Mae Sweden wedi cyhoeddi carfan gref a phrofiadol ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru yn Stadiwm Liberty, Abertawe wythnos nesaf.
Zlatan Ibrahimović ydi'r unig enw amlwg sydd ar goll o garfan Erik Hamrén ar ôl i ymosodwr Barcelona gyhoeddi yn ddiweddar ei fod eisiau canolbwyntio ar ei ddyletswyddau clwb.
Bydd cyn chwaraewr Aston Villa ac Juventus, Olof Mellberg, yn gobeithio ennill ei 100fed cap yn y gêm ar 3 Mawrth.
Ac mewn carfan hynod o brofiadol fe all Anders Svensson ennill ei 106fed cap, ond seren Olympique Lyonnais, Kim Källström, fydd y bygythiad mwyaf i dîm John Toshack yng nghanol cae.
Bydd Sebastien Larsson, sy'n chwarae ei bêl-droed gyda Birmingham City, Jonas Olsson o West Brom a Johan Elmander o Bolton yn enwau a wynebau cyfarwydd i'r Cymry tra bod Tobias Hysén, dreuliodd gyfnod gyda Sunderland, yn fab i gyn chwaraewr Lerpwl, Glenn Hysén.
'Dyw Cymru heb ennill yn Stadiwm Liberty yn eu tair gêm blaenorol gan sicrhau dwy gêm gyfartal yn erbyn Slofenia a Bwlgaria cyn colli yn erbyn Georgia.
A bydd bechgyn John Toshack yn gobeithio gwella ar record symol arall hefyd, gan nad yw Cymru wedi llwyddo i drechu Sweden yn yr un o'r pum gêm blaenorol rhwng y ddwy wlad.
Dyma fydd y cyntaf o gemau paratoadol Cymru ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2012 gyda'r Gymdeithas Bêl-droed yn gobeithio trefnu gemau ym mis Mai a mis Awst.
Bydd yn gyfle hefyd i reolwr newydd Sweden, Erik Hamrén, i gymryd golwg ar ei garfan.
Cymrodd Hamrén, sy'n reolwr ar Rosenborg BK yn Norwy, yr awenau yn rhan amser wedi i Lars Lagerbäck ymddiswyddo ar ôl i Sweden fethu â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
Yn ei gêm gyntaf wrth y llyw collodd Sweden 0-1 yn erbyn Yr Eidal mewn gêm gyfeillgar ym mis Tachwedd 2009.
Carfan Sweden i wynebu Cymru: Eddie Gustafsson (Red Bull Salzburg), Andreas Isaksson (PSV Eindhoven), Andreas Granqvist (Groningen), Sebastian Larsson (Birmingham City), Daniel Majstorovic (AEK), Olof Mellberg (Olympiacos), Jonas Olsson (West Bromwich Albion), Behrang Safari (Basel), Oscar Wendt (FC København), Marcus Berg (Hamburger), Rasmus Elm (AZ Alkmaar), Viktor Elm (Heerenveen), Johan Elmander (Bolton Wanderers), Tobias Hysén (IFK Göteborg), Kim Källström (Olympique Lyonnais), Anders Svensson (IF Elfsborg), Ola Toivonen (PSV Eindhoven), Pontus Wernbloom (AZ Alkmaar), Christian Wilhelmsson (Al-Hilal).
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales
Postio ymateb