Neidio at y cynnwys

S4C

Carolau Gobaith

Mae Shân Cothi a Rhys Meirion ymhlith y cantorion mwyaf amlwg yng Nghymru. Mae Shân hefyd yn actores a chyflwynydd adnabyddus - ar y radio a'r teledu. Fe fu Rhys Meirion yn treulio'r haf yn perfformio gyda Bryn Terfel yn yr opera Die Meistersinger von Nürnberg yn ogystal â pherfformio mewn operâu a chyngherddau eraill.

Felly beth ddaeth dros bennau'r ddau wrth iddyn nhw ymgymryd â'r her arbennig o fentora chwech o bobol adnabyddus i berfformio carol Nadolig - heb i'r un ohonyn nhw gael unrhyw fath o hyfforddiant cerddorol cyn hyn?

Mi fydd yn rhaid i Shân a Rhys brofi fod ganddyn nhw'r sgiliau cywir a dangos fod ganddyn nhw ddigon o amynedd yn Carolau Gobaith. Mae'r gyfres yn dechrau ar 7 Rhagfyr - y bwriad, ar yr un pryd, ydi codi arian ar gyfer dwy elusen deilwng iawn.

Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fydd gwylwyr yn dilyn taith hir y chwech wrth iddyn nhw ymgymryd yn llwyr â'r her. Fe gawn ni weld y crio a'r chwerthin, yr hunllef a'r emosiwn heb sôn am y nerfau yn cydio cyn i'r gyfres gyrraedd uchafbwynt mewn rhifyn Nadoligaidd arbennig. A dyna pryd y bydd un tîm yn ennill y gystadleuaeth.

Y Mentoriaid

Syniad gwreiddiol Rhys ydi'r gyfres. Roedd e'n awyddus i feddwl am ffyrdd o godi arian ar gyfer yr elusen Tŷ Gobaith. Doedd dim angen gofyn i Shân ddwywaith i helpu - a dyna ddechrau'r daith i'r ddau i godi arian ar gyfer Tŷ Gobaith ac Amser Justin Time. Mae hosbis Tŷ Gobaith - gyda chanolfannau yng Nghroesoswallt a Chonwy - yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd plant sydd â salwch terfynol. Shân ei hun wnaeth sefydlu elusen Amser Justin Time er cof am ei gŵr, Justin Smith, wnaeth farw o ganser y pancreas.

Rhys Meirion

"Mae'r chwech wedi hen arfer â pherfformio o flaen cynulleidfa yn eu gwaith. Yn ystod y gyfres, mi fydda i'n eu tynnu nhw i gyd allan o'u cynefin i ddysgu crefft newydd iddyn nhw ac mi fydd y siwrnai yn un gyffrous iawn. Mae dysgu a mentora pobol yn rhywbeth hollol newydd i mi. Ar y cychwyn, ro'n i'n nerfus iawn mae'n rhaid i mi gyfaddef - do'n i ddim yn gwybod be i ddisgwyl gan y timau. Do'n i ddim yn gwybod be fyddai'r safon, pa ganeuon i ddewis neu hyd yn oed os oedden nhw yn gallu canu…"

Shân Cothi

"Pan wyt ti'n berfformwraig rwyt ti'n gwybod beth sydd o dy flaen di, ond does gen i ddim syniad beth sydd o'm mlaen i yn ystod Carolau Gobaith. Mae mentora yn rhywbeth newydd i fi ac rwy'n hapus iawn i gael y cyfle i fod yn rhan o'r gyfres, helpu codi arian at achosion da a chael tîm da. Fel cantores, ry'ch yn dysgu'r caneuon, perfformio mewn cyngerdd - mae'n glir beth sydd o dy flaen di. Ond gyda Carolau Gobaith does gen i ddim clyw be sy o mlaen i! Pwy a ŵyr beth fydd safon y chwech - bydd yn siwrne inni gyd!"

Y chwech fydd yn ceisio disgleirio

Siw Hughes

Siw Hughes: Actores

"Pwy fasa'n gallu gwrthod canu deuawd gyda Rhys Meirion? Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn ei fod wedi gofyn i fi gymryd rhan yn y gyfres. Hyd yn hyn, dwi 'di mwynhau profiadau newydd, gwneud ffrindiau, chwerthin gymaint sy'n gwneud i fy mol i frifo a darganfod ffordd arbennig i helpu codi arian ar gyfer dwy elusen arbennig. Mae pob un ohonon ni 'di dewis wynebu'r her am resymau gwahanol. Wrth i'r broses fynd ymlaen, mi fydd pawb ar siwrne unigryw. Yn fy mhroffesiwn i, dwi'n gallu cuddio tu ôl i berson arall. Ond ar lwyfan Carolau Gobaith, 'mond fi a Rhys fydd arno heb un man i guddio."

Tudur Owen

Tudur Owen: Digrifwr

"Fy mhrofiad i yn canu? Wel, dwi 'di rhannu'r llwyfan efo'r eicon o Ynys Môn, Margaret Williams, a chanu deuawd hefo hi. Ar y pryd, ro'n i 'di gwisgo siwt heddlu ac yn perfformio fel P.C. Leslie Wynne, felly dydw i'm yn siŵr os 'di hynny'n cyfri! Mae'n brofiad difyr iawn cael gwersi ac mae'n agoriad llygaid gweld faint o waith a hyfforddiant sydd i berfformio'n broffesiynol. Mae 'na gymaint o dechnegau ac ymarferion anadlu - mae'n anodd cofio pob dim heb sôn am gofio'r geiriau!"

Tudur Owen

Nigel Owens: Dyfarnwr Rygbi

"Yr unig bryd rwy'n dueddol o ffansio fy hunan fel tipyn o ganwr yw ar ôl cwpwl o beints lawr yn y dafarn nos Sadwrn. Y peth pwysig i fi yw fy mod yn gwneud hyn ar gyfer dau achos teilwng iawn - doedd dim eisiau gofyn ddwywaith i fi ei wneud e. Fi'n dueddol o fynd yn nerfus wrth wneud rhywbeth am y tro cyntaf neu'n gwneud rhywbeth tu allan i nghynefin. Ar y cae rygbi, rwy'n hyderus o fy ngallu ond mae sefyll o flaen panel i ganu cân am y tro cyntaf yn brofiad annifyr i'r chwech ohonon ni, fi'n credu."

Bethan Gwanas

Bethan Gwanas: Awdur a chyflwynydd

"Canu yw'r unig beth sy'n codi ofn arna i. Dwi'n dda hefo uchder, pryfed, dŵr ac unrhyw beth arall ond roedd hi'n amlwg i bawb pan o'n i'n ifanc nad oeddwn i'n gantores, er fy mod i'n dod o deulu cerddorol iawn. Daeth kybosh ar bethau yn Ysgol y Gader pan ddywedodd athrawes wrtha i mod i'n canu drwy mhen-ôl! Dwi i ganu be' yw Gillian McKeith i'r jwngl yn Awstralia! Ond dwi'n benderfynol o wynebu fy ofn mwyaf - er iddi gymryd tair galwad ffôn gan Shân i mherswadio i gymryd rhan."

Huw Rees

Huw Rees: Actor

"Rwy'n mwynhau canu yn fawr iawn ac mae'n bwysig iawn imi. Ond yn ddiweddar, yr unig ganu rwy wedi 'i wneud yw yn fy nghartref pan does 'na neb arall yn gwrando. Fe gollais i hyder yn canu ar ôl methu â chael rhannau mewn sioeau cerdd pan wnes i ddechrau actio. Y rheswm i fi ymgymryd â'r her yma oedd ceisio adennill yr hyder yna'n ôl. Mae 'na bwysau ychwanegol arna i oherwydd y gân fydda i yn gorfod 'i chanu - clasur gan Ryan Davies - ond rwy'n edrych ymlaen yn arw at gael ei pherfformio. Y tro diwethaf i fi ganu'r gân oedd yn yr ysgol gynradd ac mae gen i atgofion da ohoni."

Leni Hatcher

Leni Hatcher: Cyflwynydd

"Yr alwad gyntaf gan Shân Cothi wnaeth fy argyhoeddi i gymryd rhan yn Carolau Gobaith. Rwy'n ffan enfawr o Phantom of the Opera ac roedd cael Christine - cymeriad Shân yn y sioe gerdd - ar ochr arall y ffôn yn gofyn i fi gymryd rhan yn rhywbeth na allwn i wrthod. Yn ystod y perfformiad terfynol, fe fydda i'n gobeithio dangos mwy o'm mhersonoliaeth i a bod dipyn bach yn cheeky. Fi yw'r cyntaf i gyfaddef fod llais canu eithaf bach gen i, felly fe fydd chwarae o gwmpas, dawnsio ac ychwanegu hwyl a sbri yn beth hanfodol - a gobeithio y bydd yn ychwanegu at fy hyder."

Bydd cryno ddisg o berfformiadau terfynol y cystadleuwyr ar werth fel anrheg arbennig i'r hosan Nadolig. Fe allwch chi brynu'r CD o'r siopau ar ôl y rhaglen olaf ar 18 Rhagfyr a bydd yr holl arian fydd yn cael ei gasglu yn cael ei rannu rhwng yr elusennau - Tŷ Gobaith ac Amser Justin Time.

Carolau Gobaith

Mwy am Carolau Gobaith

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales