Bydd S4C yn dangos gêm Caerdydd ym mhumed rownd Cwpan FA Lloegr yn erbyn y deiliaid, Chelsea, yn fyw ac yn ecsgliwsif ar 13 Chwefror.
Tîm Sgorio fydd yn dod â holl gyffro'r paratoadau o Stamford Bridge o 1130 GMT gyda'r gic gyntaf am 1200 GMT.
Jones wedi ei gyffroi gan Chelsea
Mae Sgorio eisoes wedi darlledu'r gêm yn y drydedd rownd yn erbyn Bristol City o Ashton Gate a'r gêm ail chwarae ddilynodd yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
A chafwyd uchafbwyntiau o'r gêm yn y bedwaredd rownd yn erbyn Caerlŷr yn rhan o Sgorio Cymru brynhawn Sadwrn diwethaf.
Mae S4C ar gael ar bob llwyfan yng Nghymru ac ar Sky 134 a Freesat 120 yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales
Go Cardiff
Sylw gan Anonymous ar Sat, 02/13/2010 - 11:35Good luck Cardiff, show the SW6 side who can be best.
From a Fulham fan (the other SW6 side).
hope to be able to watch the game live
Postio ymateb