Neidio at y cynnwys

S4C

Dudley ar Daith

Dudley ar Daith dechrau yn Tachwedd

Cacennau Cranc Sbeislyd

Dyma rysáit perffaith a di ffwdan ar gyfer eich parti. Mae'n defnyddio cynhwysion sydd yn eu tymor, ac yn gweddu'n berffaith ar gyfer mis Medi.

Gallwch chi baratoi'r cacennau o flaen llaw a'u cadw yn yr oergell. Ychydig funudau yn y badell ffrio ar y noson, a byddan nhw yn barod.

Maen nhw'n berffaith ar gyfer cwrs cyntaf cyflym, ond fe allwch chi hefyd gynnig ychydig mwy ar blât a'u gweini fel prif gwrs. Does dim angen mynd i drafferth chwaith. Eu rhoi ar blât gydag ychydig o letys roced, llwyed o mayonaise a chornel o lemwn ffres. Perffaith!

Cynhwysion

  • 50g bisgedi cracer caws
  • 450g cig cranc gwyn
  • 1 llwy fwrdd o bersli ffres, wedi'i dorri'n fân
  • 1 llwy fwrdd o goriander ffres, wedi'i dorri'n fân
  • 1 pinsied da o bupur du ffres
  • 1 wy
  • 2 llwy fwrdd o mayonnaise
  • Croen un leim
  • Sudd ½ leim
  • ½ llwy de o bupur Cayenne
  • 1 llwy de o saws Nam Pla (saws pysgod hallt)
  • 75g menyn
  • Salad roced, mayonnaise a lemwn ffres ar gyfer eu gweini.
  •  
  • Digon i bedwar person fel cwrs cyntaf.

Dull

Rhowch y bisgedi mewn bag plastig. Gan ddefnyddio rholbren, torrwch y bisgedi yn ddarnau mân.

Cymysgwch y cig cranc gwyn mewn powlen gyda'r perlysiau, pupur du a'r bisgedi.

Mewn powlen lân, cymysgwch yr wyau, mayonnaise, croen a sudd y leim, a'r pupur Cayenne.

Ychwanegwch y saws at y cig cranc a'u cymysgu'n dda. Byddwch yn ofalus i beidio defnyddio'r saws i gyd ar un tro rhag ofn i'r gymysgedd fynd yn rhy wlyb. Efallai na fydd angen y saws i gyd.

Rhannwch y gymysgedd yn wyth rhan a chreu siâp peli bach. Yna gwasgwch bob pêl i greu siâp crwn fflat.

Rhowch y cacennau o'r neilltu cyn eu coginio gan roi cyfle i'r bisgedi amsugno unrhyw leithder sydd dros ben yn y cacennau cranc.

Cynheswch y menyn mewn padell ffrio a choginio'r cacennau cranc nes eu bod yn frown euraid ar y ddwy ochr

Gweinwch gyda roced ffres, mayonnaise a lemon ffres.

Dudley ar Daith dechrau yn Tachwedd
s4c.co.uk/dudley

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales