
Yn wreiddiol o Benarth, mae Brett Morse yn cystadlu yn y ddisgen.
Mae Brett wedi ymddiddori yn y gamp ers oedd yn 16 oed. Daeth yn ail yng Nghystadlaethau Ysgolion Cymru, a dyma oedd sbardun ei benderfyniad i ymarfer ac i ddal ati gyda'r gamp. Mae Brett hefyd wedi cystadlu yn y taflu maen (shot put ac mewn rasys cyfnewid.
Fe gymrodd Brett ran yng Nghystadleuaeth Athletau Ewrop dan 23 oed yn Kaunas, Lithuania yn 2009 ac mae'n gobeithio cystadlu yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales