Neidio at y cynnwys

S4C

Roberts eisiau parhau yn ei rôl

Gyda'r penderfyniad am pwy fydd yn olynu Gary Speed fel rheolwr nesaf Cymru yn agosau, roedd is-reolwr Cymru, Osian Roberts, yn westai ar Sgorio brynhawn Sadwrn.

Dywedodd Roberts, sydd hefyd yn gyfarwyddwr technegol Cymdeithas Bêl-droed Cymru, ei fod eisiau parhau yn ei rôl er mwyn sicrhau parhâd i'r tîm cenedlaethol.

Ond cyfaddefodd y byddai angen trafodaeth gydag unrhyw reolwr newydd sydd yn cael ei benodi er mwyn gweld os byddai ei rôl yn parhau.

Chris Coleman yw'r ffefrun clir ar hyn o bryd i gael ei benodi a dywedodd cyn reolwr Fulham, Real Sociedad a Coventry y byddai'n cynnal trafdaethau gyda'r Gymdeithad Bêl-droed yr wythnos yma.

16/01/2012 - 10:02

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
4 + 16 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..