Neidio at y cynnwys

S4C

Ysgoloriaeth S4C

Steffan Powell

Ysgoloriaeth Newyddiaduraeth T Glynne Davies

Yn wreiddiol o Lanaman yn Sir Gaerfyrddin mae Steffan ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd.

Mae wedi cynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Dadlau'r Byd cyn mynd ymlaen i astudio'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Steffan wedi bod yn astudio ar gwrs ôl-radd newyddiaduraeth darlledu, lle'r oedd yn un o sefydlwyr y wefan wleidyddol, Politics Cymru.

Mae wedi treulio llawer o hafau yn yr UDA fel hyfforddwr pêl-droed a chynghorwr plant.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales