'Sgota Teg
Mae gan Julian a’r tîm bolisi cadarn o ddal a rhyddhau wrth bysgota am siarcod. Dyma’r unig ffordd ymlaen os ydym am gynnal pysgodfeydd siarc iach. Mae porthladdoedd eraill wedi darganfod os lladdwch eich siarcod eich bod hefyd yn lladd y gamp. Cymerwch borthladd Looe yng Nghernyw, er enghraifft: yn ei anterth, byddai cychod yn dychwelyd gyda nifer fawr o siarcod a laddwyd, i’w pwyso ac i gael tynnu lluniau ohonynt. Ond nid yw’r porthladd bellach yn ddim ond cysgod o’r hyn ydoedd. Looe yw pencadlys clwb pysgota siarcod Prydain Fawr o hyd, ac y mae’n dal llawer i record. Ond yn sicr, Aberdaugleddau yw un o’r lleoliadau gorau am siarcod yn y DU ar hyn o bryd.
Mae technegau pysgota dal a rhyddhau effeithiol yn osgoi gormod o amser cwffio a thrin y pysgod, yn osgoi difrod i groen, cen a haenau llysnafedd y pysgod gan rwydi, dwylo sych ac arwynebau sych (sy’n gadael y pysgod yn agored i heintiau ffwng ar eu crwyn), ac yn osgoi difrod i ewynnau’r gwddf a’r tagellau o ganlyniad i dechnegau trin gwael.
Mae defnyddio bachau heb adfachau yn agwedd bwysig o ddal a rhyddhau; mae bachau heb adfachau yn lleihau anafiadau ac amseroedd trin, fel bod mwy o bysgod yn goroesi. Yn aml, mae modd rhyddhau pysgod a ddelir ar fachau heb adfachau heb gael eu symud o’r dŵr, gan lithro’r bachyn/bachau allan yn rhwydd gydag un symudiad o’r gefeiliau neu’r teclyn arwain. Mae modd prynu bachau heb adfachau ('barbless hooks') gan lawer o wneuthurwyr mawr, neu eu creu o fachyn safonol trwy wasgu’r adfach(au) yn wastad â gefeiliau blaen-nodwydd. Mae rhai pysgotwyr yn osgoi bachau heb adfachau yn y gred ddi-sail y bydd gormod o bysgod yn dianc. Bydd canolbwyntio ar gadw’r llinell yn dynn bob amser wrth gwffio’r pysgod, rhoi cylchoedd hollt ar hudwyr sydd hebddynt, a defnyddio bachau pwynt atro neu’r math "Gafael Triphlyg" ar hudwyr, yn cadw cyfraddau dal gyda bachau heb adfachau mor uchel â’r rhai y gellir eu cael gyda bachau ag adfachau.
