Neidio at y cynnwys

S4C

Dechrau ail hanner y tymor yn Nantporth

Ar ôl darlledu'r gêm olaf ar Ffordd Farrar bydd Sgorio hefyd yn darlledu'r gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru o faes newydd Bangor, Nantporth.

Cafwyd cadarnhâd ddydd Llun o restr y gemau byw fydd ar Sgorio ar gyfer ail hanner y tymor yng Nghymru gyda'r gêm gyntaf yn dod o lannau'r Fenai wrth i Fangor ymgartrefu yn eu cartref newydd.

Ac mewn cyd-ddigwyddiad hyfryd, ar ôl bod y gwrthwynebwyr olaf ar Ffordd Farrar, Prestatyn fydd yr ymwelwyr cyntaf â Nantporth yn Uwch Gynghrair Cymru ar 4 Chwefror.

Bydd gêm fawr yn hanner isaf y tabl ar 11 Chwefror wrth i Mark Aizlewood arwain Caerfyrddin i fyny'r A487 i Aberystwyth yn y gobaith o sicrhau dyfodol yr Hen Aur yn Uwch Gynghrair Cymru.

Yn ogystal â gêm yng Nghwpan Cymru bydd cyfle i weld y pedwar ceffyl blaen wrth i Lanelli groesawu'r Seintiau cyn i Gastell-nedd a'r Seintiau ymweld â Fangor.

Mae hi'n addo bod yn ddiweddglo cyffrous arall i Uwch Gynghrair Cymru a bydd Sgorio yno i weld y cyfan.


 

  • 4 Chwefror: Bangor v Prestatyn
  • 11 Chwefror: Aberystwyth v Caerfyrddin
  • 18 Chwefror: Llanelli v Y Seintiau Newydd
  • 25 Chwefror: Cwpan Cymru - i'w gadarnhau
  • 3 Mawrth: Bangor v Castell-nedd
  • 10 Mawrth: Bangor v Y Seintiau Newydd
16/01/2012 - 14:58

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
2 + 0 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..