Tymor 2009/10
Newyddion rygbi
-
Rhyngwladol
Diweddaraf
- Chwe Gwlad Cymru 33 - 10 Yr Eidal...
- Chwe Gwlad Gwyn Jones...
- Chwe Gwlad Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20...
-
Rhanbarthau Cymru
Diweddaraf
- Cynghrair Magners Munster v Scarlets...
- Cynghrair Magners Eidalwyr yn ymuno â'r Cynghrair Magners...
- Cynghrair Magners Penwythnos Cynghrair Magnersr...
-
Uwch Gynghrair Cymru
Diweddaraf
- Uwch Gynghrair Cymru Caerdydd v Casnewydd...
- Cwpan Swalec Darbi fawr Cwpan Swalec...
- Cwpan Swalec Rownd derfynol Cwpan Swalec yn fyw...
Noddwyr rygbi ar S4C
Rhanbarthau Cymru
-
Munster v Scarlets
Cynghrair Magners
Bydd y bachwr Ken Owens a'r canolwr Jonathan Davies yn dechrau i'r Scarlets oddi cartref yn erbyn Munster nos Iau wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau gan Gymru.Bydd y gêm yn y Cynghrair Magners yn cael ei darlledu'n fyw 18 Mawrth am 19:25 ar S4C.
Mae tîm Nigel Davies, sydd un safle o waelod y gynghrair, yn gobeithio ennill yn Iwerddon er mwyn codi uwch ben y Gleision.
Mae Munster ar y llaw arall, sy'n bumed yn y gynghrair, wedi gwneud wyth newid o'r golled yn erbyn y Dreigiau ddechrau'r mis.
Y Gwyddelod sydd wedi ennill yr wyth cyfarfod diwethaf rhwng y ddau dîm.
Tîm Munster: S Deasy; D Howlett; T Gleeson; J de Villiers; I Dowling; P Warwick; P Stringer; M Horan; D Varley; J Brugnaut; M O'Driscoll (capt); B Holland; N Williams; N Ronan; J Coughlan.
Eilyddion: D Fogarty; D Ryan; A Quinlan; T O'Donnell; D Williams; J Manning; D Hurley.Tîm y Scarlets: Dan Newton; Joe Ajuwa; Regan King; Jonathan Davies; Andy Fenby; Rhys Priestland; Tavis Knoyle; Iestyn Thomas; Ken Owens; Deacon Manu; Lou Reed; Dominic Day; Josh Turnbull; Richie Pugh; David Lyons (capt).
Eilyddion: Phil John; Emyr Phillips; Damian Welch; Rob McCusker; Martin Roberts; Daniel Evans; Gareth Maule. -
Eidalwyr yn ymuno â'r Cynghrair Magners
Cynghrair Magners
Bydd y Cynghrair Magners yn ehangu dechrau'r tymor nesaf wrth i ddau dîm o'r Eidal ymuno â'r gynghrair.Treviso a rhanbarth newydd Aironi yw'r ddau sy'n ymuno a bydd y gynghrair yn tyfu o ddeg i ddeuddeg tîm.
Ar hyn o bryd, mae pedwar rhanbarth o Gymru, dau o'r Alban a phedwar o Iwerddon, gan gynnwys y deiliaid, Munster, yn chwarae yn y gynghrair. Mae'r Eidalwyr wedi cael cytundeb pedair blynedd ac mae disgwyl y bydd y newid yn gwella safon y gêm yn y wlad.
-
Penwythnos Cynghrair Magners
Cynghrair Magners
Cafodd y Dreigiau fuddugoliaeth wych yn erbyn Munster yn y Cynghrair Magners ddydd Sadwrn wrth i'r asgellwyr Aled Brew a Will Harries sgorio cais yr un ym muddugoliaeth gyntaf y Dreigiau dros Munster ers mis Ionawr 2007. Sgoriodd Caeredin pum cais ac ennill pwynt bonws wrth iddyn nhw guro'r Gleision yn Murreyfield 33 - 17 ddydd Sul. Sgoriodd yr asgellwr, Tim Visser, dri chais yn yr ail hanner wedi iddo ddod ymlaen yn lle Simon Webster oedd wedi'i anafu.
Er i Jerry Collins a Sonny Parker sgorio dau gais hwyr i'r ymwelwyr fe safodd amddiffyn Caeredin yn gadarn i'w rhwystro rhag teithio nôl i Gymru gyda phwynt bonws.
Yng ngemau eraill y penwythnos, aeth Leinster i frig Cynghrair Magners wedi iddyn nhw guro'r Gleision 26 - 29 yng Nghaerdydd ac fe enillodd y Scarlets yn erbyn Ulster, 25 - 8, ym Mharc y Scarlets.
-
Caeredin v Y Gweilch
Cynghrair Magners
Jerry Collins sy'n arwain Y Gweilch wrth i'r rhanbarth herio Caeredin yn Murrayfield brynhawn Sul. Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, 7 Mawrth am 13:45.Bydd Mike Phillips yn dechrau ei gêm gyntaf dros y rhanbarth ers mis Hydref gan obeithio denu sylw hyfforddwyr Cymru cyn y gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Iwerddon.
Mae Andrew Bishop, Ian Gough a Dan Biggar hefyd wedi eu rhyddhau gan garfan Cymru i chwarae dros Y Gweilch. Mae asgellwr Caeredin, Scott Webster, yn dechrau gêm am y tro cyntaf y tymor hwn.
Tîm Caeredin: B Cairns, M Robertson, N De Luca, J Houston, S Webster D Blair, M Blair (capten), K Traynor, A Kelly, G Cross, S MacLeod, S Turnbull, A MacDonald, R Rennie, R Grant.
Eilyddion: S Crombie, R Grant, C Hamilton, D Callam, G Laidlaw, P Godman, T Visser.Tîm Y Gweilch: Gareth Owen/Barry Davies, Jonny Vaughton, Sonny Parker, Andrew Bishop, Nikki Walker, Dan Biggar, Mike Phillips; Ryan Bevington, Richard Hibbard/Ed Shervington, Craig Mitchell, Ian Gough, Ian Evans, Jerry Collins (Capten), Marty Holah, Filo Tiatia.
Eilyddion: Ed Shervington/Marc Breeze, Cai Griffiths, Andy Lloyd/James Goode, Steve Tandy/Ben Lewis, Jamie Nutbrown, Ashley Beck, Barry Davies/Gareth Owen. -
Charteris a Lydiate yn dychwelyd i'r Dreigiau
Cynghrair Magners
Mae Luke Charteris a Dan Lydiate wedi'u rhyddhau gan garfan Cymru ar gyfer yr ornest fawr rhwng y Dreigiau a deiliaid y Gynghrair Magners, Munster. Bydd y gem yn darlledu'n fyw ar S4C nos Sadwrn 6 Mawrth, 18:10.Mae'r asgellwr Will Harries hefyd yn dychwelyd i'r garfan ar ôl cyfnod yn chwarae i garfan 7 Bob Ochr Cymru yn Las Vegas.
Tîm y Dreigiau
Martyn Thomas, Richard Fussell, Will Harries, Aled Brew, Tom Riley, Mathew Watkins, Ashley Smith, Jason Tovey, James Arlidge, James Leadbeater, Wayne Evans, Ben Castle, Hugh Gustafson, Pat Palmer, Tom Willis, Duane Goodfield, Adam Jones, Luke Charteris, Rob Sidoli, Hoani Macdonald, Lewis Evans, Dan Lydiate, Gavin Thomas, James Harris.
-
Penwythnos cyffrous yn y Cynghrair Magners
Cynghrair Magners
Bydd Warren Gatland yn hapus iawn gyda pherfformiadau chwaraewyr rhyngwladol Cymru dros y penwythnos wedi iddo ryddhau nifer o'r garfan nôl i'w rhanbarthau.Cafodd Ken Owens berfformiad da dros y Scarlets yn erbyn Leinster gyda chais yn yr hanner gyntaf. Ciciodd Rhys Priestland yn dda ond Leinster fu'n dathlu gyda buddugoliaeth o 27 - 14.
Newyddion da i garfan Cymru oedd bod dau fewnwr rhyngwladol, Dwayne Peel a Mike Phillips, yn dychwelyd ar ôl anafiadau. Cafodd Peel gêm gyfan i Sale yn erbyn Leeds er i'w dîm golli yn y diwedd.
Daeth Phillips ymlaen ar gyfer ail hanner buddugoliaeth Y Gweilch yn erbyn Connacht yn Stadiwm Liberty.
Mae'r Gweilch bellach ar frig y Gynghrair Magners wedi i seren y gêm Gareth Owen, a Dan Biggar, groesi'r llinell gais. Fe frwydrodd Connacht nôl gan ddod i drwch blewyn i gipio'r fuddugoliaeth. Y sgôr terfynol oedd Y Gweilch 19 Connacht 17.
Chwaraewr arall a ddangosodd ei werth i Gatland dros y penwythnos oedd capten y Dreigiau, Luke Charteris. Gydag Alun Wyn Jones allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad mae disgwyl y bydd Charteris a Bradley Davies yn cael eu galw i'r garfan. Y sgôr terfynol oedd Ulster 22 Dreigiau 22.
Croesodd dau chwaraewr rhyngwladol arall i'r Gleision wrth i Gareth Cooper a Tom James sgorio cais yr un ym muddugoliaeth y rhanbarth oddi cartref yng Nglasgow nos Wener.
-
Y Gweilch v Connacht
Cynghrair Magners
Bydd Mike Phillips ar y fainc i'r Gweilch pan fydd y rhanbarth yn croesawu Connacht i Stadiwm Liberty dydd Sul. Mae mewnwr Cymru a'r Llewod wedi bod allan ers pedwar mis oherwydd anaf i'w ffêr.Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C dydd Sul 21 Chwefror, 16:45.
Mae'r clo Ian Gough a'r maswr Dan Biggar wedi cael eu rhyddau gan Gymru i chwarae yn erbyn y rhanbarth Gwyddelig sydd ar waelod tabl Cynghrair Magners.
Mae'r Gweilch wedi ennill eu pum gêm ddiwethaf yn Stadiwm Liberty tra bod Connacht wedi colli 14 gêm yn olynol oddi cartref.
Gweilch: Gareth Owen; Jonny Vaughton, Sonny Parker, Ashley Beck, Nikki Walker; Dan Biggar, Jamie Nutbrown; Ryan Bevington, Richard Hibbard, Craig Mitchell, Ian Gough (capt), Ian Evans, Tom Smith, Marty Holah, Filo Tiatia.
Eilyddion: Ed Shervington, Cai Griffiths, Andy Lloyd, Jerry Collins, Mike Phillips, Barry Davies, Tom Prydie.
Connacht: G Duffy, T Nathan, N Ta'auso, K Mathews, F Carr, I Keatley, F Murphy; B Wilkinson, S Cronin, R Morris, M Swift, B Upton, J Muldoon, R Ofisa, G Naoupu.
Eilyddion: A Flavin, J Hagan, M McCarthy, J O'Connor, C O'Loughlin, A Wynne, L Bibo.
-
Leinster v Scarlets
Cynghrair Magners
Mae'r Scarlets enwi tri o garfan Cymru i wynebu Leinster dydd Sadwrn. Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi ddydd Sadwrn 19 Chwefror, 18:10.Mae Martin Roberts, Jonathan Davies a Ken Owens yn rhan o'r garfan sy'n teithio i Iwerddon a byddan nhw'n gobeithio troi perfformiadau clodwiw i mewn i ffuddugoliaethau.
Mae Leinster wedi ennill pum gem yn olynol ac mae'r Scarlets hefyd wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf oddi cartref.
Leinster: G Dempsey, S Horgan, F McFadden, S Berne, I Necewa, J Sexton, E Reddan; S Wright, B Jackman, CJ van der Linde, D Toner, M O'Kelly, K McLaughlin, S Jennings (cpt), S O'Brien.
Eilyddion: J Fogarty, R Strauss, M Ross, T Hogan, S Keogh, S Keogh, P O'Donohoe, E O'Malley, A Conway.
Scarlets: Dan Newton; Daniel Evans, Regan King, Jon Davies, Andy Fenby; Rhys Priestland, Martin Roberts; Iestyn Thomas, Ken Owens, Deacon Manu, Dominic Day, Damian Welch, Rob McCusker, Johnathan Edwards, David Lyons (capt).
Eilyddion: Phil John, Emyr Phillips, Rhys Thomas, Vernon Cooper, Josh Turnbull, Tavis Knoyle, Gareth Maule
-
Y Gweilch v Leeds
Cwpan LV
Bydd Y Gweilch yn gobeithio cael canlyniad gwell yn erbyn Leeds nos Iau yn dilyn y golled yn erbyn y Dreigiau dros y penwythnos. Bydd y gêm i'w gweld yn fyw ar Rygbi: Cwpan LV nos Iau 4 Chwefror am 19:25.Fe gollodd Leeds hefyd, yn erbyn Saracens, yn rownd ddiwethaf y gystadleuaeth. Ac er bod gan yr un tîm siawns o fynd ymlaen i'r chwarteri, bydd Leeds yn gobeithio dial yn dilyn y grasfa gawsant nhw yn Stadiwm Liberty mewn gêm gyfeillgar ym mis Awst.
-
Penwythnos Cwpan LV
Cwpan LV
Collodd Y Gweilch oddi cartref yn erbyn y Dreigiau nos Wener er bod sêr Cymru Shane Williams ac Adam Jones yn nhîm yr ymwelwyr.Ciciodd maswr y Dreigiau, Jason Tovey, saith cic gosb a dau drosiad yn y fuddugoliaeth o 40 - 19 yn Rodney Parade. Llwyddodd yr asgellwr ifanc, Tom Prydie, i groesi'r linnell gais dros y tim cartref.
Mewn gemau eraill dros y penwythnos, llwyddodd y Gleision i guro Newcastle yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Fe enillodd rhanbarth y Brifddinas o 45 -13 ac maen nhw nawr ar frig Grŵp Tri.
Fe gurodd y Scarlets dros y penwythnos hefyd gan drechu Wasps 13 - 18 oddi cartref yn Adams Park. Maswr y Scarlets, Rhys Priestland, sgoriodd holl bwyntiau'r ymwelwyr.
-
Dreigiau v Gweilch
Cwpan LV
Canolwr y Dreigiau Ashley Smith fydd yn arwain carfan Paul Turner yn ystod y gêm ddarbi Cwpan LV yn erbyn y Gweilch nos Wener.Mae Warren Gatland wedi rhyddhau pedwar chwaraewr y Gweilch - Adam Jones, Shane Williams, Kristian Phillips a Tom Prydie - o garfan Cymru, er mwyn i'r tri chwarae mwy o rygbi cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dreigiau: Jason Tovey, Martyn Thomas Aled Brew, Will Harries, Richard Fussell, Ashley Smith (c), Matthew Watkins, James Arlidge, James Leadbeater, Wayne Evans; Pat Palmer, Aaron Coundley, Ben Castle, Ali McKenzie, Lloyd Burns, Steve Jones, Rob Sidoli, Hoani MacDonald, Adam Jones, Lewis Evans, Gavin Thomas, James Harris, Grant Webb.
Gweilch: TBC
-
Gatland yn rhyddhau 7 chwaraewr
Cwpan LV
Cyn i Gymru ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010 yn erbyn Lloegr, mae Warren Gatland wedi rhyddhau saith chwaraewr i'r rhanbarthau er mwyn chwarae yn y Cwpan LV.Mae asgellwyr y Gweilch, Shane Williams, Kristian Phillips a Tom Prydie, yn ymuno ag Adam Jones yng ngharfan rhanbarth Abertawe ar gyfer y gêm yn erbyn y Dreigiau yn Rodney Parade nos Wener, i'w ddarlledu yn fyw ar S4C.
Bydd Tom Shanklin a Sam Warburton yn rhydd i chwarae i'r Gleision yn y Cwpan LV wrth iddyn nhw herio Newcastle a bydd Matthew Rees yn dychwelyd i'r Scarlets yn erbyn Gwyddelod Llundain.
Mae Eifion Lewis-Roberts (Sale) a Rhys Gill (Saracens) hefyd yn dychwelyd i chwarae i'w clybiau yn Lloegr dros y Sul.
-
Y Gweilch yn cyrraedd y chwarteri
Cwpan Heineken
Bydd gan hyfforddwr Cymru wen fawr ar ei wyneb heddiw yn dilyn perfformiadau safonol ei chwaraewyr yn y Cwpan Heineken dros y penwythnos.Gwnaeth y Gweilch ymdrechu'n galed i sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm Liberty gan lwyddo i ennill lle fel yr unig ranbarth Gymraeg i gyrraedd rownd yr wyth olaf y Cwpan Heineken.
Tommy Bowe wnaeth groesi am unig gais y gêm, ond bydd yn rhaid i'r Gweilch aros am benderfyniad i'w tynged ar ôl i Gaerlŷr cwyno swyddogol n erbyn y garfan gartref. Roedd y Gweilch wedi chwarae am gyfnod gyda dyn ychwanegol pan wnaeth Lee Byrne dychwelyd i'r cae ar ôl anaf gwaed.
Bydd yr ERC yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad cyn gwneud penderfyniad ar dynged y Gweilch.
Mae tymhorau'r Gleision a'r Scarlets wedi'u hachub gyda buddugoliaethau oddi cartref dros y Sul wrth i'r ddau gyrraedd rownd yr wyth olaf Cwpan Her Amlin.
Ennill 45 - 20 oedd hanes y Gleision yn Llundain wrth iddyn nhw guro'r Harlequins a hawlio pwynt bonws. Gareth Thomas, Ben Blair, Ceri Sweeney, Xavier Rush a Jamie Roberts (2) wnaeth croesi'r llinell ar ran y Gleision i sicrhau lle yng Nghwpan Her Amlin.
Gwnaeth y Scarlets brwydro nôl yn yr ail hanner i guro Brive ar dir estron allan yn Ffrainc. Mae tymor Ewropeaidd y Scarlets yn fyw o hyd diolch i'r adfywiad, gyda Damian Welch a Morgan Stoddart yn sgorio. Bydd y Scarlets yn dychwelyd i Ffrainc ym mis Ebrill ar gyfer rownd yr wyth olaf Cwpan Her Amlin yn erbyn Toulon.
Roedd yna siomedigaeth ar Barc Rodney wrth i Gaerloyw - a thri chais gan Akapusi Qera - gadael y Dreigiau ar waelod ei grŵp nhw.
Rownd yr wyth olaf Cwpan Heineken
Munster v Northampton
Biarrits v Y Gweilch
Toulouse v Stade Francais
Leinster v Clermont AuvergneRownd yr wyth olaf Cwpan Her Amlin
Connacht v Bourgoin
Toulon v Scarlets
Wasps v Caerloyw
Newcastle v Gleision -
Gwyn Jones
Cwpan Heineken
Pan gafodd rhaglen y Cwpan Heineken ei gyhoeddi, roedden ni'n gwybod y byddai'n dod i hyn. Bydd y gêm grŵp olaf rhwng Y Gweilch a Chaerlŷr yn penderfynu pa dîm fydd yn mynd drwodd i'r chwarteri.Byddai'n ergyd i'r naill dim a'r llall os ydyn nhw'n methu hawlio lle yn yr wyth olaf ac fe ddylai hynny wneud y gêm dydd Sadwrn yn fwy cyffrous fyth.
Dewis yw'r mater sy'n dominyddu'r penawdau'r wythnos hon wrth i'r Gweilch benderfynu pwy fydd yn dechrau'r gêm. Dyw Shane Williams ddim mwy ffit yn yr wythnos hon ag yr oedd yr wythnos diwethaf ar ôl dim ond munud o rygbi yn Clermont. Ond alla'i ddim dirnad Y Gweilch yn mynd i mewn i'r gêm holl bwysig yma heb chwaraewr sydd wedi profi ei hun ar bob lefel.
Mae Walker yn chwaraewr rhyngwladol dibynadwy, ond nid yw'n meddu ar y gallu i newid gêm fel Williams a fydd yn sicr o ddechrau.
Chwaraewr arall y byddwn i'n ei gynnwys yn erbyn Caerlŷr yw yn Ian Gough. Cafodd Y Gweilch eu llwgu o feddiant am awr gan Clermont a doedden nhw methu gwneud unrhyw beth i newid hynny. Mae gan Jonathan Thomas yr holl briodoleddau ond efallai bod ymosodedd noeth a chaledwch meddwl Gough yn rhoi cyfle gwell i'r Gweilch yn erbyn Leicester.
Ond y brif broblem sy'n wynebu Scott Johnson yw p'un ai dechrau gyda James Hook a'i pheidio. Mae ei fryd ar chwarae yn safle'r maswr ond waeth iddo anghofio am hynny ar gyfer y gêm hon. Y gwirionedd yw bod Biggar yn well.
Byddwn yn gobeithio bod y newyddion diweddar o fwriad Hook i adael oni bai ei fod yn chwarae maswr ddim yn lliwio'r dewis ond mae'r rheolwyr Y Gweilch gyda hanes o wneud safiad yn erbyn y chwaraewyr. Cofiwch y cerydd cyhoeddus gafodd Henson pan aeth yn AWOL am ddiwrnod.
Os yw Hook eisiau chwarae fel maswr, yna mae ganddo bob hawl i ddilyn ei uchelgais. Dim ond un cyfle mae'n ei gael ar ei yrfa rygbi ac mae'n rhaid iddo wneud yr hyn mae'n teimlo sy'n iawn. Er ei fod yn chwaraewr talentog, yn bersonol dwi ddim yn meddwl y bydd byth yn sefydlu ei hun fel maswr rhyngwladol. Os yw e eisiau chwarae rygbi rhyngwladol, rwy'n credu y bydd yn rhaid iddo fod yn fodlon â safle arall, ond fe biau'r dewis yn y pen draw.
Hefyd, buaswn yn annog Y Gweilch i chwarae Hook yn y canol, ochr yn ochr â Bishop, ar gyfer eu gêm y penwythnos hwn. Mae ganddo ormod o allu naturiol i fod ar y fainc. Roedd Scott Johnson yn cael ei ystyried fel pensaer chwarae disglair cefnwyr Cymru yn ystod ymgyrch y Gamp Lawn yn 2005. Rwy'n gobeithio bydd yn gwrando ar ei reddf a dewis chwaraewyr gyda dawn gynhenid yn erbyn y cewri o Loegr.
Bydd Caerlŷr yn dod i Stadwim Liberty gyda gêm bwerus. Sgrym fawr, gêm gicio gadarn ac fe fyddan nhw'n peledu canol cae gyda chwaraewyr yn cludo'r bel. Ond i guro'r Teigrod mae'n rhaid i chi oresgyn eu hewyllys ystyfnig yn ogystal â delio a'u tactegau.
Mae'n bosib y bydd gan Gymru dîm arall yn yr wyth olaf os fydd y canlyniadau yn mynd yn ôl y disgwyl. Os yw Munster yn curo Northampton a Leinster yn curo Gwyddelod Llundain, dau ganlyniad sy'n fwy na thebyg, yna gall y Gleision fynd drwodd wrth ennill gyda phwynt bonws yn erbyn yr Harlequins.
Ar y cyfan, nid wy'n credu bod y Gleision yn haeddu lle yn chwarteri, yn seiliedig ar y safon y rygbi maen nhw wedi chwarae'r tymor hwn. Bydd rhaid i'r Gleision ddioddef y boen o wylio pob gêm cyn eu bod nhw'n gwybod eu tynged.
Felly, gyda phenwythnos cyffroes arall o rygbi Ewropeaidd ar fin dechrau. Does dim byd gwell.
-
Gwyn Jones
Cwpan Heineken
Mae Ionawr yn fis hollbwysig yn y calendr rygbi. Erbyn diwedd y mis, bydd carfanau'r timau cenedlaethol wedi cael eu henwi ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ac fe fyddwn ni'n gwybod hefyd pa wyth tîm sydd wedi mynd drwodd i rownd nesa Cwpan Heineken.Nid am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod pwysig yma mae pawb yn edrych ar Y Gweilch. Nhw yw'r unig ranbarth Cymreig sydd â gobaith realistig o fynd ymlaen i'r rownd nesa ac mae ganddyn nhw ddwy gêm fawr o'u blaen.
Mae'r gemau yng Ngrŵp 3 Cwpan Heineken eleni wedi bod yn wych. Pob un tro mae'r Gweilch, Teigrod Caerlŷr a Clermont Auvergne wedi mynd ben ben a'i gilydd maen nhw wedi chwarae rygbi cyfores ac mae rhywun yn gobeithio y bydd y ddrama yn cynyddu fel mae'r gemau'n mynd yn bwysicach.
Mae'n debygol y bydd dau dîm yn mynd ymlaen o'r grŵp yma ond mae ceisio dyfalu pa ddau yn fater gwahanol.
Bydd Clermont yn wynebu'r Gweilch adref ar gefn buddugoliaeth oddi cartref yn Toulouse sydd wedi eu codi i frig cynghrair Ffrainc.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r Gweilch wedi chwarae yn fwy fel tîm yn hytrach na chasgliad o unigolion talentog.
Felly, beth fydd rhaid i'r Gweilch wneud er mwyn ennill yn Clermont? Bydd yr ugain munud cyntaf yn allweddol.
Wrth chwarae adref, mae timau Ffrengig yn ffrwydrol o'r dechrau; maen nhw'n ceisio cracio'r gwrthwynebwyr drwy daflu pob dim atyn nhw. Mae'n rhaid i'r Gweilch baratoi am ddeg munud agoriadol ffyrnig.
Ond mae'n rhaid i'r Gweilch wthio amddiffyn Clermont yn y deg munud cyntaf hefyd. Allan nhw ddim dal yn ôl fel gwnaeth y Scarlets, gan fod ansawdd yr ymosodiad yn gymaint gwell.
Os fydd y Gweilch yn goroesi'r pwysau cynnar bydd rhaid iddyn nhw wedyn setlo i mewn i batrwm. Penderfyniadau Dan Biggar sydd wedi bod yn ganolog i'w gêm nhw'n ddiweddar. Mae'n datblygu'n dda fel maswr ac yn ddigon hyderus i gymryd cyfrifoldeb pan mae'n gweld yr angen.
Roedd canol cae'r Gweilch yn agored ar brydiau yn erbyn Caerlŷr ac er bod y camgymeriadau hynny wedi gwella, bydd gallu taclo Biggar yn cael ei brofi unwaith eto ddydd Sadwrn.
Fe ddylai dychweliad Adam Jones gadarnhau'r sgrym oedd yn wan yn y ddwy rownd gyntaf ac mae'n rhaid i'r Gweilch ddefnyddio'r platfform yn effeithiol.
Rwy'n hoffi golwg Tommy Bowe yng nghanol cae a gyda Shane yn holliach fe ddylai'r chwaraewyr mawr i gyd fod ar y cae'r un pryd.
Peidiwch a chamgymryd, bydd y canlyniad yn dibynnu ar beth sy'n digwydd ymhlith y blaenwyr, ac os rhywbeth, mae'r Gweilch yn or-ddibynnol ar Ryan Jones i gario'r bêl. Mae blaenwyr eraill fel Alun-Wyn Jones a Jerry Collins gyda'r gallu i groesi'r llinell fantais ac fe ddylai nhw ysgafnhau'r baich sydd ar ysgwyddau'r capten.
Y bygythiad mwya' sy'n wynebu'r Gweilch yw mewnwr Clermont, Morgan Parra. Mae ei feddwl craff a'i rediadau siarp yn beryg. Bydd rhaid i'r rhanbarth Cymreig fod yn wyliadwrus ar ymyl y sgarmes.
Yn y pen draw, mae'n rhaid i'r Gweilch fod â ffydd ynddyn nhw eu hunain. Mae'n hen bryd i 'Galacticos' rygbi Cymru gael clod am eu graen.
-
Y tywydd yn taro'r Magners
Cynghrair Magners
Caeredin oedd yn fuddugol yn erbyn y Gleision ym Murrayfield dros y Sul - yn yr unig gêm i gael ei chwarae yng Nghynghrair Magners.Croesodd Ross Rennie a Jim Thompson i'r tîm cartref mewn buddugoliaeth o 21 - 12, ond fe ddangosodd y Gleision fygythiad yn y chwarter olaf. Dyw'r Gleision heb ennill un gêm oddi cartref yn y gynghrair y tymor hwn.
Gohiriwyd ymweliad y Scarlets i Munster brynhawn Sul. Cafodd gemau'r Gweilch yn erbyn Ulster a Connhacht yn erbyn y Dreigiau hefyd eu gohirio.
-
Munsters v Scarlets
Cynghrair Magners
Mae posib y bydd gêm y Scarlets oddi cartref yn erbyn Munster yng Nghynghrair Magners y penwythnos hwn yn gorfod newid lleoliad os fydd Musgrave Park yn cael ei effeithio gan yr hinsawdd rhewllyd.Os fydd y gêm yn cael ei chwarae bydd yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi, dydd Sul, 10 Ionawr, 16:45.
Bydd y Scarlets heb y Llewod, Stephen Jones a Matthew Rees, ond mae'r mewnwr Martin Roberts ar gael ac mae Morgan Stoddart yn ddigon holliach i gael ei enwi ar y fainc.
Mae'r Scarlets wedi colli eu pum gêm ddiwethaf yn erbyn rhanbarthau Gwyddelig, ar unig dro iddyn nhw ennill ar dir Munster oedd yn 2003.
Munster: D Hurley, I Dowling, D Howlett, T Gleeson, J de Villiers, K Earls, L Mafi, P Warwick, R O'Gara, D Williams, T O'Leary, P Stringer, W du Preez, S Archer, T Buckley, D Fogarty, D Varley, P O'Connell, D Ryan, D O'Callaghan, M O'Driscoll, A Quinlan, N Ronan, B Holland, D Wallace, J Coughlan.
Scarlets: Daniel Evans; Lee Williams, Sean Lamont, Jon Davies, Andy Fenby; Rhys Priestland, Martin Roberts; Phil John, Ken Owens, Deacon Manu, Damian Welch, Dominic Day, Rob McCusker, Johnathan Edwards, David Lyons(capt).
Eilyddion: Jamie Corsi, Emyr Phillips, Lou Reed, Richie Pugh, Gareth Davies, Morgan Stoddart, Gareth Maule.
-
Caeredin v Gleision
Cynghrair Magners
Mae Leigh Halfpenny yn dychwelyd i garfan y Gleision yn safle'r cefnwr tra bod Ceri Sweeney yn ôl yn safle'r maswr wedi wythnos lle arwyddodd Jamie Roberts a John Yapp gytundebau newydd i aros gyda'r Gleision.Mae Xavier Rush a Gethin Jenkins yn cael eu gorffwyso ar gyfer yr ymweliad i'r Alban.
Mae Rory Hutton, 22, yn dechrau ei gêm gyntaf yng Nghynghrair Magners dros Gaeredin gan gymryd lle Phil Goodman sydd allan gydag anaf i'w glun. Mae'r mewnwr Greig Laidlaw yn dychwelyd i'r garfan ar ôl salwch.
Ar Y Clwb Rygbi, Gareth Roberts fydd yn cyflwyno'r ornest o Murrayfield yng nghwmni cyn-fewnwr Cymru Robert Jones. Bydd Cennydd Davies a Gwyn Jones yn cynnig sylwebaeth arbenigol a Sarra Elgan fydd yn siarad gyda'r hyfforddwyr a'r chwaraewyr wedi'r chwiban olaf.
Carfan Caeredin: Chris Paterson (capten), Jim Thompson, Ben Cairns, John Houston, Tim Visser, Rory Hutton, Greig Laidlaw; Allan Jacobsen, Ross Ford, David Young, Jim Hamilton, Scott MacLeod, Alan MacDonald, Ross Rennie, Roddy Grant, Andrew Kelly, Kyle Traynor, Craig Hamilton, Scott Newlands, Ross Samson, Nick De Luca, Mark Robertson.
Carfan y Gleision: Leigh Halfpenny, Richard Mustoe, Casey Laulala, Jamie Roberts, Tom James, Ceri Sweeney, Gareth Cooper; Sam Hobbs, T Rhys Thomas, Taufa'au Filise, Deiniol Jones, Paul Tito (capten), Andries Pretorius, Martyn Williams, Andy Powell, Rhys James, Scott Andrews, Bradley Davies, Ben White, Richie Rees, Dai Flanagan, Gareth Thomas
-
Y Gweilch ac Abertawe yn ennill
Cynghrair Magners
Roedd hi'n fuddugoliaeth glinigol i'r Gweilch yn erbyn y Gleision yn yr eira trwm ar Stadiwm y Liberty wrth i'r tîm gartref parhau a'i rhediad da.Yr asgellwr Nikki Walker yn sgorio dwy gais a throed Dan Biggar oedd yn gyfrifol am bwyntiau'r hanner gyntaf a seliwyd y fuddugoliaeth i'r Gweilch yn yr ail hanner gyda chais y capten Ryan Jones. Dyma'r tro cyntaf mewn tair blynedd i'r Gleision methu ennill unrhyw bwyntiau mewn gêm.
Ond, roedd yna achos i bryderi yn yr hanner gyntaf pan orfodwyd y canolwr Tom Shanklin i adael y cae oherwydd anaf i'w droed.
Dechreuodd Abertawe'r flwyddyn drwy sicrhau buddugoliaeth yn y darbi leol yn erbyn Llanelli ar Barc y Scarlets. Y sgôr terfynol oedd Llanelli 18 Abertawe 31.
Roedd hi'n frwydr a hanner gyda Llanelli yn sgorio tri chais - gan Aaron Shingler, Nick Reynolds a Dale Ford - tra bod Abertawe yn llwyddo i groesi'r llinell ar bedwar achlysur. Steffan Jones, Liam Davies a James Dixon (2) wnaeth croesi i'r ymwelwyr.
-
Cyhoeddi carfan y Gleision
Cynghrair Magners
Mae Dai Young a'r Gleision wedi gwneud tri newid i'r garfan a wnaeth curo'r Dreigiau dros y Sul wrth iddyn nhw wynebu her y Gweilch yn Stadiwm Liberty ar Ddydd Calan.Casey Lauala, Robin Sowden-Taylor a Gary Powell yw'r tri sydd yn dod mewn i'r garfan, gyda Jamie Roberts a Martyn Williams yn cael eu gorffwys am y gêm.
Dyw garfan y Gweilch heb gael ei gyhoeddi eto, ond mae disgwyl bydd Shane Williams yn dychwelyd i'r tîm yn sgil anaf. Mae yna bryderon i James Hook ac Alun Wyn Jones fodd bynnag - y ddau yn cael eu hanafu yn y frwydr leol yn erbyn y Scarlets.
Gleision: Ben Blair; Richard Mustoe, Casey Laulala, Tom Shanklin, Tom James; Sam Norton-Knight, Richie Rees; Gethin Jenkins (capt), Rhys Thomas, Gary Powell, Bradley Davies, Scott Morgan, Robin Sowden Taylor, Xavier Rush.
Eilyddion: Gareth Williams, Taufa'au Filise, Paul Tito, Ben White, Gareth Cooper, Ceri Sweeney, Gareth Thomas.
-
Gleision 42 - 13 Dreigiau
Cynghrair Magners
Roedd hi'n gêm o ddau hanner yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r Gleision yn trechu'r Dreigiau mewn brwydr danllyd dros y Sul.Y Dreigiau oedd yn domineiddio'r hanner gyntaf a nhw oedd ar y brig ar yr egwyl 13 - 3, diolch i gais gan yr asgellwr Aled Brew, gôl adlam Jason Tovey a chicio James Arlidge.
Ond roedd hi'n stori arall ar ddechrau'r ail hanner, gyda seren y gêm, Richie Rees, yn sbarduno'r Gleision i fuddugoliaeth swmpus. Sicrhawyd pwynt bonws i'r tîm gartref wrth i Rees, Bradley Davies, Richard Mustoe, Tom Shanklin a Tom James croesi'r llinell.
Her nesaf y Gleision fydd yn Stadiwm y Liberty yn erbyn y Gweilch, a fu hefyd yn fuddugol yn erbyn y Scarlets dros yr Ŵyl, ar ddydd Calan, gyda'r cyfan yn fyw ar S4C.
-
Gleision v Dreigiau
Cynghrair Magners
Y Dreigiau fydd yn wynebu’r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar brynhawn Sul am ei hymweliad cyntaf nhw i stadiwm newydd y brifddinas.Mae’r cefnwr Jason Tovey a Pat Palmer yn dychwelyd i garfan y Dreigiau, tra bod y mewnwr Gareth Williams, sydd wedi ymuno â’r clwb o Harlequins, yn disgwyl chwarae am y tro cyntaf dros ei glwb newydd yn y darbi.
Capten yr ymwelwyr fydd Tom Willis yn yr wythnos lle mae Prif Hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner, wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd i barhau i hyfforddi’r garfan tan Mai 2012.
Ar hyn o bryd, mae’r Dreigiau yn eistedd yn y bedwerydd safle yng Nghynghrair Magners gyda 22 o bwyntiau, tra bod y Gleision yn agosach at waelod y Gynghrair gyda 14 pwynt.
Dreigiau
Jason Tovey, Aled Brew, Will Harries, Richard Fussell, Matthew Watkins, Rhodri Gomer-Davies, Tom Riley, James Arlidge, Danny Lee, James Leadbeater, Gareth Williams; Steve Jones, Tom Willis (C), Hugh Gustafson, Pat Palmer, Peter Bracken, Hoani MacDonald, Robert Sidoli, Joe Bearman, Gavin Thomas, Grant Webb, Lewis Evans, Adam Jones. -
Gwyn Jones
Cwpan Heineken
Rydyn ni wedi cyrraedd y pwynt od yn y Cwpan Heineken lle mae timau yn wynebu ei gilydd dwywaith mewn wythnos. Dyw’r anghysondeb yma erioed wedi gwneud synnwyr i mi ond mae’n rhoi tystiolaeth o bwysigrwydd mantais gartref.Dyw hynny ddim cysur i Lanelli yn dilyn eu crasfa o flaen torf siomedig ym Mharc y Scarlets. Mae'n beryg y bydd eu taith i Ddulyn yn waeth fyth os nad allan nhw chwarae gystal ag oedden nhw wrth guro Gwyddelod Llundain nid yn bell yn ôl.
Fe chwaraeodd y Gleision y cyntaf o'r ddwy gêm adref hefyd gan gael canlyniad y penwythnos, o bersbectif Cymreig, wedi iddyn nhw guro Toulouse.
Roedd hynny o ganlyniad i ddisgyblaeth a threfn yr amddiffyn yn ogystal â bod yn effeithiol yn ardal y dacl. Fe wnaeth y Gleision ailadrodd yr un gamp a'r llynedd wrth iddyn nhw stopio'r Ffrancwyr rhag sgorio'r un cais a rhwystro chwarae llyfn Toulouse.
Dyw'r fantais o chwarae gartref erioed wedi cael ei ddirnad gan bobl sy'n dadansoddi'r gêm. Mae'r effeithiau yn ddyledus i'r cymysgedd o ffactorau seicolegol sy'n dylanwadu'r chwaraewyr a'r dyfarnwr.
O leiaf fod y Gleision yn gwybod beth sy'n dod ac felly wedi cael digon o amser i baratoi'n feddyliol - a byddan nhw'n cael eu hatgoffa o natur fympwyol timau Ffrengig gan berfformiad Biarritz yn erbyn y Dreigiau ddydd Sul diwethaf.
Fe wnaeth e'n nharo fi fod y Dreigiau yno i geisio cyfyngu chwarae'r Ffrancwyr. Roedden nhw'n gobeithio am bwynt bonws, ond fe fydden nhw wedi setlo am golled o ugain pwynt erbyn y diwedd. Fe gawson nhw grasfa ym mhob agwedd o'r gêm.
Ond dyma beth sy'n hyfryd am y gystadleuaeth, mae gan y Dreigiau gyfle i gywiro'r camgymeriadau hynny bum niwrnod yn ddiweddarach. Bydd nos Wener yn hollol wahanol, ac os fydd y cefnogwyr lleol yno yn eu heidiau fe alla'i weld Biarritz yn gadel Gwent wedi colli.
Gan fod y Dreigiau wedi dangos fod ceisio cyfyngu'r golled yn agwedd gwangalon iawn, mae'n siom darllen fod y Gleision yn bwriadu mynd i Toulouse yn gobeithio am bwynt bonws.
Os oes tîm yn mynd i Ffrainc gan obeithio colli o saith pwynt, mae'n debygol y byddan nhw'n colli o dipyn mwy. Mae'n rhaid i'r Gleision deithio i Dde Ffrainc gyda dim byd ond buddugoliaeth yn eu meddyliau.
Does dim peryg y byddai Munster neu Leinster yn crybwyll y syniad fod pwynt bonws yn ddigon da. Dangoswch gollwr da i mi ac fe wna i ddangos collwr i chi.
Wrth feddwl am hynny, beth fydd Viadana yn gobeithio amdano yn Stadiwm Liberty? Roedd y Gweilch yn ddidostur yn Yr Eidal ac fe fyddan nhw'r un mor glinigol tro yma hefyd. Fe ddylai hynny osod diweddglo cyffroes yn y grŵp ym mis Ionawr rhwng Y Gweilch, Teigrod Caerlŷr a Clermont Auvergne.
-
Rhanbarthau Cymru yn curo'r Gwyddelod
Cynghrair Magners
Roedd y Gweilch a'r Dreigiau yn dathlu buddugoliaethau dros y penwythnos er gwaethaf y tywydd garw.Fe gurodd Y Gweilch bencampwyr Cynghrair Magners, Munster, yn Stadiwm y Liberty abrynhawn Sadwrn 19 - 14. Munster oedd ar y blaen ar yr hanner gyda chais gosb, ond roedd cicio perffaith Dan Biggar yn gyfrifol am gadw'r Gweilch o fewn pwynt. Croesodd yr asgellwr, Tommy Bowe, yn yr ail hanner i ymestyn y sgôr i'r Gweilch.
Y Dreigiau oedd ar y brig drwy gydol y frwydr yn erbyn Leinster yn Rodney Parade gydag Aled Brew yn croesi am gais cyntaf clinigol. Llwyddodd Jason Arlidge, Wayne Evans a Richard Fussell hefyd i groesi'r llinell gais yn ystod y gêm gan godi'r sgôr i 30 - 14 a sicrhau pwynt bonws i'r tîm cartref. Cafodd Simon Keogh cais gysur i Leinster, ond roedd y garfan yn gweld eisiau chwaraewyr rhyngwladol Iwerddon yn dilyn gemau'r hydref.
-
Y Gweilch v Munster
Cynghrair Magners
Bydd y Gweilch heb eu hasgellwr rhyngwladol Shane Williams ar gyfer y gêm yn erbyn Munster yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn. Mae'r gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi, S4C, 18:10.Cafodd Shane ei anafu wrth chwarae i Gymru yn erbyn Awstralia wythnos diwethaf a bydd yn ymuno â Mike Phillips, Lee Byrne ac Adam Jones ar yr ystlys.
Y tro diwethaf i'r ddau dîm chwarae yn erbyn ei gilydd cafodd y Gweilch grasfa o 36-10 nôl ym mis Mai - y noson yr enillodd Munster y Gynghrair.
Munster hefydd sydd wedi ennill yn y pedwar cyfarfod diwethaf rhwng y ddau dîm ym mhob cystadleuaeth.
-
Dreigiau v Leinster
Cynghrair Magners
Bydd capten y Dreigiau, Tom Willis, a Joe Bearman yn holliach ar gyfer y frwydr yn erbyn Leinster yng Nghynghrair Magners ddydd Sul. Mae'r gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi, S4C, 16:45.Bydd y Dreigiau hefyd yn croesawu Dan Lydiate a Luke Charteris yn ôl i'r garfan yn dilyn eu cyfnod gyda thîm rhyngwladol Cymru.
Fe fydd hi'n frwydr anodd i'r Dreigiau yn erbyn y Gwyddelod sydd ar frig y gynghrair ar hyn o bryd, ond mae Leinster wedi penderfynu gorffwys eu chwaraewyr rhyngwladol sydd wedi bod yn chwarae yn ystod tymor yr hydref.
Mae hyn y golygu eu bod nhw heb rhai o'i chwaraewyr mwyaf dylanwadol yn Brian O'Driscoll, Jamie Heaslip a Gordon D'Arcy.
Y tîm oedd yn chwarae adref sydd wedi ennill yn y pum cyfarfod diwethaf rhwng y ddau.
Carfan y Dreigiau
Aled Brew, Danny Lee, James Arlidge, Jason Tovey, Martyn Thomas, Rhodri Gomer Davies, Richard Fussell, Tom Riley, Wayne Evans, Will Harries, Adam Jones, Dan Lydiate, Duane Goodfield, Gavin Thomas, Grant Webb, Hoani MacDonald, Hugh Gustafson, Joe Bearman, Luke Charteris (capt), Pat Palmer, Peter Bracken, Rob Sidoli, Steve Jones, Tom Willis.
Carfan Leinster
Mark Flanagan, John Fogarty, Trevor Hogan, Bernard Jackman, Stephen Keogh, Ronan McCormack, Jack McGrath, Malcolm O'Kelly, Mike Ross, Rhys Ruddock, Dominic Ryan, Paul Ryan, Richardt Strauss, Devin Toner, CJ van der Linde, Shaun Berne, Girvan Dempsey, Chris Keane, David Kearney, Michael Keating, Simon Keogh, Ian Madigan, Fergus McFadden, Ian McKinley, Niall Morris, Eoin O'Malley.
-
Gleision 3 - 31 Awstralia
Gêm gyfeillgarAwstralia yn curo'r Gleision
Noson Awstralia oedd hi yn Stadiwm Dinas Caerdydd wrth i bedwar cais sicrhau buddugoliaeth yn erbyn y Gleision - y tro cyntaf i'r Wallabies guro tîm o Gaerdydd ers dros ganrif.Ryan Cross, Kurtley Beale (2) a Luke Morahan oedd y chwaraewyr i groesi'r llinell gais i'r ymwelwyr gan ddanfon neges glir i Gymru cyn y frwydr penwythnos hon yn Stadiwm y Mileniwm.
Daeth unig sgôr y Gleision o gic gosb gan Ben Blair yn ystod munudau agoriadol y gêm. Er i Gareth Cooper a Sam Warbuton gael eu rhyddhau o garfan Cymru i wynebu'r Wallabies, roedd y Gleision yn gweld eisiau Jamie Roberts, Martyn Williams, Gethin Jenkins a Leigh Halfpenny sydd gyda'r tîm rhyngwladol o hyd.
-
Timau Gleision v Awstralia
Gêm gyfeillgarCymru yn rhyddhau Cooper a Warburton
Mae Gareth Cooper a Sam Warburton wedi'u henwi yng ngharfan y Gleision i wynebu Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar ôl i Warren Gatland rhyddhau'r ddau o garfan Cymru.Mae'n edrych yn fwy tebygol mai Dwayne Peel fydd yn dechrau fel mewnwr Cymru pan fydd Awstralia yn herio Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ar nos Sadwrn. Martin Roberts, mewnwr y Scarlets, yw'r opsiwn arall i Gymru.
Bydd Paul Tito yn dechrau gêm y Gleision ymysg yr eilyddion, a Xavier Rush sy'n cymryd yr awenau fel capten.
Ryan Cross yw'r unig chwaraewr yng ngharfan Awstralia i gadw ei le yn y tîm yn sgil y golled yn Murrayfield dros y penwythnos pan gurodd Yr Alban y Wallabies 9 - 8.
Gleision: Ben Blair; Richard Mustoe; Gareth Thomas; Dafydd Hewitt; Chris Czekaj; Sam Norton-Knight; Gareth Cooper; Taufa'au Filise; Gareth Williams; Gary Powell; Deiniol Jones; Scott Morgan; Sam Warburton; Ben White; Xavier Rush (capt).
Eilyddion: T Rhys Thomas; Sam Hobbs; Paul Tito; Robin Sowden-Taylor; Richie Rees; Ceri Sweeney; Gavin Evans.
Awstralia: James O'Connor; Lachie Turner; Ryan Cross; Tyrone Smith; Kurtley Beale; Matt Toomua; Luke Burgess; Pekahou Cowan; Tatafu Polota-Nau; Sekope Kepu; Dave Dennis; Dean Mumm (capt); Mitchell Chapman; Matt Hodgson; Richard Brown.
Eilyddion: Salesi Ma'afu; Matt Dunning; Mark Chisholm; George Smith; Richard Kingi; Quade Cooper; Luke Morahan.
-
Gleision v Awstralia
Gêm gyfeillgar
Am y tro cyntaf yn hanes rhanbarth y Gleision, bydd tîm y brifddinas yn croesawu gwrthwynebwyr rhyngwladol i Stadiwm Dinas Caerdydd.Awstralia, sydd ar daith yn hemisffer y gogledd, fydd yn dod wyneb-yn-wyneb â charfan Dai Young. Y Gleision fydd gwrthwynebwyr olaf Awstralia cyn i'r ymwelwyr herio carfan ryngwladol Cymru yn Stadiwm y Mileniwm y penwythnos nesaf.
Mae gan glybiau rygbi'r brifddinas hanes llewyrchus yn erbyn Awstralia. Mae Clwb Rygbi Caerdydd wedi curo'r Wallabies ar chwe achlysur yn y gorffennol gyda'r mwyaf diweddar ym 1984. Roedd hon yn daith lwyddiannus iawn i Awstralia ac enillon nhw gemau yn erbyn timau rhyngwladol Cymru, Iwerddon, Lloegr a'r Alban.
Meddai Huw Llywelyn Davies fydd yn sylwebu ar y gêm, "Mae'r achlysur yn un arbennig iawn i fechgyn y Gleision. Mae'n rhoi cyfle iddynt brofi'r wefr o chwarae ar lefel ryngwladol. Er mai tîm y Gleision yw hwn - ac nid Caerdydd - mae pawb yn ymwybodol o record falch tîm y brifddinas yn erbyn Awstralia yn y gorffennol.
"Mae hefyd yn beth braf i dimau teithiol blasu ambell gêm sydd ddim yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol. Mae'n ailgydio yn rhamant gemau'r gorffennol yn erbyn timau o dramor."
-
Penwythnos gwael yng Nghwpan LV
Cwpan LV
Fe gollodd y Gweilch eu hail gêm yn erbyn Caerfaddon yng Nghwpan LV wedi i'r tîm cartref gymryd mantais o dîm gwan rhanbarth Cymru mewn tywydd erchyll.Er bod y Gweilch ar yr hanner, 3 -6, fe wnaethon nhw ildio tair cic cosb a dwy gais yn yr ail hanner. Doedd un cais gan Justin Tipuric i'r Gweilch ddim yn ddigon i ennill pwynt bonws sy'n golygu nad oes gan y Gweilch llawer o obaith i symud ymlaen yn y gystadleuaeth. Y sgôr terfynol oedd 21 - 11.
Mewn gemau eraill yng Nghwpan LV dros y penwythnos, fe gollodd y Dreigiau 29 - 20 yng Nghaerlŷr ac fe gollodd y Gleision o drwch blewyn 11 - 12 yn erbyn Gwyddelod Llundain yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Ond roedd newydd da i'r Scarlets wrth i dîm Nigel Davies sgorio pedwar cais yn erbyn Worcester ym Mharc y Scarlets. Y sgôr terfynol oedd 32 - 17.
-
Caerfaddon v Gweilch
Cwpan LV
Mae'r Gweilch wedi gorfod gwneud llawer o newidiadau ar gyfer eu hail gêm yng Nghwpan LV y penwythnos hwn gan fod 29 o'u chwaraewyr yn absennol oherwydd anafiadau neu ymrwymiadau rhyngwladol.Wedi iddyn nhw greu argraff wythnos diwethaf yn erbyn Northampton, mae Justin Tipuric a James King yn dechrau am y tro cyntaf i'r rhanbarth. Mae cyn chwaraewr y Gleision, James Goode, a ymunodd â'r Gweilch yn gynharach yn yr wythnos, hefyd yn chwarae ei gêm gyntaf yn yr ail-rheng.
Mae Will Taylor a Hanno Dirksen hefyd yn gobeithio chwarae eu gêm gyntaf wrth i'r ddau ddechrau ar y fainc.
Mae'n debygol fydd chwaraewr newydd Caerfaddon, Luke Watson, yn dechrau ei gêm gyntaf i'r tîm o Loegr gan fod Danny Grewcock wedi cael ei ohirio am bythefnos.
Carfan y Gweilch: Barry Davies, Nicky Thomas, Sonny Parker, Andrew Bishop, Ashley Beck, Gareth Owen, Liam Davies; Ryan Bevington, Ed Shervington, Cai Griffiths, James King, James Goode, Jerry Collins (Capt), Justin Tipuric, Tom Smith, Richard Hibbard, Will Taylor, Ross Davies, Richard Kelly, Steve Tandy, Rhys Webb, Matthew Jarvis, Hanno Dirksen
-
Y Dreigiau'n sicrhau buddugoliaeth er gwaetha'r amodau anodd
Cynghrair Magners
Er y gwynt a'r glaw, fe enillodd y Dreigiau yn erbyn Caeredin yn Murrayfield gan godi'r tîm o Went i'r chweched safle yng Nghynghrair Magners. Fe wnaeth cicio di-fai James Arlidge sicrhau buddugoliaeth o 8-9 i garfan Paul Turner er i Andrew Turnbull sgorio cais hwyr i Gaeredin.Hwn oedd buddugoliaeth gyntaf y Dreigiau oddi cartref y tymor hwn ac mae'r canlyniad yn siŵr o'u gosod mewn sefyllfa dda ar gyfer eu gêm yn erbyn Sale Sharks yng Nghwpan LV, a fydd yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C nos Wener, 6 Tachwedd.
Fe gollodd y Gleision 23 - 6 yn erbyn Leinster yn Nulun er eu hymdrechion gwrol. Roedd pencampwyr Cwpan Heineken yn rhy gryf i'r Gleision oedd heb deg chwaraewr rhyngwladol.
Gêm gyfartal gafodd y Gweilch ar noson wlyb yn Stadiwm Liberty gyda chicio Gareth Owen yn trosi pob un o'u pwyntiau.. Cafodd Owen gyfle i ennill y gêm i'r Gweilch ym munudau ola'r gêm gyda chic adlam ond fe fethodd.
Colli oedd hanes y Scarlets yn Galway wrth i Connacht guro 16-10.
-
Caeredin v Dreigiau
Cynghrair Magners
Bydd capten y Dreigiau, Tom Willis, yn gorfod gwylio o'r ochrau wrth i anaf ei gadw allan o'r garfan, gyda Steve Jones yn cymryd yr awenau yng Nghaeredin.Mae'r blaenwyr Luke Charteris a Dan Lydiate wedi ymuno â charfan ryngwladol Cymru, felly yn methu'r trip i'r Alban. Mae'n debyg i Paul Turner cael ei gais i i enwi Lydiate yn rhan o garfan y Dreigiau ei wrthod gan hyfforddwyr Cymru yn ystod yr wythnos.
Mae Pat Palmer, prop pen tynn newydd y Dreigiau, yn cael ei ymddangosiad cyntaf i'r ymwelwyr wrth i broblemau anafiadau'r Dreigiau yn y rheng flaen parhau.
Caeredin:
Chris Paterson, John Houston, Ben Cairns, Nick De Luca, Tim Visser, Phil Godman, Greig Laidlaw; Allan Jacobsen, Ross Ford, Geoff Cross, Steve Turnbull, Scott MacLeod, Scott Newlands, Alan MacDonald, Allister Hogg (capten)
Eilyddion: Andrew Kelly, Kyle Traynor, Craig Hamilton, Roddy Grant, Mike Blair, Mark Robertson, Steve Jones
Dreigiau:
Jason Tovey, Aled Brew, Tom Riley, Matther Watkins, Richard Fussell; James Arlidge, Wayne Evans; Hugh Gustafson, Steve Jones (capten) Patrick Palmer, Rob Sidoli, Adam Jones, Hoani Macdonald, Gavin Thomas, Grant Webb
Eilyddion: Duane Goodfield, Peter Bracken, James Harris, Toby Falatau, Martyn Thomas, Rhodri Gomer Davies, Danny Lee
-
Leinster v Gleision
Cynghrair Magners
Mis Mawrth 2004 oedd y tro diwethaf i'r Gleision guro Leinster yn Iwerddon, ac fe fydd hi'n sialens i garfan Dai Young geisio gwneud hynny eto'r penwythnos hwn. Bydd y gêm i'w weld yn fyw ar S4C, nos Sadwrn, 31 Hydref, 18:00.Mae'r Gleision heb ddeg o'u chwaraewyr rhyngwladol gan eu bod nhw'n paratoi cyn yr ornest yn erbyn y Crysau Duon wythnos nesa. Mae'r bachwr, Rhys Williams, a'r blaenasgellwr Ben White yn dechrau eu gemau cyntaf o'r tymor.
Hon fydd gem gartref olaf Leinster cyn y Nadolig, ac er eu bod nhw wedi colli yn erbyn Ulster wythnos diwethaf, mae'r ddau a sgoriodd ceisiau Leinster yn y gêm honno, Shaun Berne a Luke Fitzgerald, wedi eu cynnwys yn y garfan.
Mae Leinster wedi ennill wyth gem gartref yn olynol yng Nghynghrair Magners, ac mae'r Gleision wedi colli eu tair gêm oddi gartref ddiwethaf.
Carfan Leinster
Leo Cullen, John Fogarty, Cian Healy, Jamie Heaslip, Nathan Hines, Bernard Jackman, Stephen Keogh, Ronan McCormack, Kevin McLaughlin, Sean O'Brien, Malcolm O'Kelly, Mike Ross, Dominic Ryan, Devin Toner, CJ van der Linde, Shaun Berne, Gordon D'Arcy, Girvan Dempsey, Luke Fitzgerald, Shane Horgan, Chris Keane, Rob Kearney, Simon Keogh, Fergus McFadden, Isa Nacewa, Brian O'Driscoll, Eoin Reddan, Jonathan Sexton.
Carfan y Gleison
Ben Blair, Richard Mustoe, Gareth Thomas, Gavin Evans, Chris Czekaj, Sam Norton Knight, Richie Rees; Darren Morris, Rhys Williams, Taufa'ao Filise, Deiniol Jones, Paul Tito, Scott Morgan, Ben White, Xavier Rush, Rhys James, Gary Powell, James Down, Josh Navidi, Darren Allinson, Ceri Sweeney, Dafydd James.
-
S4C i ddarlledu rygbi Eingl-Gymreig
Eingl-GymreigBydd S4C yn darlledu nifer o gemau'r Gwpan LV= yn fyw ac yn egscliwsif, yn ogystal ag uchafbwyntiau estynedig.
Dros y ddau dymor nesaf, bydd y Sianel yn darlledu hyd at bum gêm fyw o'r rowndiau cynnar, tra bydd uchafbwyntiau o'r rowndiau cynderfynol a therfynol hefyd ar gael ym mis Mawrth 2010.
Bydd darllediadau S4C o'r gystadleuaeth yn cychwyn nos Wener, 6 Tachwedd, yn ystod penwythnos agoriadol y Gwpan Eingl-Gymreig o Barc Rodney, Casnewydd wrth i'r Dreigiau croesawi Sale. Bydd y gêm rhwng Caerfaddon a'r Gweilch o Faes Recreation yn cael ei ddarlledu dros ail benwythnos y gystadleuaeth. Bydd gemau byw eraill ar gael yn ystod penwythnosau 3 a 4 yn y Flwyddyn Newydd.
O ddydd Sadwrn, 7 Tachwedd, bydd Cyfres Invesco Perpetual yr Hydref i gyd i'w weld yn fyw ar S4C, gan ddechrau gyda'r frwydr rhwng Cymru a Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm. Bydd S4C hefyd yn darlledu'r gemau yn erbyn Samoa, Yr Ariannin ac Awstralia yn fyw.
Mae S4C yn darlledu gemau byw ac uchafbwyntiau'r Cwpan Heineken, Cynghrair Magners, Uwch Gynghrair Principality a'r Cwpan SWALEC drwy gydol y tymor.
Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, "Mae cael ychwanegu'r Gwpan Eingl-Gymreig ar ei newydd wedd i amserlen S4C yn cynnig hyd yn oed fwy o rygbi byw i'r gwylwyr ac mae'n cryfhau ymroddiad llwyr y Sianel i rygbi a chwaraeon."
Ychwanega Roger Lewis, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, "Mae yna draddodiad hir o gystadlu brwd rhwng Cymru a Lloegr, ymysg y brwydrau hynaf yn y byd, a bydd y gystadleuaeth unwaith eto yn cynnig cyffro i'r chwaraewyr, hyfforddwyr a'r cefnogwyr.
"Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cefnogi'r gystadleuaeth o'r cychwyn gyntaf ac mae'n newyddion gwych i gefnogwyr rygbi fod S4C yn mynd i ddarlledu gemau byw ac uchafbwyntiau o'r Cwpan LV= i wylwyr yng Nghymru a thu hwnt.
"Rydym yn edrych ymlaen at dymor arall o rygbi o'r safon gorau rhwng clybiau gorau Lloegr a'r rhanbarthau Cymraeg."
-
Darbi Gymraeg rhwng y Gleision a'r Gweilch
Cynghrair Magners
Bu dau gais ar ddechrau'r ddau hanner yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r Gleision yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Dinas Caerdydd dros y penwythnos.Sgoriodd Tom James y cais cyntaf ym munudau cyntaf y gêm wedi i Norton-Knight fesur cic berffaith draws cae. Yna yn nechrau'r ail hanner dangosodd Martyn Williams ei sgil wrth iddo groesi'r llinell fantais a galluogi Gareth Cooper i groesi.
Er i'r Gweilch ddod yn ôl gyda ceisiau gan Tommy Bowe a Jerry Collins, doedd hynny ddim yn ddigon i rwystro'r Gleision rhag ennill 20 -12.
Yn y gorllewin, chwe chic gosb gan Rhys Priestland wnaeth arwain y Scarlet i fuddugoliaeth o 18 - 3 yn erbyn y Dreigiau ym Mharc y Scarlets.
-
Darbi Gymraeg rhwng y Gleision a’r Gweilch
Cynghrair MagnersBydd ymweliad cyntaf y Gweilch i stadiwm newydd y Gleision, Stadiwm Dinas Caerdydd, i'w weld yn fyw ar S4C nos Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 6.30pm.
Mae Martyn Williams yn ymddangos yn y crys glas am y tro cyntaf y tymor hwn ar ôl iddo dderbyn anaf yn ystod taith y Llewod. Gethin Jenkins fydd yn arwain y Gleision wrth i Paul Tito ddechrau ar y fainc.
Mae yna anafiadau amlwg yng ngarfan y Gweilch, gyda Lee Byrne, Adam Jones a Mike Phillips ymysg y chwaraewyr sydd allan. Yr asgellwr Shane Williams sy'n gapten ar y Gweilch gyda Ryan Jones ymysg yr eilyddion.
Carfan y Gleision
Ben Blair; Leigh Halfpenny, Tom Shanklin, Jamie Roberts, Tom James; Sam Norton-Knight, Gareth Cooper; Gethin Jenkins (capt), Gareth Williams, Taufa'ao Filise, Deiniol Jones, Scott Morgan, Sam Warburton, Martyn Williams, Xavier Rush.
Eilyddion: T Rhys Thomas, Gary Powell, Paul Tito, Ben White, Richie Rees, Ceri Sweeney, Richard Mustoe.
Carfan y Gweilch
Barry Davies; Tommy Bowe, Sonny Parker, Andrew Bishop, Shane Williams (capt); Dan Biggar, Rhodri Wells; Duncan Jones, Richard Hibbard, Cai Griffiths, Ian Gough, Alun Wyn Jones, Jerry Collins, Steve Tandy, Tom Smith.
Eilyddion: Ed Shervington, Paul James, Jonathan Thomas, Filo Tiatia, Ryan Jones, James Hook, Nikki Walker.
-
Penwythnos da i ranbarthau Cymru
Cwpan Heineken
Roedd y Scarlets, Y Gweilch a'r Dreigiau yn dathlu dros y penwythnos, gyda buddugoliaethau yn erbyn Gwyddelod Llundain, Clermont Auvergne a Glasgow yn y Cwpan Heineken.Scarlets
Cic gosb gan Stephen Jones ym munudau olaf gêm y Scarlets yn erbyn Gwyddelod Llundain wnaeth sicrhau fuddugoliaeth arbennig iawn i'r Scarlets yn Stadiwm Madjeski, Reading.
Roedd hi'n gyfartal ar yr egwyl gyda'r ddau dîm gyda' 18 pwynt yr un, ond gyda chais gan y capten Mark Jones, a chais arbennig gan y cefnwr Daniel Evans, fe lwyddodd y Scarlets i drechu'r ffefrynnau are u tomen ei hunain.
Gweilch
Am yr ail benwythnos yn olynol, daeth y Gweilch o fewn drwch blewyn i golli yn y Cwpan Heineken er iddynt fod yn y blaen am ran fwyaf o'r gêm.
Roedd y Gweilch ar y blaen o 22 - 3 ar yr egwyl yn Stadiwm Liberty, ond daeth Clermont yn ôl yn yr ail hanner 25 - 24.
Sgoriodd y capten Ryan Jones, Tommy Bowe a Barry Davies y ceisiau i'r tîm cartref
Dreigiau
Adam Rhys Jones, Luke Charteris a Martyn Thomas oedd arwyr y noson ar Rodney Parade nos Wener wrth i'r Dreigiau guro Glasgow 22 - 14.
Ond yn dilyn y fuddugoliaeth, mae gan Paul Turner gur pen yn y rheng flaen wrth i Phil Price ymuno ag Ali McKenzie, Ben Castle a Nigel Hall ar y rhestr anafiadau.
Gleision
Daeth y Gleision o fewn drwch blewyn i guro Sale Sharks ac roedd Andy Powell yn anlwcus i gael ei gosbi gyda' charden felen.
Roedd y Gleision ar ei hôl hi am ran fwyaf o'r gêm, ond wedi ceisiau gan Andy Powell a Robin Sowden-Taylor, roedd fuddugoliaeth o fewn trwch blewyn. Ond Sale oedd yn dathlu ar ddiwedd y noson. Y sgôr terfynol - Sale 27 Gleision 26
-
Blog Gwyn Jones
Cwpan Heineken
Roedd penwythnos agoriadol Cwpan Heineken yn gymysgedd o ryddhad, rhwystredigaeth a boddhad i'r rhanbarthau mewn mesurau gwahanol. Dreigiau
Mae'r Dreigiau'n haeddu ailystyriaeth gen i. Mae eu hymdrech ac ysbryd wedi creu argraff arna'i erioed, ond mae hynny'n rhaganghenraid i bob tîm.
Fe oeddwn i o'r farn nad oes gan y Dreigiau seren yn y tîm, ac er eu bod nhw wastad yn perfformio'n ddewr, doeddwn i byth yn disgwyl iddyn nhw guro un o dimau da Lloegr neu Ffrainc.
Wel, mi oeddwn i'n anghywir. Mae ganddyn nhw ambell seren ddisglair yn eu plith, chwaraewyr sy'n gallu dylanwadu ar y gêm. Mae Bearman a Charteris yn arwain y ffordd gyda Dan Lydiate yn datblygu'n sydyn. Mae eu perfformiad yng Nghaerloyw wedi ennyn parch iddyn nhw, nid yn unig gen i, ond yn bwysicach, gan eu cyfoedion ar y cae.
Mae disgwyl iddyn nhw ennill yn erbyn Glasgow, a bydd rhaid iddyn nhw addasu i'r pwysau. Ond gyda'u hyder yn uchel, fe ddylen nhw fynd i'r gêm nos Wener yn barod i greu stŵr unwaith eto.
Y Gweilch
Bu anallu'r Gweilch i stopio Twelvetrees olygu fod mantais o ddeunaw pwynt wedi troi'n frwydr am gêm gyfartal yn erbyn y Teigrod.
Hwn oedd fersiwn rygbi o loosing draw mewn criced. Ond does dim angen i'r Gweilch ddigalonni. Rwy'n gwybod y dylen nhw fod wedi ennill. Rwy'n gwybod y dylen nhw wedi diogelu'r fantais. Rwy'n gwybod hefyd fod Caerlŷr yn chwarae gyda' hanner tîm - ond beth sy'n bwysig yw faint o bwyntiau sydd gan y timau ym mis Ionawr.
Pan fydd y ddau Jones yn ôl yn y rheng flaen, a phan fydd y sgrymiau'n stopio mynd tuag at yn ôl, fe ddylai'r Gweilch guro Caerlŷr adref i ennill y grŵp.
Bydd Clermont wedi sylwi ar y bartneriaeth naturiol sy'n tyfu rhwng Bigger a Hook. Mae'r ddau yn deall ei gilydd ac mae'r ymgyfnewid rhyngddyn nhw'n digwydd yn organic wrth i'r gêm ddatblygu. Ydyn ni wedi dod o hyd i safle gorau Hook? Rwy'n credu ein bod ni am nawr.
Gleision
Byddai trip i Sale yn un y byddai'r Gleision yn gallu ennill pe bai'r chwaraewyr i gyd yn iach. Y cwestiwn yw, oes gan y Gleision gymaint o ddyfnder ac sydd gan y Teigrod?
Hoffwn i weld y Gleision yn cael y bêl allan i'r canolwyr ychydig yn gynt fel eu bod yn defnyddio pŵer Jamie Roberts a Shanklin yn fwy effeithiol. Ond gan fod Rush a Powell eisiau rhedeg gyda'r bêl, dyw'r canolwyr bron byth yn cael cyfleon o'r cymal cyntaf. Fe fydd hi'n anodd iddyn nhw ennill gyda chyn lleied o adnoddau, ond ddim yn amhosib chwaith.
Scarlets
Mae'r Scarlets yn wynebu taith anodd iawn i wynebu Gwyddelod Llundain dros y penwythnos. Ond wedi iddyn nhw guro Brive, mae eu gobeithion o symud ymlaen o'r grŵp yn fyw o hyd.
Cawn weld os fydd eu hyder yr un mor gadarn wrth iddyn nhw ddychwelyd o Reading. Mae Gwyddelod Llundain yn dîm medrus a dyma'r sialens fwyaf mae blaenwyr ifanc y Scarlets wedi' gael y tymor hwn.
-
Nid da lle gellir gwell
Cwpan Heineken
Wedi penwythnos agoriadol cyffroes i bencampwriaeth rygbi fwyaf Ewrop, bydd rhai o ranbarthau Cymru'n gobeithio mynd cam ymhellach yn yr ail rownd penwythnos yma.Y Dreigiau fydd y rhanbarth gyntaf i chwarae pan fyddan nhw'n croesawu Glasgow i Rodney Parade. Mae'r Dreigiau wedi curo'r Albanwyr unwaith yn barod y tymor hwn mewn gêm gynghrair, ond mae Cwpan Heineken yn fater arall.
Hwyrach yn y noson bydd y Gleision yn teithio i ogledd Lloegr i herio Sale. Fe gaeth y Gleision fuddugoliaeth dda yn erbyn Harlequnis wythnos diwethaf, ond gyda'u capten dylanwadol Paul Tito, wedi' anafu, fe fydd hi'n daith anodd i'r Gleision.
Bydd uchafbwyntiau'r ddwy gêm i'w gweld ar Clwb Heineken nos Wener, 16 Hydref, 22:00.
Y diwrnod canlynol, dydd Sadwrn, 10 Hydref, bydd y Scarlets yn Llundain i wynebu Gwyddelod Llundain. Fe enillodd y Scarlets eu gêm gyntaf ers diwrnod cynta'r tymor yn erbyn Brive wythnos diwethaf ac fe fyddan nhw'n gobeithio mai dyna'r sbardun sydd ei angen arnyn nhw. Bydd uchafbwyntiau'r gêm i'w gweld nos Sadwrn am 21:30.
Roedd hi'n berfformiad clodwiw gan y Gweilch oddi cartref yn erbyn Caerlŷr ddydd Sul diwethaf, ac fe fyddan nhw'n croesawu Clermont Auvergne i Stadiwm Liberty'r wythnos yma. Ar ôl taflu mantais gyfforddus yn erbyn Caerlŷr fe fydd yn rhaid i'r Gweilch godi eu gêm unwaith eto. Bydd uchafbwyntiau'r gêm ar S4C nos Sul, 18 Hydref, 18:30.
Os fyddwch chi wedi methu cyffro'r penwythnos bydd uchafbwyntiau'r gemau i gyd ar Clwb Heineken nos Lun, 19 Hydref, 22:20.
Bydd holl raglenni Clwb Heineken hefyd ar gael i'w gweld ar Clic am saith diwrnod.
-
Fideos Cwpan Heineken
Cwpan HeinekenHoll geisiau timau rhanbarthol Cymru ym mhenwythnos agoriadol Cwpan Heineken.
Cwpan Heineken - Rwnd 1
-
Shane wedi siomi ar ôl gêm gyfartal Caerlŷr
Cwpan Heineken
Gêm y Gweilch yn erbyn Teigrod Caerlŷr sydd wedi denu'r penawdau yn ystod penwythnos agoriadol y Cwpan Heineken wrth i Gaerlŷr frwydro'n ôl i sicrhau gêm gyfartal.Meddai Shane Williams yn dilyn y perfformiad: "Ni'n eithaf siomedig ac mae yna amryw o bethau bydd yn rhaid i ni wella os ydyn ni am fynd ymlaen ac ennill y gwpan. Gêm gartref yn erbyn Clermont sydd gyda ni wythnos nesaf y a bydd yn rhaid inni adeiladu ar y perfformiad."
Colli o drwch blewyn oedd hanes y Dreigiau nos Wener wrth iddyn nhw deithio i Kingsholm i wynebu Caerloyw. Roedd y Dreigiau ar y brig tan y munudau olaf pan wnaeth gicio Nicky Robinson, gynt o'r Gleision, sicrhau buddugoliaeth o 19 - 17 i'r tîm cartref.
Roedd dydd Sadwrn yn ddiwrnod llwyddiannus dros ben i'r Gleision a'r Scarlets yn eu gemau cartref nhw. Leigh Halfpenny oedd arwr y Gleision wrth iddyn nhw drechu'r Harlequins 20 - 6 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Y Scarlets oedd y tîm gorau ar Barc y Scarlets wrth iddyn nhw drechu Brive, 24 - 12.
-
Blog Gwyn Jones
Cwpan Heineken
Mae rhagweld pa dimau sydd am fynd ymlaen i rowndiau terfynol Cwpan Heineken yn ddifyrrwch blynyddol i sylwebwyr a chefnogwyr fel ei gilydd.Yn hytrach nag edrych ymlaen rwy' wedi penderfynu edrych yn ôl, gan mai'r gorffennol yw'r proffwyd gorau yn ôl y son.
Wrth astudio'r pum Cwpan Heineken diwethaf rwy' wedi ymchwilio i'r nifer lleiaf o bwyntiau mae'r timau angen yn eu grŵp i gyrraedd y rowndiau terfynol.
Y nifer cyfartalog o bwyntiau sydd ei angen i ennill y grŵp yw 23, ond mae timau wedi cyrraedd y brig gyda chyn lleied ag 19 pwynt. Er hynny, er mwyn gwarantu lle yn yr wyth olaf mae'n well edrych ar y ddau safle i'r 'collwyr gorau'.
Dim ond unwaith yn pum tymor diwethaf mae cyfanswm o 21 pwynt wedi bod yn annigonol i ennill lle yn y rowndiau olaf.
Gyda'r ffeithiau yma wrth law mae'n hen bryd rhoi persbectif hanesyddol i'r gystadleuaeth eleni.
Dreigiau
Y peth cyntaf sy'n eich taro yw bod y Dreigiau a Glasgow yn yr un grŵp. Ond cyn i Gaerloyw a Biarritz gyffroi'n ormodol, mae'n rhaid eu rhybuddio fod y Dreigiau yn fwy o gystadleuaeth eleni nac yn y gorffennol.
Does ganddyn nhw mo'r talent i gystadlu am le ym mhen ucha'r grŵp ond o leia' fyddan nhw ddim yn cael eu hanwybyddu. Dyw un ar hugain o bwyntiau ddim yn realistig ond fe ddylai nhw guro ambell gêm gartref ac ennill ychydig o bwyntiau bonws.
Gleision
Mae uchafion y 27 o bwyntiau a gafodd y Gleision llynedd yn angof erbyn hyn. Os fyddai pob un o'r timau yn chwarae ar eu gorau, yna grŵp 5 gyda Toulouse, Harlequins a Sale fyddai'r anoddaf eleni. Ond dyw'r timau heb berfformio hyd yn hyn.
Mae'r Gleision yn edrych fel 'waltz' Joe Calzaghe - anrhefnus, di-siap ac yn dioddef o ddiffyg cywirdeb. Y tîm cyntaf i gyrraedd eu potensial fydd yn mynd a hi. Rwy'n credu fod gallu Toulouse i ennill gartref a sgorio ceisiau yn mynd i'w harwain nhw i ben y grŵp, ond bydd y gweddill yn eithaf agos hefyd.
Y Gweilch
Ai dyma'r flwyddyn y bydd Y Gweilch yn cyrraedd eu potensial? Yr un cwestiwn pob tymor, a'r un siom hefyd.
Yn ddiweddar, rwy' wedi gweld mwy o gydlynrwydd gan Y Gweilch. Mae Biggar yn rhoi siâp i'r tîm, mae Ryan Jones yn chwarae gyda mwy o frys ac mae Bowe yn y canol yn rhoi mwy o rym i'r cefnwyr.
Fy unig bryder yw bydd sgrym Caerlŷr yn profi'r Gweilch hyd y diwedd. Os allan nhw ddychwelyd gyda rhywbeth o Wellfield Road, yna mae siawns da y byddan nhw'n cyrraedd yr wyth olaf.
Scarlets
Mae'r Scarlets mewn sefyllfa annymunol o fod yn yr un grŵp â dau dîm sydd yn chwarae ar eu gorau. Mae Leinster a Gwyddelod Llundain yn llawn hyder tra bod y Scarlets yn methu datblygu ar ddechrau addawol i'r tymor.
Mae tîm y gorllewin wedi cyfnewid lle â'r Dreigiau fel y tîm sy'n cael cydymdeimlad yn hytrach na beirniadaeth pan maen nhw'n colli o 45 pwynt. Mae eu gobeithion o ennill 21 pwynt yn fain a dweud y lleia'.
-
Gareth Roberts
Cwpan Heineken
Mae'r Cwpan Heineken yn dychwelyd i S4C gyda thridiau cyffrous o rygbi o gystadleuaeth rygbi fwyaf Ewrop.Bydd tîm S4C - Gareth Roberts, Arthur Emyr a Gwyn Jones - yn cyflwyno holl uchafbwyntiau rhanbarthau Cymru dros y penwythnos, yn ogystal â'r gorau o'r gemau eraill yn y gystadleuaeth.
Ond sut hwyl gaiff rhanbarthau Cymru yn y gystadleuaeth eleni? Gareth Roberts sy'n rhoi ei farn.
Y Dreigiau
Y tymor hwn mae'r Dreigiau wedi chwarae rygbi cyffrous yn ei gemau Cynghrair Magners ac mae yna undod yn y garfan. Ond bydd yn rhaid iddyn nhw sicrhau'r pwyntiau yn eu gemau gartref.
Gwrthwynebwyr gyntaf y Dreigiau fydd Caerloyw yn Kingsholm ac mae yna lawer o newidiadau wedi cymryd lle yno dros yr haf. Mae yna hyfforddwr newydd wrth y llyw ac mae yna wynebau newydd yn y garfan, gan gynnwys y maswr Nicky Robinson a wnaeth chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y Gleision llynedd.
