Neidio at y cynnwys

S4C

Lloegr amdani, felly!

Fabio Capello

Dyddiadur Warsaw Gary Pritchard - a nhw 'di'r stori unwaith eto!!

Anghredadwy!

Dyna'r unig air alla'i ddefnyddio i ddisgrifio sgrym y wasg ddatblygodd o gwmaps cynhadledd Grŵp G ar ôl i'r enwau ddod allan o'r het.

Wrth gwrs, 'dwi'n siŵr fod yr holl ohebwyr oedd yn bresenol yn torri eu boliau er mwyn cael clywed beth oedd gan John Toshack i'w ddweud am Montenegro, Bwlgaria, Y Swistir ac ... o, ia, Lloegr.

Roedd na ddwy waith, os nad tair gwaith, cymaint o ohebwyr o amgylch cynhadledd Grŵp G nac o gwmpas unrhyw grŵp arall.

A phan gyrhaeddodd Fabio Capello i rannu ei berlau gyda'r gohebwyr fe aeth pethau o ddrwg i waeth.

Gan ein bod ni'n gwybod cyn y gohebwyr Seisnig ein bod ni yng Ngrŵp G, fe lwyddodd tîm Sgorio i sicrhau lleoliad arbennig o dda ar gyfer y gynhadledd, yn y tu blaen ac o flaen y podiwm.

Ond fe newidiodd y cwbwl pan gyrhaeddodd Capello.

Yn sydyn, yn lle golygfa wych o'r rheolwr a lleoliad penigamp ar gyfer gofyn cwestiynau, cefais fy hyrddio tua'r llawr gan olygu fod gen i olygfa gwych o glust chwith gohebydd y BBC a chesail dde gohebydd ITV!

Roedd yr awch i glywed llais yr Eidalwr cymaint nes fy mod i wedi cael fy ngwthio pum troedfedd yn fy mlaen!

Beth bynnag, llwyddais i chwifio'r meicroffon yng nghyfeiriad Signor Capello, ac i fod yn deg, roedd o'n ganmoliadwy iawn o'r Cymry.

Fel mae'n digwydd, roedd Capello ar yr un awyren draw i Warsaw â John Toshack a'r ddirprwyaeth Gymreig, ac roedd y ddau wedi bod yn hel atgofion - roedd Capello yn aelod o dîm Yr Eidal drechodd Toshack a Chymru 4-1 yn Rhufain ym 1969.

Roedd o hefyd wedi sgwrsio gyda Toshack am y chwaraewyr ifanc dawnus yng ngharfan Cymru ac roedd o'n ymwybodol iawn o'r gobeithion sydd yng Nghymru fod y tô ifanc yma am lwyddo.

Ond fydd y gobeithion yna'n cael eu cyflawni yn ystod yr ymgyrch yma?

'Dyw Toshack heb drechu Lloegr ... na Capello ... fel chwaraewr. Ys gwn i os fydd o'n llwyddo i wneud hynny fel rheolwr?


Y diwrnod mawr wedi cyrraedd ...

Ystafell y Wasg yn Warsaw

Dyddiadur Gary Pritchard - yr enwau'n dod allan o'r het

Bore Sul 07 Chwefror

Mae hi'n hynod o oer tu allan y bore 'ma, ond mae ystafell y wasg ym Mhalas Celfyddyd a Gwyddoniaeth, Warsaw yn ferw gwyllt o ohebwyr pêl-droed.

Mae 'na giw anferth wrth y ddesg achrediad ar gyfer tocynnau i'r neuadd lle bydd yr enwau yn dod allan o'r het gyda sawl ffrae ynghylch pwy oedd yn y ciw gyntaf!

Yn ystafell y wasg, mae'n rhaid i mi roi gwobr arbennig i'r orsaf radio o Dwrci sydd wedi gosod meic drws nesaf i'r teledu sydd yn yr ystafell er mwyn darlledu'r seremoni yn fyw i'w gwrandawyr.

Pwy sydd angen mynd trwy'r rigmarôl o sicrhau hawliau?!


Hwyl yng nghynhadledd Platini

Sadwrn 06 Chwefror (mwy ..)

Michel Platini yng Nghynghadledd y Wasg Ewro 2012

Roedd na un uchafbwynt digon doniol o gynhadledd y wasg Michel Platini a hynny oedd ei farn am yr holl gwestiynau gan y wasg Seisnig am John Terry.

Ar ôl i cael ei holi am i Terry golli ei rôl fel capten Lloegr am y trydydd tro - cwestiwn welodd gohebwyr y 52 gwlad arall o fewn Uefa'n ochenaid yn uchel - cafwyd ateb di flewyn ar dafod gan y llywydd.

"Dim ots gen i," meddai yn ddigon di-symwth.

"Eich problem chi, yn Lloegr, ydi hyn," ychwanegodd.

"Be' 'sa chi'n hoffi i mi ei ddweud? 'Da ni yma er mwyn trafod gemau rhagbrofol Ewro 2012. Bydd Capello yn gwneud yr hyn mae o'n gredu sy'n iawn."

'Dwi'n siwr i mi glywed ychydig o gymeradwyaeth gan y gohebwyr Eidalaidd oedd yn eistedd ger llaw!


Platini creu cynnwrf

Dydd Sadwrn 06 Chwefror

Ar ôl gadael y tŷ am 2 o'r gloch y bore ac ar ôl goroesi niwl, rhew ac eira er mwyn cyrraedd Warsaw, 'dwi wedi ... o'r diwedd ... cael mynediad i ystafell wasg gynnes a chlud! 

Ar ôl neidio trwy sawl cylchyn a chamu dros sawl camfa, cefais fy ngherdyn achrediad ar gyfer y seremoni fawr fydd yn cael ei gynnal amser cinio yfory.

Bydd yr enwau yn dod allan o’r het ar gyfer gemau rhagbrofol pencampwriaethau Ewro 2012 yn y Palas Celfyddyd a Gwyddoniaeth ym mhrifddinas Gwlad Pwyl.

 
Mwy > Penwythnos pwysig i Gymru
 

Ond nid yr eira a'r rhew nac ychwaith yr holl rwystrau a thrafferthion sydd wedi creu cynnwrf ymysg newyddiadurwyr pêl-droed Ewrop prynhawn ‘ma.

Mae Uefa wedi creu ychydig o stwr yn ystafell y wasg wrth gyhoeddi na fydd Azerbaijan ac Armenia na Rwsia a Georgia yn cael bod yn yr un grŵp rhagbrofol.

Mae Azerbaijan ac Armenia wedi bod yn rhyfela dros ardal Nagorno-Karabakh sydd wedi ei leoli o fewn Azerbaijan ond sy’n cael ei reoli gan fyddin Armenia ers 1994.

Roedd y cymdogion yn yr un grŵp rhagbrofol ar gyfer Pencampwriaethau Ewro 2008, ond ni chwaraewyd yr un o’u gemau wedi i’r ddwy wlad fethu â chytuno ar leoliadau.

Ac fe ddywedodd llywydd Uefa, Michel Platini, ei fod am osgoi yr un sefyllfa eto.

“Mae'r pwyllgor wedi dod i’r penderfyniad (i’w cadw ar wahan) gan nad ydyn ni am weld chwaraeon a gwleidyddiaeth yn cymysgu,” meddai mewn cynhadledd i’r wasg brynhawn Sadwrn.

Cafwyd rhyfel byr rhwng Rwsia a Georgia dros diriogaethau De Ossetia a Abkhazia yn 2008.

A chadarnhaodd Platini fod y penderfyniad i gadw'r gwledydd rhag orfod wynebu eu gilydd wedi ei wneud ar ôl trafodaethau gyda’r gwahanol gymdeithasau pêl-droed.

Wrth gwrs, 'does 'na ddim gwirionedd yn y sibrydion fod Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi ceisio mynd â Chymru i ryfel gyda phob un o'r prif ddetholion ar ôl clywed y newyddion!!

06/02/2010 - 17:18

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
8 + 9 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..