Neidio at y cynnwys

S4C

Dim gêm yn Llydaw i Gymru

Brittany XI

Mae gobeithion Cymru o herio tîm cenedlaethol Llydaw wedi eu chwalu wedi i Gymdeithas Bêl-droed Llydaw (BFA) dderbyn gwahoddiad i herio Albania yn Tirana.

Roedd gwyr John Toshack wedi gobeithio treulio wythnos yn y rhanbarth Ffrengig gan ddefnyddio adnoddau ymarfer FC Nantes sy'n chwarae yn Ligue 2 cyn herio'r Llydawyr ar nos Fercher 19 Mai.

Ond er i Ffederasiwn Pêl-droed Ffrainc (FFF) gytuno i gais Cymdeithas Bêl-droed Cymru o gael chwarae'r gêm, mae'r BFA wedi cyhoeddi eu bod am deithio i Tirana.

Bydd y newyddion yn ergyd i Gymru, oedd am defnyddio'r gêm yn erbyn Llydaw fel rhan o'u paratoadu i herio Croatia ar Mai 23.

 

 

04/03/2010 - 13:46

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
4 + 5 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..