Neidio at y cynnwys

S4C

Wolfsburg yn pryderu tra'n dathlu

Fe ddylai ennill y bencampwriaeth am y tro cyntaf yn eich hanes fod yn achos dathlu, ond mae cefnogwyr VfL Wolfsburg yn poeni am yr hyn fydd yn digwydd i'w clwb wedi gêm ola'r tymor yn erbyn Werder Bremen wythnos nesaf.

Bydd hi'n gyfnod o ffarwelio i gefnogwyr y Bleiddiaid wrth i'w rheolwr, Felix Magath, adael i gymryd yr awenau gyda Schalke 04, a does wybod faint o chwaraewyr fydd yn dilyn ôl troed Magath allan o'r Volkswagen Arena.

Mae Edin Dzeko a Grafite, sydd yn benaf gyfrifol am dymor bendigedig Wolfsburg gyda 41 o goliau y tymor yma, wedi denu sylw sawl clwb.

Does na'r un bartneriaeth wedi rhwydo cymaint o goliau yn y Bundesliga ers i Gerd Müller ac Uli Hoeness sgorio 53 o goliau i Bayern Munich yn nhymhorau 1971/72 a 1972/73.

Dywedodd Dzeko, wrth bapur newydd yn Bosnia: "Roeddwn i eisiau aros, ond mae pethau yn wahanol bellach" - cyfeiriad amlwg at y ffaith fod Magath yn gadael.

Ac er fod y chwaraewr canol cae, Zvjezdan Misimovic, wedi wfftio'r straeon sy'n ei gysylltu efo Bayern, cyfaddefodd y Bosniad fod ei galon "yn goch" - cyfeiriad at ei ddyddiau cynnar gydag adain amatur Bayern Munich.

Mae hyd yn oed Grafite, sydd yn 29, wedi bygwth gadael y Gwyrddion.

"Byddaf yn edrych yn ofalus ar yr hyn fydd orau i mi ac i fy nheulu," meddai'r Brasiliad sydd â chytundeb â Wolfsburg tan 2011.

Felly tra bod y cefnogwyr yn paratoi i ddathlu dod yn Deutschemeister am y tro cyntaf, mae rhywun yn amau'n gryf y bydd Manchester United a Barcelona yn poeni petai'n rhaid iddyn nhw ymeld â Saxony yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

18/05/2009 - 18:08

Postio ymateb

Ni fydd y cyfeiriad ebost yn cael ei ddatgelu ar y safle.
CAPTCHA
Mae'r cwestiwn yma'n cael ei ddefnyddio i sicrhau eich bod yn ymwelydd dilys ac er mwyn osgoi sylwadau spam
4 + 5 =
Mae angen datrys y cwestiwn syml yma e.e. ar gyfer 1+3, rhowch 4 yn y blwch
..