
Llwyddodd Y Seintiau Newydd i fachu gôl oddi cartref holl bwysig yng Ngwlad yr Iâ yng nghymal cyntaf eu gêm yng Nghynghrair Europa.
Roedd Steve Evans wedi rhoi'r clwb o Groesoswallt ar y blaen â pheniad o groesiad Scott Ruscoe wedi 23 munud , ond naw munud yn ddiweddarach roedd Fram yn gyfartal.
Rhwydodd Sam Tillen o'r smotyn wedi i Conall Murtagh droseddu yn y cwrt cosbi a llwyddodd Heidar Juliusson i fanteisio ar farcio llac Y Seintiau i roi'r tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner.
A bu rhaid diolch i'w golwr, Paul Harrison, lwyddodd i arbed yn wych wrth draed Hjamar Thorarinsson yn hwyr yn y gêm a chadw eu gobeithion yn fyw.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales
Postio ymateb