Mae Malcolm Allen yn un o gymeriadau mwyaf lliwgar pêl-droed Cymru, ond faint yda chi'n adnabod ar un o byndits Sgorio?Pa dîm ti'n ei gefnogi?
Lerpwl - nhw oedd y tîm gora' a nhw oedd yn chwarae'r pêl-droed mwyaf cyffrous
Pwy yw/oedd dy arwr pêl-droed?
Kenny Dalglish. Roedd o'n chwaraewr gwych - 'dwi dal yn smalio bod yn Dalglish pan 'dwi'n chwarae yn y parc!
Roedd 'na si pan oeddwn i'n Watford, fod Dalglish efo diddordeb f'arwyddo, ond glywes i ddim byd.
Pa dîm oedd dy dîm pêl-droed cyntaf?
Tîm dan-12 Deiniolen. Roedd Myrfin Morris yn meddwl mai fo oedd y chwaraewr gorau yn y pentref, ond roeddwn i'n benderfynol o ddangos mod i'n well na fo!
Pwy yw'r chwaraewyr gorau ti 'di chwarae efo?
Heb law am Ryan Giggs i Gymru, dwi'n meddwl mai Teddy Sheringham a Peter Beardsley ydi'r ddau chwaraewr sy'n dod i'r cof.
Roedd gen i berthynas dda efo Teddy yn Millwall, roedd o'n gallu ennill pêl yn yr awyr ac roedd hynny'n gwneud pethau'n hawdd i foi bach fel fi!
Yn Newcastle, Beardsley oedd y chwaraewr arbennig yn y garfan, roedd o'n chwarae'r gêm fel 'sa fo'n sbïo i lawr o'r awyr, roedd o tua thri cham ar y blaen i bawb arall. Arbennig.
Pwy yw dy ffrindiau gorau yn y byd pêl-droed?
'Dwi dal yn cadw mewn cysylltiad efo Alex Rae oedd efo fi yn Millwall ac wrth gwrs 'dwi yn ffrindiau mawr ac yn dal i wneud gwaith darlledu efo John Hartson.
Un arall o fy ffrindiau pennaf ers blynyddoedd ydi Iwan Roberts. Roedd y ddau ohonom ni efo'n gilydd yn Watford ac, wrth gwrs, efo Cymru. Roedden ni'n mêts mawr oddi ar y cae hefyd.
Mae'n siwr bod cael rhywun arall oedd yn Gymro Cymraeg ac yn dod o ardal wledig yn help mawr i mi yn Watford - er bod Iwan a'i frawd wedi trio cicio fi dros y cae pob tro roedd Deiniolen wedi chwarae yn erbyn Harlech!
Mae rhaglen Sgorio wedi darlledu pêl-droed Sbaen ers 20 mlynedd bellach - pwy ydi'r chwaraewr gorau i ti weld ar Sgorio?
Mae'n rhaid i mi ddewis Ronaldinho. Er nad ydi o ar ei orau erbyn hyn, roedd 'na adeg pan fod popeth roedd o'n wneud yn wych. Roedd ganddo weledigaeth arbennig ac roedd ganddo'r awch i ddiddanu yn ogystal ag ennill.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales