Neidio at y cynnwys

S4C

Beth ydi Flickr?

Mae Sgorio yn defnyddio Flickr er mwyn i ni - a chi - allu rhannu ac arddangos lluniau mewn ffordd syml a chyflym.

Caernarfon v Bangor

Mae Flickr yn caniatáu defnyddwyr i lwytho lluniau, edrych ar luniau defnyddwyr eraill yn ogystal ag ychwanegu tagiau i luniau er mwyn disgrifio'r cynnwys.

Gallwch edrych ar luniau Sgorio ar wefan Flickr heb gofrestru, ond bydd angen i chi ymaelodi os ydych chi eisiau cyfrannu lluniau a'u hychwanegu i grŵp Sgorio.

Byddwn yn ychwanegu lluniau ein hunain yn ystod y tymor - lluniau gan ein gohebwyr, cynhyrchwyr a chyfranwyr - a bydd modd eu gweld yn oriel Sgorio yn ogystal ag ar wefan Flickr.