
Pa dîm ti'n gefnogi?
Everton gan mai dyna pwy mae'r teulu i gyd yn ei gefnogi - mae'n etifeddol, fel rhyw fath o afiechyd!
Pwy yw/oedd dy arwr pêl-droed?
Jim Pearson. Ia, 'dwi'n gwybod nad ydi o'n enw amlwg, ond mae cefnogwyr Everton wedi hen arfer mynd am enwau llai amlwg na chefnogwyr ambell i dîm arall.
Cafodd Pearson ei arwyddo o glwb St Johnstone yn yr Alban yng nghanol y 1970au a 'dwi'n credu fod y ffaith iddo ddod o St Johnstone yn ei wneud yn eithaf egsotic i fachgen o Ddyffryn Conwy fel fi!
Pwy oeddet ti eisiau bod wrth chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol?
Duncan Mackenzie - roedd o'n ddewin o chwaraewr, yn wir dwi ddim yn gallu meddwl am chwaraewr gwell yng nghrys glas Everton - roedd pawb arall eisiau bod yn Billy Bremner gan mai cefnogwyr Leeds United oedd y rhan fwyaf o fy nghyd ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Betws Coed.
Beth yw dy atgof gorau o'r byd pêl-droed?
Sgorio hat-tric i Betws-y-Coed yn erbyn Machno ar Wyl San Steffan, 1987, a hynny ym Mhenmachno. Colli 3-5 oedd hanes Betws y diwrnod hwnnw, oedd dim ots o gwbwl gen i - roeddwn i wedi sgorio hat-tric ar faes yr hen elyn!
Pwy yw'r chwaraewr gorau ti wedi gweld yn chwarae?
Efallai fy mod i am synnu lot o bobl rwan, ond 'dwi'n mynd i enwebu cyn chwaraewr West Ham a Romania, Florin Raducioiu.
Roedd o'n chwip o chwaraewr ond 'doedd o ddim yn cael ei haeddiant gan ei fod yn gwneud i bopeth edrych mor hawdd.
Mae'n debyg fod rheolwyr yn meddwl ei fod o'n ddiog gan nad oedd o'n gorfod rhedeg rhyw lawer, dim ond anelu pas hyfryd bob nawr ac yn y man - ychydig bach fel Jan Molby.
Mae rhaglen Sgorio wedi darlledu pêl-droed Sbaen ers 20 mlynedd bellach - pwy ydi'r chwaraewr gorau i ti weld ar Sgorio
Dyma ddewis arall fydd yn synnu llawer iawn o'r darllenwyr gan fy mod i am ddewis Juan Riquelme.
Er na lwyddodd i wneud ei farc gyda Barcelona, roedd yn aelod holl bwysig o dîm Villareal lwyddodd i orffen yn ail yn La Liga llynedd ac ar y llwyfan rhyngwladol, roedd ei ddawn a'i athrylith yn amlwg yn ystod Cwpan y Byd 2006 wrth i Ariannin ddisgleirio yn gynnar yn y gystadleuaeth.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales