Neidio at y cynnwys

S4C

Anaf Ricketts yn ergyd i Gymru

Sam RickettsNi fydd Sam Ricketts ar gael i Gymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Estonia nos Wener oherwydd anaf i'w gefn.

Ac mae amheuaeth os bydd amddiffynnwr Hull City yn holliach i deithio i Azerbaijan ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd ar 6 Mehefin. 

Mae ymosodwr Sheffield United, David Cotterill, eisoes yn colli'r ddwy gêm wedi iddo ddioddef anaf tra'n chwarae yng ngemau ail gyfle'r Bencampwriaeth dros y Sul.

Ac mae'n annhebygol y bydd chwaraewr canol cae Wolves, David Edwards, yn wynebu Estonia ar Barc y Scarlets nos Wener oherwydd feirws.

Daeth y garfan ynghyd yng Nghaerdydd nos Fawrth gyda'r tri wyneb newydd, y chwaraewyr canol cae, Joe Allen o Abertawe ac Andy King o Gaerlŷr, ac ymosodwr Reading, Simon Church, yn ymuno â'r garfan llawn am y tro cyntaf.

Credir fod y triawd ifanc yn debygol o ennill eu capiau cyntaf yn y gêm yn erbyn Estonia cyn i Toshack gwtogi'r garfan 21-dyn i 20 ar gyfer y gêm yn Baku ar 6 Mehefin.

Mae'r capten, Craig Bellamy, y chwaraewr canol cae, Simon Davies a'r amddiffynnwr, James Collins, yn colli'r ddwy gêm oherwydd anafiadau, tra bo Jason Koumas yn colli'r gemau gan ei fod yn cael llawdriniaeth ar anaf i'w glun.

Ond mae 'na newyddion da wrth i Jack Collison ddychwelyd i'r garfan ar ôl colli'r ddwy gêm yn erbyn Y Ffindir a'r Almaen oherwydd anaf i'w ben-glin.

Ac mae amddiffynnwr Peterborough, Craig Morgan, hefyd wedi gwella o'r anaf i fodyn ei droed.

Carfan Cymru: Hennessey (Wolverhampton Wanderers), Myhill (Hull City), Price (Derby County), Bale (Tottenham Hotspur), Eardley (Oldham Athletic), Gunter (Tottenham Hotspur), Morgan (Peterborough United), Nyatanga (Derby County), Ricketts (Hull City), A Williams (Abertawe, Allen (Abertawe), Collison (West Ham United), D Edwards (Wolverhampton Wanderers), Tudur Jones (Abertawe), King (Caerlŷr), Ledley (Caerdydd), Ramsey (Arsenal), Church (Reading), Earnshaw (Nottingham Forest), Evans (Manchester City), Vokes (Wolverhampton Wanderers).

Mwy o straeon:

> Anrhydedd i'r chwaraewyr ifanc

> Collison: Mae'n amser i ni wneud ein marc

Uchafbwyntiau Cymru v Estonia ar S4C am 2200GMT 29 Mai

22/05/2009 - 16:26

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
3 + 10 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..