
Roedd cynrychiolwyr y pum tîm sydd yng Ngrŵp G o gemau rhagbrofol Ewro 2012 yn Zurich ddydd Llun er mwyn trefnu gemau'r ymgyrch.
Bu swyddogion Cymru, Lloegr, Y Swistir, Bwlgaria a Montenegro yn cyfarfod ym mhrifddinas Y Swistir ond 'doedd 'na ddim cytundeb ynghylch trefn y gemau.
O'r herwydd bydd Uefa yn trefnu'r gemau trwy dynnu enwau allan o het a bydd hyn yn digwydd yn ystod Cyngres Uefa yn Tel Aviv yr wythnos nesaf.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales
Postio ymateb