Neidio at y cynnwys

S4C

Porthpenwaig

Cyfres newydd Nos Sul 17 Ebrill am 21:00

Actor yn rhannu angerdd ei gymeriad mewn drama newydd

Tydi'r sialens o dorri cwys fel actor ar y sgrin fach byth yn hawdd, ond i Tudur Evans, mae'n fonws ei fod yn teimlo'r un angerdd am ardal Llŷn â'r cymeriad y mae'n ei bortreadu yng nghyfres ddrama newydd S4C, Porthpenwaig.

Mae Tudur Evans, 24 , yn chwarae rhan Huw Ynyr, un o'r prif gymeriadau yn y gyfres newydd.

Huw Ynyr yw un o'r myrdd o gymeriadau lliwgar cawn gyfarfod yn y gyfres, sydd wedi'i hysgrifennu gan yr awdur a'r cyfarwyddwr Cefin Roberts a'r dramodydd Aled Jones Williams.

Mae'r gyfres wedi'i chyfarwyddo gan gwmni cynhyrchu Rondo, a'i ffilmio ym mhentref tlws Aberdaron.

Wrth i ni gyfarfod â chymeriadau Porthpenwaig, mae Huw wedi cyrraedd croesffordd yn ei fywyd. Ar ôl tair blynedd yn y coleg, mae'n ymwrthod â themtasiynau bywyd dinesig Caerdydd, ac yn dychwelyd adref i helpu rhedeg busnes lleol - gwesty ei rieni, Yr Angor.

Prif ganolbwynt y ddrama ydi'r triongl emosiynol rhwng Huw a'r ddwy ferch yn ei fywyd, sef ei gariad bore oes, Gwenan Lloyd a'i gariad coleg, Casi Mainwaring, hogan o Gaerdydd y mae wedi mwynhau affêr hirdymor hefo fi yn y coleg ym Mangor.

Fel Huw, mae Tudur yn un o'r bobl ifanc ffodus sydd wedi dychwelyd i weithio yn ei gynefin. "Mae'r ardal dwi wedi'i magu ynddi'n bwysig iawn i mi, ac felly dwi'n teimlo mor freintiedig 'mod i wedi medru dod 'nôl i weithio yma byth ers i mi orffen yn y coleg yn Aber," dywed Tudur, sy'n hanu o Lanystumdwy ger Cricieth.

"Mae llawer o'm teulu yn hanu o Ben Llŷn - roedd fy nain yn dod o bentre Rhiw, Aberdaron, ac mae llawer iawn o'm teulu wedi'u claddu ym mynwent Aberdaron. Yn ystod y cyfnodau rhwng ffilmio, ro'n i'n aml yn mynd am dro i weld beddau rhai o'm cyndeidiau. Mae'r teimlad 'mod i'n perthyn yma yn sicr wedi bod o gymorth i gyfleu'r angerdd mae fy nghymeriad yn ei deimlo tuag at yr ardal."

Dechreuodd Tudur ei yrfa fel ymchwilydd ar raglen Sgorio, cyn dod yn un o wynebau cyfarwydd rhaglen gylchgrawn ieuenctid Uned 5. Bu hefyd yn actio mewn cynyrchiadau theatr mewn addysg Theatr y Frân Wen yng Ngwynedd, Môn a Chonwy.

Ceir cymysgedd o wynebau newydd ac actorion profiadol a chyfarwydd ymhlith y cast. Elin Llwyd (Casi) a Nerys Lewis (Gwenan) - ynghyd â Tudur Evans ydi'r triawd ifanc ac mae Morfudd Hughes, John Ogwen, Iola Gregory, Lowri Mererid, Owen Rees a Huw Davies ymhlith yr 'hen lawiau'.

"Mae'r profiad o actio ar deledu yn wahanol iawn i gyflwyno rhaglen fyw, fel Uned 5." meddai Tudur. "Mae'n braf medru ymarfer y golygfeydd cyn mynd yn ein blaenau i recordio, ac am nad oes gennych syniad o'r hyn all ddigwydd nesa' ar deledu byw, mae'n braf cael ymlacio wrth wneud drama fel Porthpenwaig, gan wybod bod modd rhoi ail dro arni os oes raid. Mae'r profiad o weithio hefo cast mor brofiadol a thalentog wedi bod yn wir fraint, ac yn help mawr."

Rhwng swyddi actio, mae Tudur yn mwynhau chwarae golff ar gwrs golff Nefyn. "Dwi hefyd yn gweithio y tu ôl i far y Clwb Golff - profiad sydd wedi bod yn syndod o help mewn golygfeydd pan fydd gofyn i mi dynnu peint neu ddau ym mar Yr Angor!"

Porthpenwaig
Cyfres newydd Nos Sul 17 Ebrill am 21:00

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales