Neidio at y cynnwys

S4C

Dwy sy'n fodlon eu byd

Mae'n beth od ystyried be sy'n mynd drwy feddwl babi wrth iddo gymryd rhan mewn rhaglen deledu - yr holl oleuadau, y sŵn a'r wynebau anghyfarwydd. Mae'n siŵr fod y profiad yn ddigon od i'r actores sy'n portreadu'r fam hefyd wrth iddi orfod trin y plentyn bach fel ei babi ei hun.

Ond ar Rownd a Rownd, dydi hynny ddim yn broblem. Yr actores Angharad Llwyd, sy'n actio'r cymeriad Sophie yn y gyfres ddrama, ydi mam y babi bach go iawn. Mi fyddwch chi'n gweld dipyn o'r ddwy ar Rownd a Rownd sy'n dychwelyd i'n sgriniau ni ar S4C ddechrau Tachwedd.

Marred Glynne Jones sy'n egluro mwy am y profiad o fod yn fam ar y sgrîn ac oddi ar y sgrîn.

Mae'r actores Angharad Llwyd wedi hen arfer â chwarae mam yn y gyfres Rownd a Rownd. Mae ei chymeriad, Sophie, bellach yn briod â Vince; mae'n llysfam i Callum ac yn fam i Owain a Mair.

Ond wnaeth hyn, meddai Angharad, ddim ei pharatoi ar gyfer bod yn fam go iawn, hyd yn oed ar ôl iddi roi genedigaeth ar y sgrîn yn rhaglen Nadolig y gyfres.

"Mae'r profiad yn hollol wahanol," meddai Angharad. Mae hi'n byw ym Methesda gyda'i gŵr Dafydd a'u merch fach, Gwenno, a gafodd ei geni ym mis Hydref 2009. Dim ond ychydig wythnosau cyn hynny roedd Angharad wedi bod yn brysur yn ffilmio'r golygfeydd cyffrous pan gafodd merch ei chymeriad Sophie ei geni.

"Roedd yr enedigaeth go iawn yn llawer gwaeth nag o'n i wedi ei ddychmygu. Fasa dim byd byd yn gallu eich paratoi chi ar gyfer y fath brofiad, hyd yn oed ei actio o flaen llaw!" meddai Angharad gyda gwên. "Roedd pawb ar set Rownd a Rownd wedi bod yn ofalus iawn ohona i wrth inni ffilmio'r golygfeydd, yn enwedig gan fy mod i'n cael poenau Braxton Hicks ar y pryd. Roedd rhai o'r criw yn poeni fod y babi ar fin cyrraedd go iawn!"

Er bod Angharad yn mwynhau bod gartre gyda Gwenno, mae'r ddwy wedi bod yn gweithio efo'i gilydd yn ddiweddar hefyd - a hynny ar set Rownd a Rownd. "Roedd Gwenno yn chwarae rhan Mair, a wnaethon ni gwpl o ddiwrnodau o ffilmio ar gyfer golygfeydd a gafodd eu darlledu yn ystod y gyfres ddiwethaf. Ro'n i'n teimlo'n eitha nerfus ar y dechrau gan nad o'n i'n gwybod sut oedd hi am fihafio. Ond roedd hi'n ferch dda iawn. Roedd gynnon ni ein hystafell ein hunain ar y set er mwyn i mi ei bwydo hi a newid ei chlwt ac mi weithiodd pethau'n dda. Roedd pawb wedi dotio arni. Mae hi'n ferch fach bodlon ei byd, ac yn annwyl iawn, iawn."

Rownd a Rownd
Gwefan Rownd a Rownd

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales