Neidio at y cynnwys

S4C

Saunders: cafodd Barry gynnig gwell

Roedd 'na sioc i gefnogwyr Wrecsam brynhawn Sadwrn wrth glywed y tîm ar gyfer y gêm yn erbyn AFC Wimbledon.

'Doedd na ddim lle i'r chwaraewr newydd, Anthony Barry, yn y tîm - neu dyna oedd y gred.

Y gwirionedd oedd fod Barry wedi dewis arwyddo i Fleetwood Town fore Sadwrn yn hytrach na cadw at ei air ac ymuno â Wrecsam.

"'Dwi ddim eisiau unrhyw chwaraewr yn y clwb sydd ddim eisiau bod yma," meddai Saunders.

"Mae 'na ddigon o chwaraewyr yn ysu i gael chwarae i Wrecsam."

25/01/2010 - 21:08

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
4 + 14 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..