Y Llewod
Tymor 2009/10
Newyddion rygbi
-
Rhyngwladol
Diweddaraf
- Chwe Gwlad Cymru 33 - 10 Yr Eidal...
- Chwe Gwlad Gwyn Jones...
- Chwe Gwlad Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20...
-
Rhanbarthau Cymru
Diweddaraf
- Cynghrair Magners Munster v Scarlets...
- Cynghrair Magners Eidalwyr yn ymuno â'r Cynghrair Magners...
- Cynghrair Magners Penwythnos Cynghrair Magnersr...
-
Uwch Gynghrair Cymru
Diweddaraf
- Uwch Gynghrair Cymru Caerdydd v Casnewydd...
- Cwpan Swalec Darbi fawr Cwpan Swalec...
- Cwpan Swalec Rownd derfynol Cwpan Swalec yn fyw...
Noddwyr rygbi ar S4C
Y Llewod
-
De Affrica 9 - 28 Y Llewod
Y Llewod yn rhuo i ennill
Mae'r Llewod wedi sicrhau buddugoliaeth yn y prawf olaf yn erbyn De Affrica drwy guro'r Springboks 9 - 28 yn Johannesburg. Daeth ceisiau'r gêm o asgellwyr y Llewod, Shane Williams (2) a Ugo Monye. Er bod y Llewod wedi ennill prawf olaf, y Springboks sy'n cipio'r gyfres o 2 - 1.Mae clo Lloegr, Simon Shaw, a gafodd ei ddanfon i'r gell gosb cyn hanner amser, wedi derbyn ataliad o bythefnos ar ôl iddo roi ei ben-glin yng nghefn mewnwr y Springboks, Fourie du Preez.
Canolwr y Gleision Jamie Roberts sydd wedi ennill 'Chwaraewr y gyfres'. Daeth Simon Shaw yn ail a Tommy Bowe yn drydedd.
-
Cyhoeddi carfan Y Llewod
Bydd pum chwaraewr o Gymru yn dechrau prawf olaf y Llewod yn erbyn Pencampwyr y Byd, De Affrica, yn Johannesburg. Shane Williams, Stephen Jones, Mike Phillips, Matthew Rees a Martyn Williams yw'r pump sydd wedi'u dewis - gyda sêr y Gweilch, James Hook ac Alun Wyn Jones, ar y fainc.Olwyr: Rob Kearney (Leinster / Iwerddon), Ugo Monye (Harlequins / Lloegr), Tommy Bowe (Gweilch / Iwerddon), Riki Flutey (Wasps / Lloegr), Shane Williams (Gweilch / Cymru), Stephen Jones (Scarlets / Cymru), Mike Phillips (Gweilch / Cymru)
Blaenwyr: Andrew Sheridan (Sharks / Lloegr), Matthew Rees (Scarlets / Cymru), Phil Vickery (Wasps / Lloegr), Simon Shaw (Wasps / Lloegr), Paul O'Connell (Munster / Iwerddon), Joe Worsley (Wasps / Lloegr), Martyn Williams (Gleision / Cymru), Jamie Heaslip (Leinster / Iwerddon)
Eilyddion: Ross Ford (Caeredin / Yr Alban), John Hayes (Munster / Iwerddon), Alun-Wyn Jones (Gweilch / Cymru), David Wallace (Munster / Iwerddon), Tom Croft (Caerlŷr / Lloegr), Harry Ellis (Caerlŷr / Lloegr), James Hook (Gweilch / Cymru).
Cyhoeddi Carfan De Affrica
Mae yna olwg newydd i garfan De Affrica wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y prawf olaf yn Johannesburg ddydd Sadwrn, gyda deg newid i'r tîm. Y capten John Smit, Fourie du Preez, a'r blaenwyr Juan Smith, Victor Matfield a Tendai Mtawarira yw'r unig sydd wedi dal gafael i'w llefydd.
Olwyr: Kirchner (Bulls); Ndungane (Sharks), Fourie (Lions), Olivier (Bulls), Nokwe (Cheetahs); M Steyn (Bulls), Du Preez (Bulls);
Blaenwyr: Mtawarira (Sharks), Ralepelle (Bulls), Smit (Sharks), Muller (Sharks), Matfield (Bulls), Brussow (Cheetahs), Smith (Cheetahs), Kankowski (Sharks).
Eilyddion: B du Plessis (Sharks), Steenkamp (Bulls), Carstens (Sharks), Sykes (Sharks), Spies (Bulls), R Pienaar (Sharks), F Steyn (Sharks).
-
O'Driscoll ar ei ffordd adref
Anafiadau'r Llewod yn parhau cyn y prawf olaf
Ni fydd canolwr y Llewod, Brian O'Driscoll, yn chwarae unrhyw ran yn y prawf olaf yn Johannesburg yn dilyn anaf.Daw'r newyddion ar ôl i dîm hyfforddi gyhoeddi fod blaenwyr y Llewod a Chymru, Gethin Jenkins ac Adam Jones hefyd yn gorfod methu'r prawf olaf oherwydd anafiadau o ganlyniad i ornest ffyrnig yr ail brawf.
Bydd Ian McGeechan yn cyhoeddi'r garfan olaf ddydd Iau.
-
Springboks 28 – 25 Y Llewod
Y Boks yn cipio'r gyfres
Sicrhaodd garfan De'r Affrica y gyfres ym munudau olaf y gem ym Mhretoria. Mewn clasur o gem, daeth ceisiau pencampwyr y byd gan JP Pieterson, Brian Habbana a Jaque Fourie.Roedd cais Cefnwr Leinster, Rob Kearney, a chicio perffaith Stephen Jones dim yn ddigon i'r ymwelwyr. Yn ystod y frwydyr danllyd, bu rhaid i Gethin Jenkins, Adam Jones, Jamie Roberts a Brian o'Driscoll adael y cae oherwydd anafiadau.
-
De Affrica v Llewod
Cafodd chwe chwaraewr Cymraeg eu henwi fel rhan o garfan y Llewod i wynebu De Affrica yn Loftus Versfeld ddydd Sadwrn. Mae'n rhaid i'r Llewod ennill y gêm os ydyn nhw am herio'r Springboks am y gyfres wythnos nesa.Olwyr: Rob Kearney (Leinster/Iwerddon); Luke Fitzgerald (Leinster/Iwerddon); Brian O'Driscoll (Leinster/Iwerddon); Jamie Roberts (Gleision/Cymru); Tommy Bowe (Gweilch/Iwerddon); Stephen Jones (Scarlets/Cymru); Mike Phillips (Gweilch/Cymru)
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision/Cymru); Matthew Rees (Scarlets/Cymru); Adam Jones (Gweilch/Cymru); Simon Shaw (Wasps/Lloegr); O'Connell (Munster/Iwerddon); Tom Croft (Caerlŷr/Lloegr); David Wallace (Munster/Iwerddon); Jamie Heaslip (Leinster/Iwerddon)
Eilyddion: Ross Ford (Caeredin/Yr Alban); Andrew Sheridan (Sale Sharks/Lloegr); Martyn Williams (Gleision/Cymru); Alun-Wyn Jones (Gweilch/Cymru); Harry Ellis (Caelŷr/Lloegr); Ronan O'Gara (Munster/Iwerddon); Shane Williams (Gweilch/Cymru)
-
Gwyn Jones
Gobeithion y Llewod yn Yr Ail Brawf
Beth ddysgodd tîm hyfforddi Ian McGeechan ar ôl perfformiad Y Llewod yn erbyn yr Emerging Sprinboks?Dim llawer weden i. Wnaeth yr un chwaraewr serennu yn y safleoedd oedd dan y chwyddwydr.
Cefnwyr
Mae Ugo Monye yn wynebu cael ei ollwng o'r garfan ar ôl methu dau gyfle i sgorio yn Y Prawf Cyntaf. Fodd bynnag, does dim dewis clir rhwng Shane Williams a Luke Fitzgerald ar gyfer yr asgell chwith.
Mae'n rhaid i'r Llewod wneud dewisiadau beiddgar, a phan does dim i'w ddewis rhwng y ddau, mae'n rhaid mynd am yr un sydd wedi profi ei hun fel un sy'n cymryd ei gyfleon. Mae'n rhaid i Williams ddechrau.
Fe fyddai'n syfrdanol petai Rob Kearney ddim yn dechrau'r gêm yn safle'r cefnwr, hyd yn oed petai Lee Byrne yn ffit. Roedd 'na olwg nerfus ar Byrne yn gêm fwya'i yrfa yn Durban ac mae perfformiadau Kearney wedi sicrhau safle'r cefnwr i'r Gwyddel.
Blaenwyr
Yn y pac, fe fyddai'n rhyfeddod i mi os nad yw rheng flaen Cymru'n dechrau'r gêm yn Pretoria. Os byddai'r IRB gyda chategori i'r chwaraewr rhyngwladol sydd wedi gwella fwya', Adam Jones fyddai'n ennill, heb os.
Bydd pwysau ychwanegol Mathew Rhys yn help mawr, ond fy mhryder i gyda Rees yw'r llinell - ac fe gafodd Matfield y gorau ohono yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd fis Tachwedd diwethaf.
Roedd 'na deimlad y byddai Powell yn gallu bod yn effeithiol fel eilydd, ond nid yw wedi gwneud digon i hawlio'i le. Byddai cynnwys Powell yn y garfan yn fyrbwyll.
Os fyddai'r Llewod yn ennill, yna penseiri'r llwyddiant fyddai Roberts ac O'Driscoll. Roedd gan y ddau ormod o bob dim i ganolwyr y Boks, a chael y bêl i'w dwylo nhw yn gynnar ac yn aml yw unig obaith y Llewod.
Ond yn anffodus, rwy'n credu y bydd y Llewod yn colli, ac yn treulio noson arall yn pendroni'r 'petai a'r petasai' ar ôl Yr Ail Brawf. Yr unig wahaniaeth y tro hwn yw na fydd cyfle arall.
-
Emerging Springboks 13 – 13 Y Llewod
Drama yn Cape Town
Trosiad ym munudau ola'r gêm gan Willem de Waal yn gwrthod buddugoliaeth i'r Llewod yn y gêm ddiweddaraf ar eu taith o Dde Affrica. Fe wnaeth Luke Fitzgerald, asgellwr Iwerddon, argraff yn y glaw trwm wrth i brif hyfforddwr y Llewod Ian McGeechan ystyried y tîm ar gyfer yr ail brawf yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn. -
Cyhoeddi carfan y Springboks
Burger yn dychwelyd i garfan yr ail brawf
Mae hyfforddwr De Affrica Peter de Villiers wedi cyhoeddi'r garfan fydd yn herio'r Llewod yn yr ail brawf ym Mhretoria dros y penwythnos. Y Springboks sydd â'r fantais cyn ar ôl sicrhau buddugoliaeth yn y prawf gyntaf, a gyda Schalk Burger yn ail-ymuno â'r garfan yn dilyn anaf, bydd popeth yn y fantol i'r Llewod.
