Davies wrth yr ystlys a Brynmor Williams yn dadansoddi'r chwarae.
Bwriad hyfforddwr Cymru ar gyfer y daith, Robin McBryde, yw defnyddio cyfuniad o chwaraewyr profiadol a wynebau newydd, gyda'r gymysgedd yn cynnwys Dwayne Peel, Duncan Jones, Nicky Robinson, Gareth Williams a Daniel Evans.
Cyfle i'r ifanc
Mae'r daith yn cynnig cyfle euraidd i rai o chwaraewyr ifanc Cymru brofi eu talent ar y llwyfan mawr ac i ennill eu plwy ar lefel ryngwladol. Bydd y to profiadol yn gobeithio cynnal eu safon ac ennyn diddordeb hyfforddwyr Cymru ar gyfer y tymor nesaf.
Meddai Robin McBryde, "Bydd hi'n dipyn o brawf i ni yn yr UDA ond gobeithio cawn ni weld y chwaraewyr yn newid gêr ar y llwyfan rhyngwladol. Rwy'n disgwyl gêm gorfforol a bydd yn rhaid i ni ddefnyddio ein pennau a'n cyrff i sicrhau buddugoliaeth.
Yn syth ar ôl y gêm fyw yn Chicago, bydd cyfle i wylwyr S4C fwynhau uchafbwyntiau gornest y Llewod yn erbyn y Cheetahs o Barc Vodacom, Bloemfontein. Yn ogystal, bydd y gorau o'r chwarae rhwng y Llewod a'r Sharks yn Durban i'w gweld nos Fercher, 10 Mehefin.
-
Carfan Cymru v Canada
Taith yr HafHeddiw cyhoeddodd hyfforddwr dros dro Cymru, Robin McBryde, y garfan fydd yn wynebu Canada ym mhrawf gyntaf Taith Gogledd America. Bydd uchafbwyntiau o'r gêm ar gael ar S4C nos Sul, 31 Mai am 6.30pm.
Olwyr: Daniel Evans (Scarlets); Tom James (Gleision), Jonathan Davies (Scarlets), Andrew Bishop (Gweilch), Chris Czekaj (Gleision); Dan Biggar (Gweilch), Gareth Cooper (Caerlŷr);
Blaenwyr: Duncan Jones (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), John Yapp (Gleision), Bradley Davies (Gleision), Deiniol Jones (Gleision), Dafydd Jones (Scarlets), Robin Sowden-Taylor (Gleision), Ryan Jones (Gweilch, capten).
Eilyddion: Gareth Williams (Gleision), Craig Mitchell (Gweilch), Ian Gough (Gweilch), Sam Warburton (Gleision), Dwayne Peel (Sale), Nicky Robinson (Gleision), Jonathan Spratt (Gweilch).
-
Taith yr Haf ar S4C
Taith yr HafBydd uchafbwyntiau o'r prawf cyntaf yn erbyn Canada i'w gweld ar S4C nos Sul, 31 Mai. Hefyd, bydd y gêm lawn yn erbyn UDA yn fyw dim ond ar S4C dydd Sadwrn, 6 Mehefin.
Tra bo nifer o chwaraewyr Cymru yn Ne Affrica gyda'r Llewod, mae gweddill carfan Cymru wedi teithio i Ganada a'r Unol Daleithiau i chwarae dwy gêm brawf arbennig.
Robin McBryde yw'r hyfforddwr dros dro ar gyfer y daith ac mae'n gyfle euraidd i fechgyn ifanc Cymru disgleirio ar y lefel uchaf.
-
Carfan Cymru ar gyfer Taith Gogledd America
Taith yr Haf
Robin McBryde fydd yn arwain taith Cymru i Ogledd America ar ddiwedd y mis, ac mae wedi dewis cyfuniad o chwaraewyr profiadol ac wynebau newydd ac ifanc i herio Canada a'r Unol Daleithiau.Olwyr: Dwayne Peel (Sale), Gareth Cooper (Caerloyw), Dan Biggar (Gweilch), Nicky Robinson (Gleision), Andrew Bishop (Gweilch), James Hook (Gweilch), Jonathan Spratt (Gweilch), Jonathan Davies (Scarlets), Mark Jones (Scarlets), Richard Mustoe (Gleision), Tom James (Gleision), Chris Czekaj (Gleision), Gareth Owen (Gweilch), Jason Tovey (Dreigiau).
Blaenwyr: Duncan Jones (Gweilch), Craig Mitchell (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Gareth Williams (Gleision), John Yapp (Gleision), Eifion Lewis-Roberts (Sale), Bradley Davies (Gleision), Ian Gough (Gweilch), Deiniol Jones (Gleision), Luke Charteris (Dreigiau), Dafydd Jones (Scarlets), Robin Sowden-Taylor (Gleision), Ryan Jones (Gweilch, capt), Lewis Evans (Dreigiau), Rob McCusker (Scarlets), Josh Turnbull (Scarlets), Sam Warburton (Gleision), Dan Lydiate (Dreigiau).
-
Ymateb Brynmor Williams
Chwe GwladYr Eidal v Cymru
Wel roedd hi'n anfoddhaol a dweud y lleiaf. Roedd y chwarae'n lletchwith ac roedd y pac yn wan yn erbyn blaenwyr Yr Eidal. Yn syml, roedd yna ormod o newidiadau. Rwy'n gallu deall pam fod Gatland yn ceisio datblygu'r garfan - ond ai dyma'r lle? Yng nghanol Pencampwriaeth fel hyn? Dylen ni fod wedi mynd allan i Rufain a rhoi crasfa iddyn nhw i fod yn gwbl onest. Ond efallai bydd mynd mewn i'r gêm yn erbyn Iwerddon fel underdogs yn rhoi hwb ychwanegol i'r bois.Carfan Cymru v Iwerddon
Dyw hi ddim yn sioc fawr fod Warren Gatland wedi gwneud cymaint o newidiadau i wynebu Iwerddon, sy'n edrych am Gamp Lawn yng Nghaerdydd dydd Sadwrn.Mae Gatland yn ffan o Gavin Henson ac yn hoff o'r ffordd mae'n chwarae. Rwy'n cytuno fod Henson yn dalentog iawn ond mae'n hen bryd iddo ddechrau profi ei hun nawr a chyfiawnhau'r dewis.
Mae partneriaeth brofiadol Henson a Shanklin yn edrych yn addawol iawn, gyda'r ddau wedi chwarae ochr yn ochr yn ystod Camp Lawn 2005 a 2008. Ond er mwyn iddyn nhw allu creu effaith, mae'n dyngedfennol fod nhw'n cael y meddiant. Mae cyfrifoldeb mawr ar y pac i sicrhau hyn.
Rwy wedi synnu nad yw Leigh Halfpenny yn y garfan - mae'n chwaraewr hyblyg iawn ond efallai braidd yn ddibrofiad ar y lefel yma y m marn Gatland.
Dyw Jonathan Thomas ddim wedi cael lot fawr o rygbi yn ddiweddar yn sgil anafiadau, felly dyw'r penderfyniad i'w adael e mas o'r garfan ddim yn fy synnu i. Er, rwy'n credu ei fod yn chwaraewr talentog dros ben.
Gêm Cymru v Iwerddon
Rwy'n ffyddiog ein bod ni'n mynd i ennill ddydd Sadwrn, mae'r gallu i ennill gyda ni. Cawson ni sioc wrth chwarae yn erbyn y Saeson a'r Ffrancwyr ond rwy'n credu fod y garfan yma'n gryf iawn ar bapur ac yn brofiadol dros ben, felly ddylai'r Gwyddelod ddim ag achosi gormod o broblemau.
-
Cyhoeddi garfan Cymru - Cymru v Iwerddon
Chwe GlwadHeddiw (Mawrth, 17 Mawrth), cyhoeddwyd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland y garfan i chwarae Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar ddydd Sadwrn, 21 Mawrth. Bydd S4C yn darlledu'r gêm yn fyw o 5.00pm ymlaen.
