
Llwyddodd Stuart Jones i rwydo unig gôl y gêm wrth i Lanelli synnu Motherwell yng nghymal cyntaf eu gêm yn Nghynghrair Europa.
Er i'r Albanwyr fwynhau'r mwyafrif o'r chwarae a'r cyfleon, yr amddiffynnwr canol gafodd y gôl holl bwysig â pheniad o gic gornel Andy Legg wedi 28 munud.
Roedd Chris Venables, ymunodd â'r clwb o Aberystwyth yn ystod yr haf, yn gawr yng nghanol cae wrth i'r Cochion lwyddo i rwystro bygythiad Motherwell.
Yn yr ail hanner aeth John Sutton a'r eilydd, Paul Slane, yn agos ar ran y tîm cartref ond bu rhaid disgwyl tan y munudau olaf cyn i golwr Llanelli, Ashley Morris, orfod gwneud arbediad.
Roedd rheolwr Llanelli, Andy Legg, yn amlwg wrth ei fodd â'r canlyniad.
"Pob clod i'r bechgyn, roedd y perfformiad yn arbennig," meddai wrth Sgorio wedi'r gêm.
"Fe roddwyd 100% heno gan pob un ohonnyn nhw."
Ond tra bod ambell i ohebydd papur newydd yn Yr Alban yn sôn mai Llanelli yw'r ffefrynau i gamu ymlaen yn y gystadleuaeth, roedd Legg yn bod yn realistig.
"'Dwi'n gwybod ei fod yn ystrydeb, ond dim ond hanner amser ydi hi," meddai. "Ry' ni wedi sicrhau un o ganlyniadau gorau gan dîm Cymreig yn Ewrop, ond 'dyw'r gêm ddim drosodd eto."
Motherwell: Fraser, Saunders, Craigan, Reynolds, Hammell, O'Brien (McHugh 74), Lasley (Slane 46), Forbes, McGarry, Sutton, Murphy.
Eilyddion: Kosiorowski, Darren Smith, Fitzpatrick, Hutchinson, Page.
Llanelli: Ashley Morris, Legg (Warlow 51), Howard, Stuart Jones, Jarman (Thomas 16), Phillips, Mumford, Corbisiero, Venables, Griffiths, Craig Jones (Follows 65).
Eilyddion: Craig Morris, Jenkins, Moses, John.
Cardiau Melyn: Stuart Jones, Griffiths, Howard.
Gôl: Stuart Jones 28.
Torf: 4,307
Dyfarnwr: Tero Nieminen (Y Ffindir)
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales
Postio ymateb