Neidio at y cynnwys

S4C

Tosh wedi ei gyffroi gan Loegr

Roedd John Toshack wedi ei gyffroi ar ôl i Gymru ddod allan o'r het yn yr un grŵp â Lloegr yng ngemau rhagbrofol Ewro 2012.

"Mae herio Lloegr yn Wembley mewn gêm gystadleuol yn siwr o gyffroi chwaraewyr Cymru - yn sicr 'dwi wedi fy nghyffroi," meddai Toshack wrth Sgorio.

Bydd Cymru yng Ngrŵp G ochr yn ochr â Lloegr, Y Swistir, Bwlgaria a Montenegro ar gyfer y bencampwriaeth fydd yn cael ei chynnal yng Ngwlad Pwyl a'r Wcrain.

Ac roedd Toshack yn ymwybodol iawn o'r her sydd yn wynebu Cymru yn enwedig o gofio fod Cymru wedi colli 2-1 mewn gêm gyfeillgar yn Montenegro fis Awst diwethaf.

"Mae Montenegro, sydd i fod yn is na ni yn y detholion, yn mynd i fod yn gêm anodd," meddai.

 
Mwy > Dyddiadur Warsaw Gary Pritchard
 

"Does yna'r un gêm hawdd yn y grŵp yna, ond mae'r Swistir, Bwlgaria, Montenegro yn dimau y gallwn ni guro ac yna mae 'na gêm ddarbi fawr yn erbyn Lloegr."

"Mae 'na ddwy ffordd o edrych ar y grŵp," eglurodd. "Os yw'r bechgyn ifanc yn datblygu yn y ffordd rydym ni'n ei ddisgwyl, fe allwn ni fynd amdani."

"Bydd nifer o'r bechgyn wedi chwarae yn erbyn tîm dan-21 Lloegr i dîm Brian (Flynn) yn ddiweddar ac os y gallwn ni gario'r ysbryd yna ymlaen yna fe fydda ni'n iawn."

07/02/2010 - 14:31

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
3 + 0 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..