Gyda'r Goron Driphlyg a'r Bencampwriaeth yn y fantol, pwy yw'r 15 fydd yn dechrau'r gêm allweddol hwn?
Cefnwyr 15 Lee Byrne (Gweilch) 14 Mark Jones (Sgarlets) 13 Tom Shanklin (Gleision) 12 Gavin Henson (Gweilch) 11 Shane Williams (Gweilch) 10 Stephen Jones (Sgarlets) 9 Mike Phillips (Gweilch) Blaenwyr 1 Gethin Jenkins (Gleision) 2 Matthew Rees (Sgarlets) 3 Adam Jones (Gweilch) 4 Ian Gough (Gweilch) 5 Alun Wyn Jones (Gweilch) 6 Ryan Jones (Gweilch) Capten 7 Martyn Williams (Gleision) 8 Andy Powell (Gleision) Eilyddion: Huw Bennett (Gweilch); John Yapp (Gleision); Luke Charteris (Dreigiau); Dafydd Jones (Scarlets); Warren Fury (London Irish); James Hook (Gweilch); Jamie Roberts (Gleision)
-
Nigel Owens
Chwe Gwlad
Mae llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi 7 Bob Ochr y Byd yn argoeli'n dda ar gyfer y Chwe Gwlad ac mae'r dyfarnwr Nigel Owens, un o sêr sioe adloniant Bwrw'r Bar, yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous.Ymateb Nigel i fuddugoliaeth Cymru yng Nghwpan y Byd 7 Bob Ochr
Fues i'n dyfarnu ar y gylchdaith Saith Bob Ochr am bedair blynedd ac fe fwynheais i'r profiad yn fawr. Yn fy amser i yno, doedd Cymru fel Undeb ddim yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri, ond erbyn hyn mae'n neis gweld Cymru'n cystadlu yn erbyn y timau gorau. Mae'r safon yn gwella bob blwyddyn.
Mae Rygbi Saith Bob Ochr yn gamp lle mae lot o'r chwaraewyr Undeb yn ennill profiad - gydag Andy Powell, Mike Phillips a James Hook i gyd yn datblygu eu sgiliau yn y gamp. Mae rygbi o'r math yma'n siwtio Cymru i'r dim.Wrth edrych 'nôl ar y bencampwriaeth yn Dubai penwythnos diwethaf, roedd Cymru'n haeddu ennill y Cwpan oherwydd bod y tîm wedi llwyddo i faeddu carfannau cryf fel Seland Newydd, Samoa a'r Ariannin - timau sy'n draddodiadol yn chwarae Rygbi Saith Bob Ochr yn arbennig o dda ac sy'n cymryd y gystadleuaeth o ddifri.
Nigel yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous i'r Chwe Gwlad
v Yr Eidal
Dwi ddim yn gweld hi'n gêm rwydd o bell ffordd ac rwy'n credu byddai'r bobl sy'n gweld hi'n rhwydd yn cael bach o sioc ar ddydd Sadwrn. Rwy'n credu y bydd Cymru'n ymdopi'n dda yn dilyn yr holl newidiadau. Mae'r garfan yn ymarfer gyda'i gilydd bob dydd felly does dim rheswm pam fyddai'n newidiadau yn amharu arnynt. Mae yna ddigonedd o dalent yn y garfan ac mae gan Gymru fainc gref a phroffesiynol iawn.v Iwerddon
Rwy'n gweld Cymru v Iwerddon yn gêm allweddol. Rwy'n gweld Cymru'n ennill yn erbyn Yr Eidal gan adael y Bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg yn y fantol yng Nghaerdydd. Rwy'n eithaf hyderus y gwnawn ni ennill yn erbyn Iwerddon a bod yn onest. Fe fydda i yno, beth bynnag, fel 'fourth official' ac rwy'n edrych ymlaen yn arw.
Alun Wyn Jones
Mae'n chwaraewr caled sy'n chwarae'n dda ym mhob gêm. Dyw e byth yn cael gêm wael. Mae'n fachan talentog, sy'n ddigon synhwyrol a chall i ddelio gyda'r pwysau ychwanegol o fod yn gapten.
-
Gwyn Jones - Yr Eidal
Chwe Gwlad
Dyw'r Eidal ddim yn dîm da. Er bod ganddyn nhw bac ymosodol, dy'n nhw ddim yn gallu cael y gorau ar y gwrthwynebwyr bellach am nad ydynt yn gallu gyrru ymlaen o'r lein. Maen nhw'n dal yn ceisio chwilio am chwaraewyr i ddilyn ôl-traed yr haneri Troncon a Dominguez bedair blynedd ar ôl i'r bartneriaeth hynny ddod i ben.Roedd y trip i Rufain ar un adeg yn datblygu'n gryn brawf i dimau eraill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond mae bellach mewn peryg o droi'n drip hamddenol o weld dinas drawiadol sydd yn digwydd cynnwys 80 munud o adloniant rygbi ysgafn.
Efallai bod hynny ychydig yn llawdrwm ar yr Eidalwyr o ystyried eu bod wedi'n curo ddwy waith yn y pum tymor diwethaf a hynny ar adeg pan mae Cymru wedi cyflawni dwy Gamp Lawn. Ond dyw e ddim yn annheg yn fy marn i gan nad wyf yn teimlo bod Yr Eidal wedi symud yn eu blaen mewn unrhyw ffordd. Maen nhw'n edrych yn dîm blinedig sy'n ei chael hi'n anodd cystadlu gyda'r timau o'u cwmpas.
Wrth edrych ar y ffordd y mae'r Eidal yn chwarae yn ddiweddar, dwi'n gweld gwendidau ym mhob agwedd ar y chwarae. Am gyfnod o rai blynyddoedd, fe lwyddodd yr haneri clyfar Troncon a Dominguez i roi cyfeiriad i'r tîm a chuddio gwendidau cyffredinol y tîm. Ond pe bai'r ddau'n dal i chwarae heddiw, dwi'n meddwl y bydden nhw'n cael trafferth yn codi gêm y garfan bresennol.
Dwi'n cydnabod bod y tîm y mae Gatland wedi'i ddewis yn fy synnu braidd. Roedd yn fwy o syndod fyth ei glywed yn dweud y byddai wedi gwneud mwy fyth o newidiadau pe bai Cymru wedi ennill ym Mharis. Faint o newidiadau yr oedd e wedi bwriadu eu gwneud tybed? Gwell I mi nôl y sgidiau rygbi o'r cwpwrdd rhag ofn!
Dwi ddim yn credu y bydd y canlyniad ddydd Sadwrn yn synnu neb. Yr unig ffordd y gall yr Eidal greu sioe yw trwy sgorio'n gynnar, cael lot fawr o lwc neu elwa o ddyfarnu gwael. Hyd yn oed wedyn, byddai'n rhaid i chwaraewyr Cymru gael llond gwlad o gardiau melyn neu garden goch neu ddwy i roi unrhyw obaith i'r Eidal.
Mae Cymru yn dal yn dîm da er iddyn nhw golli yn Ffrainc. Mae'n hen bryd inni fod yn hyderus fel cenedl a theimlo ein bod yn gallu mynd oddi cartre' ac ennill. Mae Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia yn llawn hyder pan maen nhw'n chwarae draw yma. Mae hynny'n wahanol i orhyder (gwendid yr oedd Lloegr arfer ei ddangos). Fe ddylent allu credu yn eu gallu.
Dwi'n meddwl y bydd Cymru'n ennill gan 15 pwynt o leiaf. Byddai hynny'n rhoi hwb fawr i'r gwahaniaeth pwyntiau cyn i bawb droi eu sylw at y gêm dyngedfennol yn erbyn Iwerddon wythnos nesa'.
