Neidio at y cynnwys

S4C

'Sweden oedd y tîm gorau' medd Tosh

Cyfaddefodd John Toshack mai Sweden oedd yn haeddu ennill y gêm gyfeillgar yn erbyn Cymru nos Fercher.

Ymosodwr Bolton, Johan Elmander, rwydodd unig gôl y gêm â foli gelfydd funud cyn yr egwyl yn Stadiwm Liberty, Abertawe.

"Cawsom ni ddechrau digon da yn y 15 neu 20 munud cyntaf," meddai Toshack wrth Sgorio.

"Ond wrth i'r gêm fynd yn ei blaen fe ddaeth (Sweden) yn ôl i reoli a 'dwi'n credu eu bod nhw'n llawn haeddu'r fuddugoliaeth.

"A bod yn onest fe allwn ni fod wedi ildio llawer iawn mwy."

04/03/2010 - 14:53

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
1 + 0 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..