Neidio at y cynnwys

S4C

Cydnabyddiaeth

Gravells - Gravells ydi gwethwyr ceir hynaf Renault ym Mhrydain Fawr, gan ein bod wedi cael yr hawl gwerthu mor bell yn ôl â 1954. Erbyn hyn, rydym ni hefyd yn werthwyr ceir Kia, ac mae gennym ni safleoedd gwerthu a gwasanaethau yn Cydweli, Arberth ac Abertawe. Rydym ni'n ymfalchio ein bod yn gwerthu cerbydau o safon, ac yn rhoi gwasanaethau o'r safon uchaf. Yn ddiweddar, rydym ni wedi buddsoddi dros £5miliwn i sefydlu cyfleusterau gwerthu a gwasanaethau newydd yn ein 3 safles.

Snowbee - Mae Snowbee (UK) Cyf., yn rhan o Grŵp Rhyngwladol Snowbee, a sefydlwyd yn Taiwan ym 1978. Mae Snowbee yn Plymouth yn dod â chynlluniau newydd mentrus i chi, ar flaen y gad pysgota â phlu.

Fishing WalesPysgota Cymru - Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Bwrdd Croeso Cymru sy’n rhoi gwybodaeth fanwl i bawb sydd am fynd i bysgota yng Nghymru.

Iceland Tourist BoardBwrdd Twristiaeth Gwlad yr Iâ - yma medrwch weld lluniau, fideos a chwmnïau teithio o Wlad yr Iâ sy’n cynnig llety, a llawer mwy.

Sea AnglerSea Angler - y porth i’r wefan bysgota fwyaf i bysgotwyr môr. Crëwyd gan y tîm yng nghylchgrawn Sea Angler, mae gan y wefan atebion yn syth i’ch holl gwestiynau am bysgota.

Environment Agency WalesAsiantaeth yr Amgylchedd Cymru - corff cyhoeddus gweithredol anadrannol sy’n atebol i’r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a Chorff Cyhoeddus a noddir gan y Cynulliad sy’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Iceland Fishing AdventuresIceland Fishing Adventures - O amgylch Ynys yr Iâ, mae nifer o leoedd lle gallwch chi bysgota o’r lan a chael canlyniadau da. Gallwch ddal pysgod mawr nifer o rywogaethau fel penfras, morflaidd a nifer o rywogaethau o ledod gwahanol. Mae eu tywyswyr wedi dal hyd at 22 o rywogaethau gwahanol tra’n pysgota ar lannau Ynys yr Iâ.

Fjord FishingMae eu cyrchfannau yn cael eu profi a’u dewis yn ofalus – gan ein bod ni’n hunain yn ymuno â nhw i fwynhau pysgota mawr mewn dull unigryw. Islandwyr brodorol yw’r rhain sydd â gwybodaeth eang am y wlad.

AmmoAmmodytes Co. Ltd - Ers ei sefydlu yn 1978, Ammo yw’r cyflenwr mwyaf o abwyd blast wedi rhewi ar gyfer y fasnach offer pysgota yn y DU ac Iwerddon.

SakumaSakuma - Cychwynodd fasnachu yn y DU yn 1999 gydag amrediad bach o fachau wedi eu mewnforio o Siapan; doedd hi ddim yn hir cyn i’r bachau ddod yn boblogaidd gyda physgotwyr, oedd yn gallu gwerthfawrogi safon uchel y cynnyrch. Roedd y penderfyniad i ehangu amrediad y bachau welwch chi ar eu gwefan, yn un hawdd.

Orca Travel Orca Travel - O archwilio diffeithwch naturiol i gyfarfod pobl Ynys yr Iâ, byddwch yn ymgolli’n llwyr yn y diwylliant a’r gweithgareddau wrth ymuno â’u hanturiaethau, gan ddarganfod calon ac enaid ardal wrth ymladd â’r elfennau

Arctic Angling - gyda Robert Schmidt

WADLlywodraeth Cynulliad Cymru