Neidio at y cynnwys

S4C

Rhaglenni

Cliciwch yma i wylio rhaglen Sgorio ddiweddaraf

11/02/2012
15:00 Sgorio: Aberystwyth v Caerfyrddin

Gydag Uwch Gynghrair Cymru bellach wedi'i hollti'n ddau, mae 'na dipyn o frwydr ymysg y chwech isaf wrth iddyn nhw gystadlu am y seithfed safle er mwyn sicrhau gêm ail-gyfle am le yn Ewrop tymor nesa'.

Ond mae 'na frwydr arall yn datblygu hefyd. Mae 'na ddau o hen selogion yr Uwch Gynghrair yn ymladd am bob pwynt mewn ymdrech i osgoi'r cwymp, ac mae'r ddau yn cyfarfod y prynhawn 'ma ar Goedlan Y Parc lle mae Aberystwyth yn croesawu Caerfyrddin, gyda'r gêm yn fyw ar S4C.

Hefyd, cyfle i weld uchafbwyntiau'r gemau a chwaraewyd neithiwr rhwng Prestatyn a'r Seintiau Newydd, Y Drenewydd v Airbus a Phort Talbot v Lido Afan, yn ogystal â'r gwasanaeth canlyniadau arferol trwy gyfrwng y 'sgoriadur' yn ystod y prynhawn.