Y Gleision
Sale, Toulouse a Harlequins - dyma dri thîm sydd wedi cael dechrau da i'r tymor ac sy'n gryf o ran carfan. Mae'n grŵp anodd i fynd allan ohoni. Ar ôl gyrraedd y rownd gynderfynol llynedd, mae pawb yn gwybod beth i ddisgwyl wrthyn nhw felly bydd hi'n anodd efelychu'r un llwyddiant.
Rwy'n amau bydd y Gleision yn gweld eisiau Nicky Robinson yn safle allweddol y maswr. Mae'n arwain yn dda ac mae'n ddylanwadol iawn i'r garfan ac mae'n gallu gosod stamp ar y gêm. Dyw Norton-Knight na Sweeney heb gael yr un effaith yn y safle eleni.
Y Gweilch
Mae'n rhaid i'r Gweilch a'r Gleision wella i wneud yn dda'r tymor hwn. Mae gan y ddau grŵp anodd iawn ac fe fydd yn her iddyn nhw gyrraedd y rowndiau nesaf a sicrhau gêm gartref yn y chwarteri.
Mae'n anodd credu fod pwysau ar Scott Johnson ar ôl cyn lleied o gemau wrth y llyw. Fel y Gleision, mae yna dimau anodd gyda nhw i gystadlu yn erbyn - gan gynnwys Clermont a Chaerlŷr. Yr unig gysur sydd gyda nhw yw bod tîm o'r Eidal hefyd yn y grŵp lle bydd disgwyl i'r Gweilch sicrhau'r pwyntiau i gyd - gartref ac yn Yr Eidal.
Scarlets
Mae yna arwyddion fod pethau'n dechrau gwella yn Llanelli ac fe fydd hynny'n rhoi hwb seicolegol i'r garfan. Gyda'r Scarlets yn gwneud mor wael yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf, pwy a ŵyr beth i ddisgwyl eleni?
Dyw Brive ddim wedi chwarae yn y Cwpan Heineken ers rhai tymhorau felly bydd yn ddiddorol gweld beth sydd ganddyn nhw i gynnig.
-
Penwythnos cyffrous y Cwpan Heineken ar S4C
Cwpan Heineken
Mae'r Cwpan Heineken yn dychwelyd i S4C gyda thridiau cyffrous o rygbi o gystadleuaeth rygbi fwyaf Ewrop. Bydd tîm S4C - Gareth Roberts, Arthur Emyr a Gwyn Jones - yn cyflwyno holl uchafbwyntiau rhanbarthau Cymru dros y penwythnos, yn ogystal â'r gorau o'r gemau eraill yn y gystadleuaeth.
Meddai Gareth Roberts, "Y peth sy'n gwneud y gystadleuaeth yma mor arbennig yw'r ffaith ei bod hi mor anodd i ennill a does dim un tîm o Gymru wedi'i hennill hi yn y gorffennol. Mae'r safon mor uchel yn y gystadleuaeth hon ac mae pob un gêm yn cyfri ac mae'n brawf i'r chwaraewyr wrth iddyn nhw wynebu rhai o dimau gorau Ewrop."
Pecyn uchafbwyntiau eang
Y Dreigiau fydd y rhanbarth gyntaf i chwarae ar y llwyfan mawr yn erbyn Caerloyw, gyda'r uchafbwyntiau i'w gweld ar S4C nos Wener, 9 Hydref, 22:00.
Y diwrnod canlynol, ddydd Sadwrn, 10 Hydref, bydd y Scarlets yn herio'r Ffrancwyr, Brive, ym Mharc y Scarlets. Bydd uchafbwyntiau'r gêm yma a her y Gleision yn erbyn Harlequins i'w gweld nos Sadwrn am 21:30.
Daeth y Gleision yn agos iawn at gyrraedd y Rownd Derfynol y tymor diwethaf a bydd Dai Young yn gobeithio mynd un cam ymhellach y tymor hwn.
Dyw pethau ddim wedi bod yn iawn lawr yn Stadiwm Liberty hyd yn hyn a bydd Scott Johnson a'i dîm hyfforddi yn anelu at wella eu perfformiad yn y Cwpan Heineken. Bydd Y Gweilch yn gorfod teithio i Gaerlŷr ddydd Sul, 11 Hydref ac yn sicr o wynebu gêm gorfforol a thanllyd yn erbyn y Teigrod. Bydd uchafbwyntiau'r gêm ar S4C nos Sul am 19:00.
Os fyddwch chi wedi methu cyffro'r penwythnos bydd uchafbwyntiau'r gemau i gyd ar Clwb Heineken nos Lun, 12 Hydref, 22:00.
-
Penwythnos cymysg i ranbarthau Cymru
Cynghrair Magners
Roedd hi'n benwythnos cymysg arall i ranbarthau Cymru yng Nghynghrair Magners. Fe wnaeth y Dreigiau argraff unwaith eto wrth guro Connacht, 23 - 10, adref yn Rodney Parade. Fe sgoriodd James Harris a Joe Bearman y ceisiau i'r Dreigiau.Ond roedd hi'n golled arall i'r Gleision yn Stadiwm Dinas Caerdydd- eu pedwerydd colled yn y gynghrair y tymor hwn. Dominyddodd Glasgow drwy gydol y gêm wrth i Thom Evans a Johnnie Beattie groesi i'r ymwelwyr. Sgoriodd Sam Warburton unig gais y Gleision yn yr ail hanner.
Mawn gemau eraill fe gafodd Y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus wrth iddyn nhw guro Caeredin, 31 - 10, yn Stadiwm Liberty. Fe gollodd y Scarlets 24 - 24 yn Ulster, ac maen nhw nawr yn y nawfed safle, un tu ôl i'r Gleision.
-
Gleision v Glasgow - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair Magners
Bydd llai o bwysau ar y Gleision wrth iddyn nhw groesawu Glasgow i'r brifddinas ddydd Sadwrn yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf y tymor hwn yng Nghynghrair Magners penwythnos diwethaf. Bydd y gêm i'w weld yn fyw ar S4C, dydd Sadwrn, 3 Hydref, 18:20.Ond mae'r rheng-ôl yn achosi poendod i Dai Young gyda Xavier Rush a Maama Molitika yn dioddef o anafiadau. Yn ôl straeon diweddar, mae Young a'i dîm hyfforddi yn edrych am chwaraewr newydd i leihau'r pwysau.
Bu'n rhaid i Glasgow ohirio cyhoeddi ei garfan nhw ar gyfer y gêm ar ôl i ran fwyaf y garfan dioddef o firws stumog.
Carfan y Gleision
Ben Blair, Richard Mustoe, Tom Shanklin, Gavin Evans, Gareth Thomas, Sam Norton-Knight, Gareth Cooper, John Yapp, Gareth Williams, Gary Powell, Deiniol Jones, Paul Tito, Sam Warburton, Robin Sowden-Taylor, Andy Powell, Darren Morris, Rhys Williams, Bradley Davies, Scott Morgan, Richie Rees / Darren Allinson, Ceri Sweeney, Leigh Halfpenny
Carfan y Glasgow
Bernardo Stortoni, Rob Dewey, Dave McCall, Graeme Morrison, Thom Evans, Dan Parks, Chris Cusiter, Jon Welsh, Dougie Hall, Moray Low, Tim Barker, Alastair Kellock, Richie Vernon, John Barclay, Johnnie Beattie, Pat MacArthur, Kevin Tkachuk, Dan Turner, Kelly Brown, Colin Gregor, Hefin O'Hare, DTH van der Merwe
-
Dreigiau v Connacht - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair Magners
Mae'r dreigiau yn wynebu argyfwng y safleoedd canol cae cyn i Connacht deithio i Rodney Parade ddydd Sadwrn. Bydd y gêm i'w weld yn fyw ar S4C, ddydd Sadwrn, 3 Hydref, 16:20.Mae cyn canolwr Cymru, Matthew Watkins yn dioddef o straen ar ei ochr tra'i bod hi'n amheus a fydd Ashley Smith a Rhodri Gomer Davies yn gallu chwarae. Mae capten y Dreigiau, Tom Willis, hefyd wedi methu gwella o anaf i'w goes mewn pryd.
Ond mae'r ail-reng, Luke Charteris yn ôl i arwain y Dreigiau wedi iddo wella o anaf i'w lygad.
Bydd Connacht heb Robbie Morris sydd wedi ei wahardd am dair wythnos na'r blaenasgellwr, Ray Ofisa sydd ag anaf.
Carfan Y Dreigiau
Wayne Evans, Jason Tovey, Aled Brew, Ashley Smith, Tom Riley, Richard Fussell, Martyn Thomas, Matthew Watkins, Shaun Connor, James Arlidge, Danny Lee, Steve Jones, Rob Sidoli, Dan Lydiate, Luke Charteris, Gavin Thomas, James Harris, Hugh Gustafson, Nigel Hall, Gethin Robinson, Adam Jones, Hoani MacDonald, Duane Goodfield, Joe Bearman.
Carfan Connacht
Liam Bibo, Andrew Browne, Fionn Carr, Sean Cronin, Gavin Duffy, Adrian Flavin, Jamie Hagan, Conor Higgins, Ian Keatley, Ronan Loughney, Keith Matthews, Mike McCarthy, Mike McComish, John Muldoon, Dermot Murphy, Frank Murphy, Troy Nathan, Mike Nikora, Johnny O'Connor, Conor O'Loughlin, Michael Swift, Niva Ta'auso, Brian Tuohy, Bernie Upton, Brett Wilkinson, Aidan Wynne.
-
Digon o ddrama yng Nghynghrair Magners
Cynghrair Magners
Er i'r Scarlets frwydro hyd y diwedd un fe lwyddodd y Gleision i ennill eu gem gynta'r tymor hwn yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Fe gurodd y Gleision o 19-15.Fe helpodd un cais gan y gŵr o Seland Newydd, Paul Tito, a chicio Ben Blair y Gleision i fynd ar y blaen 19-3. Ond croesodd y Scarlets ddwywaith mewn dwy funud gan olygu diwedd cyffroes i'r frwydr rhwng y dwyrain a'r gorllewin.
Cafodd y Dreigiau grasfa oddi cartref yn Cork gan ddeiliaid Cynghrair Magners, Munster. Er ei bod hi'n gyfartal 3 - 3 hanner amser, sicrhaodd tri chais gan Nick Williams ac un gan Doug Howlett fuddugoliaeth gyfforddus o 27 -3 i'r Gwyddelod.
Fe lwyddodd Y Gweilch i guro 16 - 26 yn erbyn Glasgow yn yr Alban, gyda chais unigol arbennig gan Tommy Bowe ac un arall gan Nikki Walker yn cipio'r fuddugoliaeth iddynt.
-
Munster v Dreigiau - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair Magners
Mae gan y Dreigiau daith anodd o'u blaenau i herio Munster yn Cork ddydd Sul gyda llawer o'u chwaraewyr wedi eu hanafu. Bydd y gêm i'w weld yn fyw ar Y Clwb Rygbi, 27 Medi, 16:55.Bydd y Dreigiau heb eu capten, Tom Willis, yr ail reng Luke Charteris a'r blaenasgellwr Gavin Thomas. Ond bydd Hoani MacDonald yn chwarae am y tro cynta'r tymor hwn.
Ond beth sy'n gwneud pethau'n anos i'r Dreigiau yw bod Munster wedi galw ar eu Llewod am y tro cynta'r tymor hwn. Maen nhw wedi enwi Paul O'Connell, Donncha O'Callaghan, Keith Earls, Ronan O'Gara a chanolwr De Affrica Jean de Villiers yn y garfan.
Ond wedi dechrau addawol i'r tymor sy'n cynnwys curo Glasgow oddi cartref mae ysbryd y tîm o Went yn gryf ac fe fyddan nhw'n gobeithio cipio buddugoliaeth allan yn Iwerddon.
Carfan Munster
M Horan, J Brugnaut, T Buckley, J Hayes, D Fogarty, D Varley, M O'Driscoll, P O'Connell, D O'Callaghan, D Ryan, A Quinlan, T O'Donnell, D Leamy, N Williams, J Coughlan, T O'Leary, T Morland, R O'Gara, J Manning, L Mafi, J de Villiers, B Murphy, D Hurley, K Earls, F Jones.
Dragons squad / Carfan y Dreigiau
Martyn Thomas; Aled Brew, Tom Riley, Ashley Smith, Richard Fussell; James Arlidge, Wayne Evans; Hugh Gustafson, Steve Jones, Nigel Hall, Adam Jones, Rob Sidoli, Dan Lydiate, James Harris, Joe Bearman, Duane Goodfield, Ali McKenzie, Gethin Robinson, Grant Webb, Hoani MacDonald, Shaun Connor, Danny Lee.
-
Gleision v Scarlets - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair MagnersBrwydr y Dwyrain a’r Gorllewin
Bydd canolwr y Gleision, Tom Shanklin, a bachwr y Scarlets, Matthew Rees, yn dychwelyd i Gynghrair Magners yn ystod brwydr y Dwyrain a'r Gorllewin ddydd Sadwrn. Bydd y gêm i'w weld yn fyw ar Y Clwb Rygbi, 26 Medi, 18:00.Nid yw Stephen Jones yn rhan o garfan y Scarlets sy'n ymweld â stadiwm newydd Dinas Caerdydd, ond bydd Tavis Knoyle, sydd yn dechrau ar y fainc, yn gobeithio y bydd yn cael yn cael ei ymddangosiad cystadleuol cyntaf i'r rhanbarth ar ôl symud o'r Gweilch dros yr haf.
Bydd y Gleision, sy'n chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf yn y Gynghrair y tymor hwn, yn gweld Norton-Knight yn dychwelyd i safle'r maswr, gyda Ceri Sweeney ar y fainc.
Carfan y Gleision
Ben Blair; Richard Mustoe, Tom Shanklin, Jamie Roberts, Gareth Thomas; Sam Norton-Knight, Richie Rees; John Yapp, T Rhys Thomas, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, Paul Tito, Maama Molitika, Robin Sowden-Taylor, Xavier Rush, Darren Morris, Gareth Williams, Deiniol Jones, Andy Powell, Gareth Cooper, Ceri Sweeney, Gavin Evans.
Carfan y Scarlets
Daniel Evans; Sean Lamont, Gareth Maule, Jonathan Davies, Mark Jones, Rhys Priestland, Martin Roberts; Iestyn Thomas, Ken Owens, Deacon Manu, Lou Reed, Dominic Day, Simon Easterby, Richie Pugh, David Lyons. Phil John, Matthew Rees, Vernon Cooper, Josh Turnbull, Tavis Knoyle, Dan Newton, Lee Williams.
-
Scarlets v Munster
Cynghrair Magners
Colli o drwch blewyn oedd hanes y Scarlets ddydd Sadwrn pan sgoriodd Munster gais yn y munudau olaf i gipio'r fuddugoliaeth 20 - 22 ym Mharc y Scarlets.Roedd y Scarlets yn dominyddu am y rhan fwyaf o'r gêm gyda ceisiau gan Deacon Manu a'r capten Mark Jones. Daeth Munster nôl gyda dau gais gan Denis Hurley, oedd yn cynnwys y cais olaf a gipiodd y fuddugoliaeth. Sgoriodd Toby Morland, mewnwr Munster ac Iwerddon, i'r ymwelwyr hefyd.
Sicrhaodd ceisiau gan James Arlidge, James Tovey, Aled Brew a'r capten Ashley Smith fuddugoliaeth gyfforddus i'r Dreigiau yn erbyn Glasgow yn Rodney Parade gan eu gyrru i'r ail safle yn y gynghrair.
Ond roedd hi'n benwythnos siomedig i ranbarthau eraill Cymru gyda'r Gweilch a'r Gleision yn colli. Dyw'r Gleision heb ennill gêm yng Nghynghrair Magners hyd yma eleni ac maen nhw ar waelod y tabl wedi iddyn nhw gael eu trechu 18 - 16 yn Connacht. Fe gollodd y Gweilch 11 - 18 yn erbyn Leinster yn Stadiwm Liberty.
-
Scarlets v Munster - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair MagnersBydd y Scarlets yn ail-alw Rhys Thomas ar gyfer y gêm gynghrair yn erbyn Munster. Cafodd y prop ei adael o'r tîm wythnos ddiwethaf yn dilyn defnydd o'r pen yn gêm gynta'r tymor.
Bydd deiliaid Cynghrair Magners, Munster, yn teithio i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn a bydd y gêm i'w gweld yn fyw ar Y Clwb Rygbi, 19 Medi, 18:00.
Wedi dechrau cymharol dda i'r tymor, bydd y Scarlets yn gobeithio manteisio ar y fuddugoliaeth adref a gawsant yn erbyn Leinster ar y penwythnos cyntaf. Ond mae hanes yn eu herbyn a Munster sydd wedi cipio buddugoliaeth yn saith gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm.
Cyrhaeddodd canolwr De Affrica, Jean de Villiers yn Munster ddydd Iau, ond ni fydd yn chwarae yn Llanelli. Bydd y Scarlets heb y Llewod Stephen Jones a Matthew Rees.
Mae Nigel Davies, hyfforddwr Llanelli, wedi pwysleisio y bydd yn rhaid i'w dîm wella eu disgyblaeth ar ôl i dri chwaraewr gael eu hel i'r gell gosb yn nwy gêm gynta'r tymor.
Carfan Munster
Danny Barnes, Felix Jones, Scott Deasy, Denis Hurley, Doug Howlett, Barry Murphy, Tom Gleeson, Lifeimi Mafi, Jeremy Manning, Toby Morland, Peter Stringer, Marcus Horan, Tony Buckley, Julian Brugnaut, John Hayes, Denis Fogarty, Damian Varley, Mick O'Driscoll, Donnacha Ryan, Alan Quinlan, Billy Holland, Tommy O'Donnell, Niall Ronan, Denis Leamy, James Coughlan.
Carfan y Scarlets
Daniel Evans, Sean Lamont, Gareth Maule, Jonathan Davies, Mark Jones, Rhys Priestland, Martin Roberts, Iestyn Thomas, Ken Owens, Rhys Thomas, Lou Reed, Dominic Day, Simon Easterby, Dafydd Jones, David Lyons. Phil John, Emyr Phillips, Deacon Manu, Vernon Cooper, Richie Pugh, Lee Williams, Dan Newton.
-
Huw Llywelyn Davies
Cynghrair Magners
Gyda dwy gêm eisoes wedi'i chwarae yng Nghynghrair Magners eleni, mae sylwebydd profiadol Y Clwb Rygbi, Huw Llywelyn Davies, yn rhoi ei farn ar berfformiadau'r pedwar rhanbarth hyd yma.Y Dreigiau
Rwy'n credu mae'r Dreigiau sy'n chwarae orau o'r holl ranbarthau hyd yn hyn. Mae carfan Paul Turner yn chwarae i'w potensial ac mae yna ymdrech onest iawn gan y chwaraewyr i gyd. Rydych chi'n gallu gweld fod yna ysbryd i'r tîm ar hyn o bryd, ac maen nhw'n chwarae fel uned, sy'n wrthgyferbyniad llwyr i'r hyn sy'n digwydd yn Stadiwm Liberty.
Y Gweilch
Y dasg fwyaf gan Scott Johnson yw sut mae asio'r unigolion disglair yn uned a dangos bod yna batrwm sefydlog i'r chwarae. Ond, rwy'n disgwyl iddyn nhw godi rhywfaint o stêm wrth i'r tymor mynd yn ei flaen.
Rwy'n disgwyl mwy o arweiniad a dylanwad gan y capten Ryan Jones ac rwy'n disgwyl gweld rhywun yn rheoli o'r cefn. Ar y foment mae James Hook yn cael trafferth rheoli o'r cefn. Pe bai hynny'n digwydd, bydd ganddyn nhw siawns da i gyrraedd y gemau ail-gyfle ar ddiwedd y tymor.
Y Gleision
Rwy dal i gredu fod y Gleision wedi gwneud camgymeriad mawr yn gadael Nicky Robinson i symud i Gaerloyw - roedd e'n allweddol i'w llwyddiant nhw'r tymor diwethaf. Mae'r garfan hefyd yn gweld eisiau bygythiad Gethin Jenkins yn y rheng-flaen ac mae angen cryfder a chyflymder Jamie Roberts yn y canol.
Y Scarlets
Dyw'r Scarlets ddim yn gwneud yn rhy ddrwg hyd yn hyn ond mae llawer o wendidau sydd angen eu gwirio. Mae diffyg pŵer a phresenoldeb yn y pump blaen a diffyg rheolaeth yn y cefn. Unwaith fydd Stephen Jones a Regan King yn dychwelyd i'r garfan, bydd cydbwysedd da rhwng profiad ac ieuenctid, gan fod Jonathan Davies a Daniel Evans yn edrych fel chwaraewyr addawol iawn.
Diffyg disgyblaeth yn chwarter olaf y gêm yn erbyn Glasgow oedd un o'r rhesymau dros golli'r gêm. Pan gafodd Simon Easterby ei anfon i'r gell cosb, roedd hi'n amhosib iddyn nhw sicrhau buddugoliaeth.
-
Penwythnos siomedig i ranbarthau Cymru
Cynghrair Magners
Dychwelodd Warren Gatland i Gymru, wedi gwyliau hir yn Seland Newydd, wythnos ddiwethaf. Fe ddaeth nôl mewn pryd i weld pedwar rhanbarth Cymru'n cael eu trechu yng Nghynghrair Magners dros y penwythnos.Nos Wener cafodd y Gleision eu maeddu gan Munster yn Thomond Park. Ar y dydd Sadwrn method y Gweilch gymryd mantais o chwarae adref yn Stadiwm Liberty gan golli i Ulster, ac fe gafodd Leinster fuddugoliaeth yn erbyn y Dreigiau yn Nulun. Roedd Glasgow'n rhy gryf i'r Scarlets yn Firhill Arena brynhawn ddydd Sul, gan gyflawni pedwar canlyniad siomedig i'r rhanbarthau.
Y gêm fyw nesa ar Y Clwb Rygbi fydd y Scarlets yn erbyn Munster yn fyw o Barc y Scarlets, nos Sadwrn, 19 Medi, 18:30.
-
Glasgow v Scarlets - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair MagnersBydd prop Cymru Rhys Thomas ar y fainc ar gyfer gêm oddi cartref y Scarlets yn erbyn Glasgow ddydd Sul. Mae hyn dilyn y cerdyn melyn dderbyniodd o yn erbyn Leinster ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn diwethaf. Cafodd ei glirio gan banel disgyblu yn gynharach yn yr wythnos am ddefnydd honedig o'i ben.
Mae'r Scarlets wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn y Gynghrair, ond heb ennill pedwar o'r bron ers tymor 2006/07. Wedi perfformiad cryf wythnos diwethaf, bydd yr hyfforddwr Nigel Davies yn gobeithio cadw momentwm wrth iddyn nhw deithio i'r gogledd.
Mae Glasgow wedi ennill eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn y Scarlets - ac wedi iddyn nhw drechu'r deiliaid Munster ar y penwythnos agoriadol - mae pethau'n edrych yn dda i'r Albanwyr.
Bydd y gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C, dydd Sul, 13 Medi, 16:55.
Carfan y Scarlets
Daniel Evans, Sean Lamont, Rob Higgitt, Jonathan Davies, Mark Jones, Rhys Priestland, Martin Roberts, Iestyn Thomas, Ken Owens, Deacon Manu, Lou Reed, Dominic Day, Dafydd Jones, Richie Pugh, David Lyons, Phil John, Emyr Phillips, Vernon Cooper, Simon Easterby, Lee Williams, Dan Newton, Gareth Maule.
Carfan Glasgow
Bernardo Stortoni, Rob Dewey, Peter Murchie, Graeme Morrison, Thom Evans, Dan Parks, Chris Cusiter, Jon Welsh, Dougie Hall, Moray Low, Tim Barker, Alastair Kellock, Kelly Brown, John Barclay, Johnnie Beattie, Pat MacArthur, Kevin Tkachuk, Dan Turner, Richie Vernon, Mark McMillan, Colin Gregor, Colin Shaw.
-
Cytundeb Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau
NewyddionMae URC a Rhanbarthau Cymru wedi arwyddo cytundeb fydd yn golygu sicrwydd ariannol ychwanegol i bob Rhanbarth, ac a fydd yn sicrhau fod rygbi yng Nghymru yn canolbwyntio ar recriwtio, cadw a dethol talent Cymreig yn y dyfodol.
Cyllid
Mae'r cytundeb yn golygu fod £6 miliwn ar gael i'w rannu rhwng y Rhanbarthau - codiad o £2.4 miliwn - gyda rhagor ar gael mewn cystadlaethau.
Carfannau
Bydd Rhanbarthau Cymru yn gorfod enwi carfan gydag o leiaf 17 chwaraewr, allan o'r 22 neu 23, sy'n gymwys i chwarae i Gymru ar gyfer pob gêm.
Rhyngwladol
Yn y dyfodol bydd tîm Cymru'n gallu chwarae hyd at 13 o gemau rhyngwladol, gyda'r cyfnod rhyddau chwaraewyr ar gyfer hyfforddiant hefyd yn gynwysedig.
-
Gweilch v Ulster - Rhagflas o'r gêm
Cynghrair Magners
Y penwythnos hwn bydd y Gweilch yn croesawu Ulster i Stadiwm Liberty yn eu gêm gartref gyntaf y tymor hwn. Bydd y gêm yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C, nos Sadwrn, 12 Medi, 18:00.Wythnos diwethaf, fe gollodd Ulster i'r Dreigiau yn Rodney Parade tra cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Connacht yn Galway.
Mae'n ymddangos yn dda i'r Gweilch gyda chyn chwaraewr Ulster, Tommy Bowe, yn ymuno a'i gyd Lewod, Mike Phillips a James Hook, yn y garfan. Bydd Ulster ar y llaw arall yn gorfod gwneud heb Ferris, Wallace a Trimble sydd gyda charfan ryngwladol Iwerddon.
-
Penwythnos agoriadol Cynghrair Magners
Cynghrair MagnersBu'n benwythnos agoriadol rhagorol i dri o ranbarthau Cymru wrth i'r Scarlets, y Dreigiau a'r Gweilch guro eu gemau yn erbyn tri o ranbarthau Iwerddon.
Cafodd cerflun o Ray Gravelle ei ddadorchuddio cyn gêm Llanelli ym Mharc y Scarlets nos Sadwrn - efallai bod hynny wedi ysbrydoli tîm y gorllewin i drechu Leinster oedd heb eu sêr - Brian O'Driscoll, Gordon D'Arcy a Jamie Heaslip.
Cafodd y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus yn Galway yn erbyn Connacht, tra maeddodd y Dreigiau Ulster ar Rodney Parade.
Fe fethodd y Gleision ei gwneud hi'n benwythnos perffaith i ranbarthau Cymru pan gollon nhw o un pwynt yn erbyn Caeredin yn eu stadiwm newydd nos Wener.
Y gêm fyw nesaf ar Y Clwb Rygbi fydd y Gweilch yn erbyn Ulster o Stadiwm Liberty, nos Sadwrn 12 Medi am 18:00.
-
Gwyn Jones sy'n rhoi ei farn ar obeithion timau Cymru yn y tymor newydd
Cynghrair MagnersBlog Gwyn Jones
Roedd 'na amser pan oedd y tymor rygbi'n dod i ben am yr haf ac yn gadael i chwaraeon eraill gael y sylw.Ond gyda chyffuriau, tynnu llygaid a Henson yn dynwared Lord Lucan - gwaed ffug a chynllwynio wedi tynnu'r gêm drwy'r baw a llaca. Diolch byth ein bod ni'n gallu dechrau siarad am rygbi nawr mae'r tymor newydd ar ei gwarthaf.
Gleision
Y Gleision oedd rhanbarth gorau Cymru'r tymor diwethaf gyda dau berfformiad gwych mewn dwy gystadleuaeth cwpan yn eu paratoi at symud i stadiwm newydd ros yr haf. Er hynny, mae'r gemau rhag-dymor yn awgrymu fod gan ddeiliaid Cwpan EDF dipyn o waith i'w wneud.
Rwy'n argyhoeddedig y byddan nhw'n gweld eisiau Nicky Robinson fyw nag oedden nhw'n rhagdybio. Safle'r maswr yw'r safle caletaf ar y cae, a llynedd fe lwyddodd Nicky i ryddau ei hun o'i orffennol brau ac anghyson, i fod yn ffigwr awdurdodol.
Mae 'na le i ofidio hefyd fod llawr o'r chwaraewyr hŷn yn…. wel, ychydig yn rhy hen.
Rwy'n credu y bydd hon yn dymor o drawsnewid i'r Gleision, ac fe fydd yn rhaid iddyn nhw ymladd yn galed i ennill eu lle yn y pedwar uchaf.
Y Gweilch
Ai hon yw'r flwyddyn y bydd y Gweilch yn cyflawni eu potensial? Maen nhw erbyn hyn wedi llenwi'r bwlch a gafodd ei adael gan Lyn Jones gyda dychweliad cariad y chwaraewyr, Scott Johnson. Mae'r dyn sy'n codi gwlith i lygaid y blaenwyr rhyngwladol caletaf yn ôl i wella anhwylder y Gweilch.
Bydd ei swydd hyfforddi gyntaf yn profi ei allu. Sut bynnag, dydw i erioed wedi cyfarfod chwaraewr sydd ddim yn hoffi ei ddulliau hyfforddi. Fe all y penodiad olygu fod darn olaf y jig-so yn ei le i'r clwb uchelgeisiol. Rwy'n disgwyl iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol trefn newydd play-off Cynghrair Magners.
Scarlets
Mae'r Scarlets angen blwyddyn fawreddog. Roedd y dorf bitw ym Mharc y Scarlets yn adlewyrchu eu perfformiad gwael yn ail hanner y flwyddyn. Doedd yr awyrgylch ddim yno o gwbl.
Drwy anafiadau a diffyg cyllid, cafodd y Scarlets eu gorfodi i waedu talent ifanc, ond bydd yn rhaid i'r potensial yna ddatblygu'n gyflym iawn er mwyn i'r tîm allu cystadlu ar bob lefel.
Mae Stephen Jones yn parhau i fod yn graig i'r tîm ac mae'n bosib y bydd ei awdurdod, yn dilyn taith arbennig i'r Llewod, yn ddigon i achub y clwb. Dwi'n rhagweld y bydd y Scarlets yn goroesi ac yn gorffen y tymor rhywle yng nghanol y tabl.
Dreigiau
Mae brwydr y tîm o Went yn erbyn anfanteision di-ri yn parhau. Fe fyddan nhw'n chwarae gyda balchder yn ôl eu harfer ac mae'n bosib y byddan nhw'n peri syndod i rai ar eu tir eu hunain. Ond maen nhw'n gwybod y bydd y tymor yn un anodd, ac mae'n debyg y byddan nhw'n gorffen yn agos at waelod y tabl.
Dyna sut wy'n gweld pethau nawr, ond fel pob tymor arall, fe fydd rhaid cymryd golwg arall o fewn y mis a dechrau o'r dechrau unwaith eto!
-
Ffeithiau Cynghrair Magners
Cynghrair Magners
Mae'r gystadleuaeth eleni yn argoeli i fod yn un o'r goreuon eto gyda chwaraewyr y Llewod Chris Cusiter a Nathan Hines, yn ogystal â mewnwr Cymru Gareth Cooper, yn ymuno a'r gynghrair.Hefyd yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth, mae arwr Seland Newydd Jerry "The Hitman" Collins yn ymuno gyda'r Gweilch, ac mae canolwr De Affrica Jean de Villiers yn ymuno a Munster ar ddiwedd cyfres y Tri Nations.
Yma rydym ni'n cymryd golwg ar rai o ystadegau'r gystadleuaeth ers i'r gynghrair Geltaidd gael ei ffurfio.
Pencampwyr Presennol 2008/09
Munster
Pencampwyr Blaenorol
2007/08
Leinster 2006/07
Gweilch 2005/06
Ulster 2004/05
Scarlets Llanelli 2002/03
Munster Beth mae rygbi Celtaidd wedi ei gyflawni ers 2005?
- Tair Camp Lawn a thair Pencampwriaeth Chwe gwlad - Cymru yn 2005 a 2008 ac Iwerddon yn 2009.
- Pump Goron Driphlyg yn olynol - Iwerddon yn 2006, 2007 a 2009 a Chymru'n 2005 a 2008.
- Tri chwaraewr y flwyddyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad - Martyn Williams yn 2005, Shane Williams yn 2008 a Brian O'Driscoll yn 2009.
- Chwaraewr y Flwyddyn IRB i Shane Williams yn 2008.
- Capten taith Y Llewod i Dde Affrica - Paul O'Connell.
- Chwaraewr y daith i'r Llewod yn Ne Affrica - Jamie Roberts.
- Pencampwriaeth IRB Saith y Byd i Gymru yn 2009.
- Tair Cwpan Heineken - Munster yn 2006 a 2008 a Leinster yn 2009.
- Llwyddiant Cwpan EDF Energy i'r Gweilch yn 2008 a'r Gleision yn 2009.
-
Scarlets v Leinster
Cynghrair Magners
Yn dilyn dwy grasfa gan Gaerfaddon mewn gemau cyfeillgar yn ddiweddar, bydd y Scarlets yn gobeithio cael dechrau gwell i'r tymor newydd yn eu gêm agoriadol yn erbyn Leinster yn fyw ar S4C nos Sadwrn, 5 Medi, 18:00.Y tro diwethaf i'r ddau dîm gyfarfod oedd yn Nulyn ym mis Mai pan gafodd y Scarlets eu syfrdanu wrth i Leinster sgorio saith cais yn erbyn un.
Ond gyda newydd-ddyfodiad profiadol fel yr asgellwr Sean Lamont a'r blaenasgellwr Richie Pugh dros yr haf, bydd hyfforddwr y Scarlets, Nigel Davies, yn gobeithio y byddant yn sefydlu eu hunain fel tîm anodd eu curo'r tymor hwn.
Carfan y Scarlets
Daniel Evans; Sean Lamont, Rob Higgitt, Jonathan Davies, Mark Jones (capt); Rhys Priestland, Martin Roberts; Iestyn Thomas, Ken Owens, Rhys Thomas, Lou Reed, Dominic Day, Simon Easterby, Richie Pugh, David Lyons, Phil John, Emyr Phillips, Deacon Manu, Vernon Cooper, Dafydd Jones, Lee Williams, Dan Newton.
Carfan Leinster
Leo Cullen, John Fogarty, Cian Healy, Bernard Jackman, Shane Jennings, Stephen Keogh, Ronan McCormack, Kevin McLaughlin, Sean O'Brien, Malcolm O'Kelly, Mike Ross, Devin Toner, Stan Wright. Shaun Berne, Girvan Dempsey, Shane Horgan, Chris Keane, Simon Keogh, Brendan Macken, Fergus McFadden, Niall Morris, Isa Nacewa, Paul O'Donohoe, Jonathan Sexton.
-
Tymor rygbi newydd ar S4C
Cynghrair Magners
Mae wedi bod yn haf prysur i gefnogwyr rygbi gyda thaith lwyddiannus Cymru i Ogledd America a thaith ryfeddol y Llewod i Dde Affrica. Ond y penwythnos hwn mae'r Cynghrair Magners yn ail-ddechrau - ac fe fydd S4C yn darlledu ei gêm fyw gyntaf o'r tymor wrth i'r Scarlets groesawu Leinster i Barc y Scarlets ddydd Sadwrn.
Y tîm wrth y llyw ar Y Clwb Rygbi fydd y cyflwynydd Gareth Roberts, gyda Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones yn sylwebu a Brynmor Williams yn dadansoddi'r chwarae.
Meddai Gareth Roberts: "Does dim amheuaeth bod y Cynghrair Magners yn codi o ran safon a statws bob tymor. Y llinyn mesur ar gyfer hyn yw'r Cwpan Heineken. Roedd tri o'r pedwar clwb yn y rownd derfynol y tymor diwethaf yn y Cynghrair Magners - sef Leinster, Munster a'r Gleision, a hynny o gofio bod goreuon Lloegr a Ffrainc yn y gystadleuaeth.
Y tymor hwn fe fydd y gystadleuaeth yn gartref i dri chapten prawf y Llewod a phedwar sydd wedi bod yn rhan o dimau buddugol y Tri Nations.
Bydd y Gleision, y Gweilch a'r Dreigiau hefyd yn chwarae ar y penwythnos agoriadol. Bydd y Gleision yn croesawu Caeredin i'w stadiwm newydd; y Gweilch yn teithio i Galway er mwyn herio Connacht; a bydd y Dreigiau'n chwarae ar eu tir eu hunain yn erbyn Ulster.
-
Cwpan Heineken 2009/10
Cwpan HeinekenCyhoeddi timau'r Cwpan Heineken 2009/10
Mae'r ERC wedi cyhoeddi grwpiau pencampwriaeth y Cwpan Heineken ar gyfer tymor nesaf mewn cynhadledd y wasg allan ym Mharis heddiw (Mawrth, 9 Mehefin).Leinster oedd pencampwyr y Gwpan tymor diwethaf wrth guro Caerlŷr yn Murrayfield. Tymor nesaf, fe fydd yn rhaid iddyn nhw drechu London Irish, Scarlets a Brive i sicrhau ei lle yn y chwarteri.
Grŵp 1
- Munster
- Perpignan
- Northampton Saints
- Benetton Treviso
Grŵp 2
- Biarritz Olympique Pays Basque
- Caerloyw
- Y Dreigiau
- Glasgow Warriors
Grŵp 3
- Teigrod Caerlŷr
- Y Gweilch
- ASM Clermont Auvergne
- Viadana
Grŵp 4
- Caerfaddon
- Stade Français Paris
- Ulster
- Caeredin
Grŵp 5
- Toulouse
- Gleision Caerdydd
- Sale Sharks
- Harlequins
Grŵp 6
- Leinster
- London Irish
- Scarlets
- Brive
-
Gleision Caerdydd v Caerlŷr - rhagflas
Cwpan HeinekenGwyn Jones
Rhoddodd y Gleision y perfformiad gorau erioed yn eu hanes yn erbyn Caerloyw yn y chwarteri - ac efallai'r perfformiad gorau erioed gan un o ranbarthau Cymru yn eu hanes byr.Doedd Caerloyw ddim wedi helpu eu hachos eu hunain o gwbl ond byddai'r ffordd y gwnaethon nhw drafod y bêl, creu onglau effeithiol a dangos clyfrwch meddwl, cyflymdra a chryfder wedi bod yn ddigon ar y diwrnod i guro tîm rhyngwladol hyd yn oed. Roedd yn un o'r dyddiau hynny pan wnaeth y cyfan dycio. Yn anaml iawn mae hynny'n digwydd.
Bydd Teigrod Caerlŷr yn gwylio tâp o'r gêm honno ac yn anwybyddu llawer o'r chwarae pert gan gymryd cysur mewn un digwyddiad, cais cosb o sgrym i Gaerloyw. Yn y sgrym mae gwendid y Gleision a dyna yw cryfder y Teigrod.
Gallwch ddisgwyl i Gaerlŷr roi digon o chwaraewyr yn ardal y dacl gan arafu pob ryc posibl a cheisio eu troi'n sgrymiau. Byddant yn troi pob opsiwn posibl yn sgrym. Gallwch ddisgwyl iddynt ddefnyddio'r bêl uchel gan obeithio y bydd y Gleision yn cam-drafod a byddant yn cicio i'r ystlys i osgoi gwrthymosod effeithiol y Gleision.
Bydd y Gleision yn hyderus y gallan nhw ennill y gêm beth bynnag fydd patrwm y chwarae. Mewn tair gêm wahanol, yn erbyn Northampton, Toulouse a Chaerloyw, maen nhw wedi chwarae mewn arddulliau gwahanol. Maen nhw wedi ennill pob un o'r tair gêm.
Rwyf hefyd yn credu bod y Gleision yn gallu ateb yr her. Mae yna ryw sicrwydd a hyder yn eu chwarae. Beth sydd wedi trawsnewid nhw'n dîm sy'n deall sut i ennill, mae'n anodd dweud. Ond maen nhw wedi dysgu gwersi.
Mae'r amser yn iawn i'w chwaraewyr nhw. Mae'r rheolau newydd yn eu siwtio ac mae yna deimlad o undod a brawdoliaeth yn y tîm. Dwi'n rhagweld buddugoliaeth galed i'r Gleision. Y wobr fydd y cyfle i greu hanes drwy guro Munster yn y ffeinal.
-
Bydd y Gweilch yn ymweld & chartref newydd y Scarlets ...
Cynghrair MagnersSadwrn 18 April
Y Clwb Rygbi
S4C, 17.10Bydd y Gweilch yn ymweld â chartref newydd y Scarlets am y tro cyntaf ar ddydd Sadwrn am gêm bwysig yn y Cynghrair Magners, yn dilyn siom y Cwpan Heineken penwythnos diwethaf. Cewch weld y gêm gyfan yn fyw o Barc y Scarlets gyda Gareth Roberts wrth y llyw a Huw Llywelyn Davies a chyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, yn cynnig sylwebaeth arbenigol. Bydd Brynmor Williams wrth law i ddadansoddi'r holl chwarae a Sarra Elgan yn siarad â'r chwaraewyr wrth yr ystlys. Gyda'r crysau cochion yn awyddus i wella ar eu perfformiadau diweddar a'r Gweilch yn edrych i leihau'r bwlch ar gopa'r Cynghrair Magners, dylai hon fod yn gêm gyffrous.
-
Rownd wyth olaf Cwpan Heineken - rhagflas
Cwpan HeinekenGwyn Jones
Mae'n amser i gnoi ewinedd yn y Cwpan Heineken ac mae gan Gymru ddau dîm sydd â'r gallu i gyrraedd y rownd nesaf. Rydym wedi dweud hyn sawl gwaith yn y gorffennol a'r broblem yw bod y timau wedi methu cyrraedd y nod er gwaethaf eu hymdrechion.Mae'n bosib gall hwn newid y tymor hwn gyda'r Gleision a'r Gweilch ar bapur o leiaf, yn ddigon da i gyrraedd y rownd gynderfynol.
Y Gleision
Mae yna garfan dda iawn yma ar y foment gyda chryfderau ym mhob safle. Dyma'r un garfan a chwaraeodd y tymor diwethaf, heblaw am Leigh Halfpenny, felly pam maen nhw i'w gweld yn wahanol t tymor hwn?
Rwy'n amau mai'r gwahaniaeth yn yr agwedd sydd wedi achosi'r gwelliant. Mae'r ochr fregus, a arferai ddod i'r amlwg yng ngemau allweddol y Gleision, yn enwedig y gemau oddi cartref, bellach wedi diflannu. Mae eu hagwedd nawr yn llawer mwy penderfynol.
Y tro hwn, mae'r Gleision wedi ennill allan yn Biarritz ac yn Kingsholm yn erbyn Caerloyw. Yn y ddwy gêm yna, doeddwn nhw ddim yn edrych fel eu bod am golli, tra yn y gorffennol, doeddwn ddim yn edrych fel tîm a oedd yn debyg o ennill.
Er gwaethaf hynny, mae gen i ddau bryder am y Gleision. Yn gyntaf, mae'r sgrym ac yn benodol y prop pen tynn yn wendid posib. Mae timau sy'n dda yn y sgrym wedi dinistrio nhw ar adegau. Y llall yw'r mewnwr. Mae Jason Spice yn chwaraewr sydd weithiau yn gallu colli rheolaeth ar bethau. Bydd yn rhaid i rif 3 a 9 fod ar eu gorau ddydd Sadwrn.
Y Gweilch
Mae'n anodd gwybod lle i ddechrau gyda'r Gweilch. Does neb yn cwestiynu talentau unigol y chwaraewyr a'r ysfa i lwyddo. Mae ymrwymiad y bechgyn yn ddiguro fel arfer ac mae'r awch i lwyddo yn amlwg yn ystod y gemau mawr. Ond faint o weithiau rydyn ni'n dweud hynny yn y gorffennol?
Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r amddiffyn blitz wedi edrych braidd yn fregus. Mae ciciau da ar draws y cae wedi gwneud y tîm i edrych yn fregus. Gwnaeth O'Gara fanteisio ar y gwendid tu ôl i'r asgellwyr yn erbyn Cymru mwy nag unwaith a gwnaeth Caerloyw yr un peth yn rownd gynderfynol Cwpan EDF yn erbyn y Gweilch.
Bydd angen i'r Gweilch amrywio'r tactegau ar brynhawn Sul gan ei bod yn eitha' hawdd rhagweld patrwm eu chwarae ar hyn o bryd. Wrth ymosod dyw'r tîm ddim bob amser wedi edrych fel eu bod yn cydweithio'n dda. Bydd yn rhaid iddyn nhw Gydlynu pethau'n well i dorri amddiffyn Munster.
Dyma foment fawr James Hook. Gall perfformiad meistrolgar ganddo olygu cyfle iddo chwarae gyda'r Llewod yn yr haf. Mae'n rhaid iddo brofi i bawb, gan gynnwys ei hun, fod ganddo'r gallu i chwarae maswr ar y lefel ucha'.
Amser darogan
Mae'n amser imi ddarogan pwy fydd yn ennill dros y penwythnos. . Mae'r rhai ohonoch sydd wedi llwyddo i ddarllen i ddiwedd fy erthyglau dros y blynyddoedd wedi sylwi fy mod wedi bod yn anobeithiol yn ddiweddar wrth ddyfalu'r enillwyr. Ond mae yna newid wedi bod yn ddiweddar. Ar ôl curo Johnny bach yn nabl darogan Scrum V y llynedd, llwyddais i gyrraedd brig tabl darogan S4C eleni. Ar hyn o bryd rwy'n cael cryn dipyn o hwyl arni.
Rwy'n darogan bydd y Gleision yn ennill o bum pwynt a'r Gweilch yn colli.
-
Bydd dwbl y rygbi ar gael ar S4C brynhawn Sul gyda dwy gêm Cynghrair Magners...
Cynghrair Magners, Uwch Gynghrair CymruDydd Sadwrn 4 Ebrill 17:10
Y Clwb Rygbi: Scarlets v GlasgowDaw gêm fyw o'r Cynghrair Magners prynhawn Sadwrn wrth i'r Scarlets groesawu Glasgow i Barc y Scarlets. Huw Llywelyn Davies a Gwyn Jones fydd yn sylwebu ar y chwarae, gyda Brynmor Williams yn dadansoddi perfformiad y ddau dîm. Gyda charfan Nigel Davies wedi methu yn ei hymdrech i ennill y Cwpan Heineken a'r Cwpan Ynni EDF y tymor hwn, bydd y crysau cochion yn awyddus i brofi pwynt yng Nghynghrair Magners. Colli fu eu ffawd oddi cartref yn erbyn Glasgow fis Medi diwethaf - tybed a fyddant yn talu'r pwyth yn ôl o flaen y dorf gartre'?
Dydd Gwener 10 Ebrill 17:00
Y Clwb Rygbi: Abertawe v LlanelliNos Wener, bydd Gareth Roberts yn cyflwyno gêm fyw o gae rygbi Sain Helen wrth i Abertawe herio'r hen elyn, Llanelli. Mae'r brwydrau rhwng y ddau gymydog wastad yn rhai ffyrnig ac mae'r gêm hon yn Uwch Gynghrair Cymru yn addo bod yn un gyffrous. Llanelli sydd ar frig y Gynghrair ar hyn o bryd gydag Abertawe yn eistedd yng nghanol y tabl. Colli wnaeth y crysau gwynion ar ddydd San Steffan draw ym Mharc y Scarlets - tybed a fydd modd iddynt wella ar eu perfformiad ar eu tir eu hunain?
