Dwayne Peel a Sarra Elgan sydd wrth y llyw ond y tro yma bydd un o enwau amlycaf carfan Cymru a'r Sgarlets, Stephen Jones yn ymuno â hwy.
Yn ystod y gyfres bydd Stephen a Dwayne yn cynnal sesiynau sgiliau wythnosol. Y tro hwn cyflwynir casgliad newydd sbon o sgiliau medrus gyda chymorth hyfforddwr blaenwyr Cymru, Robin McBryde, yn ogystal â sesiynau ffitrwydd arbenigol gyda Trystan Bevan o dîm Gleision Caerdydd. Bydd y dyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yn esbonio rheolau’r gêm a gall gwylwyr edrych ymlaen at ddod i adnabod rhai o sêr y byd rygbi fel James Hook, Alun Wyn Jones a Jamie Robinson o dîm Cymru.
Yn ystod y gyfres, bydd Rygbi 100% hefyd yn ymweld â nifer o dimau rygbi ieuenctid yn eu clybiau ar hyd a lled Cymru gyda Llangefni, Wrecsam, Llanymddyfri a Llanbedr Pont Steffan yn eu plith. Gellir edrych ymlaen hefyd i ddysgu mwy am y gêm trwy gyfrwng straeon a ffeithiau yn edrych ar amrywiol bynciau fel hanes Cwpan y Byd, llwyddiant diweddar carfan Saith Bob Ochr Cymru a hyd yn oed eitem sy’n gofyn beth yw cyfraniad gwyddoniaeth a thechnoleg at y gêm!