Neidio at y cynnwys

S4C

Morgan Jones

Morgan Jones

Morgan Jones yw un o gyflwynwyr rhaglen Sgorio Cymru.

Pa dîm ti'n ei gefnogi?
Manchester United gan mai dyna'r tîm oedd pawb call yn Ysgol Trefor yn cefnogi!

Pwy yw/oedd dy arwr pêl-droed?
'Does ddim rhaid i mi feddwl yn rhy hir am yr un yma - Paolo Maldini. Heb os, mae o'n un o amddiffynwyr gorau'r byd .

Mae'n siwr bod ei silff ben tân yn gwegian efo'r holl wobrau enillodd o ar hyd y blynyddoedd, ond yn fwy na dim byd arall mae ei deyrngarwch i un clwb mewn oes lle mae chwaraewyr yn dilyn yr arian yn werth ei glodfori.

Pwy oeddet ti eisiau bod wrth chwarae pêl-droed ar iard yr ysgol?
Am ryw reswm roedd bechgyn Ysgol Trefor yn smalio mai ni oedd Brasil - fy ffrind gorau, Sion Amlyn, oedd Socrates a Zico oeddwn i.

Beth yw dy atgof gorau o'r byd pêl-droed?
Er gwaethaf atgofion gwych o deithio i Sbaen, Yr Almaen a'r Eidal efo Sgorio mae'n rhaid dweud mai gweld tîm dan-7 Trefor yn cyflawni'r dwbwl llynedd ydi'r atgof gorau sydd gen i. Rona Williams a minnau oedd rheolwyr y tîm, rhyw fath o Alex Ferguson a Carlos Queiroz Cymreig.

Pwy yw'r chwaraewr gorau ti wedi gweld yn chwarae?
'Dwi'n credu mai Zinedine Zidane ydi'r un sydd wedi creu'r argraff fwyaf arna'i, yn enwedig o fod ar ochr cae yn y Bernabeu a gweld ei ddewiniaeth mor agos - athrylith pur.

Mae rhaglen Sgorio wedi darlledu pêl-droed Sbaen ers 20 mlynedd bellach - pwy ydi'r chwaraewr gorau i ti weld ar Sgorio
Fel gwyliwr Sgorio 'dwi'n credu mai Ronaldo fyddwn i'n ddewis - nid pan oedd o'n chwarae dros Real Madrid, i mi roedd Ronaldo ar ei orau tra ar lyfrau Barcelona.

Sgoriodd 34 gôl yn y Primera - does 'na'r un chwaraewr arall wedi sgorio dros 30 o goliau mewn tymor ers hynny - a llwyddodd i rwydo unig gôl y gêm wrth i Barcelona faeddu Paris St Germain a chipio Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop.