Neidio at y cynnwys

S4C

Seren Bethlehem

Mae'r rhaglen Seren Bethlehem yn cael ei chyflwyno yn deyrnged i Dafydd Wyn Bowen oedd yn chwech oed a fu farw mewn damwain ar Ragfyr y 23ain. Roedd Dafydd a'r teulu yn rhan o Seren Bethlehem ac yn ymddangos yn y gyfres. Mae ein meddyliau gyda'r teulu a chymuned Bethlehem yn eu galar. Dymuniad y teulu oedd darlledu'r rhaglen yn deyrnged i Dafydd.

Perfformiad llawn o sioe Seren Bethlehem

Fideo

Top
Video holder image

Prosiect cymunedol

Top

Mae Seren Bethlehem yn dilyn pob agwedd ar y prosiect dros gyfres o wyth rhaglen. O'r clyweliadau llawn tensiwn ar gyfer y Tri Gŵr Doeth i'r gwaith o adeiladau stabl, bwydo'r ŵyn a'r asyn a dewis babi newydd anedig i chwarae'r baban Iesu, fe fydd y cyfan i'w weld yn y gyfres hon.

Bydd Drama'r Geni ei hun yn cael ei dangos ar S4C Noswyl Nadolig.

Mae dros gant o bobl yn cymryd rhan - o blant ysgol a chorau lleol i siopwyr, dynion tân a chwaraewyr rygbi.

Y cyflwynydd teledu Heledd Cynwal, sy'n byw yn Llandeilo gyda'i gŵr a thri phlentyn bach, sy'n arwain yr her.

Gwynebau lleol

Top

Eglura Heledd, "Ges i fy magu ym Methlehem, felly rwy'n gwybod bod yna deimlad cryf o gymuned yma. Ond mae'r ymateb ges i i'r her yma hyd yn oed wedi fy synnu i. Mae cymaint o bobl wedi dod ynghyd i sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant.

"Fy rôl i yw llywio'r prosiect a chadw llygad ar bob agwedd ar y broses. Wy fel pry-ar-y-wal a bod yn onest - ond y gymuned sy'n rhoi'r cwbl ar waith."

Yr impresario a'r cynhyrchydd adnabyddus, Stifyn Parry, sy'n byw yn Llanddeusant, ger Bethlehem, yw un o uwch gynhyrchwyr y gyfres o dan lyw'r cwmnïau Boomerang+ a Mr Producer.

"Fel rhan o'r prosiect, fe fydd plant lleol yn dylunio seren fetel fawr a fydd yn atgof arbennig iawn o'r digwyddiad. Bydd y seren yn cael ei chodi yn yr ardal bob Nadolig o hyn ymlaen," meddai. "Ond gwir sêr y cynhyrchiad a'r gyfres yw pobl ardal Bethlehem."

Blog

Top
  • Heledd Cynwal

    Mae'r Nadolig wedi dod yn fuan i drigolion pentref Bethlehem eleni gan fy mod i wedi rhoi sialens arbennig iawn i'r gymuned.

    Y sialens yw llwyfannu Drama'r Geni mewn ffordd fydd yn addas i gael ei darlledu ar S4C noswyl Nadolig.

    O ddylunio'r set i 'sgwennu'r script, creu gwisgoedd a chodi arian at achosion da - bydd rhaid i'r gymuned weithio gyda'i gilydd i gwblhau'r prosiect. Fe fydda i'n cadw llygad barcud wrth iddyn nhw ymgeisio i roi'r jisgso at ei gilydd.

    Rydym yn gobeithio bydd y prosiect yma'n helpu cadw Bethlehem ar y map. Mae'r lle wastad wedi bod o ddiddordeb i bobl oherwydd yr enw, a dwy'r lle ddim yn ddieithr i gamerâu teledu chwaith.

    Mae'r pentref yn agos i fy nghalon i. Ro'n i'n ddisgybl yn ysgol gynradd Bethlehem ac roedd hi'n ergyd i mi pan fu'n rhaid iddi gau naw mlynedd yn ôl. Yr ysgol oedd yr unig le'r oedd y pentrefwyr yn gallu cyfarfod yn gymdeithasol.

    Y newydd da yw bod yr hen ysgol nawr yn cael ei defnyddio fel canolfan gymunedol ac mae'r swyddfa bost enwog ar agor ambell ddiwrnod pob wythnos hefyd.

    Rwy'n gwybod fod 'na ysbryd cymunedol gwych yma, ond rwy hefyd wedi cael fy siomi'r ochr orau gyda'r ymateb bositif i'r sialens. Mae llawer o dalent ac uchelgais ymysg y bobl leol er eu bod nhw i gyd yn gwneud hyn yn wirfoddol. Mae'r prosiect wedi dod a phobl o ardaloedd eraill fel Llangadog, Llandeilo, Llanymddyfri a Chilycwm yma i helpu mewn unrhyw ffordd.

    O ddynion tan, plismyn, adeiladwyr a chwaraewyr rygbi i bobl busnes lleol, perchnogion siopau, disgyblion ysgol ac athrawon, mae'n gyfle i'r gymuned gyfan weithio gyda'i gilydd.

    Mae'r momentwm yn tyfu drwy'r amser, a Bethlehem - wrth gwrs - yw'r lle delfrydol i lwyfannu'r sialens Nadoligaidd yma.

    Mae disgyblion lleol wedi dylunio seren fydd yn cael ei greu yn seren fetel fawr fydd yn cael ei godi yn yr ardal bob Nadolig o hyn ymlaen. Fe fydd yn atgof parhaus o beth sy'n argoeli i fod yn Nadolig cofiadwy i bobl ardal Bethlehem.

  • Arwyn Evans

    Cadeirydd y Pwyllgor Canolog

    Rwy wastad wedi meddwl y byddai hanes geni'r baban Iesu yn dod ag unrhyw gymuned at ei gilydd a dydw i ddim wedi cael fy synnu gan ymdrechion Bethlehem, Llangadog, Llandeilo a thu hwnt i greu sioe anhygoel.

    Fi yw Cadeirydd y Pwyllgor Canolog, neu'r pen bandit fel mae'r aelodau eraill yn fy ngalw i. Fi sydd wedi cael y dasg o oruchwylio'r prosiect a rhoi cymorth i'r is-bwyllgorau eraill.

    Beth yw fy swydd i? Ychydig bach o bopeth i fod yn onest. Cynnig cymorth pan fo angen; cadw trefn yn y cyfarfodydd a thrafod pwyntiau newydd i wneud yn siŵr fod y prosiect yn parhau i godi momentwm.

    Mae'r rhannau wedi cael eu castio, ymarferion yn parhau ac mae'r côr gyda dros gant o aelodau. Mae hi'n brysur ofnadwy tu ôl i'r llen hefyd, gyda phobl yn gweithio'n ddiwyg ar y set, y gwisgoedd ac ar farchnata'r sioe. Dyw hi ddim yn syndod i mi fod y gymuned cefn gwlad hon wedi dod at ei gilydd i wneud llwyddiant o'r prosiect.

    Mae'r tocynnau ar werth yn siop Igam Ogam, Llandeilo a'r swyddfeydd post ym Methlehem, Llangadog, Llanymddyfri a Llandeilo. Mae llawer wedi dangos diddordeb yn barod ac mae'r tocynnau yn gwerthu'n dda. Rwy'n hyderus y byddwn ni'n perfformio o flaen neuadd lawn - neu sgubor yn ein hachos ni - a chodi lot o arian i achosion da'r un pryd.

    Ry'n ni'n anelu i roi perfformiad o'r safon uchaf ac rwy'n gobeithio y byddwn ni'n cael ymateb positif yng Nghymru a thu hwnt.

    Rwy wastad wedi meddwl y byddai hanes geni'r baban Iesu yn dod ag unrhyw gymuned at ei gilydd a dydw i ddim wedi cael fy synnu gan ymdrechion Bethlehem, Llangadog, Llandeilo a thu hwnt i greu sioe anhygoel.

  • Eirwyn Moses

    Mae hon yn wythnos fawr i mi a dau o fy nghydweithwyr yng Ngorsaf Dân Landeilo. Ry'n ni ar fin dechrau sialens fydd yn ein gweld ni'n efelychu un o'r teithiau enwocaf erioed - taith y Tri Gŵr Doeth.

    Fi, Wyn Bumford ac Emyr Bowyer yw'r tri gŵr doeth. Mae gennym dridiau i ffeindio'r ffordd o Nasareth ger Caernarfon i Fethlehem - pellter o 120 milltir.

    Mae'n ras yn erbyn amser oherwydd bod rhaid i ni gyrraedd Bethlehem erbyn y perfformiad neu fe fydd ein hymdrechion yn ofer.

    Mae gennym ni feiciau, ac fe fyddwn ni gefn ein ceffylau haearn am dipyn o'r daith. Ond pan fydd y coesau'n blino, rwy'n siŵr y gallwn ni alw draw yn yr orsaf dân leol i holi am lifft neu mae 'na fysiau a threnau - neu hyd yn oed asyn!

    Fi yw'r cyntaf i gydnabod ei bod hi'n dipyn o sialens ond rwy'n hyderus y byddwn ni'n cyflawni'r daith. Rwy'n siŵr gallwn ni gyrraedd Bethlehem mewn tridiau a chodi arian i achosion da ar y ffordd.

    Mae'r pwyllgor canolog wedi penderfynu rhannu'r arian fyddwn ni'n codi rhwng Ambiwlans Awyr Cymru, Tŷ Hafan a Choleg Elidyr.

    Dros yr wythnosau diwethaf, ry'n ni'n tri wedi bod yn ymarfer ac yn ceisio codi'n ffitrwydd wrth weithio yn yr orsaf. Ry'n ni gyd yn edrych ymlaen am y sialens - beth bynnag y tywydd - ac yn gobeithio cyrraedd y nod.

    I gwblhau'r dasg mewn golwg, ry'n ni angen fod yn ffit yn feddyliol a chorfforol ac mae'r camerâu wedi bod yn ein dilyn wrth i ni ymarfer yn y gampfa, ar y ffordd ac yn yr orsaf dân.

    Y cwestiynau mawr yw fyddwn ni'n cyrraedd Bethlehem mewn pryd a sut fyddwn ni'n teithio o Nasareth i Fethlehem? Dymunwch bob lwc i ni!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales