Neidio at y cynnwys

S4C

Ffordd Farrar yw lleoliad diweddaraf Andy

Andy Unwin

Mae antur Cwpan Cymru Andy wedi ei arwain at gartref y deiliaid, Bangor City.

 

gohebydd: Andy Unwin

 
Mwy > Siwrne Cwpan Cymru Andy
 

Wedi saib o bron i dri mis, dechreuodd fy antur yng Nghwpan Cymru yn ôl ar benwythnos olaf mis Ionawr gyda gêm pedwaredd rownd.

Ar ôl gweld Bangor yn sicrhau buddugoliaeth dda yn Y fflint ar Gae y Castell, Ffordd Farrar oedd pen fy nhaith ar gyfer y bedwaredd rownd wrth i'r deiliaid, bangor, geisio ymestyn u rhediad di-guro yn y gwpan i 15 gêm.

Y gwrthwynebwyr oedd Aberaman, clwb oedd yn chweched yng Nghynghrair MacWhirter (y De). Ond 'doedd eu canlyniadau diweddar ddim yn ffafriol wrth iddyn nhw gasglu un pwynt yn unig o'u 18 diwethaf.

Ac roedd 'na newid wedi bod wrth y llyw ar faes y Golden Acres ers trechu Rangers Trelai yn y drydedd rownd.

Roedd Mattie Davies wedi gadael er mwyn ymuno â Chaerfyrddin gyda chyn chwaraewr Cymru a'r pyndit teledu, Leighton James, yn cymryd ei le.  

 
Mwy > Map rhyngweithiol
 

Yn gwbwl groes i Aberaman, roedd Bangor ar dân gydag un colled yn unig yn eu saith gêm blaenorol felly roedd pawb yn disgwyl buddugoliaeth gyfforddus i'r tîm cartref.

Ond wedi 18 munud o'r gêm roedd yr ymwelwyr ar y blaen wrth i gyn chwaraewr Casnewydd, John Phillips, daro foli hyfryd o 12 llath.

Roedd y gôl yn hwb i Aberaman a bu ond y dim iddyn nhw ddyblu eu mantais ond tarodd John Kift ei ergyd yn syth i ddwylo diolchgar golwr Bangor, Paul Smith.

Wedi'r sioc yma, tarodd Bangor yn ôl gyda Jamie Reed yn dod â'r deiliaid yn gyfartal cyn yr egwyl.

 
Mwy > Gallery of Andy's journey

 

 

Dim ond un tîm oedd yn y gêm wedi troi a chafodd Bangor ddigon o gyfleon i ennill sawl gêm gwpan ac roedd y ddwy gôl a gafwyd yn yr ail hanner yn adlewyrchiad teg o'r gêm.

 

Er y golled gall Aberaman, a'u cefnogwyr swnllyd, adael Ffordd Farrar â'u penau'n uchel .  

 
Mwy > Canlyniadau Cwpan Cymru
 

Felly dim ond tair gêm sydd rhwng Bangor a hat-tric o fuddugoliaethau yn y gwpan - rhywbeth sydd eisoes wedi ei gyflawni gan Y Derwyddon, Wrecsam, Caerdydd, Abertawe a'r Barri.

A byddaf i yn ôl ar Ffordd Farrar ar Sadwrn 27 Chwefror ar gyfer ymweliad Llanelli â'r ddinas.

Mae'r gystadleuaeth yn poethi erbyn hyn gydag wyth tîm yn llygadu'r tlws enwog ... ond dim on un tîm all gofi'r gwpan ym mis Mai.  

Ffarwel felly i Aberaman, mae'n bechod na chefais ymweld â'r Golden Acres … wel, ddim y tymor yma beth bynnag!  

25/02/2010 - 16:12

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
3 + 12 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..