
Dylan Ebenezer sy'n gobeithio nad yw penodi olynydd i Gary Speed yn broses niweidiol
Dewch at eich gilydd yn gytûn.
Gobeithio bod pawb sy’n ymwneud a phêl-droed Cymru yn dilyn cyngor doeth Edward H Dafis - achos mae yna beryg bod y broses o benodi rheolwr newydd i’r tîm cenedlaethol yn mynd i greu rhaniadau niweidiol.
Mae’r sefyllfa yn un anodd ac emosiynol dros ben yn dilyn marwolaeth Gary Speed.
Gwelwyd hynny yn glir wrth i Aaron Ramsey feirniadu’r Gymdeithas bêl-droed am beidio holi barn y chwaraewyr ynglŷn â’r rheolwr newydd.
Mae pawb yn brifo.
Roedd Ramsey yn siarad ar ran y garfan pan ddywedodd ei fod yn gobeithio na fydd na newid mawr - ma’ nhw eisiau gweld y tîm hyfforddi - Raymond Verheijen ac Osian Roberts yn parhau yn y swydd.
Os oes angen rheolwr ‘go iawn’ hefyd yna digon teg - ond dyna ni. Os nag yw e wedi torri yna peidiwch â chyffwrdd (i ddefnyddio’r idiom Saesneg erchyll).
Mae chwaraewyr yn gwybod o brofiad gymaint sy’n gallu newid pan ma’ rheolwr yn newid - a dy nhw ddim eisiau i hynny ddigwydd gyda Chymru.
Newidiodd Gary Speed bopeth - nid yn unig y canlyniadau.
O edrych ar restr swyddogol y garfan ar gyfer ei gem olaf yn erbyn Norwy mae yna bron gymaint o staff a chwaraewyr!
Roedd hyn yn jôc ar y dechrau ond doedd neb yn amau gwerth y Gwyddonydd Chwaraeon (2) erbyn y diwedd.
Pwysleisiodd Ramsey bod y strwythur newydd yn hanfodol i lwyddiant y tîm a ma nhw’n poeni y byddai rheolwr newydd eisiau newid hynny.
Tra bod gweld y capten yn dweud ei ddweud mor ddiffuant yn arwydd o gymeriad cryf y gŵr ifanc - roedd hefyd yn eiliad bryderus.
Does dim amheuaeth bod chwaraewyr yn bwerus dros ben y dyddiau yma - ond dim nhw sy’n dewis rheolwr - swydd y gymdeithas yw hynny.
Y gobaith bod y dynion yng ngofal y gêm ddigon call i sylweddoli bod cadw’r chwaraewyr yn hapus yn holl bwysig.
Mae hi’n sefyllfa anodd - bron amhosib i’r Gymdeithas bêl-droed. Dwi ddim yn gallu gweld bod modd newid y tîm hyfforddi - sy’n golygu bydd rhaid i’r rheolwr newydd dderbyn syniadau, staff a ‘set up’ gwr arall.
Yr unig gysur i’r gŵr newydd yw bod y drefn flaenorol yn amlwg yn gweithio.
Yng nghanol y cyfan mae Chris Coleman. Mae’r wasg wedi penderfynu’n barod mai’r cyn amddiffynnwr yw’r ffefryn ar gyfer y swydd.
Amser a ddengys o ran hynny - ond un peth sy’n bendant does dim modd plesio pawb.
Cofiwch - dim pawb oedd yn hapus gyda phenodiad Gary Speed ar y dechrau. Mae pethau yn gallu newid yn gyflym iawn.
Er gwell ... ac er gwaeth.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales
Postio ymateb