Neidio at y cynnwys

S4C

Y Bala'n anhapus gyda'r gohirio

Roedd swyddogion CPD Y Bala yn anhapus iawn ddydd Sul wedi i'r Uwch Gynghrair ohirio eu gêm yn erbyn Llanelli.

Er bod Maes Tegid o dan eira yn gynnar fore Sul, roedd swyddogion y clwb yn ffyddiog bod modd chwarae'r gêm gyda fflyd o wirfoddolwyr wedi ymgasglu i glirio'r maes.

Ond penderfynodd y Gynghrair ohirio'r gêm wedi pryderon gan Llanelli nad oedd y ffyrdd yn ddiogel ar gyfer y daith i'r gogledd.

"Cafodd y Gynghrair alwad gan CPD Llanelli am 0820 y bore yn pryderu bod pump aelod o'u carfan yn ei chael yn anodd gyrru o'u cartrefi," meddai datganiad swyddogol gan y Gynghrair.

"Mae gan y Gynghrair ddyletswydd i edrych ar ôl ei chwaraewyr a rheolwyr ac rydym wedi penderfynu gohirio'r gêm ar ôl darllen safle we Travel Wales.

"Rydym yn cydymdeimlo gyda CPD Y Bala, oedd yn disgwyl torf sylweddol, ac ar ôl holl waith caled eu staff.

"Mae'r Gynghrair hefyd yn deall siom Llanelli sydd yn dal i orfod talu £800 am fws y tîm ac hefyd eu cefnogyr gwych sydd eisoes wedi teithio ac wedi talu am lety."

22/02/2010 - 12:18

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
1 + 1 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..