Olwyr: F Steyn (Sharks); JP Pietersen (Sharks); A Jacobs (Sharks); J de Villiers (Stormers); B Habana (Bulls); R Pienaar (Sharks); F du Preez (Bulls)
Blaenwyr: T Mtawarira (Sharks); B du Plessis (Sharks); J Smit (Sharks); B Botha (Bulls); V Matfield (Bulls); S Burger (Stormers); J Smith (Cheetahs); P Spies (Bulls)
Eilyddion: C Ralepelle (Bulls); D Carstens (Sharks); A Bekker (Stormers); D Rossouw (Bulls); H Brussow (Cheetahs); J Fourie (Llewod); M Steyn (Bulls)
-
Emerging Springboks v Llewod
Bydd maswr Iwerddon, Ronan O'Gara, yn arwain y Llewod yn erbyn yr Emerging Springboks ddydd Mawrth. Yn dilyn canlyniad siomedig yn erbyn De Affrica ddydd Sadwrn, fe fydd yr ymwelwyr yn gobeithio ennill y gêm hon cyn yr ail brawf dros y penwythnos.Olwyr: Keith Earls (Munster/Iwerddon); Shane Williams (Gweilch/Cymru); Riki Flutey (Wasps/Lloegr); Gordon D'Arcy (Leinster/Iwerddon); Luke Fitzgerald (Leinster/Iwerddon); Ronan O'Gara (Munster/Iwerddon); Harry Ellis (Caerlŷr/Lloegr)
Blaenwyr: Andy Powell (Gleision/Cymru); Martyn Williams (Gleision/Cymru); Joe Worsley (Wasps/Lloegr); Nathan Hines (Perpignan/Yr Alban); Donncha O'Callaghan (Munster/Iwerddon); John Hayes (Munster/Iwerddon); Ross Ford (Caeredin/Yr Alban); Tim Payne (Wasps/Lloegr)
Eilyddion: Lee Mears (Caerfaddon/Lloegr); Phil Vickery (Wasps/Lloegr); Simon Shaw (Wasps/Lloegr); David Wallace (Munster/Iwerddon); Mike Blair (Caeredin/Yr Alban); James Hook (Gweilch/Cymru); Ugo Monye (Harlequins/Lloegr)
-
Springboks 26 - 21 Y Llewod
Y Springboks yn cipio'r prawf gyntaf
Mae'r Springboks wedi sicrhau buddugoliaeth ym mhrawf gyntaf y daith i Dde Affrica, drwy ennill 26 - 21 yn Durban. Gwnaeth ceisiau gan John Smit ac Heinrich Brussow ychwanegu at gicio arbennig Ruan Pienaar i ennill y gem.Blaenwr Lloegr Tom Croft(2) a mewnwr Cymru Mike Phillips wnaeth sgorio ceisiau'r Llewod.
-
Cyhoeddi carfan y Llewod - y prawf gyntaf
Cafodd chwech chwaraewr Cymraeg eu henwi fel rhan o garfan y Llewod i wynebu De Affrica yn Durban ddydd Sadwrn. Bydd y Llewod yn gobeithio cipio buddugoliaeth yn y prawf cyntaf mewn cyfres o dair yn erbyn y Springboks. Olwyr: Lee Byrne (Gweilch/Cymru); Ugo Monye (Harlequins/Lloegr); Brian O'Driscoll (Leinster/Iwerddon); Jamie Roberts (Gleision/Cymru); Tommy Bowe (Gweilch/Iwerddon); Stephen Jones (Scarlets/Cymru); Mike Phillips (Gweilch/Cymru)
Blaenwyr: Gethin Jenkins (Gleision/Cymru); Lee Mears (Caerfaddon/Lloegr); Phil Vickery (London Wasps/Lloegr); Alun-Wyn Jones (Gweilch/Cymru); Paul O'Connell (Munster/Iwerddon); Tom Croft (Caerlŷr/Lloegr); David Wallace (Munster/Iwerddon); Jamie Heaslip (Leinster/Iwerddon)
Eilyddion: Matthew Rees (Scarlets/Cymru); Adam Jones (Gweilch/Cymru); Martyn Williams (Gleision/Cymru); Donncha O'Callaghan (Munster/Iwerddon); Harry Ellis (Caelŷr/Lloegr); Ronan O'Gara (Munster/Iwerddon); Rob Kearney (Leinster/Iwerddon)
-
Gwyn Jones
Gobeithion y Llewod yn y gyfres
Chwe gêm allan o chwech. Allwch chi'm gofyn llawer mwy. Wel, a dweud y gwir, fe allwch chi. Fe fyddech chi wedi gobeithio y byddai 'na wahaniaeth mawr rhwng perfformiadau'r Llewod a'u gwrthwynebwyr hyd yma.Doedd neb yn disgwyl y byddai'r Llewod yn cael eu trechu'n gorfforol yn ardal y dacl. A doedd neb yn disgwyl i'r Llewod ddibynnu cymaint ar y sgrym i achub y dydd. Ond mae'r ddwy fuddugoliaeth ddiwethaf wedi dibynnu ar eu goruchafiaeth yn y sgrym.
