Neidio at y cynnwys

S4C

Dyfodol diogel i'r Canaries

Yr Oval, Caernarfon

Mae dyfodol Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn sicr wedi i dîm newydd o swyddogion a chefnogwyr gymryd rheolaeth o'r clwb.

Mae'r cyn gadeirydd, George Denham, a'r cyn drysorydd, Eilian Angel, wedi cytuno i basio rheolaeth y clwb i dîm sy'n cael ei arwain gan Arfon Jones.  

Cafodd y Canaries eu gwahardd rhag chwarae pêl-droed yr wythnos diwethaf gan nad oedd y clwb wedi talu dirwyon i Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Ond mewn datganiad gafodd ei ryddhau gan y bwrdd newydd ddydd Gwener, cafwyd cadarnhâd bod y dirwy am gael ei dalu a byddai'r gwaharddiad yn cael ei godi.

 

Mwy > Be' nesa i Gaernarfon?

 

"Yn dilyn trafodaethau positif ynghylch dyfodol Caernarfon Town gallwn gadarnhau fod dyfodol y clwb yn sicr a bod tîm newydd ar y maes ac oddi ar y maes yn barod i fynd â'r clwb yn ei blaen," meddai'r datganiad.

Ac roedd Arfon Jones, fydd yn gadeirydd dros-dro, yn sydyn iawn i dalu teyrnged i'r cyn swyddogion am eu cydweithgrediad ac am eu gwasanaeth i'r clwb.

"Mae'r ddau, sydd rhyngddyn nhw wedi rhoi dros 50 mlynedd o wasanaeth i'r clwb, wedi sicrhau bod gan y clw ddyfodol," meddai Mr Jones.

"Mae George Denham wedi bod yn ddyn caernarfon Town drwyddi draw ac, fel arwydd o ewyllys da, am dalu dirwy'r clwb o'i boced ei hun, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny."

Mae'r clwb hefyd wedi penodi Geraint Williams, sy'n adnabyddus iawn yn y dref, i fod yn reolwr ar y tîm cyntaf, gydag Ernie Talbot yn is-reolwr - mae'r ddau wedi chwarae a rheoli'r clwb yn y gorffennol.

Bydd y tîm newydd yn cwrdd yn swyddogol am y tro cyntaf nos Lun er mwyn trafod dyfodol agos y clwb sy'n cynnwys sicrhau presenoldeb y clwb yng Nghynghrair Undebol y Gogledd am weddill y tymor.

Mae'r gêm yn erbyn Penrhyncoch ddydd Sadwrn yn ogystal ag ymweliad Hotspur Caergybi ar 10 Mawrth wedi eu gohirio.

Ond y gobaith yw bod y clwb yn gallu ail gychwyn gydag ymweliad â Bethesda ar Sadwrn 13 Mawrth.

 

05/03/2010 - 13:34

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
8 + 1 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..