
Bydd Y Rhyl yn wynebu FK Partizan o Belgrade yn ail rownd rhagbrofol Cynghrair y Pencampwyr.
Daeth yr enwau allan o'r het yn Nyon fore Llun a bydd y Lillywhites yn croesawu'r clwb o Serbia i Belle Vue ar 14/15 Gorffennaf cyn teithio i Stadion Partizana wythnos y ddiweddarach.
Llwyddodd Partizan i gipio'r Jelen Superliga am yr ail flwyddyn yn olynol, gan orffen 19 pwynt yn glir o FK Vojvodina oedd yn ail.
A chyda carfan sy'n llawn o chwaraewyr rhyngwladol Serbia, Slovenia a Montenegro, bydd Partizan, sydd â chyn chwaraewr Chelsea, Slaviša Jokanović, yn reolwr, yn gêm anodd iawn i dîm Alan Bickerstaff.
Llwyddodd Partizan i guro Inter Baku yn ail rownd rhagbrofol y tymor diwethaf cyn colli 3-4 dros ddwy gymal yn erbyn Fenerbahçe o Twrci yn y drydedd rownd.
Yn ystod tymor 2003/04 llwyddodd Partizan i gyrraedd rownd y grwpiau gan sicrhau gemau cyfartal yn erbyn Marseille, Real Madrid a Porto yn Belgrade ond yn gorffen ar waelod y grwp.
Rownd rhagbrofol cyntaf:
UE Sant Julià (AND) v SP Tre Fiori (SNM)
Hibernians (MLT) v FK Mogren (MNE)
Ail rownd rhagbrofol:
KF Tirana (ALB) v Stabæk IF (NOR)
FC WIT Georgia (GEO) v NK Maribor (SVN)
EB/Streymur (FRO) v APOEL FC (CYP)
FC København (DEN) v Winner of Hibernians v FK Mogren
Debreceni VSC (HUN) v Kalmar FF (SWE)
FK Makedonija GP Skopje (MKD) v FC BATE Borisov (BLR)
FH Hafnarfjördur (ISL) v FK Aktobe (KAZ)
FC Pyunik (ARM) v NK Dinamo Zagreb (CRO)
Ventspils (LVA) v F91 Dudelange (LUX)
Ekranas (LTU) v FK Baku (AZE)
FC Salzburg (AUT) v Bohemian FC (IRL)
NK Zrinjski (BIH) v ŠK Slovan Bratislava (SVK)
FC International Turku (FIN) v FC Sheriff (MDA)
Y Rhyl (WAL) v FK Partizan (SRB)
Wisla Kraków (POL) v Levadia Tallinn (EST)
PFC Levski Sofia (BUL) v Buddugwyr UE Sant Julià v SP Tre Fiori
Maccabi Haifa (ISR) v Glentoran (NIR)
Mwy: Cynghrair Europa
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales
Postio ymateb