Tymor 2009/10
Newyddion rygbi
-
Rhyngwladol
Diweddaraf
- Chwe Gwlad Cymru 33 - 10 Yr Eidal...
- Chwe Gwlad Gwyn Jones...
- Chwe Gwlad Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20...
-
Rhanbarthau Cymru
Diweddaraf
- Cynghrair Magners Munster v Scarlets...
- Cynghrair Magners Eidalwyr yn ymuno â'r Cynghrair Magners...
- Cynghrair Magners Penwythnos Cynghrair Magnersr...
-
Uwch Gynghrair Cymru
Diweddaraf
- Uwch Gynghrair Cymru Caerdydd v Casnewydd...
- Cwpan Swalec Darbi fawr Cwpan Swalec...
- Cwpan Swalec Rownd derfynol Cwpan Swalec yn fyw...
Noddwyr rygbi ar S4C
Uwch Gynghrair Cymru
-
Caerdydd v Casnewydd
Uwch Gynghrair CymruSadwrn 30 Ionawr 18:10
Y Clwb Rygbi: Caerdydd v CasnewyddDaw hen elynion wyneb yn wyneb unwaith yn rhagor yn Uwch Gynghrair Principality ar nos Sadwrn wrth i Gasnewydd ymweld â Pharc yr Arfau yng nghalon Caerdydd i wynebu tîm y brifddinas. Bydd yn gem yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi, ddydd Sadwrn 30 Ionawr, 18:10.
Bydd cyn fewnwr Caerdydd, Brynmor Williams yn ymuno â'r cyflwynydd, Gareth Roberts, i ddadansoddi'r chwarae. Sarra Elgan fydd wrth yr ystlys yn cael ymateb y chwaraewyr a'r rheolwyr tra bydd Cennydd Davies a Gwyn Jones yn sylwebu ar y chwarae.
Casnewydd oedd yn fuddugol pan chwaraewyd y gêm ddiwethaf rhwng y ddau yn Rodney Parade ar ddechrau'r tymor, felly bydd hynny'n gyrru gwŷr y brifddinas i sicrhau buddugoliaeth ar eu tomen eu hunain.
-
Darbi fawr Cwpan Swalec
Cwpan SwalecDydd Sadwrn, 23 Ionawr 18:15
Y Clwb Rygbi: Athletic Caerfyrddin v Cwins CaerfyrddinBydd Caerfyrddin wedi'i hollti'n ddwy wrth i ail rownd Cwpan Swalec gyrraedd y dref wrth i ddau gymydog ddod wyneb yn wyneb gyda lle yn y rownd nesaf yn y fantol. Bydd y gem yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi ddydd Sadwrn, 23 Ionawr, 18:15.
Athletic Caerfyrddin fydd yn herio Cwins Caerfyrddin yn y darbi lleol a bydd cyn-chwaraewr Athletic Caerfyrddin, Stephen Jones, sydd bellach wedi cyrraedd yr uchelfannau gyda'r Scarlets, Cymru a'r Llewod, yn ymuno â Gareth Roberts a Derwyn Jones ar y tim cyflwyno. I gadw'r ddysgl yn wastad, bydd cyn-chwaraewr Cwins Caerfyrddin, Emyr Lewis yn sylwebu ar yr holl chwarae gyda Cennydd Davies.
Roedd y gêm i fod i gael ei chwarae penwythnos diwethaf ond fe'i gohiriwyd oherwydd y tywydd gwael.
-
Rownd derfynol Cwpan Swalec yn fyw
Cwpan SwalecDydd Sadwrn, 9 Mai, 5.40pm
Y Clwb Rygbi: Castell Nedd v LlanelliMwynhewch holl gyffro rownd derfynol Cwpan Swalec wrth i Lanelli herio'r deiliaid, Castell Nedd, mewn brwydr ffyrnig yn fyw o Stadiwm y Mileniwm. Fe drechodd Castell Nedd Abertawe 32-16 yn y rownd gynderfynol tra bo Llanelli wedi ennill o drwch blewyn i Aberafan, 26-23. All Llanelli gipio'r gystadleuaeth am y 14eg tro neu a fydd y crysau duon yn dal eu gafael yn y gwpan? Ymunwch â Gareth Roberts a'r criw i weld pob cic, cais a sgarmes, gyda'r gic gyntaf am 6.00pm.
-
Bydd dwbl y rygbi ar gael ar S4C brynhawn Sul gyda dwy gêm Cynghrair Magners...
Cynghrair Magners, Uwch Gynghrair CymruDydd Sadwrn 4 Ebrill 17:10
Y Clwb Rygbi: Scarlets v GlasgowDaw gêm fyw o'r Cynghrair Magners prynhawn Sadwrn wrth i'r Scarlets groesawu Glasgow i Barc y Scarlets. Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones fydd yn sylwebu ar y chwarae, gyda Brynmor Williams yn dadansoddi perfformiad y ddau dîm. Gyda charfan Nigel Davies wedi methu yn ei hymdrech i ennill y Cwpan Heineken a'r Cwpan Ynni EDF y tymor hwn, bydd y crysau cochion yn awyddus i brofi pwynt yng Nghynghrair Magners. Colli fu eu ffawd oddi cartref yn erbyn Glasgow fis Medi diwethaf - tybed a fyddant yn talu'r pwyth yn ôl o flaen y dorf gartre'?
Dydd Gwener 10 Ebrill 17:00
Y Clwb Rygbi: Abertawe v LlanelliNos Wener, bydd Gareth Roberts yn cyflwyno gêm fyw o gae rygbi Sain Helen wrth i Abertawe herio'r hen elyn, Llanelli. Mae'r brwydrau rhwng y ddau gymydog wastad yn rhai ffyrnig ac mae'r gêm hon yn Uwch Gynghrair Cymru yn addo bod yn un gyffrous. Llanelli sydd ar frig y Gynghrair ar hyn o bryd gydag Abertawe yn eistedd yng nghanol y tabl. Colli wnaeth y crysau gwynion ar ddydd San Steffan draw ym Mharc y Scarlets - tybed a fydd modd iddynt wella ar eu perfformiad ar eu tir eu hunain?
