Mae'r gyfres ddrama boblogaidd Rownd a Rownd yn dychwelyd i'r sgrîn ym mis Hydref. Llwyddodd Ciron Gruffydd i gael sgwrs gyda Lara Catrin Hughes, sy'n chwarae rhan Sara, un o gymeriadau mwyaf lliwgar y gyfres. Roedd e'n lwcus – mae'r actores brysur hefyd yn aelod o Gôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac roedd ganddi saib yn ystod cwrs canu mewn ysgol fonedd yn Malvern, Swydd Gaerwrangon.
Er bod Lara, sy'n dod o'r Felinheli, wrth ei bodd yn canu gyda'r côr, mae hi'n llawer mwy adnabyddus fel Sara, merch ysgol wrthryfelgar a drygionus Rownd a Rownd.
Mae Sara wedi bod yn boendod i'w mam, Bethan a'i chwaer, Megan, ers i'r teulu ymddangos gyntaf yn y gyfres, dair blynedd yn ôl. Ond yn ôl Lara, mae Sara erbyn hyn wedi callio ychydig.
"Dydi hi ddim gymaint o rebel ag oedd hi. Roedd hi'n arfer lliwio'i gwallt yn llanast i wylltio'i mam. Ond dw i'm yn siŵr os mai rhywbeth dros dro ydi hyn, ella y bydd hi'n rebelio eto."
Dyw pethau heb fod yn hawdd i Sara adref. Fe ysgarodd rhieni Sara oherwydd i'w thad gael perthynas gyda dynes arall, ond er hynny, fe gymrodd Sara ei ochr ef yn ystod yr ysgariad.
"Roedd hi'n agos at ei thad," meddai Lara. "Dw i'n meddwl bod y ffaith nad ydi o efo nhw rŵan yn effeithio arni ac yn gwneud iddi ymddwyn fel hyn."
Un poendod arall i'w mam yw cyfeillgarwch Sara gyda hogyn drwg y gyfres, Barry. Ond wedi ei gyfnod ef yn y carchar, mae yntau hefyd wedi callio, ac mae'r ddau yn closio mwy a mwy. Dyw Lara ddim yn siŵr os oes dyfodol i'r berthynas, ond mae un peth yn sicr, mae Bethan yn credu fod Barry'n ddylanwad drwg ar ei merch.
"Ella bod y berthynas ychydig yn ffug am fod Sara o hyd yn chwilio am ffyrdd i wrthryfela yn erbyn ei mam. Ella hefyd mai phase ydi Barry, fatha'r phase goth mae hi'n mynd drwyddo fo. Ond eto ella ddim, ella ei bod hi eisiau bod efo Barry go iawn."
Yng nghanol hyn i gyd mae chwaer fach Sara, Megan, sy'n agos iawn at ei mam ac yn ceisio'i gorau glas i'w phlesio.
"Dw i'n siŵr y byddai Sara'n gallu bod yn agos at ei chwaer, ond ar hyn o bryd maen nhw'n ffraeo lot gan eu bod nhw mor wahanol," meddai Lara.
Er ei bod hi wedi chwarae'r cymeriad am dair blynedd bellach, mae Lara o'r farn nad oes ganddi hi a Sara ddim byd yn gyffredin, ond mae eraill yn anghytuno.
"Mae mam yn dweud bo' fi ddim yn gorfod actio," meddai, "mae hi'n meddwl fod Sara union 'run fath â fi. Ond dw i'm yn meddwl hynny!"
Yn y gyfres newydd bydd Sara a Barry yn siŵr o greu argraff, da neu ddrwg, ar drigolion Rownd a Rownd. A bydd Lara hefyd yn brysur eto yn Ysgol Tryfan, Bangor pan ddaw mis Medi.
"Dw i'n bwriadu astudio Lefel A mewn Cymraeg, Saesneg, Celf a Drama neu Ffrangeg," meddai. "Ond cyn hynny, mi fydda i wedi bod ar daith gyda Chôr Ieuenctid Cymru a chael gwyliau efo'r teulu yn yr Eidal."
ROWND A ROWND
Cyfres newydd nos Fawrth 28 Hydref 18:30
Gwefan Rownd a Rownd
Cylchgrawn gwylwyr S4C yw Sgrîn sy'n cael ei gyhoeddi yn chwarterol. Mae'n llawn erthyglau am y rhaglenni diweddaraf, cystadlaethau a gwybodaeth am S4C.
Lawrlwythwch y copi diweddaraf yma, neu lawrlwythwch rhifynnau blaenorol. I archebu copi o Sgrîn, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 600 4141 neu e-bostiwch gwifren@s4c.co.uk neu danysgrifiwch ar-lein.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales