Neidio at y cynnwys

S4C

Koumas yn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol

Jason Koumas

Mae Jason Koumas, chwaraewr canol cae Wigan Athletic, wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mewn sgwrs gyda'r rheolwr John Toshack dros y penwythnos, cadarnhaodd Koumas, 29, na fyddai ar gael ar gyfer gêm Cymru yn erbyn Rwsia nos Fercher oherwydd anaf i linyn ei âr, ond hefyd ei fod wedi penderfynu rhoi'r gorau i chwarae i Gymru yn gyfangwbl.

Ers chwarae ei gêm gyntaf i Gymru yn erbyn yr Wcrain yn 2001, mae Koumas wedi ennill 34 o gapiau a sgorio 10 gôl. Fodd bynnag, mae amheuon parhaol wedi bod am ei ymrywmiad i'r tîm cenedlaethol, yn enwedig wrth deithio i gemau oddi cartref.

Mewn datganiad byr ar wefan y Gymdeithas Bêl-Droed, diolchodd John Toshack iddo am ei wasanaeth i'w wlad dros y blynyddoedd a dymunodd yn dda iddo i'r dyfodol gyda Wigan.

Mwy i ddilyn.

06/09/2009 - 15:57

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
4 + 15 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..