Neidio at y cynnwys

S4C

Cynllun strategol y gymdeithas

Dydd Iau, cafwyd cyfarfod mawr yng Nghaerdydd er mwyn lansio strategaeth newydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn ogystal â chyflwyniad gan Brif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Jonathan Ford, cafwyd anerchiad gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a rheolwr y tîm cenedlaethol, Chris Coleman.

Cyn cychwyn ar yr anerchiad cafwyd teyrnged gan Ford i Gary Speed, cyn reolwr Cymru fu farw ym mis Tachwedd.

Dywedodd Ford fod Speed wedi bod yn rhan allweddol o'r tîm fu'n llunio'r strategaeth. "Nid rheolwr Cymru oedd Gary," meddai. "Roedd Gary yn reolwr ar bêl-droed yng Nghymru."

Pwrpas cyflwyno'r strategaeth, yn ôl Ford, yw i sicrhau cynllun clir i wella pob elfen o bêl-droed yng Nghymru, o'r timau cenedlaethol hyd at bêl-droed ar lawr gwlad.

Mwy > Darllenwch y Cynllun Strategol

 

27/01/2012 - 15:51

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
4 + 4 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..