Blaenwyr
Mae'n debyg fod y ddadl am brop pen rhydd y Llewod drosodd - er mawr siom i'r wasg Saesneg sydd wedi dotio ar rinweddau Andrew Sheridan.
Maen nhw wrth eu boddau gyda Sheridan oherwydd mai pŵer sy'n bwysig yn Uwch Gynghrair Lloegr. Ond dyw e ddim yn cynnig fawr o ddim byd arall yn ardal y dacl pan nad yw e'n cario'r bêl, a dyna pam yn fy marn i, fod yn rhaid i Gethin Jenkins chwarae.
Safle arall sydd wedi peri chwilfrydedd yw'r rhif saith. Gyda' Martyn Williams wedi ei adael allan o'r garfan ar gyfer y gêm yn erbyn y Southern Kings, a David Wallace heb gael ei ddefnyddio ar y fainc, mae'n ddirgelwch pwy fydd tîm rheoli'r Llewod yn dewis.
Os mai Williams fydd yn chwarae, gyda Tom Croft yn rif chwech, yna bydd y rheng ôl yn ymddangos yn ysgafn. Rwy'n credu y byddan nhw'n mynd am Wallace, a defnyddio Williams fel eilydd wrth i'r gêm fynd yn ei flaen.
Canolwyr
Mae Jamie Roberts wedi chwarae'n dda iawn yma, ac fe fydd hi'n ddiddorol gweld os oes gan y Springboks gynllun i'w rwystro.
Er bod tactegau Lloegr a Ffrainc yn erbyn Jamie wedi gweithio yn ystod y Chwe Gwlad, doedd ganddo ddim un o'r canolwyr gorau yn y byd wrth ei ysgwydd. Mae Brian O'Driscoll, ar y llaw arall, yn hollol wahanol. Byddai talu gormod o sylw i un, yn rhoi cyfleoedd mawr i'r llall.
Gobeithion y gyfres
All Y Llewod ennill y gyfres? Rwy'n credu y gallan nhw, ond fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddibynnu ar nifer o sefyllfaoedd hynod.
Fe fydd yn rhaid iddyn nhw obeithio fod y Springboks yn orhyderus a heb baratoi'n ddigon trylwyr.
Rwy'n gwybod fod hynny'n annhebygol, ond dyna'r math o sefyllfa wnaeth arwain at fuddugoliaeth Y Llewod yn 1997.
I fod yn gwbl onest, alla i ddim gweld Y Llewod yn cipio'r gyfres fel hyn eto. Mae'r Springboks wedi aros yn rhy hir i gael dial. Mae sêr rygbi'r wlad wedi troi eu cefnau ar gyflogau mawr clybiau tramor er mwyn cael y cyfle i chwarae yn dair gêm yma.
Ydi hi'n bosib y byddan nhw'n gwneud yr un camgymeriadau eto? Wel, mae unrhywbeth yn bosib...
-
Anafiadau i'r Llewod
Hook allan o'r prawf cyntafNi fydd maswr y Gweilch James Hook yn cael ei ystyried ar gyfer y prawf gyntaf yn erbyn De Affrica dros y penwythnos oherwydd anaf i'w ben. Cafodd Hook ei anafu yn ystod fuddugoliaeth y Llewod yn erbyn Southern Kings. Bydd Yr Albanwr Euan Murray hefyd yn gorfod gwylio'r prawf gyntaf o'r ochr yn dilyn anaf i'w bigwrn.
Mae disgwyl fydd tîm hyfforddi'r Llewod yn cyhoeddi'r garfan i wynebu Pencampwyr y Byd dydd Iau.
