S4C

Amserlenni

07:00 Clwb Cyw

Rhaglenni i'r plant lleiaf: Darllen 'Da Fi, Nodi, Twm Tisian, Tomos a'i Ffrindiau, Plant y Byd, Holi Hana, Octonots, Y Diwrnod Mawr, Pentre Bach, Rapsgaliwn, Penblwyddi Cyw.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
07:00 Darllen 'Da Fi - Slumyn Dwl

Mae Sali Mali'n ymweld â'r syrcas, lle mae'n gweld Galina yn ymarfer ar y trapis.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
07:10 Nodi - Llanw Uchel

Mae Nodi yn helpu'r môr-forwynion i ymarfer ar gyfer eu bale dwr.

Content options
07:20 Twm Tisian - Ar y traeth

Mae Twm Tisian a'i ffrind bach Tedi yn mynd i'r traeth heddiw ac yn adeiladu cestyll tywod.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
07:30 Tomos a'i Ffrindiau - Tobi a Sisial y Coed

Anturiaethau Tomos a'i ffrindiau.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
07:40 Plant y Byd - Byw yn y Jyngl, Papua

Yn y rhaglen hon teithiwn i'r jyngl yn Papua, Indonesia i gwrdd â merch fach chwe blwydd oed o'r enw Dua. Ei chartre' yw ty ar goeden yn uchel uwchlaw'r ddaear.

  • Isdeitlau Saesneg
07:45 Holi Hana - Rhaffu Celwydde

Mae Ffion y broga'n colli ei ffrindiau i gyd achos ei bod yn palu celwyddau.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
08:00 Octonots - Yr Octonots a Phennaeth y Morf

Pan mae rhywun yn cymryd offer meddygol gwerthfawr Pegwn, mae Capten Cwrwgl a Harri yn sleifio i dir peryglus y Morfeirch - wedi'u gwisgo fel morfarch!

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
08:15 Y Diwrnod Mawr - Trystan & Gethin Edwards

Efeilliaid chwech oed yw Trystan a Gethin. Maen nhw'n byw ar fferm yng nghanolbarth Cymru, ac maen nhw wrth eu boddau yn helpu i edrych ar ôl yr anifeiliaid. Mae'n syrpreis mawr i'r bechgyn wrth iddyn nhw ddarganfod bod un o'u defaid yn disgwyl tripledi! Ymunwn â'r bechgyn ar eu diwrnod mawr wrth i'r ddafad rhoi genedigaeth i'r wyn bychain.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
08:25 Pentre Bach - Rhywbeth ar y Gweill

Mae gwlân gwau Mrs Migl Magl wedi dod i ben, felly mae Daf Dafad yn ceisio nyddu mwy iddi fel syrpreis. Ond pan mae Daf yn mentro i Fferm yr Hendre er mwyn ceisio cael mwy o wlân, mae'r cneifwyr yn meddwl ei fod yno i gael ei gneifio hefyd. O diar...

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg
08:40 Rapsgaliwn - Esgidiau

Mae Rapsgaliwn yn ymweld â ffatri esgidiau er mwyn darganfod sut mae esgidiau yn cael eu creu.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg
08:55 Penblwyddi Cyw

Cipolwg yn ôl dros rai o gyfarchion pen-blwydd yr wythnos.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg

09:00 Y Clwb Rygbi - Cymru v Yr Alban (Dan 20)

Darllediad byw o'r gêm ryngwladol rhwng Cymru a'r Alban Dan 20. Daw'r gêm o Barc Eirias, Bae Colwyn yng nghwmni criw'r Clwb Rygbi. Cic gyntaf, 19:35.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg

11:20 'Sgota gyda Julian Lewis Jones

Ymunwch â Julian Lewis Jones a Rhys Llywelyn wrth iddynt fynd i 'sgota am eogiaid ar Ynysoedd Harris a Lewis yn Yr Alban. Dilynwch y ddau wrth iddynt bysgota am sewin ac eogiaid ar rai o'r afonydd a 'lochs' gorau ym Mhrydain. Ac wrth gwrs mae ambell gymeriad difyr yn eu cyfarfod ar y daith.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg
  • /
  • Sain ddisgrifio
  • /
  • /
  • Arwyddo

11:45 Blwyddyn o Sioe /11

Ymunwch â Dai Jones a'r tîm i weld uchafbwyntiau'r cystadlu o lwyfan amaethyddol Llanelwedd ar hyd y flwyddyn. Bu Gwyl Tyddyn a Gardd, Y Sioe Frenhinol a'r Ffair Aeaf 2011 yn dyst i stoc o'r safon uchaf ac yma cawn gipolwg ar y goreuon.

  • Isdeitlau Saesneg
  • /
  • Arwyddo

12:45 Darn Bach o Hanes

Yr wythnos hon, bydd Dewi Prysor yn olrhain hanes twyll llenyddol enwocaf Cymru, bydd Rhodri Llwyd Morgan yn rhoi cynnig ar yrru Sinclair C5, a bydd Rhys Mwyn yn adrodd stori ymweliad colera â thref Caernarfon ym 1866.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg
  • /
  • Arwyddo

13:15 Cefn Gwlad - Don Llewellyn, Ardal Pentyrch

Bydd Dai Jones, Llanilar yn ymweld ag ardal Pentyrch ac yn cael cwmni un o hen blant y fro i'w hebrwng o gwmpas - sef Don Llewellyn.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg
  • /
  • Sain ddisgrifio
  • /
  • /
  • Arwyddo
13:43 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

13:45 Tocyn Diwrnod - Brad Y Llyfrau Gleision

Yn y gyfres addysg gyffrous hon o'r archif, mae hanes Cymru'n dod yn fyw yng nghwmni rhai o actorion Theatr Gorllewin Morgannwg. Yn eu cwmni, awn ar daith yn y bws mawr glas yn ôl i'r gorffennol i ddarganfod mwy am rai o gyfnodau a digwyddiadau pwysicaf ein hanes. Yn y rhaglen hon, cawn hanes yr adroddiad enwog ar addysg fu'n gwahardd y Gymraeg - Brad Y Llyfrau Gleision.

Content options

14:15 Y Clwb Rygbi Rhyngwladol: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2012 - Cymru v Yr Alban

Cymru yn erbyn Yr Alban yn fyw o Stadiwm y Mileniwm gyda'r gic gyntaf am 15:00.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg

17:30 Rygbi 7 - Seland Newydd

Yr holl ddigwyddiadau a'r cyffro o bedwardedd rownd Cyfres Saith Pob Ochr HSBC o Seland Newydd.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg

18:00 Newyddion

Newyddion a'r tywydd.

  • Isdeitlau Saesneg
18:03 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

18:05 Pobol y Cwm Omnibws

Cyfle i weld holl ddigwyddiadau'r wythnos yng Nghwmderi yn y rhifyn omnibws.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg

20:00 Dechrau Canu Dechrau Canmol

Yr wythnos hon bydd Luned Aaron yn ymweld â Bro Gwyr, lle cawn glywed am hanesion cyntaf mudiad y Bedyddwyr, ac am rai o drigolion enwoca'r fro. Bydd y canu yn dod o Gymanfa Mudiad y Bedyddwyr yng Nghasllwchwr.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg

20:30 Mamwlad - Laura Ashley

Ffion Hague sy'n edrych ar fywyd a gwaith Laura Ashley ac yn darganfod fod y wraig arloesol hon wedi gorfod dioddef yn dawel yn y gwaith ac yn ei phriodas.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg

21:00 Teulu

Wrth i Llinos a'r criw yn Pot Jam dderbyn newyddion da ynglyn â dyfodol y busnes, cynyddu mae'r pwysau ar Lydia gan orfodi Rhydian i gamu i'r adwy. Cynyddu hefyd mae'r tensiwn rhwng Llyr a Dafydd Wyn wrth i'r ddau anghytuno am ddyfodol y clwb. Ond tra bo Llyr yn profi'n anodd iawn i'w drin, mae Dafydd yn cael tipyn mwy o lwc gyda Margaret, sy'n fwy na pharod ei chefnogaeth ar hyn o bryd. Diffyg cefnogaeth ei mam sy'n poeni Manon wrth i Luned ddarganfod bod ei merch bellach yn byw gyda Huw ac mae Eirlys yn llwyddo i roi gwên fawr iawn ar wyneb Robin.

Content options
  • Isdeitlau Saesneg a Cymraeg
  • /
  • Sain ddisgrifio

22:05 Newyddion

Newyddion a'r tywydd.

  • Isdeitlau Saesneg
22:18 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options

22:20 Cyngerdd Ysgol Glanaethwy: Dathlu 150

Ysgol Glanaethwy a'u ffrindiau yn dathlu'r dwbl wrth edrych yn ôl ar uchafbwyntiau 150 mlynedd o'r Brifwyl a 21 mlynedd o hanes yr Ysgol mewn gwledd o gân, dawns a theatr. Fe ffilmiwyd y rhaglen yn ystod Eisteddfod Genedlaeth Wrecsam 2011.

  • Isdeitlau Saesneg

23:50 Dweud Pethe

Yn ôl yr Athro Stephen Hawking, mae poblogaeth y byd yn dyblu bob rhyw 40 mlynedd, ac eisoes, mae 7 biliwn ohonom yn byw ar y blaned. Ymhen pum can mlynedd, byddwn yn sefyll yn llythrennol ysgwydd wrth ysgwydd â'n gilydd! Sut, felly, mae taclo'r broblem? Dyna fydd un o gwestiynau Rhun i'w westeion, yr Athro Deri Tomos, Guto Bebb ac Anna Jane Evans.

Content options
00:18 Y Tywydd

Y Tywydd.

Content options