Neidio at y cynnwys

S4C

Tigh Dudley

Gwefan Tigh Dudley

Mae Kinsale yn cael ei hadnabod fel prif ddinas gourmet Iwerddon. Yw'r teitl yn un haeddiannol? Beth sy'n gwneud y lle mor arbennig?

Mae Kinsale wedi cael y teitl yma ers blynyddoedd, ac ydy, mae'n deitl haeddiannol iawn. Dyw'r lle yn ddim mwy na' Aberaeron, ond mae 'na gymaint o fwytai a thafarndai da sy'n gwerthu prydau bendigedig yno. Mae'n rhaid bod yna tua 40 o fwytai i gyd - sa' i'n gwybod sut maen nhw'n gwneud eu harian! Mae'r dref hefyd yn gartref i'r Kinsale Food Circle sy'n ymfalchïo yn y cynnyrch lleol ac yn hybu hynny. Mae cannoedd yn tyrru yno bob blwyddyn ar gyfer Gŵyl Fwyd Kinsale.

Ai Kinsale oedd y dewis cyntaf ar gyfer y drydedd gyfres o'r gystadleuaeth goginio - a pham Iwerddon?

Oherwydd ei bod hi'n dref sy'n ymfalchïo yn ei chynnyrch, roedd hynny'n ddigon o reswm i fynd yno. Ond roedd y tŷ lle buom ni'n ffilmio - Ballinacurra - hefyd yn berffaith ar ein cyfer ni. Roedd y cyfuniad yma yn golygu mai Kinsale oedd y lleoliad delfrydol i ni.

Dyw bwyd Gwyddelig ddim mor enwog â bwyd Eidalaidd neu Ffrengig. Beth fyddet ti'n ddweud yw rhagoriaeth bwyd Gwyddelig?

Does dim dowt fod pawb yn cysylltu Iwerddon gydag wystrys. Fe gawsom ni gyfle yn Kinsale i fynd lawr at graig lle'r oedd wystrys yn tyfu, ac roedden nhw'n fendigedig. Mae bwyd môr yn rhan bwysig o fwyd Kinsale. Mae'r cychod yn dod â physgod ffres i'r bae bron yn ddyddiol, ac oherwydd bod y cynnyrch mor ffres, does dim angen gwneud dim iddyn nhw ac mae e mor effeithiol.

Sut deimlad ydy hi i weld y cystadleuwyr yn datblygu eu sgiliau coginio yn ystod y gyfres?

Mae'n syndod faint mae pobl yn gwella mewn cyfnod byr. Mae'r cystadleuwyr yn mynd yno ar y dydd Sul ac yn gadael y dydd Sul canlynol. Fel arfer, maen nhw'n gallu coginio tipyn cyn dod ac maen nhw i gyd yn teimlo'n angerddol am fwyd, ond mae'n wych eu gweld nhw'n gwella ac yn magu hyder yng nghwmni cogyddion proffesiynol.

Wyt ti wedi dysgu rhywbeth newydd am goginio wrth ffilmio'r gyfres?

Rwy'n dysgu rhywbeth bob tro. Boed hynny'n dric newydd neu'n ffordd well o wneud rhywbeth. Yn Kinsale, mae'r cogyddion lleol yn coginio gyda physgod ffres pob dydd ac roedd hi'n agoriad llygaid cael eu gweld nhw'n trin y bwyd môr.

Pa gogyddion adnabyddus gawsoch chi i fod yn feirniaid ar y rhaglen eleni?

Rydym ni'n dueddol o ofyn i gogyddion lleol ddod ar y rhaglen. Does dim angen enwogion pan mae'r cogyddion yma'n adnabod y cynnyrch lleol mor dda.

Beth yw'r tri phryd bwyd gorau i ti eu mwynhau fwyaf erioed?

Mae hon yn un anodd achos rwy' wrth fy modd gyda siwd gymaint o fwydydd gwahanol. Y cyntaf mae'n siŵr yw'r cimwch gefais i tra'r oeddem ni'n ffilmio'r gyfres gyntaf - Chez Dudley - yn ardal Provence, de Ffrainc. Roedd y saws yn flasus iawn, a dyna'r cig cimwch gorau i mi ei flasu erioed.

Rwy hefyd wedi cael pryd gwych yn Arzac yn San Sebastian, Gwlad y Basg. Maen nhw'n creu bwyd arbrofol iawn ac mae Heston Blumenthal o'r Fat Duck yn mynd yno i ddatblygu ac arbrofi gwahanol ryseitiau gyda nhw.

Ond yn Kinsale fe ges i'r sgampi gorau rwy erioed wedi ei gael, mewn bwyty o'r enw Fishy Fishy, gyda saws tartar cartref bendigedig. Petawn i'n cael bwyta un peth am weddill fy mywyd, mi fuaswn i'n dewis y sgampi pob tro.

Rwyt ti hefyd yn cymryd rhan yn ymgyrch Ymlaen â'r Sioe! S4C, sy'n codi ymwybyddiaeth o'r newid i ddigidol. Pam ei bod mor bwysig fod pobl Cymru'n barod am y newid digidol?

Mae'n braf ein bod ni yng Nghymru ar flaen y gad gyda'r newid i ddigidol, ac fe fydd S4C yn troi'n sianel gyfan gwbl Gymraeg fydd yn darlledu mwy o raglenni da a difyr nag erioed o'r blaen.

Gwefan Tigh Dudley

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales