S4C

Close
Flash is required to view this video

Her gymuned Rhosllannerchrugog i greu panto arbennig

Mae'r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar ar S4C gyda chyfres newydd fydd yn dilyn cymuned Rhosllannerchrugog wrth iddynt greu a chynhyrchu pantomeim yn adeilad y Stiwt yn arbennig i'r Ŵyl.

Darlledir pennod gyntaf Seren Nadolig Rhos ar nos Fawrth 8 Tachwedd a bydd cyfle i wylwyr y Sianel weld ffrwyth llafur y gymuned ar Ddiwrnod Nadolig.

Syniad y cynhyrchydd Stifyn Parri yw'r gyfres ac ef fydd hefyd yn cadw llygad barcud ar y prosiect a chyflwyno'r rhaglenni teledu. Daw Stifyn yn wreiddiol o Rosllannerchrugog, ger Wrecsam, ac er nad yw wedi byw yno ers dros 30 o flynyddoedd, mae'r ardal yn dal i chwarae rhan bwysig yn ei fywyd.

Meddai Stifyn, "Dwi wrth fy modd hefo ardal Rhos - mae gen i atgofion melys o fy nghyfnod yn byw yma ac rwy'n ymweld â'r pentref yn reit aml gan fod Mam yn dal i fyw yma. Mae'r Stiwt hefyd yn ganolfan arbennig imi ac mae wedi bod yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau cymunedol yn yr ardal yn y ganrif ddiwethaf. Dwi'n cofio gwario gymaint o amser yno yn ifanc a dwi isho i ieuenctid yr ardal i fwynhau'r un profiadau ges i."

Dros yr wythnosau nesaf, cawn ddilyn y chwerthin a'r cecru, y stress a'r dagrau wrth i'r gymuned gyfan ymgymryd â'r her. Bydd yn rhaid cytuno ar bob agwedd o'r cynllunio, gan gynnwys pa bantomeim fydd yn cael eu sylw nhw.

Yn y bennod gyntaf, cawn weld Stifyn yn annerch ac yn cyflwyno ei syniad unigryw i dros 300 o drigolion lleol yn y Stiwt.

Mewn gwisg tylwyth teg o flaen set wedi'i chynllunio'n arbennig ar ffurf pantomeim.

"Gwell peidio sôn gormod am y wisg tylwyth teg, er bod Mam wedi dweud mod i'n edrych yn hogan reit ddel!" eglura Stifyn. "Mae'n bwysig cofio mae gwir sêr y cynhyrchiad a'r gyfres yw pobl ardal Rhos. Ac yn sicr mae yna dalent i'w gael yma. Fe ges i fy siomi ar yr ochr orau yn ystod y clyweliadau gyda'r nifer o bobl wnaeth ddod, lefel y paratoi a safon y perfformiadau.

"O ddylunio'r set i 'sgrifennu'r sgript, creu gwisgoedd a chodi arian at yr elusen - bydd rhaid i'r gymuned weithio gyda'i gilydd i gwblhau'r prosiect. Fe fydda i'n cadw llygad barcud wrth iddyn nhw ymgeisio i roi pob dim yn ei le. Mae pobl yr ardal wedi llwyr ymgymryd â'r her ac mae'n ras yn erbyn amser i bob dim fod mewn lle cyn y perfformiad mawr."

Bydd yr holl arian a godir o werthu tocynnau'r pantomeim yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu'r ystafell gymunedol lle mae'r theatr ieuenctid yn ymarfer yn y Stiwt er mwyn meithrin talent perfformio'r dyfodol.

Mae Seren Nadolig Rhos yn ddilyniant i'r gyfres lwyddiannus, Seren Bethlehem, a ddarlledwyd ar S4C yn 2009. Her cymuned Bethlehem yn Sir Gaerfyrddin bryd hynny oedd ail-greu drama'r geni mewn stabl arbennig. Gwnaeth dros 100 o bobl gymryd rhan yn y cynhyrchiad, gan gynnwys baban newydd anedig, asyn ac ŵyn bach swnllyd!

Tybed pwy a beth fydd yn gyfrifol am sicrhau fod Seren Nadolig Rhos hefyd yn sioe i'w chofio?

Pen y Dudalen