Neidio at y cynnwys

S4C

Y Cymry yn Coverciano

Mae cyn arwr pêl-droed Cymru, Ian Rush, yn credu dylai Cymru ddilyn esiampl Yr Eidal a sefydlu canolfan hyfforddi cenedlaethol.

Roedd Rush, sydd bellach yn gyfarwyddwr perfformiad elît Ymddiriedolaeth Pêl-droed Cymru, yn sgwrsio gyda Sgorio tra ar ymweliad â chanolfan Ffederasiwn Pêl-droed Yr Eidal yn Coverciano ger Florence.

“'Dwi'n credu ei fod yn bwysig ein bod ni'n edrych am ganolfan hyfforddi tebyg i'r un yn Coverciano.  Yn ariannol, mae'n mynd i fod yn anodd, ond mae'n rhaid i ni edrych tua'r dyfodol” meddai wrth Sgorio.

“'Da ni 'di cymryd camau mawr dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, ond mae 'na ffordd i fynd eto, a byddai hyn yn mynd yn bell iawn i'n helpu ni.”

Roedd y ddirprwyaeth o Gymru yn cynnwys llywydd y Gymdeithas Bêl-droed, Phil Pritchard, a Chyfarwyddwr Technegol yr Ymddiriedolaeth, Osian Roberts, yn ogystal a sawl hyfforddwr yr Ymddiriedolaeth.

15/02/2010 - 23:22

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
5 + 11 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..