Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth S4C

Gwybodaeth a sut mae ceisio am ysgoloriaeth

Mae S4C yn dyfarnu'r ysgoloriaethau drwy golegau a sefydliadau penodol fel a ganlyn.

  • Athletau

    Cynigir ysgoloriaethau athletau mewn partneriaeth â Welsh Athletics Ltd. Mae'r ysgoloriaeth yn helpu'r ysgolheigion i dalu am offer a chostau hyfforddi er mwyn meithrin sgiliau ar y cae.

  • Golff

    Yn 2008, cynigwyd ysgoloriaethau golff mewn partneriaeth â Datblygu Golff yng Nghymru. Mae'r ysgoloriaeth yn helpu'r ysgolheigion i dalu am hyfforddiant, offer a chostau cystadlu. Maen nhw hefyd yn mynychu dosbarthiadau meistr arbennig gyda chwaraewyr golff proffesiynol blaenllaw o Gymru.

  • Newyddiaduraeth T Glynne Davies

    Cynigir ysgoloriaeth newyddiaduraeth T Glynne Davies i gynorthwyo'r ysgolheigion i ddilyn cwrs ol-raddedig yn y Ganolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

  • Syr Geraint Evans

    Mae S4C yn gweithio gyda Choleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru i gynnig Ysgoloriaeth Syr Geraint Evans i berfformwyr drwy glyweliadau. Mae'r ysgoloriaeth yn helpu'r ysgolheigion i dalu ffioedd.

Mae S4C hefyd yn dyfarnu ysgoloriaeathau unigryw o bryd i'w gilydd er mwyn datblygu sgiliau pobl ifanc addawol. Yn 2008, dyfarnodd S4C ysgoloriaeth sain ôl-gynhyrchu i Owen Peters, sy'n astudio yn yr Ysgol Ffilm a Theledu Cenedlaethol (NFTS).

« Hafan

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales